- Y Diweddaraf sydd Ar Gael (Diwygiedig) - Saesneg
- Y Diweddaraf sydd Ar Gael (Diwygiedig) - Cymraeg
- Gwreiddiol (Fel y'i Gwnaed) - Saesneg
- Gwreiddiol (Fel y'i Gwnaed) - Cymraeg
Dyma’r fersiwn wreiddiol (fel y’i gwnaed yn wreiddiol). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.
6.—(1) Os bydd pennaeth ysgol neu bennaeth sefydliad ar gyfer ysgol berthnasol neu sefydliad perthnasol disgybl yn penderfynu o dan adran 33G(1) o Ddeddf 2000 nad oes hawlogaeth gan ddisgybl i ddilyn cwrs neu gyrsiau astudio rhaid iddo wneud hynny o fewn y cynharaf o'r canlynol—
(a)3 diwrnod gwaith cyn dechrau'r cyfnod hawlogaeth, neu
(b)3 diwrnod gwaith cyn dechrau'r cwrs neu gyrsiau astudio y mae myfyriwr wedi dewis ei ddilyn neu eu dilyn o dan adran 33E o Ddeddf 2000.
(2) Os bydd pennaeth ysgol neu bennaeth sefydliad ar gyfer ysgol berthnasol neu sefydliad perthnasol disgybl yn penderfynu hynny rhaid iddo o fewn 3 diwrnod gwaith o'r penderfyniad hwnnw hysbysu'r disgybl a rhiant y disgybl yn ysgrifenedig am y materion canlynol—
(a)y penderfyniad a'r rhesymau drosto;
(b)y caiff y disgybl neu riant y disgybl wneud cais i'r pennaeth ysgol neu i'r pennaeth sefydliad adolygu'r penderfyniad hwnnw;
(c)o fewn pa gyfnod y mae'n rhaid gwneud cais o'r fath; ac
(ch)y caiff y disgybl neu riant y disgybl wneud sylwadau yn ysgrifenedig ynghylch y penderfyniad hwnnw i'r pennaeth ysgol neu i'r pennaeth sefydliad.
(3) Rhaid i gais gan ddisgybl neu riant y disgybl o dan baragraff (2)(b) ac unrhyw sylwadau o dan baragraff (2)(ch) gael eu gwneud o fewn 5 diwrnod gwaith ar ôl iddo gael hysbysiad y pennaeth ysgol neu'r pennaeth sefydliad am ei benderfyniad.
(4) Os bydd disgybl neu riant y disgybl yn gwneud cais o dan baragraff (2)(b) i bennaeth ysgol neu i bennaeth sefydliad adolygu ei benderfyniad rhaid i'r pennaeth ysgol neu'r pennaeth sefydliad wneud dyfarniad o fewn 10 diwrnod gwaith ar ôl iddo gael y cais ac wrth iddo wneud hynny rhaid iddo ystyried—
(a)o dan ba amgylchiadau y cafodd ei benderfyniad ei wneud;
(b)unrhyw sylwadau ysgrifenedig a wnaed gan ddisgybl neu riant y disgybl ynghylch y penderfyniad hwnnw; ac
(c)unrhyw amgylchiadau eraill y mae o'r farn eu bod yn berthnasol.
(5) Rhaid i'r pennaeth ysgol neu'r pennaeth sefydliad o fewn 3 diwrnod gwaith o'i ddyfarniad yn unol â pharagraff (4), hysbysu'r disgybl a rhiant y disgybl yn ysgrifenedig am y rhesymau drosto.
(6) Mae'r rheoliad hwn yn gymwys yn unig o ran y dewisiad cyntaf y mae disgybl yn ei wneud o dan adran 33E(1) o Ddeddf 2000 yn unol â rheoliad 5 (ac nid o ran unrhyw ddewisiad wedyn).
Y Diweddaraf sydd Ar Gael (diwygiedig):Y fersiwn ddiweddaraf sydd ar gael o’r ddeddfwriaeth yn cynnwys newidiadau a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol ac wedi eu gweithredu gan ein tîm golygyddol. Gellir gweld y newidiadau nad ydym wedi eu gweithredu i’r testun eto yn yr ardal ‘Newidiadau i Ddeddfwriaeth’. Dim ond yn Saesneg y mae’r fersiwn ddiwygiedig ar gael ar hyn o bryd.
Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed) - Saesneg: Mae'r wreiddiol Saesneg fersiwn y ddeddfwriaeth fel ag yr oedd pan gafodd ei deddfu neu eu gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.
Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed)-Cymraeg:Y fersiwn Gymraeg wreiddiol o’r ddeddfwriaeth fel yr oedd yn sefyll pan gafodd ei deddfu neu ei gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.
Gallwch wneud defnydd o ddogfennau atodol hanfodol a gwybodaeth ar gyfer yr eitem ddeddfwriaeth o’r tab hwn. Yn ddibynnol ar yr eitem ddeddfwriaeth sydd i’w gweld, gallai hyn gynnwys:
Defnyddiwch y ddewislen hon i agor dogfennau hanfodol sy’n cyd-fynd â’r ddeddfwriaeth a gwybodaeth am yr eitem hon o ddeddfwriaeth. Gan ddibynnu ar yr eitem o ddeddfwriaeth sy’n cael ei gweld gall hyn gynnwys:
liciwch ‘Gweld Mwy’ neu ddewis ‘Rhagor o Adnoddau’ am wybodaeth ychwanegol gan gynnwys