- Y Diweddaraf sydd Ar Gael (Diwygiedig) - Saesneg
- Y Diweddaraf sydd Ar Gael (Diwygiedig) - Cymraeg
- Gwreiddiol (Fel y'i Gwnaed) - Saesneg
- Gwreiddiol (Fel y'i Gwnaed) - Cymraeg
Dyma’r fersiwn wreiddiol (fel y’i gwnaed yn wreiddiol). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.
31.—(1) Yn rheoliadau 27 i 30—
(a)yn ddarostyngedig i baragraff (4), ystyr “dibynnydd mewn oed” (“adult dependant”), mewn perthynas â myfyriwr cymwys, yw person mewn oed sy'n dibynnu ar y myfyriwr cymwys, ac eithrio plentyn y myfyriwr cymwys, partner y myfyriwr cymwys (gan gynnwys priod neu bartner sifil y mae Gweinidogion Cymru o'r farn bod y myfyriwr cymwys wedi gwahanu oddi wrtho) neu gyn bartner y myfyriwr cymwys;
(b)mae “plentyn” (“child”) mewn perthynas â myfyriwr cymwys yn cynnwys unrhyw blentyn i bartner y myfyriwr cymwys sy'n ddibynnol arno ac unrhyw blentyn y mae gan y myfyriwr cymwys gyfrifoldeb rhiant drosto a hwnnw'n blentyn sy'n ddibynnol arno;
(c)ystyr “dibynnydd” (“dependant”), mewn perthynas â myfyriwr cymwys, yw partner y myfyriwr cymwys, plentyn dibynnol y myfyriwr cymwys neu ddibynnydd mewn oed, nad yw ym mhob achos yn fyfyriwr cymwys ac nad oes ganddo ddyfarniad statudol;
(ch)ystyr “dibynnol” (“dependent”) yw ariannol ddibynnol yn gyfan gwbl neu'n bennaf;
(d)ystyr “plentyn dibynnol” (“dependent child”), mewn perthynas â myfyriwr cymwys yw plentyn sy'n ddibynnol ar y myfyriwr cymwys;
(dd)ystyr “rhiant unigol” (“lone parent”) yw myfyriwr cymwys nad oes ganddo bartner ac y mae ganddo blentyn dibynnol;
(e)mae i “incwm net” (“net income”) yr ystyr a roddir ym mharagraff (6);
(f)yn ddarostyngedig i is-baragraffau (ff), (g), (ng) a pharagraffau (2) a (3) ystyr “partner” (“partner”) yw unrhyw un o'r canlynol—
(i)priod myfyriwr cymwys;
(ii)partner sifil myfyriwr cymwys;
(iii)person sydd fel arfer yn byw gyda myfyriwr cymwys fel pe bai'r person yn briod i'r myfyriwr cymwys, pan fo'r myfyriwr cymwys yn dod o fewn paragraff 2(1)(a) o Atodlen 5 ac wedi dechrau ar y cwrs dynodedig ar neu ar ôl 1 Medi 2000;
(iv)person sydd fel arfer yn byw gyda myfyriwr cymwys fel pe bai'r person yn bartner sifil i'r myfyriwr cymwys, pan fo'r myfyriwr cymwys yn dod o fewn paragraff 2(1)(a) o Atodlen 5 ac wedi dechrau ar y cwrs dynodedig ar neu ar ôl 1 Medi 2005;
(ff)oni nodir fel arall, nid yw person a fyddai fel arall yn bartner o dan is-baragraff (f) yn cael ei drin fel partner—
(i)os yw'r person hwnnw a'r myfyriwr cymwys, ym marn Gweinidogion Cymru, wedi gwahanu; neu
(ii)os yw'r person fel arfer yn byw y tu allan i'r Deyrnas Unedig ac nad yw'n cael ei gynnal gan y myfyriwr cymwys;
(g)at ddibenion y diffiniad o “dibynnydd mewn oed” (“adult dependant”), rhaid trin person fel partner os byddai'r person yn bartner o dan is-baragraff (f) oni bai am y ffaith nad yw'r myfyriwr cymwys y mae'r person fel arfer yn byw gydag ef yn dod o fewn paragraff 2(1)(a) o Atodlen 5;
(ng)at ddibenion y diffiniadau o “plentyn” (“child”) a “rhiant unigol” (“lone parent”), rhaid trin person fel partner os byddai'r person yn bartner o dan is-baragraff (f) oni bai am y dyddiad y dechreuodd y myfyriwr cymwys ar y cwrs dynodedig a bennir neu'r ffaith nad yw'r myfyriwr cymwys y mae'r person fel arfer yn byw gydag ef yn dod o fewn paragraff 2(1)(a) o Atodlen 5.
(2) At ddibenion rheoliad 28—
(a)nid yw paragraff (1)(ff) yn gymwys; a
(b)rhaid trin person fel partner os byddai'r person yn bartner o dan baragraff (1)(f) oni bai am y ffaith nad yw'r myfyriwr cymwys y mae'r person fel arfer yn byw gydag ef yn dod o fewn paragraff 2(1)(a) o Atodlen 5.
(3) At ddibenion penderfynu a yw rhywun yn gynbartner i bartner i fyfyriwr cymwys, ystyr “partner” (“partner”) o ran partner i fyfyriwr cymwys yw—
(a)priod i bartner myfyriwr cymwys;
(b)partner sifil i bartner myfyriwr cymwys;
(c)pan fo'r myfyriwr cymwys wedi dechrau ar y cwrs dynodedig a bennir ar neu ar ôl 1 Medi 2000, person (“A”) sydd fel arfer yn byw gyda phartner (“B”) myfyriwr cymwys fel petai A yn briod i B;
(ch)pan fo'r myfyriwr cymwys wedi dechrau ar y cwrs dynodedig a bennir ar neu ar ôl 1 Medi 2005, person (“A”) sydd fel arfer yn byw gyda phartner (“B”) myfyriwr cymwys fel petai A yn bartner sifil i B.
(4) Yn ddarostyngedig i baragraff (5), at ddibenion y diffiniadau o “dibynnydd mewn oed” (“adult dependant”) a “plentyn dibynnol” (“dependent child”) caiff Gweinidogion Cymru ymdrin â pherson mewn oed neu blentyn fel un sy'n ddibynnol ar fyfyriwr cymwys os ydynt yn fodlon nad yw'r oedolyn neu'r plentyn—
(a)yn ddibynnol ar—
(i)y myfyriwr cymwys yn unig; neu
(ii)partner y myfyriwr cymwys yn unig; ond
(b)yn hytrach yn ddibynnol ar y myfyriwr cymwys a'i bartner gyda'i gilydd.
(5) Rhaid i Weinidogion Cymru beidio ag ymdrin ag oedolyn (“A”) fel un sy'n ddibynnol ar fyfyriwr cymwys yn unol â pharagraff (4), os yw A—
(a)yn briod neu'n bartner sifil i bartner y myfyriwr cymwys (yn cynnwys priod neu bartner sifil yr ystyria Gweinidogion Cymru bod partner y myfyriwr cymwys wedi gwahanu oddi wrtho); neu
(b)yn gynbartner partner y myfyriwr cymwys.
(6) Yn ddarostyngedig i baragraff (7), incwm net dibynnydd yw incwm y dibynnydd o bob ffynhonnell am y flwyddyn academaidd o dan sylw wedi'i ostwng yn ôl swm y dreth incwm a'r cyfraniadau nawdd cymdeithasol sy'n daladwy mewn perthynas â hi ond gan anwybyddu—
(a)unrhyw bensiwn, lwfans neu fudd-dal arall a delir oherwydd anabledd neu analluedd sydd gan y dibynnydd;
(b)budd-dal plant sy'n daladwy o dan Ran IX o Ddeddf Cyfraniadau a Budd-daliadau Nawdd Cymdeithasol 1992(1);
(c)unrhyw gymorth ariannol sy'n daladwy i'r dibynnydd gan awdurdod lleol yn unol â rheoliadau a wnaed o dan adrannau 2, 3 a 4 o Ddeddf Mabwysiadu a Phlant 2002(2);
(ch)unrhyw lwfans gwarcheidwad y mae gan y dibynnydd hawlogaeth i'w gael o dan adran 77 o Ddeddf Cyfraniadau a Budd-daliadau Nawdd Cymdeithasol 1992;
(d)yn achos dibynnydd y mae plentyn sy'n derbyn gofal awdurdod lleol wedi'i fyrddio gydag ef, unrhyw daliad a wneir i'r dibynnydd hwnnw yn unol ag adran 23 o Ddeddf Plant 1989(3);
(dd)unrhyw daliad a wneir i'r dibynnydd o dan adran 23C(5A) o Ddeddf Plant 1989(4);
(e)unrhyw daliadau a wneir i'r dibynnydd o dan adran 15 o Ddeddf Plant 1989 ac Atodlen 1 iddi mewn perthynas â pherson nad yw'n blentyn i'r dibynnydd neu unrhyw gymorth a roddir gan awdurdod lleol yn unol ag adran 24 o'r Ddeddf honno(5); ac
(f)unrhyw gredyd treth plant y mae gan y dibynnydd hawlogaeth i'w gael o dan Ran I o Ddeddf Credydau Treth 2002(6).
(7) Os yw myfyriwr cymwys neu bartner y myfyriwr cymwys yn gwneud unrhyw daliadau ailgylchol a oedd gynt yn cael eu gwneud gan y myfyriwr cymwys yn unol â rhwymedigaeth a ysgwyddwyd cyn blwyddyn academaidd gyntaf cwrs y myfyriwr cymwys, incwm net partner y myfyriwr cymwys yw'r incwm net a gyfrifir yn unol â pharagraff (6) wedi'i ostwng—
(a)o swm sy'n hafal i'r taliadau o dan sylw am y flwyddyn academaidd, os cafodd y rhwymedigaeth, ym marn Gweinidogion Cymru, ei hysgwyddo'n rhesymol; neu
(b)o unrhyw swm llai, os bydd unrhyw swm o gwbl, sy'n briodol ym marn Gweinidogion Cymru, os gellid yn rhesymol, yn eu barn hwy, bod wedi ysgwyddo rhwymedigaeth lai.
(8) At ddibenion paragraff (6), os yw'r dibynnydd yn blentyn dibynnol a bod taliadau'n cael eu gwneud i'r myfyriwr cymwys tuag at gynhaliaeth y plentyn dibynnol, rhaid trin y taliadau hynny fel incwm y plentyn dibynnol.
1992 p.4, y mae diwygiadau iddi nad ydynt yn berthnasol i'r Rheoliadau hyn.
1989 p.41. Diwygiwyd adran 23 gan Ddeddf y Llysoedd a Gwasanaethau Cyfreithiol 1990 (p.41), Atodlen 16, paragraff 12, Deddf Safonau Gofal 2000 (p.14), Atodlen 4, paragraff 14, Deddf Plant 2004 (p.31), adran 49(3) a Deddf Plant a Phobl Ifanc 2008 (p.23), adran 39 ac Atodlen 3, paragraffau 1 a 7.
Mewnosodwyd is-adrannau (5A) i (5C) o adran 23C o Ddeddf Plant 1989, o ran Lloegr, gan adran 21 o Ddeddf Plant a Phobl Ifanc 2008 ac mae O.S. 2009/268 ac O.S. 2009/2273 yn cyfeirio at hyn. Mewnosodwyd is-adran (5B) yn adran 23C mewn perthynas â Chymru, ac mae O.S. 2010/1329 (Cy.112) (C.81) yn cyfeirio at hyn.
Mae diwygiadau i adrannau 15 a 24 ac Atodlen 1 nad ydynt yn berthnasol i'r Rheoliadau hyn.
2002 p.21 y mae diwygiadau iddi nad ydynt yn berthnasol i'r Rheoliadau hyn.
Y Diweddaraf sydd Ar Gael (diwygiedig):Y fersiwn ddiweddaraf sydd ar gael o’r ddeddfwriaeth yn cynnwys newidiadau a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol ac wedi eu gweithredu gan ein tîm golygyddol. Gellir gweld y newidiadau nad ydym wedi eu gweithredu i’r testun eto yn yr ardal ‘Newidiadau i Ddeddfwriaeth’. Dim ond yn Saesneg y mae’r fersiwn ddiwygiedig ar gael ar hyn o bryd.
Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed) - Saesneg: Mae'r wreiddiol Saesneg fersiwn y ddeddfwriaeth fel ag yr oedd pan gafodd ei deddfu neu eu gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.
Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed)-Cymraeg:Y fersiwn Gymraeg wreiddiol o’r ddeddfwriaeth fel yr oedd yn sefyll pan gafodd ei deddfu neu ei gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.
Gallwch wneud defnydd o ddogfennau atodol hanfodol a gwybodaeth ar gyfer yr eitem ddeddfwriaeth o’r tab hwn. Yn ddibynnol ar yr eitem ddeddfwriaeth sydd i’w gweld, gallai hyn gynnwys:
Defnyddiwch y ddewislen hon i agor dogfennau hanfodol sy’n cyd-fynd â’r ddeddfwriaeth a gwybodaeth am yr eitem hon o ddeddfwriaeth. Gan ddibynnu ar yr eitem o ddeddfwriaeth sy’n cael ei gweld gall hyn gynnwys:
liciwch ‘Gweld Mwy’ neu ddewis ‘Rhagor o Adnoddau’ am wybodaeth ychwanegol gan gynnwys