xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"
Offerynnau Statudol Cymru
ADEILADU, CYMRU
Wedi'i wneud
17 Mehefin 2011
Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd iddynt gan adran 149(1) o Ddeddf Democratiaeth Leol, Datblygu Economaidd ac Adeiladu 2009(1), yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn:
1.—(1) Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Deddf Democratiaeth Leol, Datblygu Economaidd ac Adeiladu 2009 (Cychwyn Rhif 1) (Cymru) 2011.
(2) Yn y Gorchymyn hwn, ystyr “y Ddeddf” (“the Act”) yw Deddf Democratiaeth Leol, Datblygu Economaidd ac Adeiladu 2009.
2. Mae adran 138 o'r Ddeddf yn dod i rym i'r graddau y mae'n rhychwantu Cymru a Lloegr o ran contractau adeiladu sy'n ymwneud â gwneud gwaith adeiladu yng Nghymru yn unol ag erthygl 3.
3. Mae adran 138 o'r Ddeddf yn dod i rym ar y diwrnod ar ôl i'r Gorchymyn hwn gael ei wneud er mwyn galluogi Gweinidogion Cymru i wneud gorchmynion.
John Griffiths
Gweinidog yr Amgylchedd a Datblygu Cynaliadwy, un o Weinidogion Cymru
17 Mehefin 2011
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)
I'r graddau y mae'r rheiny'n rhychwantu Cymru a Lloegr, mae'r Gorchymyn hwn yn cychwyn darpariaethau yn Rhan 8 o Ddeddf Democratiaeth Leol, Datblygu Economaidd ac Adeiladu 2009 (p.20) (“Deddf 2009”) o ran contractau adeiladu sy'n ymwneud â gwneud gwaith adeiladu yng Nghymru. Nid yw'n cychwyn y darpariaethau hyn o ran contractau adeiladu eraill sy'n cael eu cychwyn gan orchmynion cychwyn ar wahân.
Mae Rhan 8 o Ddeddf 2009 yn diwygio Rhan 2 o Ddeddf Grantiau Tai, Adeiladu ac Adfywio 1996 (p.53) (“Deddf 1996”).
Mae darpariaethau Rhan 8 o Ddeddf 2009 y deuir â hwy i rym gan y Gorchymyn hwn (lle bo'n gymwys o ran Cymru) wedi'u cynnwys yn adran 138, sy'n rhoi pŵer newydd sy'n caniatáu i Weinidogion Cymru anghymhwyso unrhyw rai neu'r cyfan o ddarpariaethau Rhan 2 o Ddeddf 1996.
Mae erthygl 3 yn dwyn i rym, ar y diwrnod ar ôl i'r Gorchymyn hwn gael ei wneud, y ddarpariaeth sy'n galluogi Gweinidogion Cymru i wneud gorchmynion o dan y pŵer y mae adran 138 o Ddeddf 2009 yn ei fewnosod yn Neddf 1996.
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)
I'r graddau y maent yn rhychwantu Cymru a Lloegr, mae'r darpariaethau a ganlyn yn Neddf 2009 wedi'u dwyn i rym o ran Cymru gan orchmynion cychwyn a wnaed cyn dyddiad y Gorchymyn hwn.
Mae amryw o ddarpariaethau Deddf 2009 wedi'u dwyn i rym i'r graddau y maent yn rhychwantu Cymru a Lloegr gan yr Ysgrifennydd Gwladol o ran contractau adeiladu eraill drwy'r Offerynnau Statudol a ganlyn: O.S. 2009/3087, O.S. 2009/3318 ac O.S. 2010/881.
Gweler hefyd adran 148 ynglŷn â'r darpariaethau a ddaeth i rym wrth i Ddeddf 2009 gael ei phasio.