xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

RHAN 5GORFODI A THRAMGWYDDAU

Pwerau mynediad

17.—(1Caiff swyddog awdurdodedig, ar unrhyw adeg resymol ac, os gofynnir iddo, ar ôl dangos awdurdodiad a ddilyswyd yn briodol, fynd i mewn i ladd-dy cymeradwy ac unrhyw fangre gysylltiedig, lle y gall fod carcasau'n cael eu trin, neu gofnodion mewn perthynas â'r carcasau hynny'n cael eu cadw, ac y diben o ganfod—

(a)a oes tramgwydd o dan y Rheoliadau hyn yn cael, neu wedi cael ei gyflawni yn y fangre; neu

(b)a oes unrhyw dystiolaeth yn y fangre, o unrhyw dramgwydd o'r fath.

(2Caiff y swyddog fynd â pha bynnag bersonau eraill a ystyria'n angenrheidiol gydag ef, gan gynnwys unrhyw gynrychiolydd y Comisiwn Ewropeaidd.

(3Os yw ynad heddwch, ar sail gwybodaeth ysgrifenedig a roddir ar lw, wedi ei fodloni bod sail resymol dros fynd i mewn i fangre at unrhyw ddiben ym mharagraff (1) a naill ai—

(a)bod mynediad i'r fangre wedi ei wrthod, neu disgwylir gwrthodiad, a bod hysbysiad o'r bwriad i wneud cais am warant wedi ei roi i'r gweithredwr; neu

(b)byddai gwneud cais am fynediad, neu roi hysbysiad o'r fath, yn tanseilio'r diben o fynd i mewn, neu fod yr achos yn galw am weithredu ar frys, neu fod y fangre'n wag neu'r gweithredwr yn absennol dros dro,

caiff yr ynad, drwy lofnodi gwarant, awdurdodi swyddog awdurdodedig i fynd i mewn i'r fangre, gan ddefnyddio grym rhesymol pe bai angen.

(4Mae gwarant a roddir o dan y rheoliad hwn yn parhau'n ddilys am gyfnod o dri mis.

(5Rhaid i swyddog sy'n mynd i mewn i unrhyw fangre wag, neu fangre sydd â'i gweithredwr yn absennol dros dro, adael y fangre wedi ei diogelu mor effeithiol rhag mynediad diawdurdod ag yr oedd cyn i'r swyddog fynd i mewn.

Pwerau swyddogion awdurdodedig

18.  Caiff swyddog awdurdodedig sy'n mynd i mewn i fangre o dan y Rheoliadau hyn—

(a)archwilio unrhyw garcas buchol neu garcas mochyn neu ran o garcas o'r fath, neu unrhyw garcas neu ran o garcas yr amheua'r swyddog yn rhesymol ei fod yn garcas buchol neu garcas mochyn neu ran o garcas o'r fath, yn y fangre honno;

(b)archwilio unrhyw gofnod y mae'n ofynnol i'r gweithredwr ei gadw o dan reoliad 12 neu 16, neu o dan Reoliad y Comisiwn, ac os defnyddir cyfrifiadur i gadw cofnod o'r fath, cael mynediad i unrhyw gyfrifiadur a'r chyfarpar neu ddeunydd cysylltiedig, a ddefnyddir neu a ddefnyddiwyd mewn cysylltiad â'r cofnod hwnnw, ac arolygu a gwirio gweithrediad y cyfryw gyfrifiadur a chyfarpar neu ddeunydd cysylltiedig;

(c)gwneud yn ofynnol cyflwyno copïau neu ddyfyniadau o unrhyw gofnod o'r fath, ac os defnyddir cyfrifiadur i gadw cofnod o'r fath, gwneud yn ofynnol cynhyrchu'r cofnod mewn ffurf a fydd yn caniatáu ei gludo ymaith; ac

(ch)dal gafael yn unrhyw gofnod o'r fath os bydd rheswm gan y swyddog dros gredu y gall fod ei angen fel tystiolaeth mewn achos o dan y Rheoliadau hyn.

Hysbysiadau gorfodi

19.—(1Os oes rheswm gan Weinidogion Cymru dros gredu bod person wedi cyflawni tramgwydd o dan y Rheoliadau hyn, caiff Gweinidogion Cymru roi i'r person hwnnw hysbysiad (hysbysiad gorfodi) yn unol â pharagraff (2).

(2Rhaid i hysbysiad gorfodi—

(a)ddatgan ar ba sail y mae Gweinidogion Cymru'n credu hynny;

(b)nodi'r mater sy'n cyfansoddi'r tramgwydd;

(c)nodi'r hyn mae'n rhaid i'r person hwnnw beidio â'i wneud, neu'r camau y mae'n rhaid, ym marn Gweinidogion Cymru, i'r person hwnnw eu cymryd er mwyn cydymffurfio â'r Rheoliadau hyn;

(ch)gwneud yn ofynnol bod y person yn peidio â chyflawni'r weithred a nodir yn yr hysbysiad, neu'n cymryd y camau a bennir yn yr hysbysiad, neu gamau sydd o leiaf yn gyfwerth â'r rheini, o fewn cyfnod (o ddim llai na 14 diwrnod) a bennir yn yr hysbysiad;

(d)hysbysu'r person hwnnw ynghylch yr hawl i apelio, a roddir gan reoliad 20; ac

(dd)rhoi gwybod i'r person hwnnw o fewn pa gyfnod y caiff wneud apêl o'r fath.

(3Mae unrhyw berson sy'n mynd yn groes i hysbysiad gorfodi neu'n peidio â chydymffurfio â hysbysiad gorfodi yn euog o dramgwydd.

Apelau yn erbyn hysbysiadau gorfodi

20.—(1Caiff person apelio i lys ynadon yn erbyn hysbysiad gorfodi os oes gan y person hwnnw reswm dros gredu na ddylid bod wedi rhoi'r hysbysiad.

(2Caiff person apelio o fewn y cyfnod o un mis sy'n cychwyn gyda'r dyddiad y rhoddwyd yr hysbysiad.

(3Y weithdrefn a ddilynir yw gwneud cwyn am orchymyn, a bydd Deddf Llysoedd Ynadon 1980(1) yn gymwys i'r achos.

(4Yn dilyn apêl, caiff y llys naill ai ddiddymu neu gadarnhau'r hysbysiad, ac os bydd yn ei gadarnhau caiff wneud hynny naill ai yn ei ffurf wreiddiol neu gyda pha bynnag addasiadau a ystyrir yn briodol gan y llys.

Hysbysiadau cosb

21.—(1Os oes rheswm gan Weinidogion Cymru dros gredu bod person wedi cyflawni tramgwydd o dan y Rheoliadau hyn, caiff Gweinidogion Cymru roi i'r person hwnnw hysbysiad (hysbysiad cosb) yn unol â pharagraffau (2) a (3).

(2Caiff hysbysiad cosb fod am unrhyw swm hyd at uchafswm o £5,000.

(3Rhaid i hysbysiad cosb—

(a)rhoi pa bynnag fanylion am amgylchiadau'r tramgwydd honedig ag sy'n angenrheidiol i roi gwybodaeth resymol am y tramgwydd;

(b)datgan swm y gosb;

(c)datgan yn ystod pa gyfnod, yn rhinwedd rheoliad 22, na chychwynnir achos ynglŷn â'r tramgwydd;

(ch)datgan y cyfeiriad lle y ceir talu'r gosb; a

(d)datgan na cheir gwneud y taliad mewn arian parod.

Cyfyngiad ar ddwyn achos am dramgwydd cosb

22.—(1Pan fo hysbysiad cosb wedi ei roi i berson—

(a)ni cheir dwyn achos yn erbyn y person hwnnw am y tramgwydd y mae'r hysbysiad yn ymwneud ag ef cyn diwedd y cyfnod o 28 diwrnod sy'n cychwyn gyda'r dyddiad y rhoddwyd yr hysbysiad; a

(b)ni cheir collfarnu'r person hwnnw am y tramgwydd os telir y gosb yn unol â rheoliad 23 cyn diwedd y cyfnod hwnnw.

(2Ni fydd paragraff (1) yn gymwys os tynnir yr hysbysiad cosb yn ôl yn unol â rheoliad 24.

Talu'r gosb

23.—(1Rhaid talu unrhyw gosb i Weinidogion Cymru drwy'i hanfon drwy'r post neu pa bynnag ddull arall a bennir yn yr hysbysiad.

(2Mewn unrhyw achos a ddygir, bydd tystysgrif yr honnir ei bod wedi ei llofnodi gan neu ar ran Gweinidogion Cymru, ac yn datgan bod taliad o gosb wedi ei gael neu heb ei gael erbyn y dyddiad a nodir yn y dystysgrif, yn dystiolaeth o'r ffeithiau a ddatgenir.

Tynnu hysbysiad cosb yn ôl

24.—(1Ceir tynnu hysbysiad cosb yn ôl os oes rheswm gan Weinidogion Cymru dros gredu na ddylai'r hysbysiad cosb fod wedi ei roi (boed i'r person a enwyd yn yr hysbysiad cosb, neu fel arall).

(2Caiff Gweinidogion Cymru dynnu hysbysiad cosb yn ôl drwy roi hysbysiad i'r person a enwyd yn yr hysbysiad cosb, cyn neu ar ôl talu'r gosb.

(3Pan dynnir hysbysiad cosb yn ôl, rhaid i Weinidogion Cymru ad-dalu unrhyw gosb a dalwyd o dan yr hysbysiad cosb, i'r person a enwyd yn yr hysbysiad cosb, o fewn cyfnod o 28 diwrnod sy'n cychwyn gyda'r dyddiad yr anfonwyd yr hysbysiad o dynnu'r hysbysiad cosb yn ôl.

Tramgwyddau: darpariaethau eidion Ewropeaidd

25.—(1Yn ddarostyngedig i reoliad 8 (labelu yn lle marcio), mae unrhyw berson sydd—

(a)yn peidio â chydymffurfio ag unrhyw ofyniad o dan ddarpariaeth eidion Ewropeaidd, neu

(b)yn mynd yn groes i unrhyw waharddiad a gynhwysir mewn darpariaeth eidion Ewropeaidd,

yn euog o dramgwydd.

(2Ond nid yw person sy'n dod o fewn paragraff (3) yn cyflawni tramgwydd os yw'r person hwnnw—

(a)yn peidio â chydymffurfio ag unrhyw ofyniad o dan ddarpariaeth eidion Ewropeaidd Rhan 2; neu

(b)yn mynd yn groes i unrhyw waharddiad a gynhwysir mewn darpariaeth eidion Ewropeaidd Rhan 2.

(3Mae person yn dod o fewn y paragraff hwn os yw'r person—

(a)yn weithredwr lladd-dy cymeradwy sydd ei hunan yn diesgyrnu'r holl garcasau buchol y mae'n eu cael; neu

(b)yn gyfrifol am ddosbarthu carcasau buchol mewn lladd-dy o'r fath.

(4Yn y rheoliad hwn, ystyr “darpariaeth eidion Ewropeaidd Rhan 2” (“Part 2 European beef provision”) yw darpariaeth o Reoliad y Comisiwn a bennir yng ngholofn 2 o Ran 2 o Atodlen 1.

Tramgwyddau: darpariaethau moch Ewropeaidd

26.  Yn ddarostyngedig i reoliad 15 (cofnodion yn lle marcio), mae unrhyw berson sydd—

(a)yn peidio â chydymffurfio ag unrhyw ofyniad o dan ddarpariaeth moch Ewropeaidd, neu

(b)yn mynd yn groes i unrhyw waharddiad a gynhwysir mewn darpariaeth moch Ewropeaidd,

yn euog o dramgwydd.

Tramgwyddau: hysbysiadau gan weithredwyr

27.  Mae unrhyw berson sy'n peidio â chydymffurfio ag unrhyw un o ofynion rheoliad 5 (hysbysiadau gan weithredwyr) yn euog o dramgwydd.

Tramgwyddau: trwyddedau (carcasau buchol)

28.—(1Os ymgymerir â dosbarthu carcas buchol mewn lladd-dy cymeradwy —

(a)heb drwydded a ganiatawyd o dan reoliad 9, neu

(b)gan dorri unrhyw un o amodau neu delerau trwydded o'r fath,

mae'r person sy'n ymgymryd â'r dosbarthu a gweithredwr y lladd-dy hwnnw ill dau'n euog o dramgwydd.

(2Os ymgymerir â dosbarthu carcas buchol mewn lladd-dy cymeradwy drwy ddefnyddio offer graddio awtomatig—

(a)heb drwydded a ganiatawyd o dan reoliad 10 ar gyfer defnyddio'r offer hwnnw yn y lladd-dy hwnnw, neu

(b)gan dorri unrhyw un o amodau neu delerau trwydded o'r fath,

mae'r person sy'n ymgymryd â'r dosbarthu a gweithredwr y lladd-dy hwnnw ill dau'n euog o dramgwydd.

(3Mae unrhyw berson sy'n gwneud newid mewn trwydded a ganiatawyd o dan reoliad 9 neu 10 yn euog o dramgwydd.

Tramgwyddau: cofnodion a marciau

29.—(1Mae unrhyw berson sy'n peidio â chydymffurfio ag unrhyw un o ofynion rheoliad 12 (cofnodion: carcasau buchol) neu reoliad 16 (cofnodion: carcasau moch) yn euog o dramgwydd.

(2Mae unrhyw berson sydd—

(a)yn gosod ar garcas buchol, neu ran o garcas o'r fath, unrhyw farc—

(i)a ragnodir gan Erthygl 6(3) o Reoliad y Comisiwn, neu

(ii)sydd â thebygrwydd agos i farc a ragnodir gan y ddarpariaeth honno,

ac sy'n debygol o gamarwain;

(b)yn gosod ar garcas mochyn, neu ran o garcas o'r fath, unrhyw farc—

(i)a ragnodir gan Erthygl 21(3) o Reoliad y Comisiwn, neu

(ii)sydd â thebygrwydd agos i farc a ragnodir gan y ddarpariaeth honno,

ac sy'n debygol o gamarwain;

(c)yn gosod ar label, sy'n ymwneud â charcas buchol neu ran o garcas o'r fath, unrhyw ddynodiad—

(i)a ragnodir gan Erthygl 6(4) o'r Rheoliad hwnnw, neu

(ii)sydd â thebygrwydd agos i ddynodiad a ragnodir gan y ddarpariaeth honno,

ac sy'n debygol o gamarwain; neu

(ch)sy'n gosod ar garcas mochyn, neu ran o garcas o'r fath, label a ragnodir gan is-baragraff olaf Erthygl 21(3) o Reoliad y Comisiwn ac sy'n debygol o gamarwain;

yn euog o dramgwydd.

Tramgwyddau: rhwystro etc

30.  Mae unrhyw berson sydd—

(a)heb esgus rhesymol, yn rhwystro unrhyw berson sy'n gweithredu o dan y Rheoliadau hyn,

(b)heb esgus rhesymol, yn peidio â rhoi i unrhyw berson sy'n gweithredu o dan y Rheoliadau hyn unrhyw gymorth neu wybodaeth y gofynnir amdano neu amdani yn rhesymol gan y person hwnnw at y diben o gyflawni swyddogaethau o dan y Rheoliadau hyn,

(c)yn rhoi i unrhyw berson sy'n gweithredu o dan y Rheoliadau hyn unrhyw wybodaeth gan wybod ei bod yn ffug neu'n gamarweiniol, neu

(ch)yn peidio â dangos unrhyw ddogfen neu gofnod pan ofynnir iddo wneud hynny gan unrhyw berson sy'n gweithredu o dan y Rheoliadau hyn,

yn euog o dramgwydd.

Cyfnod ar gyfer dwyn erlyniad

31.—(1Ceir dwyn achos am dramgwydd o dan reoliad 19(3), 25, 26, 27, 28, 29(1) neu 30 o fewn cyfnod o 12 mis o'r dyddiad cyntaf y bydd tystiolaeth yn hysbys i'r erlynydd sy'n ddigonol, ym marn yr erlynydd, i gyfiawnhau achos.

(2Ond ni cheir dwyn achos o'r fath ymhen mwy na 18 mis ar ôl cyflawni'r tramgwydd.

(3At ddibenion paragraff (1)—

(a)mae tystysgrif a lofnodwyd gan neu ar ran yr erlynydd, ac yn datgan y dyddiad y daeth yr erlynydd i wybod gyntaf am dystiolaeth ddigonol i gyfiawnhau'r achos yn dystiolaeth derfynol o'r ffaith honno;

(b)ystyrir bod tystysgrif sy'n datgan y mater hwnnw ac yn honni iddi gael ei llofnodi felly wedi ei llofnodi felly, oni phrofir y gwrthwyneb.

Tramgwyddau gan gyrff corfforaethol

32.—(1Os profir bod tramgwydd o dan y Rheoliadau hyn, a gyflawnir gan gorff corfforaethol, wedi'i gyflawni drwy gydsyniad neu ymoddefiad, neu i'w briodoli i unrhyw esgeulustod ar ran, swyddog, mae'r swyddog hwnnw yn ogystal â'r corff corfforaethol yn euog o'r tramgwydd ac yn agored i'w erlyn a'i gosbi yn unol â hynny.

(2Pan fo materion corff corfforaethol yn cael eu rheoli gan ei aelodau, mae paragraff (1) yn gymwys mewn perthynas â gweithredoedd neu anweithiau aelod, mewn cysylltiad â swyddogaethau'r aelod hwnnw o reoli, fel pe bai'r aelod hwnnw'n gyfarwyddwr y corff.

(3Yn y rheoliad hwn, ystyr “swyddog” (“officer”), mewn perthynas â chorff corfforaethol yw cyfarwyddwr, aelod o'r pwyllgor rheoli, prif weithredwr, rheolwr, ysgrifennydd neu swyddog cyffelyb arall y corff, neu berson sy'n honni gweithredu mewn unrhyw swydd o'r fath.

Amddiffyniad o ddiwydrwydd dyladwy

33.  Mae'n amddiffyniad os gall person (“P”), a gyhuddir o dramgwydd o dan y Rheoliadau hyn, brofi bod P wedi cymryd pob rhagofal rhesymol ac wedi arfer pob diwydrwydd dyladwy i osgoi cyflawni'r tramgwydd gan P neu gan berson o dan reolaeth P.

Tramgwyddau: cosbau

34.—(1Mae person sy'n euog o dramgwydd o dan—

(a)rheoliad 19(3) (hysbysiadau gorfodi),

(b)rheoliad 25 (darpariaethau eidion Ewropeaidd),

(c)rheoliad 26 (darpariaethau moch Ewropeaidd),

(ch)rheoliad 27 (hysbysiadau gan weithredwyr),

(d)rheoliad 28 (trwyddedau (carcasau buchol)),

(dd)rheoliad 29(1) (cofnodion), neu

(e)rheoliad 30 (rhwystro etc),

yn agored, o'i gollfarnu'n ddiannod, i ddirwy na fydd yn fwy na lefel 5 ar y raddfa safonol.

(2Mae person sy'n euog o dramgwydd o dan 29(2) (marciau camarweiniol etc) yn agored—

(a)o'i gollfarnu'n ddiannod, i ddirwy na fydd yn fwy na'r uchafswm statudol; neu

(b)o'i gollfarnu ar dditiad, i ddirwy.

(1)

1980 p.43; amnewidiwyd adrannau 51 a 52 gan Ddeddf y Llysoedd 2003 (p.39), adran 47.