Rheoliadau Trefniadaeth Ysgolion (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) 2011

Offerynnau Statudol Cymru

2011 Rhif 190 (Cy.35)

ADDYSG, CYMRU

Rheoliadau Trefniadaeth Ysgolion (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) 2011

Gwnaed

28 Ionawr 2011

Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru

1 Chwefror 2011

Yn dod i rym

1 Mawrth 2011

Mae Gweinidogion Cymru drwy arfer y pwerau a roddwyd i'r Ysgrifennydd Gwladol gan adrannau 28(3), 28(8), 29(3), 29(7) 31(3), 31(8), 34, 35, 138(7) ac (8), a 144 o Ddeddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998, a pharagraff 7 o Atodlen 6, paragraffau 5 a 12 o Atodlen 7 a pharagraff 2 o Atodlen 8 iddi(1), a thrwy arfer y pwerau a roddwyd i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan adrannau 113A(9) a 152(5) a (6) o Ddeddf Dysgu a Medrau 2000 a pharagraffau 20(2), 22, 28(2), 30, 39(2), 40 a 41 o Atodlen 7 a pharagraff 1 o Atodlen 7A iddi(2) ac a freiniwyd bellach ynddynt hwy, yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn.

(1)

1998 p.31. Diwygiwyd adrannau 28 a 29 ac Atodlenni 6 ac 8 fel eu bod yn gymwys o ran Cymru yn unig gan baragraffau 18, 20, 33, 34 o Atodlen 3, a Rhan 3 o Atodlen 18 i Ddeddf Addysg ac Arolygiadau 2006 (p.40). Diwygiwyd Atodlen 7 fel ei bod yn gymwys o ran Cymru yn unig gan baragraff 14 o Atodlen 12 i Ddeddf Addysg 2005 (p.18). Mewnosodwyd adran 28(1)(aa) a 28(1)(d) gan adran 154 o Ddeddf Addysg 2002 (p.32). Diwygiwyd adran 28(2)(a) gan adran 64 o Ddeddf Addysg 2005. Trosglwyddwyd swyddogaethau'r Ysgrifennydd Gwladol yn Neddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998 i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672) ac yna i Weinidogion Cymru yn rhinwedd paragraff 30 o Atodlen 11 i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p.32).

(2)

2000 p.21. Mewnosodwyd adran 113A gan Ddeddf Addysg 2002. Diddymwyd is-adran (9)(f) o'r adran honno gan baragraff 49 o Atodlen 6 i Ddeddf Prentisiaethau, Sgiliau, Plant a Dysgu 2009 (p.22). Diwygiwyd Atodlen 7 gan Atodlen 5 i Ddeddf Addysg 2005. Mewnosodwyd Atodlen 7A gan Atodlen 9 i Ddeddf Addysg 2002. Diwygiwyd paragraff 1A o Atodlen 7 gan baragraff 53 o Atodlen 6 i Ddeddf Prentisiaethau, Sgiliau, Plant a Dysgu 2009. Rhoddwyd cyfeiriadau at Gynulliad Cenedlaethol Cymru yn Neddf Dysgu a Medrau 2000 yn lle cyfeiriadau at Gyngor Cenedlaethol Cymru dros Addysg a Hyfforddiant gan Orchymyn Cyngor Cenedlaethol Cymru dros Addysg a Hyfforddiant (Trosglwyddo Swyddogaethau i Gynulliad Cenedlaethol Cymru a Diddymu'r Cyngor) 2005 (O.S. 2005/3238 (Cy.243)). Trosglwyddwyd swyddogaethau Cynulliad Cenedlaethol Cymru i Weinidogion Cymru yn rhinwedd paragraff 30 o Atodlen 11 i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006.