Rheoliadau Gwybodaeth Ysgolion (Cymru) 2011

Nodyn Esboniadol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)

Gwneir y Rheoliadau hyn o dan adrannau 29(5), 408, 537(1) i (8) a 569(4) a (5) o Ddeddf Addysg 1996 a pharagraff 3 o Atodlen 1 iddi, ac adrannau 92 a 138(7) a (8) o Ddeddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998. Maent yn rhagnodi gwybodaeth ysgolion y mae'n rhaid i awdurdodau lleol ac ysgolion ei chyhoeddi mewn perthynas â'r flwyddyn academaidd 2011-2012 a'r blynyddoedd ar ôl hynny.

Mae'r Rheoliadau hyn yn dirymu ac yn ailddeddfu Rheoliadau Addysg (Gwybodaeth Ysgolion) (Cymru) 1999, gyda rhai newidiadau.

Mae Rhan 2 yn ei gwneud yn ofynnol i bob awdurdod lleol gyhoeddi prosbectws cyfansawdd bob blwyddyn sy'n cynnwys gwybodaeth sy'n ymwneud â phob ysgol a gynhelir yn ardal y prosbectws (rheoliad 4). Dyma'r wybodaeth: materion amrywiol (manylir arnynt yn Rhan 1 o Atodlen 2), materion mewn perthynas ag awdurdod lleol yn darparu addysg arbennig (manylir arnynt yn Rhan 2 o Atodlen 2), a gwybodaeth sy'n ymwneud â darpariaeth eithriadol o addysg mewn ysgolion neu yn rhywle arall a roddir gan yr awdurdod lleol (manylir arno yn Rhan 2 o Atodlen 2).

Rhaid cyhoeddi'r prosbectws cyfansawdd heb fod yn hwyrach na 1 Hydref ym mhob blwyddyn neu heb fod yn hwyrach na 6 wythnos cyn y caiff rhieni fynegi eu dewis o ysgol (i) drwy fod copïau ar gael i rieni yn ddi-dâl pan wneir cais amdanynt (ii) drwy fod copïau ar gael y gall rhieni gyfeirio atynt yn y llyfrgelloedd cyhoeddus yn ardal yr awdurdod lleol, a (iii) ar wefan yr awdurdod lleol (rheoliad 5).

Mae Rhan 3 yn ei gwneud yn ofynnol bod cyrff llywodraethu yn trefnu bod gwybodaeth benodol ar gael i awdurdodau lleol.

Mae Rhan 4 yn ei gwneud yn ofynnol bod cyrff llywodraethu ysgolion a gynhelir yn cyhoeddi prosbectws ysgol.

Mae Rhan 5 yn cynnwys darpariaethau atodol sy'n ymwneud â dogfennau a gyhoeddir gan gynnwys y gofyniad, pan fo angen, bod yn rhaid darparu gwybodaeth drwy gyfieithiad yn Saesneg neu yn y Gymraeg yn ddi-dâl.