Rheoliad 1
ATODLEN 1Rheoliadau a ddirymwyd
Rheoliadau a ddirymwyd | Cyfeirnodau | Rhychwant y dirymiad |
---|---|---|
Rheoliadau Addysg (Gwybodaeth Ysgolion) (Cymru) 1999 | O.S. 1999/1812 | Y Rheoliadau cyfan |
Rheoliadau Addysg (Gwybodaeth Ysgolion) (Cymru) (Diwygio) 2001 | O.S. 2001/1111 (Cy.55) | Y Rheoliadau cyfan |
Rheoliadau Ddeddf Dysgu a Medrau 2000 (Diwygiadau Canlyniadol) (Ysgolion) (Cymru) 2001 | O.S. 2001/3710 (Cy.306) | Rheoliad 9 |
Rheoliadau Addysg (Gwybodaeth Ysgolion) (Cymru) (Diwygio) 2002 | O.S. 2002/1400 (Cy.139) | Y Rheoliadau cyfan |
Rheoliadau Addysg (Gwybodaeth Ysgolion) (Cymru) (Diwygio) 2004 | O.S. 2004/1736 (Cy.179) | Y Rheoliadau cyfan |
Rheoliadau'r Cwricwlwm Cenedlaethol (Trefniadau Asesu Cyfnod Allweddol 2) (Diwygiadau Canlyniadol) (Cymru) 2004 | O.S. 2004/2914 (Cy.253) | Rheoliad 3 |
Rheoliadau Trefniadau Asesu y Cwricwlwm Cenedlaethol (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) 2005 | O.S. 2005/1396 (Cy.110) | Rheoliad 3 |
Gorchymyn Cyngor Cenedlaethol Cymru dros Addysg a Hyfforddiant (Trosglwyddo Swyddogaethau i Gynulliad Cenedlaethol Cymru a Diddymu'r Cyngor) 2005 | O.S. 2005/3238 (Cy.243) | Paragraff 15 o Atodlen 2 |
Gorchymyn Awdurdod Cymwysterau, Cwricwlwm ac Asesu Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau i Gynulliad Cenedlaethol Cymru a Diddymu'r Awdurdod) 2005 | O.S. 2005/3239 (Cy.244) | Paragraff 3 o Atodlen 2 |
Rheoliadau Gwybodaeth am Deithio gan Ddysgwyr (Cymru) 2009 | O.S. 2009/569 (Cy.53) | Rheoliad 2 |
Rheoliadau Deddf Prentisiaethau, Sgiliau, Plant a Dysgu 2009 (Diwygiadau Canlyniadol) (Cymru) 2010 | O.S. 2010/2431 (Cy.209) | Rheoliad 4 |
Rheoliad 4
ATODLEN 2GWYBODAETH GYFFREDINOL I'W CHYHOEDDI GAN AWDURDODAU LLEOL YN Y PROSBECTWS CYFANSAWDD
RHAN 1Materion amrywiol
1. Cyfeiriadau post a gwefannau a rhifau ffôn swyddfeydd yr awdurdod lleol y dylid cyfeirio ymholiadau atynt, o ran addysg gynradd ac uwchradd yn ardal yr awdurdod lleol.
2. O ran pob ysgol (heblaw uned cyfeirio disgyblion) a grybwyllir yn y prosbectws cyfansawdd—
(a)enw, cyfeiriad a rhif ffôn yr ysgol ynghyd ag enw'r person y dylid anfon ymholiadau ato;
(b)ystod oedran y disgyblion yn yr ysgol;
(c)nifer y disgyblion cofrestredig yn yr ysgol ar 31 Ionawr yn y flwyddyn yn union o flaen blwyddyn gyhoeddi'r ysgol;
(ch)capasiti'r ysgol (heblaw ysgol arbennig) ar 31 Ionawr yn y flwyddyn yn union o flaen blwyddyn gyhoeddi'r ysgol;
(d)y nifer derbyn ar gyfer pob grŵp oedran perthnasol yn yr ysgol (heblaw ysgol arbennig);
(dd)y nifer derbyn ar ddechrau'r flwyddyn ysgol yn union ar ôl blwyddyn adrodd yr ysgol;
(e)nifer y ceisiadau ysgrifenedig am leoedd ar ddechrau'r flwyddyn honno neu (fel y bo'n briodol) y dewisiadau a fynegwyd ar gyfer lleoedd yn yr ysgol yn unol â threfniadau a wnaed gan yr awdurdod lleol perthnasol o dan adrannau 86(1) neu 86A(1) o Ddeddf 1998; ac
(f)nifer yr apelau a wnaed yn unol ag adran 94 o Ddeddf 1998(1) cyn dechrau'r flwyddyn ysgol ddiweddaraf a nifer yr apelau hynny a fu'n llwyddiannus.
3. Dosbarthiad pob ysgol o'r fath (ac eithrio uned cyfeirio disgyblion) fel—
(a)ysgol gymunedol, ysgol sefydledig, ysgol wirfoddol a gynorthwyir, ysgol wirfoddol a reolir, ysgol gymunedol arbennig neu ysgol sefydledig arbennig(2);
(b)ysgol gynradd, ysgol ganol neu ysgol uwchradd;
(c)ysgol gyfun, ysgol ramadeg neu ysgol sy'n dethol yn rhannol;
(ch)ysgol gydaddysgol neu ysgol un rhyw;
(d)ysgol ddydd neu ysgol fyrddio neu ysgol sy'n derbyn disgyblion dydd a disgyblion byrddio,
ac eithrio at ddibenion is-baragraffau (b) a (c) caniateir defnyddio terminoleg arall.
4. Y categori iaith a ddefnyddiwyd gan y corff llywodraethu yn y datganiad CYBLD diweddaraf a oedd yn disgrifio'r ysgol yn fwyaf cywir.
5. Y trefniadau derbyn a benderfynir ar gyfer yr ysgol mewn perthynas â phob oedran pan gaiff disgyblion eu derbyn i'r ysgol (gan gynnwys oedrannau dros ac o dan oedran ysgol gorfodol), gan gynnwys datganiad o'r polisïau a'r gweithdrefnau a fabwysiadwyd i alluogi rhieni neu ddisgyblion i fynegi eu dewis yn unol â threfniadau a wnaed gan awdurdod lleol o dan adran 86(1) ac 86A(1), yn eu trefn, o Ddeddf 1998 neu i apelio yn erbyn penderfyniad i wrthod lle.
6. Cysylltiadau, os oes rhai, pob ysgol o'r fath ag enwad crefyddol penodol.
7. Trefniadau a pholisïau cyffredinol yr awdurdod lleol o ran defnyddio'r Gymraeg mewn ysgolion a gynhelir ganddo ac eithrio ysgolion sefydledig neu ysgolion gwirfoddol a gynorthwyir—
(a)yn ardal gyfan yr awdurdod lleol neu mewn rhannau gwahanol ohoni;
(b)ym mhob ysgol o'r fath neu mewn mathau gwahanol o ysgolion; ac
(c)gan ddisgyblion o bob oedran neu grwpiau oedran penodol.
8. Manylion unrhyw esemptiadau o'r Cwricwlwm Cenedlaethol ynglŷn â'r Gymraeg o dan adrannau 112, 113 neu 114(3) o Ddeddf 2002 sy'n effeithio ar ddisgyblion mewn ysgolion a gynhelir gan yr awdurdod lleol, gan bennu natur yr esemptiad a'r ysgolion yr effeithir arnynt (ond heb fod modd adnabod disgyblion unigol yr effeithir arnynt).
9. Trefniadau a pholisïau cyffredinol yr awdurdod lleol o ran darparu bwyd a diod drwy gydol y diwrnod ysgol gan gynnwys, yn benodol, peidio â chodi tâl am y cyfan neu am ran o'r ddarpariaeth.
10. Trefniadau a pholisïau cyffredinol yr awdurdod lleol o ran darparu dillad ysgol (gan gynnwys gwisg ysgol a dillad hyfforddiant corfforol) a rhoi grantiau i dalu treuliau ynglŷn â dillad o'r fath ac, yn benodol, y cyfeiriad y gall rhieni gael gwybodaeth fanwl ohono o ran y cymorth sydd ar gael a'r cymhwystra ar ei gyfer.
11. Trefniadau a pholisïau cyffredinol yr awdurdod lleol o ran—
(a)rhoi grantiau i dalu treuliau (ac eithrio'r rheini a grybwyllir ym mharagraffau 9 a 10); a
(b)rhoi lwfansau yn achos disgyblion sydd dros oedran ysgol gorfodol;
ac, yn benodol, y cyfeiriad y gall rhieni gael gwybodaeth fanwl ohono o ran y cymorth sydd ar gael a'r cymhwystra ar ei gyfer.
12. Trefniadau a pholisïau cyffredinol yr awdurdod lleol o ran cofnodi enwau disgyblion ar gyfer arholiadau cyhoeddus.
13. Trefniadau a pholisïau cyffredinol yr awdurdod lleol o ran darparu addysg arbennig i ddisgyblion ag anghenion addysgol arbennig gan gynnwys, yn benodol, y trefniadau ar gyfer rhieni i gael gwybodaeth am y materion a grybwyllir yn Rhan 2 o'r Atodlen hon.
14. Y trefniadau ar gyfer rhieni ac eraill i gael copïau o'r polisïau ar godi tâl a pheidio â chodi tâl a benderfynir gan yr awdurdod lleol o dan adran 457 o Ddeddf 1996 a chyfeirio at fanylion y polisïau hynny(4).
RHAN 2Darpariaeth addysgol arbennig
15. Trefniadau a pholisïau manwl yr awdurdod lleol o ran—
(a)adnabod ac asesu plant ag anghenion addysgol arbennig a chyfranogiad rhieni yn y broses honno;
(b)y ddarpariaeth a wneir mewn ysgolion arbennig a gynhelir ganddo a'r defnydd a wneir ganddo o ysgolion arbennig a gynhelir gan awdurdodau lleol eraill;
(c)darparu addysg arbennig ar wahân i ddarpariaeth mewn ysgol;
(ch)y defnydd o ysgolion arbennig nas cynhelir ac ysgolion annibynnol wrth ddarparu ar gyfer disgyblion ag anghenion addysgol arbennig; a
(d)galluogi rhieni sy'n ystyried y gallai fod gan eu plentyn anghenion addysgol arbennig i gael cyngor a gwybodaeth bellach.
16. Y trefniadau ar gyfer rhieni i gael yr wybodaeth a osodir yn Atodlen 3 yn achos ysgolion arbennig a ddefnyddir gan yr awdurdod lleol sy'n ysgolion a gynhelir ganddo neu gan awdurdodau leol eraill.
RHAN 3Darpariaeth eithriadol o addysg mewn ysgol neu yn rhywle arall
17. Trefniadau a pholisïau cyffredinol yr awdurdod lleol o ran y ddarpariaeth addysg y mae adran 19 o Ddeddf 1996(5) yn gymwys iddi.
18. Bydd newidiadau i unrhyw fater yn yr Atodlen hon y penderfynwyd arnynt yn cael eu gwneud ar ôl dechrau'r flwyddyn ysgol y mae'r wybodaeth yn berthnasol iddi.
Rheoliad 7
ATODLEN 3YR WYBODAETH SYDD I'W CHYHOEDDI GAN GYRFF LLYWODRAETHU
1. Enw, cyfeiriad a rhif ffôn yr ysgol ac enwau'r pennaeth a chadeirydd y corff llywodraethu.
2. Dosbarthiad yr ysgol yn un o'r canlynol—
(a)ysgol gymunedol, ysgol sefydledig, ysgol wirfoddol a reolir, ysgol wirfoddol a gynorthwyir, ysgol gymunedol arbennig neu ysgol sefydledig arbennig;
(b)ysgol gynradd, ysgol ganol neu ysgol uwchradd;
(c)ysgol gyfun, ysgol ramadeg(6) neu ysgol sy'n dethol yn rhannol;
(ch)ysgol gydaddysgol neu ysgol un rhyw;
(d)ysgol ddydd neu ysgol fyrddio neu ysgol sy'n derbyn disgyblion dydd a disgyblion byrddio;
ac eithrio at ddibenion is-baragraff (b) neu (c) caniateir defnyddio terminoleg arall.
3. Y categori iaith yn y datganiad CYBLD diweddaraf i Weinidogion Cymru a oedd yn disgrifio'r ysgol yn fwyaf cywir.
4. O ran ysgolion heblaw ysgolion arbennig, manylion y polisi derbyn a fabwysiadwyd ar gyfer yr ysgol mewn perthynas â phob oedran pan gaiff disgyblion eu derbyn i'r ysgol (gan gynnwys oedrannau dros ac o dan oedran ysgol gorfodol).
5. Pan fo trefniadau penodedig ar i rieni sy'n ystyried anfon eu plentyn i'r ysgol, i ymweld â'r ysgol, honno, manylion y trefniadau hynny.
6. Yn achos ysgol uwchradd neu ysgol (ac eithrio ysgol arbennig) sy'n darparu addysg uwchradd, pan fo gwybodaeth ar gael—
(a)nifer y lleoedd ar gyfer pob grŵp oedran perthnasol yn yr ysgol a oedd ar gael ar ddechrau'r flwyddyn ysgol yn union cyn blwyddyn dderbyn yr ysgol;
(b)nifer y ceisiadau ysgrifenedig am leoedd o'r fath o ddechrau'r flwyddyn honno neu (fel y bo'n briodol) dewisiadau a fynegwyd am leoedd o'r fath yn yr ysgol yn unol â threfniadau a wnaed o dan adran 86(1) o Ddeddf 1998;
(c)nifer yr apelau a wnaed yn unol ag adran 94 o Ddeddf 1998 cyn dechrau'r flwyddyn ysgol ddiweddaraf a nifer yr apelau hynny a fu'n llwyddiannus.
7. Datganiad ar y cwricwlwm ac ar drefn yr addysg a'r dulliau addysgu yn yr ysgol, gan gynnwys manylion unrhyw drefniadau arbennig yn y cwricwlwm neu fel arall ar gyfer categorïau penodol o ddisgyblion, gan gynnwys y rheini â datganiadau anghenion addysgol arbennig a wnaed yn unol ag adran 324 o Ddeddf 1996(7).
8. Crynodeb o'r polisi a fabwysiadwyd ar gyfer yr ysgol gan y corff llywodraethu mewn perthynas â phlant ag anghenion addysgol arbennig fel y mae'n ymddangos o'r wybodaeth a gyhoeddwyd gan y corff llywodraethu o dan reoliadau 3 i 4 o Reoliadau Addysg (Anghenion Addysgol Arbennig) (Gwybodaeth) (Cymru) 1999(8).
9. Datganiad byr ar ethos a gwerthoedd yr ysgol.
10. Datganiad byr ar bwy a gafodd ei ddynodi yn aelod o'r staff yn yr ysgol a chanddo gyfrifoldeb am hybu cyflawniad addysgol y plant sy'n derbyn gofal a rôl y person hwnnw a datganiad byr ar y polisïau a fabwysiadwyd ar gyfer yr ysgol i gefnogi a hybu cyflawniad addysgol plant sy'n derbyn gofal.
11. Gwybodaeth am y dull y mae cwynion i'w gwneud o dan drefniadau a wnaed yn unol ag adran 409 o Ddeddf 1996(9).
12. Crynodeb o gynnwys a threfn y rhan honno o'r cwricwlwm sy'n ymwneud ag addysg rhyw (pan fo addysg o'r fath yn ffurfio rhan o gwricwlwm seciwlar yr ysgol).
13. Crynodeb o unrhyw addysg gyrfaoedd a ddarperir ac unrhyw drefniadau a wnaed ar gyfer profiadau sy'n canolbwyntio ar waith i ddisgyblion.
14. Crynodeb o unrhyw nodau chwaraeon gan yr ysgol a'r darpariaethau a wnaed i ddisgyblion yn yr ysgol i gymryd rhan mewn chwaraeon gan gynnwys crynodeb o'r ddarpariaeth a wnaed ar gyfer gweithgareddau chwaraeon allgwricwlaidd.
15. Cysylltiadau'r ysgol, os oes rhai, â chrefydd benodol neu ag enwad crefyddol penodol.
16. Heb ragfarnu paragraff 15, crynodeb byr o'r addysg grefyddol a ddarperir yn yr ysgol.
17. Gwybodaeth am unrhyw drefniadau i riant neu i ddisgybl chweched dosbarth i arfer eu hawliau o dan adran 71 o Ddeddf 1998(10) mewn perthynas â phresenoldeb disgybl mewn addoliad crefyddol neu addysg grefyddol, ac o unrhyw ddarpariaeth amgen a wnaed i'r disgyblion o dan sylw.
18. Gwybodaeth am unrhyw benderfyniad a wnaed gan gyngor ymgynghorol sefydlog mewn perthynas â'r ysgol o dan adran 394 o Ddeddf 1996(11).
19. Crynodeb o'r polisïau ar godi tâl a pheidio â chodi tâl a benderfynwyd gan gorff llywodraethu'r ysgol o dan adran 457 o Ddeddf 1996.
20. Ar gyfer blwyddyn dderbyn yr ysgol—
(a)yr amserau y mae pob sesiwn ysgol yn dechrau ac yn gorffen ar ddiwrnod ysgol; a
(b)dyddiadau gwyliau'r ysgol (gan gynnwys gwyliau hanner tymor) yn ystod blwyddyn dderbyn yr ysgol.
21. Crynodeb o unrhyw drefniadau arbennig ar gyfer derbyn disgyblion anabl i'r ysgol ac ar gyfer galluogi'r disgyblion hynny i gael mynediad i unrhyw ran o fangreoedd yr ysgol, ynghyd â manylion o unrhyw gamau a gymrwyd i atal disgyblion anabl rhag cael eu trin yn llai ffafriol na disgyblion nad ydynt yn anabl.
22. Crynodeb o unrhyw bolisïau a fabwysiadwyd gan gorff llywodraethu'r ysgol ynghylch cyfleoedd cyfartal.
23. Crynodeb o'r trefniadau a wnaed ar gyfer diogelwch disgyblion a staff yn yr ysgol a mangreoedd yr ysgol.
24. Crynodeb o'r darpariaethau a geir yn y cytundeb cartref-ysgol a fabwysiadwyd gan gorff llywodraethu'r ysgol o dan adran 110(1)(a) o Ddeddf 1998(12).
25. Newidiadau ynghylch unrhyw fater a grybwyllir yn y paragraffau blaenorol y penderfynwyd y byddant yn cael eu gwneud ar ôl dechrau'r flwyddyn ysgol y mae'r manylion yn berthnasol iddi.
26.—(1) Datganiad byr ar y defnydd o'r Gymraeg yn yr ysgol gan ddisgyblion o bob grŵp oedran neu o grwpiau oedran gwahanol gan gynnwys, yn benodol—
(a)y defnydd o'r Gymraeg ym mhob cyfnod allweddol fel yr iaith y rhoddir hyfforddiant ynddi ym mhob pwnc neu yn unrhyw bwnc sy'n ffurfio rhan o'r cwricwlwm a, phan roddir hyfforddiant ym mhob pwnc o'r fath yn y Gymraeg i ba raddau, os yw hyn yn berthnasol, mae hyfforddiant amgen ar gael yn Saesneg yn y pwnc hwnnw;
(b)i ba raddau, os yw hyn yn berthnasol, y Gymraeg yw iaith arferol cyfathrebu yn yr ysgol;
(c)unrhyw gyfyngiad sy'n gymwys i allu rhiant i ddewis yr iaith y rhoddir hyfforddiant ynddi; ac
(ch)disgrifiad byr o'r trefniadau yn yr ysgol i hyrwyddo parhad yn y rhychwant o hyfforddiant yn y Gymraeg ar gyfer disgyblion—
(i)yn ystod y cyfnod y maent wedi eu cofrestru yn yr ysgol; a
(ii)wrth drosglwyddo o'r ysgol, pan fo'r ysgol honno yn ysgol gynradd, i ysgol uwchradd.
(2) Manylion unrhyw esemptiadau o'r Cwricwlwm Cenedlaethol yn Gymraeg o dan adrannau 112, 113 neu 114 o Ddeddf 2002 ond heb fod modd adnabod unrhyw ddisgybl unigol yr effeithir arno.
27. Yr wybodaeth ysgol gymharol ddiweddaraf mewn perthynas â pherfformiad yr ysgol ar ddiwedd asesiadau'r cyfnod sylfaen ac ar ddiwedd asesiadau'r cyfnod allweddol a gyhoeddir gan Weinidogion Cymru ym Menter Cyfnewid Data Cymru
28. Yn achos ysgol a chanddi ddisgyblion cofrestredig a oedd yn 15 oed neu'n 16 oed ar 1 Medi ar ddechrau'r flwyddyn ysgol flaenorol, nifer y disgyblion hynny a chanran y nifer hwnnw sy'n dod o fewn y categorïau a ganlyn—
(a)personau mewn addysg lawnamser, hyfforddiant neu ddysgu seiliedig ar waith;
(b)personau mewn cyflogaeth;
(c)personau y mae'n hysbys i'r corff llywodraethu nad ydynt yn dod o fewn telerau (a) neu (b) uchod; ac
(ch)personau nad yw'r corff llywodraethu yn gwybod a ydynt yn dod o fewn unrhyw un neu rai o'r categorïau uchod.
29. Yr wybodaeth yn y ddogfen ddiweddaraf o “Crynodeb o Berfformiad Ysgolion Uwchradd” a gyhoeddwyd gan Weinidogion Cymru mewn perthynas â'r ysgol ar Menter Cyfnewid Data Cymru.
30.—(1) Nifer yr absenoldebau anawdurdodedig a nifer yr absenoldebau awdurdodedig yn ystod blwyddyn adrodd yr ysgol fel canran o gyfanswm y presenoldebau posibl yn ystod y flwyddyn honno.
(2) At ddibenion y paragraff hwn ystyr “cyfanswm y presenoldebau posibl” yw'r rhif a geir drwy luosogi nifer y disgyblion cofrestredig yn yr ysgol ar ddechrau'r flwyddyn adrodd â nifer y sesiynau ysgol yn y flwyddyn honno.
Fel y'i diwygiwyd gan adran 50 o Ddeddf Addysg 2002 a pharagraff 8 o Atodlen 4 iddi, adrannau 43(4) a 51(1) o Ddeddf Addysg ac Arolygiadau 2006 (p.40), adran 152 o Ddeddf Addysg a Sgiliau 2008 a pharagraffau 53 a 66 o Ran 2 o Atodlen 1 iddi a chan Atodlen 2 iddi, a chan O.S. 2010/1158.
Gweler adran 20 o Ddeddf 1998.
Fel y'i diwygiwyd gan baragraffau 11 i 13 ac 18 o'r Atodlen i Fesur Dysgu a Sgiliau (Cymru) 2009 (mccc 1),
Fel y'i diwygiwyd gan baragraffau 122(a) a (b) o Atodlen 30 ac Atodlen 31 i Ddeddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998, adran 200 o Ddeddf Addysg 2002, paragraff 16(1) a (2) o Atodlen 3 i Ddeddf Diwygio Lles 2007 (p.5) ac O.S. 2010/1158.
Fel y'i diwygiwyd gan adrannau 47(2) a (3), a 57(4) o Ddeddf Addysg 1996 ac Atodlen 8 iddi, a chan O.S. 2010/1158.
Diffinnir “grammar school” gan adran 104(7) o Ddeddf 1998.
Fel y'i diwygiwyd gan baragraff 77(a) a (b) o Atodlen 30 i y Ddeddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998, adran 9 o Ddeddf Anghenion Addysgol Arbennig ac Anabledd 2001 (p.10) a chan O.S. 2010/1151.
O.S. 1999/1442 fel y'i diwygiwyd gan O.S. 2010/1142.
Fel y'i diwygiwyd gan baragraff 107(b), (c) a (d) o Atodlen 30 i Ddeddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998, Atodlen 21 a chan baragraff 47 o Ran 3 o Atodlen 22 i Ddeddf Addysg 2002, adran 223(1)(b) o Ddeddf Prentisiaethau, Sgiliau, Plant a Dysgu a Rhan 7 o Atodlen 16 iddi a chan O.S. 2010/1152.
Fel y'i diwygiwyd gan adran 55 o Ddeddf Addysg ac Arolygiadau 2006, paragraff 105 o Atodlen 2 i Ddeddf Addysg 2002 a chan O.S. 2010/1158.
Fel y'i diwygiwyd gan baragraff 97(2), (3) a (4) o Atodlen 30 i Ddeddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998, paragraff 9(1) a (2) o Atodlen 3 i Deddf Addysg ac Arolygiadau 2006, a chan O.S. 2010/1158.
Mae diwygiadau iddi nad ydynt yn gymwys i Gymru.