RHAN 5LL+CGweinyddu
Hysbysiadau ac awdurdodiadauLL+C
30. Rhaid i unrhyw hysbysiad neu awdurdodiad fod yn ysgrifenedig, caiff fod yn ddarostyngedig i amodau a chaniateir iddo gael ei ddiwygio, ei atal neu ei ddirymu drwy hysbysiad ysgrifenedig pellach unrhyw bryd.
Awdurdodau gorfodiLL+C
31. Yn y Rheoliadau hyn yr awdurdodau gorfodi yw'r awdurdodau lleol ac awdurdodau iechyd porthladd.
GorfodiLL+C
32.—(1) Mewn arolygfa ffin, mae'r Rheoliadau hyn yn cael eu gorfodi gan y canlynol—
(a)mewn perthynas ag anifeiliaid, gan Weinidogion Cymru; a
(b)mewn perthynas â chynhyrchion, gan yr awdurdod lleol.
(2) Y tu allan i arolygfa ffin, mewn perthynas ag anifeiliaid, gorfodir hwy gan yr awdurdod lleol.
(3) Y tu allan i arolygfa ffin, mewn perthynas â chynhyrchion, gorfodir hwy gan y canlynol—
(a)yr awdurdod lleol; neu
(b)yr Asiantaeth Safonau Bwyd mewn unrhyw safle torri, sefydliad sy'n trafod anifeiliaid hela neu ladd-dy, neu fangreoedd lle y mae'r Asiantaeth yn gorfodi Rheoliadau Hylendid Bwyd (Cymru) 2006().
(4) Yn ychwanegol, mewn perthynas â chynhyrchion, gorfodir hwy gan swyddog tollau cyffredinol mewn unrhyw fan (ac eithrio cyfleusterau arolygu mewn arolygfa ffin) lle y mae'r nwyddau'n ddarostyngedig i oruchwyliaeth gwasanaeth y tollau gan y swyddog hwnnw o dan Erthyglau 37 a 38 o Reoliad y Cyngor (EEC) Rhif 2913/92 sy'n sefydlu Cod Tollau'r Gymuned.
(5) Caiff Gweinidogion Cymru gyfarwyddo, mewn perthynas ag achosion o ddisgrifiad penodol neu achos penodol, y caniateir i Weinidogion Cymru gyflawni unrhyw ddyletswydd a osodir ar awdurdod lleol o dan y rheoliad hwn.
(6) Rhaid i swyddog awdurdod gorfodi sy'n darganfod cynnyrch, wrth arfer unrhyw swyddogaeth statudol, mewn unrhyw fan sydd o dan oruchwyliaeth gwasanaeth y tollau, a allai fod wedi ei gludo i mewn yn groes i'r Rheoliadau hyn, hysbysu swyddog tollau cyffredinol a chadw'r llwyth neu'r cynnyrch hyd nes y bydd y cyfryw swyddog â gofal drosto.
Pwerau mynediadLL+C
33.—(1) Caiff swyddog sy'n awdurdodedig gan Weinidogion Cymru neu awdurdod gorfodi, wedi iddo ddangos awdurdodiad sydd wedi ei ddilysu'n briodol, os yw hynny'n ofynnol, fynd i mewn i unrhyw fangre ar unrhyw adeg resymol at y diben o orfodi'r Rheoliadau hyn; ac yn y Rheoliadau hyn, mae “mangre” (“premises”) yn cynnwys unrhyw le, cerbyd, ôl-gerbyd, cynhwysydd, stondin, strwythur symudol, llong neu awyren.
(2) Caiff y swyddog fynd â'r personau eraill hynny y mae'n barnu eu bod yn angenrheidiol gydag ef, gan gynnwys unrhyw gynrychiolydd o'r Comisiwn Ewropeaidd.
(3) Ni chaniateir mynnu cael mynediad fel mater o hawl i unrhyw fangre sy'n cael ei defnyddio fel tŷ annedd preifat yn unig oni bai bod y mynediad hwnnw yn unol â gwarant a roddwyd o dan y rheoliad hwn.
(4) Os bydd ynad heddwch, ar ôl cael gwybodaeth ysgrifenedig ar lw, wedi ei fodloni bod sail resymol dros fynd i mewn i unrhyw fangre at unrhyw ddiben ym mharagraff (1) a naill ai—
(a)bod mynediad i'r fangre wedi ei wrthod, neu y rhagwelir y gall gael ei wrthod, a bod hysbysiad o'r bwriad i wneud cais am warant wedi ei roi i'r meddiannydd; neu
(b)y byddai cais am fynediad, neu roi hysbysiad o'r fath, yn mynd yn groes i'r amcan o fynd i mewn i'r fangre, neu bod yr achos yn achos brys, neu bod y fangre heb ei meddiannu neu bod y meddiannydd yn absennol dros dro,
caiff yr ynad, drwy warant a lofnodir ganddo awdurdodi'r swyddog awdurdodedig i fynd i mewn i'r fangre, gan ddefnyddio grym rhesymol os bydd angen.
(5) Bydd pob gwarant a roddir o dan y rheoliad hwn yn parhau mewn grym am fis.
(6) Rhaid i swyddog sy'n mynd i mewn i unrhyw fangre heb ei meddiannu, ei gadael yn fangre sydd wedi ei diogelu yr un mor effeithiol rhag mynediad diawdurdod ag yr oedd pan aeth yno yn gyntaf.
Pwerau swyddogion awdurdodedigLL+C
34. Caiff swyddog sy'n awdurdodedig gan Weinidogion Cymru neu awdurdod gorfodi, wneud y canlynol—
(a)arolygu ac archwilio unrhyw anifail;
(b)arolygu unrhyw gynnyrch, neu ddeunydd genetig, gan gynnwys ei ddeunydd pacio, ei seliau, ei farciau, ei labeli a'i gyflwyniad, ac unrhyw beiriant neu gyfarpar sy'n cael ei ddefnyddio ar ei gyfer neu mewn cysylltiad ag ef;
(c)mynd at unrhyw ddogfennau neu gofnodion (ar ba ffurf bynnag y maent yn cael eu cadw) a'u harolygu a'u copïo, a'u symud oddi yno er mwyn galluogi iddynt gael eu copïo;
(ch)mynd at, ac arolygu a gwirio gweithrediad, unrhyw gyfrifiadur ac unrhyw gyfarpar cysylltiedig a ddefnyddiwyd mewn cysylltiad â'r cofnodion; a chaiff ei gwneud yn ofynnol bod unrhyw gofnodion cyfrifiadurol yn cael eu darparu ar ffurf sy'n caniatáu mynd â hwy oddi yno;
(d)ymafael yn unrhyw beth sy'n ofynnol fel tystiolaeth mewn achos o dan y Rheoliadau hyn a'i gadw;
(dd)agor unrhyw fwndel, pecyn, blwch pacio, neu eitem o fagiau personol, neu ei gwneud yn ofynnol i unrhyw berson, sy'n meddu ar unrhyw un ohonynt neu sy'n mynd gydag ef, ei agor ac arolygu'r cynnwys;
(e)cymryd samplau o unrhyw anifail neu gynnyrch ar gyfer profion labordy, ar gyfer gwirio yn erbyn unrhyw ddogfen berthnasol mewn perthynas â'r anifail neu'r cynnyrch, neu fel arall, ar gyfer gwirio os cydymffurfir â'r Rheoliadau hyn neu ag unrhyw amod i fewnforio a orfodir gan y Rheoliadau hyn.
Llwythi o Aelod-wladwriaeth arall sy'n peri risg i iechydLL+C
35.—(1) Os deuir ag anifail neu ddeunydd genetig sy'n peri risg ddifrifol i iechyd dynol neu iechyd anifeiliaid i mewn o Aelod-wladwriaeth arall, neu o ranbarth sydd wedi ei halogi gan glefyd episöotig, caiff swyddog i Weinidogion Cymru gyflwyno hysbysiad i'r person yr ymddengys ei fod â gofal dros yr anifail neu'r deunydd genetig, yn ei gwneud yn ofynnol i'r person hwnnw—
(a)cadw ac ynysu—
(i)yr anifeiliaid;
(ii)unrhyw anifeiliaid sydd wedi bod mewn cysylltiad â hwy; a
(iii)y deunydd genetig;
ac i gymryd unrhyw gamau pellach a gaiff eu pennu yn yr hysbysiad at y diben o atal cyflwyno neu ledaenu clefyd; neu
(b)heb oedi, cigydda'r anifail, neu, yn achos deunydd genetig, ei ddinistrio, yn unol â'r amodau hynny a gaiff eu pennu yn yr hysbysiad.
(2) Caiff swyddog i Weinidogion Cymru, sy'n gwybod nad yw anifeiliaid neu ddeunydd genetig yn cydymffurfio â darpariaethau Erthygl 3 o Gyfarwyddeb y Cyngor 90/425/EEC neu'n amau hynny, os yw ystyriaethau iechyd a lles anifeiliaid yn caniatáu hynny, roi i'r person sydd â gofal dros y llwyth neu i'r person yr ymddengys ei fod â gofal dros yr anifeiliaid hynny neu'r deunydd genetig hwnnw, drwy hysbysiad, ddewis o'r canlynol—
(a)pan fo'r methiant i gydymffurfio wedi ei achosi gan y presenoldeb mewn anifeiliaid o weddillion y mae eu lefelau'n uwch na'r hyn a ganiateir o dan reoliad 9 o Reoliadau Anifeiliaid a Chynhyrchion Anifeiliaid (Archwilio am Weddillion a Therfynau Gweddillion Uchaf) 1997(), cadw'r anifeiliaid o dan oruchwyliaeth hyd nes y bydd y lefelau gweddillion wedi disgyn i'r lefelau a ganiateir gan y ddeddfwriaeth;
(b)cigydda'r anifeiliaid neu ddinistrio'r deunydd genetig yn unol â'r amodau hynny a gaiff eu pennu yn yr hysbysiad; neu
(c)dychwelyd yr anifeiliaid neu'r deunydd genetig i'r Aelod-wladwriaeth yr anfonwyd hwy neu yr anfonwyd ef ohoni, gydag awdurdodiad awdurdod cymwys yr Aelod-wladwriaeth yr anfonwyd hwy neu yr anfonwyd ef ohoni gan hysbysu unrhyw Aelod-wladwriaeth y byddant yn mynd drwyddi, ymlaen llaw.
(3) Os yw'r llwyth yn methu â chydymffurfio oherwydd afreoleidd-dra ynglŷn â'r ddogfennaeth draddodi ofynnol yn unig, ni chaniateir i'r swyddog gyflwyno hysbysiad o'r fath oni bai bod—
(a)y swyddog wedi rhoi hysbysiad, i'r person sydd â gofal dros y llwyth, yn ei gwneud yn ofynnol i ddangos y ddogfennaeth ofynnol o fewn saith niwrnod ac i gadw'r llwyth yn unol â thelerau'r hysbysiad; a
(b)y ddogfennaeth ofynnol heb gael ei dangos o fewn yr amser hwnnw.
(4) Os na chydymffurfir â'r hysbysiad a gyflwynwyd o dan y rheoliad hwn, caiff arolygydd ymafael yn unrhyw anifail neu ddeunydd genetig y mae'r hysbysiad yn ymwneud ag ef a threfnu bod cydymffurfiaeth â gofynion yr hysbysiad ar draul y person y cyflwynwyd yr hysbysiad iddo.
RhwystroLL+C
36. Ni chaiff neb—
(a)rhwystro'n fwriadol unrhyw berson sydd yn gweithredu i roi'r Rheoliadau hyn ar waith;
(b)heb achos rhesymol, fethu â rhoi, i unrhyw berson sydd yn gweithredu i roi'r Rheoliadau hyn ar waith, unrhyw gymorth neu wybodaeth y gall y person hwnnw yn rhesymol ofyn amdano er mwyn iddo gyflawni ei swyddogaethau o dan y Rheoliadau hyn; neu
(c)rhoi, i unrhyw berson sydd yn gweithredu i roi'r Rheoliadau hyn ar waith, unrhyw wybodaeth gan wybod ei bod yn ffug neu'n gamarweiniol.
Cyfnewid gwybodaethLL+C
37.—(1) Caiff Comisiynwyr Cyllid a Thollau Ei Mawrhydi, swyddog tollau cyffredinol ac unrhyw awdurdod gorfodi gyfnewid gwybodaeth at ddibenion y Rheoliadau hyn gan ddatguddio gwybodaeth i'r awdurdodau gorfodi yn Lloegr, yr Alban a Gogledd Iwerddon at ddibenion y Rhan hon neu'r ddeddfwriaeth gyfatebol yn yr awdurdodaethau hynny.
(2) Nid yw paragraff (1) yn rhagfarnu unrhyw bŵer arall sydd gan y Comisiynwyr, y swyddog tollau cyffredinol neu unrhyw awdurdod gorfodi, i ddatgelu gwybodaeth.
(3) Ni chaiff neb, gan gynnwys gwas y Goron, ddatgelu unrhyw wybodaeth a dderbynnir gan y Comisiynwyr neu swyddog tollau cyffredinol o dan baragraff (1)—
(a)os yw'r wybodaeth yn ymwneud â pherson y mae modd ei adnabod—
(i)gan ei fod yn cael ei bennu yn y datgeliad; neu
(ii)oherwydd y gellid casglu pwy yw'r person o'r datgeliad;
(b)os yw'r datgeliad ar gyfer diben arall yn hytrach na'r dibenion a bennir ym mharagraff (1); ac
(c)os nad yw'r Comisiynwyr wedi rhoi eu cydsyniad i'r datgeliad ymlaen llaw.
FfioeddLL+C
38. Caiff Gweinidogion Cymru godi ffi resymol mewn perthynas ag unrhyw weithgaredd sy'n gysylltiedig â masnach rhwng Aelod-wladwriaethau mewn anifeiliaid neu ddeunydd genetig o dan y Rheoliadau hyn, ac mae cynrychiolydd y traddodwr a'r person sydd â gofal dros yr anifail neu'r deunydd genetig yn atebol ar y cyd ac yn unigol am y ffi honno().
TramgwyddauLL+C
39. Mae torri'r darpariaethau canlynol yn dramgwydd—
Y Ddarpariaeth | Disgrifiad o'r tramgwydd |
---|
rheoliad 5(1) | Traddodi anifail neu ddeunydd genetig heb dystysgrif iechyd |
rheoliad 5(2) | Methu â chadw tystysgrif am o leiaf dair blynedd |
rheoliad 6(5) | Llofnodi tystysgrif heb gael awdurdodiad gan Weinidogion Cymru |
rheoliad 6(6) | Llofnodi tystysgrif gan wybod ei bod yn ffug, neu gan beidio â chredu ei bod yn wir |
rheoliad 7 | Hysbysiad |
rheoliad 13 | Mewnforio mewn man ac eithrio arolygfa ffin |
rheoliad 14 | Hysbysiad |
rheoliad 15(1) | Methu â chyflwyno llwyth i'w arolygu |
rheoliad 15(2) | Methu â chydymffurfio â hysbysiad |
rheoliad 16(1) | Symud ymaith o arolygfa ffin heb DMMG |
rheoliad 16(2) | Methu â chludo llwyth i fan a bennir yn y DMMG |
rheoliad 17 | Symud ac eithrio o dan oruchwyliaeth Gwasanaeth y Tollau a methu â hysbysu Gweinidogion Cymru |
rheoliad 28 | Dod â chynnyrch nad yw yn cydymffurfio i warws etc. |
rheoliad 29(2) | Dod ag anifail neu gynnyrch yn groes i ddatganiad |
rheoliad 36 | Rhwystro |
rheoliad 37(3) | Datgelu gwybodaeth |
Atodlen 2: | |
paragraff 5(1) | Masnachu epaod |
paragraff 6(2) | Cadw cofnodion |
paragraff 6(3) | Hysbysiad o symud |
paragraff 7 | Symud sgil-gynhyrchion anifeiliaid |
paragraff 8(2) | Cigydda anifeiliaid |
paragraff 8(3) | Cadw anifeiliaid yn eu cyrchfan |
paragraff 9(2) | Cludo adar i gyfleusterau neu ganolfannau cwarantîn sydd wedi eu cymeradwyo |
paragraff 9(3) | Rhyddhau adar o gwarantîn |
paragraff 11 | Defnyddio tystysgrif sy'n ymwneud â storfeydd llongau |
Atodlen 3, paragraff 4(3) | Difa neu ailddosbarthu yn unol â'r awdurdodiad |
Tramgwyddau gan gyrff corfforaetholLL+C
40.—(1) Os yw corff corfforaethol yn euog o dramgwydd o dan y Rheoliadau hyn, ac os profir bod y tramgwydd wedi ei gyflawni drwy gydsyniad neu ymoddefiad, neu wedi ei briodoli i unrhyw esgeulustod ar ran—
(a)unrhyw gyfarwyddwr, rheolwr, ysgrifennydd neu swyddog tebyg arall o'r corff corfforaethol, neu
(b)unrhyw berson a oedd yn honni ei fod yn gweithredu yn rhinwedd unrhyw swydd o'r fath,
bydd y person hwnnw, yn ogystal â'r corff corfforaethol, yn euog o'r tramgwydd ac yn agored i gael ei erlyn a'i gosbi yn unol â hynny.
(2) At ddibenion y rheoliad hwn, ystyr “cyfarwyddwr” (“director”), mewn perthynas â chorff corfforaethol y rheolir ei faterion gan ei aelodau, yw aelod o'r corff corfforaethol.
Tramgwyddau gan bartneriaethau a chymdeithasau anghorfforedigLL+C
41.—(1) Caniateir dwyn achos am dramgwydd o dan y Rheoliadau hyn yr honnir iddo gael ei gyflawni gan bartneriaeth neu gymdeithas anghorfforedig yn enw'r bartneriaeth neu'r gymdeithas.
(2) At ddibenion achosion o'r fath—
(a)mae rheolau llys sy'n ymwneud â chyflwyno dogfennau i gael effaith fel petai'r bartneriaeth neu'r gymdeithas yn gorff corfforaethol;
(b)mae adran 33 o Ddeddf Cyfiawnder Troseddol 1925() ac Atodlen 3 i Ddeddf Llysoedd Ynadon 1980() yn gymwys mewn perthynas â'r bartneriaeth neu'r gymdeithas fel maent yn gymwys mewn perthynas â chorff corfforaethol.
(3) Mae dirwy a osodir ar bartneriaeth neu gymdeithas o'u collfarnu am dramgwydd o dan y Rheoliadau hyn i'w thalu allan o gronfeydd y bartneriaeth neu'r gymdeithas.
(4) Pan brofir bod tramgwydd o dan y Rheoliadau hyn, a gyflawnwyd gan bartneriaeth, wedi ei gyflawni gyda chydsyniad neu gydgynllwyn partner, neu ei fod i'w briodoli i unrhyw esgeulustod ar ran partner, bernir bod y partner hwnnw (yn ogystal â'r bartneriaeth) yn euog o'r tramgwydd ac yn agored i gael ei erlyn a'i gosbi yn unol â hynny.
(5) At y dibenion hyn, mae “partner” (“partner”) yn cynnwys person sy'n honni ei fod yn gweithredu fel partner.
(6) Pan brofir bod tramgwydd o dan y Rheoliadau hyn, a gyflawnwyd gan gymdeithas anghorfforedig, wedi ei gyflawni gyda chydsyniad neu gydgynllwyn swyddog o'r gymdeithas, neu ei fod i'w briodoli i unrhyw esgeulustod ar ran swyddog o'r gymdeithas, bernir bod y swyddog hwnnw (yn ogystal â'r gymdeithas) yn euog o'r tramgwydd ac yn agored i gael ei erlyn a'i gosbi yn unol â hynny.
(7) At y dibenion hyn, ystyr “swyddog” (“officer”) yw swyddog o'r gymdeithas neu aelod o'i chorff llywodraethu, neu berson sy'n honni ei fod yn gweithredu yn rhinwedd swydd o'r fath.
CosbauLL+C
42.—(1) Mae person sy'n euog o dramgwydd ynghylch datgelu yn groes i reoliad 37(3) (datgelu gwybodaeth) yn agored i'r canlynol—
(a)o'i gollfarnu'n ddiannod, i ddirwy nad yw'n fwy na'r uchafswm statudol, i garchariad am gyfnod nad yw'n fwy na thri mis, neu i'r ddau;
(b)o'i gollfarnu ar dditiad, i garchariad am gyfnod nad yw'n fwy na dwy flynedd, i ddirwy, neu i'r ddau.
(2) Bydd person sy'n euog o unrhyw dramgwydd arall o dan y Rheoliadau hyn yn atebol o'i gollfarnu'n ddianod i ddirwy nad yw'n fwy na'r uchafswm statudol, neu yn atebol, o'i gollfarnu ar dditiad, i ddirwy.
DirymuLL+C
43.—(1) Mae'r canlynol wedi eu dirymu—
(a)Rheoliadau Cynhyrchion sy'n Dod o Anifeiliaid (Mewnforio ac Allforio) 1996 i'r graddau y maent yn ymwneud â Chymru();
(b)Rheoliadau Cig Ffres (Yr Amodau Mewnforio) 1996 i'r graddau y maent yn ymwneud â Chymru();
(c)Rheoliadau Cynhyrchion sy'n Dod o Anifeiliaid (Mewnforio ac Allforio) (Diwygio) 1997 i'r graddau y maent yn ymwneud â Chymru();
(ch)Rheoliadau Anifeiliaid a Chynhyrchion Anifeiliaid (Mewnforio ac Allforio) (Cymru) 2006());
(d)Rheoliadau Cynhyrchion sy'n Dod o Anifeiliaid (Mewnforion Trydydd Gwledydd) (Cymru) 2007().
(2) Mae Atodlen 4 yn gwneud diwygiadau canlyniadol i'r Rheoliadau hyn.