xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

Offerynnau Statudol Cymru

2011 Rhif 2610 (Cy.283)

ARDRETHU A PHRISIO, CYMRU

Rheoliadau Cyfraniadau Ardrethu Annomestig (Cymru) (Diwygio) 2011

Gwnaed

1 Tachwedd 2011

Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru

2 Tachwedd 2011

Yn dod i rym

30 Tachwedd 2011

Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau canlynol drwy arfer y pwerau a roddwyd i'r Ysgrifennydd Gwladol gan adrannau 60, 140(4) a 143(1) o Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1988 a pharagraffau 4 a 6 o Atodlen 8 iddi(1) ac sydd bellach wedi eu breinio ynddynt hwy(2).

Enwi, cychwyn, cymhwyso a dehongli

1.—(1Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Cyfraniadau Ardrethu Annomestig (Cymru) (Diwygio) 2011 a deuant i rym ar 30 Tachwedd 2011.

(2Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.

(3Yn y Rheoliadau hyn ystyr “Rheoliadau 1992” (“the 1992 Regulations”) yw Rheoliadau Cyfraniadau Ardrethu Annomestig (Cymru) 1992((3)

Diwygio Rheoliadau 1992

2.—(1Mae Rheoliadau 1992 wedi eu diwygio fel a ganlyn mewn perthynas â blynyddoedd ariannol sy'n dechrau ar neu ar ôl 1 Ebrill 2012.

(2Yn lle Atodlen 4 i Reoliadau 1992 rhodder yr Atodlen i'r Rheoliadau hyn.

Carl Sargeant

Y Gweinidog Llywodraeth Leol a Chymunedau, un o Weinidogion Cymru

1 Tachwedd 2011

Rheoliad 2

YR ATODLEN

SCHEDULE 4ADULT POPULATION FIGURES

Billing authority areaPrescribed figure
Blaenau Gwent54,004
Bridgend105,929
Caerphilly134,673
Carmarthenshire143,689
Cardiff272,304
Ceredigion63,698
Conwy89,004
Denbighshire76,881
Flintshire117,823
Gwynedd95,280
Isle of Anglesey54,571
Merthyr Tydfil43,525
Monmouthshire69,652
Neath Port Talbot109,040
Newport108,804
Pembrokeshire92,272
Powys105,181
Rhondda Cynon Taf184,181
Swansea187,410
Torfaen70,994
Vale of Glamorgan (The)97,332
Wrexham105,385

Nodyn Esboniadol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)

Mae'r Rheoliadau hyn, sy'n gymwys o ran Cymru, yn diwygio Rheoliadau Cyfraniadau Ardrethu Annomestig (Cymru) 1992 (“Rheoliadau 1992”).

O dan Ran II o Atodlen 8 i Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1988, mae'n ofynnol i awdurdodau bilio (yng Nghymru, cynghorau sir a chynghorau bwrdeistref sirol) dalu symiau (a elwir yn gyfraniadau ardrethu annomestig) i Weinidogion Cymru. Mae Rheoliadau 1992 yn cynnwys rheolau ar gyfer cyfrifo'r cyfraniadau hynny ar gyfer awdurdodau bilio Cymru.

Mae'r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau 1992 drwy roi Atodlen 4 newydd (Ffigurau Poblogaeth Oedolion) yn lle'r un bresennol.

(2)

Trosglwyddwyd swyddogaethau'r Ysgrifennydd Gwladol o dan adrannau 60, 140(4) a 143(1) a pharagraffau 4 a 6 o Atodlen 8, i'r graddau yr oeddent yn arferadwy mewn perthynas â Chymru, i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672) — gweler y cyfeiriad at Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1988 yn Atodlen 1. Yn rhinwedd adran 162 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p.32), a pharagraff 30 o Atodlen 11 iddi, mae'r swyddogaethau hynny'n arferadwy gan Weinidogion Cymru.