Rheoliadau Gwerthuso Athrawon Ysgol (Cymru) 2011

Nodyn Esboniadol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)

Mae'r Rheoliadau hyn wedi'u gwneud o dan adrannau 21(3) (cyfrifoldeb cyffredinol dros redeg ysgol) a 131 (gwerthuso) o Ddeddf Addysg 2002 (2002 p.32) ac ar ôl ymgynghori'n briodol yn unol ag adran 131(7) o'r Ddeddf honno.

Mae'r Rheoliadau yn darparu ar gyfer gwerthuso perfformiad athrawon ysgol (gan gynnwys athrawon anghymwysedig ac athrawon ysgol feithrin) mewn ysgolion cymunedol, ysgolion gwirfoddol, ysgolion sefydledig, ysgolion arbennig cymunedol, ysgolion arbennig sefydledig neu ysgolion meithrin a gynhelir. Mae'r Rheoliadau hefyd yn darparu ar gyfer gwerthuso perfformiad athrawon a gyflogir gan yr awdurdodau lleol ac nad ydynt yn gysylltiedig ag un ysgol benodol neu sy'n addysgu y tu allan i leoliadau ysgol.

Mae'r Rheoliadau hyn yn diddymu ac yn disodli Rheoliadau Gwerthuso Athrawon Ysgol (Cymru) 2002 (O.S. 2002/1394 (Cy. 137)), fel y'u diwygiwyd.

Mae Rhan I o'r Rheoliadau yn cynnwys darpariaethau rhagarweiniol, gan gynnwys dyletswydd y corff llywodraethu a'r pennaeth i sicrhau bod perfformiad yr holl athrawon ysgol mewn ysgol yn cael ei werthuso'n rheolaidd (rheoliad 4), y ddyletswydd sydd ar benaethiaid, y corff llywodraethu a'r awdurdod lleol i bennu polisi rheoli perfformiad ac i'r pennaeth gyflwyno adroddiad blynyddol ysgrifenedig ar effeithiolrwydd y gweithdrefnau gwerthuso i'r corff llywodraethu (rheoliad 5).

Mae Rhan II o'r Rheoliadau yn ymdrin â gwerthuso penaethiaid.

Mae rheoliad 7 yn darparu i'r corff llywodraethu benodi o leiaf ddau lywodraethwr yn werthuswyr ar gyfer pennaeth ac i'r awdurdod lleol benodi un neu ddau o werthuswyr yn werthuswyr ar gyfer y pennaeth. Gwneir darpariaeth arbennig ynglŷn ag ysgolion sydd â chymeriad crefyddol.

Mae rheoliadau 8 a 9 yn gwneud darpariaeth ynglŷn â'r cylch gwerthuso. Fel rheol mae'r cylch gwerthuso yn para am flwyddyn, er y caiff yr awdurdod lleol a'r corff llywodraethu benderfynu ar hyd gwahanol ar gyfer cylch gwerthuso cyntaf pennaeth. Ar ôl symud i swydd newydd fel pennaeth neu ar ôl dod yn bennaeth, mae'r cylch gwerthuso'n ailddechrau.

Mae rheoliad 10 yn gosod dyletswydd ar y corff llywodraethu i sicrhau bod cylch gwerthuso cyntaf pennaeth yn dechrau erbyn 31 Ionawr 2012 fan bellaf. Mae rheoliad 11 yn darparu i'r awdurdod lleol benderfynu ar y gweithdrefnau ar gyfer gwerthuso.

Mae rheoliad 12 yn darparu ar gyfer cynnal cyfarfod rhwng y gwerthuswyr a'r pennaeth lle maent yn cynllunio'r gwerthusiad ac yn cytuno ar amcanion neu'n eu pennu. Mae hefyd yn darparu i'r pennaeth fynd ati yn ystod y cylch gwerthuso i gadw cofnod cyfoes y mae'n rhaid iddo gynnwys asesiad gan y pennaeth o berfformiad yn erbyn yr amcanion, manylion unrhyw hyfforddiant a gafwyd a manylion unrhyw ffactorau y mae'n credu y gallent fod yn effeithio ar ei berfformiad. Mae rheoliad 13 yn darparu y caniateir i'r amcanion hyn gael eu diwygio gan y gwerthuswyr. Mae rheoliad 14 yn ei gwneud yn ofynnol i'r gweithdrefnau ar gyfer monitro perfformiad gael eu pennu neu eu cytuno ac mae'n darparu ar gyfer y ffordd y dylai'r gwerthuswyr gael gwybodaeth.

Mae rheoliad 15 yn darparu bod rhaid cynnal adolygiad gwerthuso tua diwedd y cylch. Rhaid i'r pennaeth gyflwyno'r cofnod sy'n cynnwys asesiad y pennaeth ei hun o'i berfformiad, i gael ei ystyried yn yr adolygiad. Ar ôl yr adolygiad rhaid i'r gwerthuswyr baratoi datganiad ysgrifenedig.

Mae rheoliad 16 yn rhoi hawl i'r pennaeth apelio yn erbyn gwerthusiad ac yn nodi'r gweithdrefnau ar gyfer apêl.

Mae rheoliadau 17 a 18 yn darparu ar gyfer datgelu datganiadau gwerthuso, eu cadw a'u defnyddio. Rhaid i gopïau gael eu rhoi i bobl benodol. Rhaid cadw datganiadau am dair blynedd.

Mae rheoliad 19 yn cynnwys darpariaeth drosiannol.

Mae Rhan III o'r Rheoliadau yn ymdrin â gwerthuso athrawon ysgol heblaw penaethiaid.

Mae rheoliad 21 yn darparu i'r pennaeth benodi gwerthuswr i bob athro ac athrawes ysgol mewn ysgol. Caiff y pennaeth neu un o athrawon eraill yr ysgol fod yn werthuswr.

Mae rheoliadau 22 a 23 yn gwneud darpariaeth ynglŷn â'r cylch gwerthuso. Fel rheol mae'r cylch gwerthuso yn para am flwyddyn, er y caiff y pennaeth benderfynu ar hyd gwahanol ar gyfer y cylch gwerthuso cyntaf, y caniateir iddo bara am hyd at 18 mis ond nid llai na naw mis. Ar ôl symud i swydd newydd mewn ysgol arall, mae'r cylch gwerthuso'n dechrau eto, ond ar ôl symud i swydd newydd yn yr un ysgol, mater i'r pennaeth yw penderfynu a yw'r cylch yn dechrau eto neu beidio.

Mae rheoliad 24 yn gosod dyletswydd ar y corff llywodraethu i sicrhau bod gwerthusiad cyntaf athro neu athrawes ysgol yn dechrau erbyn 31 Ionawr 2012.

Mae rheoliad 25 yn darparu bod rhaid i werthusiad athrawon ysgol mewn ysgol fod yn unol â'r polisi rheoli perfformiad.

Mae rheoliad 26 yn darparu ar gyfer cynnal cyfarfod rhwng y gwerthuswr a'r athro neu'r athrawes ysgol lle maent yn cynllunio'r gwerthusiad ac yn cytuno ar amcanion neu'n eu pennu. Mae hefyd yn darparu i'r athro neu'r athrawes ysgol fynd ati yn ystod y cylch gwerthuso i gadw cofnod cyfoes y mae'n rhaid iddo gynnwys asesiad gan yr athro neu'r athrawes ysgol o berfformiad yn erbyn yr amcanion, manylion unrhyw hyfforddiant a gafwyd a manylion unrhyw ffactorau y maent yn credu y gallent fod yn effeithio ar eu perfformiad. Mae rheoliad 27 yn darparu y caniateir i'r amcanion hyn gael eu diwygio. Mae rheoliad 28 yn ei gwneud yn ofynnol i'r gweithdrefnau ar gyfer monitro perfformiad gael eu pennu neu eu cytuno. Rhaid i'r gwerthuswr arsylwi unwaith o leiaf ar yr athro neu'r athrawes ysgol yn addysgu. Mae'n darparu hefyd ar gyfer y ffordd y dylai'r gwerthuswyr gael gwybodaeth.

Mae rheoliad 29 yn darparu bod rhaid cynnal adolygiad gwerthuso tua diwedd y cylch. Rhaid i'r athro neu'r athrawes ysgol gyflwyno'r cofnod sy'n cynnwys asesiad yr athro neu'r athrawes ysgol ei hun o berfformiad i gael ei ystyried yn yr adolygiad. Ar ôl yr adolygiad rhaid i'r gwerthuswr baratoi datganiad ysgrifenedig.

Mae rheoliad 30 yn rhoi hawl i'r athro neu'r athrawes ysgol apelio yn erbyn gwerthusiad ac yn nodi'r gweithdrefnau ar gyfer apêl.

Mae rheoliadau 31 a 32 yn darparu ar gyfer datgelu datganiadau gwerthuso, eu cadw a'u defnyddio. Rhaid i gopïau gael eu rhoi i bobl benodol. Rhaid cadw datganiadau am dair blynedd.

Mae rheoliad 33 yn cynnwys darpariaeth drosiannol.

Mae Rhan IV o'r Rheoliadau yn ymdrin â gwerthuso athrawon digyswllt. Caiff y rhai sy'n gyfrifol am werthuso athrawon digyswllt sicrhau gwybodaeth o fannau eraill lle mae'r athro neu'r athrawes yn gweithio.

Mae rheoliad 35 yn ei gwneud yn ofynnol i awdurdod lleol gael polisi rheoli perfformiad sy'n nodi sut y bydd yn gwerthuso athrawon digyswllt, a rhoi'r polisi hwnnw ar waith.

Mae rheoliad 36 yn darparu mai'r awdurdodau lleol fydd yn gyfrifol am werthuso perfformiad athrawon digyswllt. Caiff yr awdurdodau lleol ddirprwyo rhai o'u cyfrifoldebau i'r ysgol lle mae'r athro neu'r athrawes ddigyswllt yn treulio'r brif ran o'u hamser gweithio neu i berson addas arall.

Mae rheoliad 37 yn gwneud darpariaeth ynglŷn â'r cylch gwerthuso i athrawon digyswllt. Fel rheol mae'r cylch gwerthuso yn para am flwyddyn, er y caiff yr awdurdod lleol benderfynu ar hyd gwahanol. Yn achos athrawon a gyflogir o dan gontract cyfnod penodol o lai na blwyddyn, hyd y contract fydd y cylch gwerthuso. Os bydd athro neu athrawes ddigyswllt yn trosglwyddo i swydd newydd ran o'r ffordd drwy gylch gwerthuso, rhaid i'r awdurdod lleol benderfynu a yw'r cylch yn dechrau eto.

Mae rheoliad 38 yn darparu mai'r awdurdod lleol fydd yn pennu gweithdrefnau gwerthuso athrawon digyswllt, neu, o dan amgylchiadau penodol, corff llywodraethu'r ysgol lle mae'r athro neu'r athrawes ddigyswllt yn treulio'r brif ran o'u hamser gweithio.

Mae rheoliad 39 yn darparu ar gyfer cynnal cyfarfod rhwng y gwerthuswr a'r athro neu'r athrawes ddigyswllt lle maent yn cynllunio'r gwerthusiad ac yn cytuno ar amcanion neu'n eu pennu. Mae hefyd yn darparu i'r athro neu'r athrawes ddigyswllt fynd ati yn ystod y cylch gwerthuso i gadw cofnod cyfoes y mae'n rhaid iddo gynnwys asesiad gan yr athro neu'r athrawes ddigyswllt o berfformiad yn erbyn yr amcanion, manylion unrhyw hyfforddiant a gafwyd a manylion unrhyw ffactorau y maent yn credu y gallent fod yn effeithio ar eu perfformiad.

Mae rheoliad 40 yn darparu y caniateir i'r amcanion hyn gael eu diwygio. Mae rheoliad 41 yn ei gwneud yn ofynnol i'r gweithdrefnau ar gyfer monitro perfformiad gael eu pennu neu eu cytuno. Rhaid i'r gwerthuswr arsylwi unwaith o leiaf ar yr athro neu'r athrawes ysgol yn addysgu. Mae'n darparu hefyd ar gyfer y ffordd y dylai'r gwerthuswyr gael gwybodaeth.

Mae rheoliad 42 yn darparu bod rhaid cynnal adolygiad gwerthuso tua diwedd y cylch. Rhaid i'r athro neu'r athrawes ddigyswllt gyflwyno'r cofnod sy'n cynnwys asesiad yr athro neu'r athrawes ddigyswllt ei hun o berfformiad i gael ei ystyried yn yr adolygiad. Ar ôl yr adolygiad rhaid i'r gwerthuswr baratoi datganiad ysgrifenedig.

Mae rheoliad 43 yn rhoi hawl i'r athro neu'r athrawes ddigyswllt apelio yn erbyn gwerthusiad ac yn nodi'r gweithdrefnau ar gyfer apêl.

Mae rheoliadau 44 a 45 yn darparu ar gyfer datgelu datganiadau gwerthuso, eu cadw a'u defnyddio. Rhaid i gopïau gael eu rhoi i bobl benodol. Rhaid cadw datganiadau am dair blynedd.

Mae rheoliad 46 yn cynnwys darpariaeth drosiannol.

Mae rheoliad 47 yn diwygio Rheoliadau Llywodraethu Ysgolion (Cylch Gwaith) (Cymru) 2000.

Yn yr Atodlen ceir arbedion a darpariaethau trosiannol cyffredinol. Mae paragraff 1 yn darparu ar gyfer sut y caiff penaethiaid, athrawon ysgol ac athrawon digyswllt sydd wedi cwblhau cylch gwerthuso o dan Reoliadau 2002 apelio yn erbyn y gwerthusiad. Mae paragraff 2 o'r Atodlen yn darparu yn achos y rhai sydd ran o'r ffordd drwy gylch gwerthuso pan ddaw'r Rheoliadau hyn i rym, fod rhaid barnu bod y cylch gwerthuso wedi dod i ben ac y bydd cylch newydd yn dechrau o dan y Rheoliadau hyn.