xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"
1. Os oes pennaeth, athro neu athrawes ysgol neu athro neu athrawes ddigyswllt wedi cwblhau cylch gwerthuso o dan ddarpariaethau Rheoliadau 2002, yna rhaid i unrhyw apêl yn erbyn y gwerthusiad gael ei gwneud yn unol â'r gweithdrefnau apêl a nodwyd yn Rheoliadau 2002.
2. Os oes pennaeth, athro neu athrawes ysgol neu athro neu athrawes ddigyswllt wedi mynd rhan o'r ffordd drwy gylch gwerthuso o dan Reoliadau 2002 ar y dyddiad y daw'r Rheoliadau hyn i rym, yna (yn ddarostyngedig i baragraff 3) rhaid i'r cylch gwerthuso hwnnw barhau o dan ddarpariaethau Rheoliadau 2002 hyd nes y bydd cylch gwerthuso newydd yn dechrau o dan y Rheoliadau hyn.
3. Os oes pennaeth, athro neu athrawes ysgol neu athro neu athrawes ddigyswllt wedi cwblhau cylch gwerthuso neu wedi mynd rhan o'r ffordd drwy gylch gwerthuso o dan ddarpariaethau Rheoliadau 2002, caniateir i unrhyw gyfarfod adolygu gwerthusiad mewn perthynas â'r cylch gwerthuso hwnnw sydd i'w gynnal o dan ddarpariaethau Rheoliadau 2002 ar ôl y dyddiad y daw'r Rheoliadau hyn i rym gael ei gynnal gan y gwerthuswr neu'r gwerthuswyr (fel y bo'n briodol) a benodwyd ar gyfer y pennaeth, yr athro neu'r athrawes ysgol neu'r athro neu'r athrawes ddigyswllt o dan ddarpariaethau'r Rheoliadau hyn (“y gwerthuswyr newydd”), os bydd y gwerthuswyr newydd yn dewis gwneud hynny. Caniateir i'r cyfarfod adolygu gwerthusiad hwnnw fod yn ddarostyngedig i ddarpariaethau rheoliadau 15(5), 29(5) a 42(5) (fel y bo'n briodol) yn ôl disgresiwn y gwerthuswyr newydd.