Chwilio Deddfwriaeth

Rheoliadau Corfforaeth Addysg Bellach Coleg Caerdydd a'r Fro (Llywodraethu) 2011

 Help about what version

Pa Fersiwn

Statws

Dyma’r fersiwn wreiddiol (fel y’i gwnaed yn wreiddiol). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.

Rheoliad 2

ATODLEN 1OFFFERYN LLYWODRAETHU

  1. 1.Dehongli

  2. 2.Aelodaeth y Gorfforaeth

  3. 3.Penderfynu niferoedd yr aelodau

  4. 4.Penodiadau

  5. 5.Penodi Cadeirydd ac Is-gadeirydd

  6. 6.Penodi'r Clerc

  7. 7.Cymhwystra

  8. 8.Tymor swydd

  9. 9.Terfynu aelodaeth

  10. 10.Aelodau i beidio â bod â buddiannau mewn materion sy'n ymwneud â'r sefydliad

  11. 11.Cyfarfodydd y Gorfforaeth

  12. 12.Cworwm

  13. 13.Trafodion cyfarfodydd

  14. 14.Cofnodion

  15. 15.Mynediad i'r cyhoedd i gyfarfodydd y Gorfforaeth

  16. 16.Cyhoeddi'r cofnodion a phapurau

  17. 17.Lwfansau i aelodau

  18. 18.Copïau o'r Offeryn Llywodraethu

  19. 19.Newid enw

  20. 20.Gosod y sêl

Dehongli

1.—(1Yn yr Offeryn Llywodraethu hwn—

  • ystyr “aelod” (“member”) yw aelod o'r Gorfforaeth;

  • ystyr “Cadeirydd” (“Chair”) yw Cadeirydd y Gorfforaeth;

  • ystyr “Clerc” (“Clerk”) yw Clerc y Gorfforaeth;

  • ystyr “diwrnod gwaith” (“working day”) yw unrhyw ddydd Llun, Mawrth, Mercher, Iau neu Gwener, ac eithrio gŵyl banc neu ŵyl gyhoeddus arall;

  • ystyr “y Gorfforaeth” (“the Corporation”) yw Corfforaeth Addysg Bellach Coleg Caerdydd a'r Fro;

  • ystyr “Is-gadeirydd” (“Vice-Chair”) yw Is-gadeirydd y Gorfforaeth;

  • ystyr “materion staff” (“staff matters”) yw penodiad, tâl, amodau gwaith, dyrchafiad, israddiad, ymddygiad, atal dros dro, diswyddiad neu ymddeoliad unrhyw aelod o'r staff;

  • ystyr “myfyriwr” (“student”) yw myfyriwr sydd wedi ymrestru yn y sefydliad a mae hefyd yn cynnwys person nad yw am y tro wedi ymrestru fel myfyriwr yn y sefydliad ond sydd ar gyfnod o absenoldeb awdurdodedig o fod wedi ymrestru fel myfyriwr yn y sefydliad at ddibenion astudio, teithio neu i wneud dyletswyddau unrhyw swydd a ddeil y person hwnnw yn undeb myfyrwyr y sefydliad;

  • ystyr “Pennaeth” (“Principal”) yw prif weithredwr y sefydliad;

  • ystyr “y sefydliad” (“the institution”) yw Coleg Caerdydd a'r Fro ac unrhyw sefydliad sy'n cael ei redeg am y tro gan y Gorfforaeth wrth arfer ei bwerau o dan Ddeddf Addysg Bellach ac Uwch 1992(1).

(2Yn yr Offeryn Llywodraethu hwn, mewn perthynas ag aelodau —

(a)mae cyfeiriadau at “categori amrywiol” (“variable category”) yn gyfeiriadau at unrhyw gategori o aelodau y dichon eu niferoedd amrywio yn unol â pharagraffau 2 a 4; a

(b)mae i'r termau canlynol yr ystyron a roddir iddynt ym mharagraff 2—

  • “Aelodau a Benodwyd gan Weinidogion Cymru” (“Welsh Ministers Appointed Members”);

  • “aelodau awdurdod lleol” (“local authority members”);

  • “aelodau busnes” (“business members”);

  • “aelodau cyfetholedig” (“co-opted members”);

  • “aelodau cymunedol” (“community members”);

  • “aelodau myfyrwyr” (“student members”);

  • “aelodau rhieni” (“parent members”); ac

  • “aelodau staff” (“staff members”).

Aelodaeth y Gorfforaeth

2.—(1Rhaid i'r Gorfforaeth gynnwys—

(a)hyd at saith aelod sydd, neu a fu, yn ymwneud â neu'n gyflogedig mewn busnes, diwydiant neu unrhyw broffesiwn neu unrhyw faes arall o waith sy'n berthnasol i weithgareddau'r sefydliad (a gelwir hwy'n “aelodau busnes”);

(b)hyd at dri aelod a gyfetholwyd gan aelodau'r Gorfforaeth (a gelwir hwy'n “aelodau cyfetholedig”);

(c)o leiaf un a hyd at dri aelod sy'n staff wedi'u cyflogi gan y sefydliad ac a enwebwyd gan staff y sefydliad (a gelwir hwy'n “aelodau staff”). Os oes mwy nag un aelod staff, rhaid i o leiaf un aelod staff fod wedi'i gyflogi fel aelod o'r staff addysgu, ac wedi'i ethol a'i enwebu ganddynt a rhaid i o leiaf un aelod staff fod wedi'i gyflogi fel aelod arall o staff y sefydliad ac wedi'i ethol a'i enwebu ganddynt;

(ch)o leiaf un a hyd at dri aelod sy'n fyfyrwyr yn y sefydliad ac sydd wedi'u hethol a'u henwebu gan fyfyrwyr y sefydliad neu (fel y caiff y Gorfforaeth benderfynu) wedi'u hethol a'u henwebu gan gymdeithas gydnabyddedig sy'n cynrychioli myfyrwyr y sefydliad (a gelwir hwy'n “aelodau myfyrwyr”);

(d)hyd at ddau aelod sy'n rhieni i fyfyrwyr o dan 19 mlwydd oed sy'n mynychu'r sefydliad, sydd wedi'u hethol a'u henwebu gan rieni eraill o'r fath neu (fel y caiff y Gorfforaeth benderfynu) wedi'u hethol a'u henwebu gan gymdeithas gydnabyddedig sy'n cynrychioli rhieni o'r fath (a gelwir hwy'n “aelodau rhieni”);

(dd)o leiaf un a hyd at dri aelod a enwebwyd gan awdurdodau lleol a bennir gan y Gorfforaeth (a gelwir hwy'n “aelodau awdurdod lleol”);

(e)o leiaf un a hyd at dri aelod a enwebwyd gan gorff neu gyrff cymunedol yr ymddengys i'r aelodau eraill eu bod yn cynrychioli buddiannau adran o'r gymuned leol a enwebwyd gan yr aelodau eraill (a gelwir hwy'n “aelodau cymunedol”) (at ddibenion y paragraff hwn mae “corff cymunedol” yn cynnwys unrhyw gymdeithas nad yw'n cael ei rhedeg er elw);

(f)Pennaeth y sefydliad (onid yw'r Pennaeth yn dewis peidio â bod yn aelod); ac

(ff)hyd at ddau aelod a benodwyd gan Weinidogion Cymru wrth arfer eu pwerau o dan adran 39 o Ddeddf Dysgu a Sgiliau 2000(2) (a gelwir hwy'n “Aelodau a Benodwyd gan Weinidogion Cymru”).

(2Rhaid i unrhyw gwestiwn parthed a yw person yn gymwys yn unol ag is-baragraff (1) i'w benodi'n aelod i unrhyw gategori gael ei benderfynu gan yr awdurdod penodi perthnasol fel a bennir ym mharagraff 4.

Penderfynu niferoedd yr aelodau

3.—(1Yn ei gyfarfod cyntaf, rhaid i'r Gorfforaeth benderfynu ar—

(a)cyfanswm yr aelodau (ac eithrio unrhyw Aelodau a Benodwyd gan Weinidogion Cymru); a

(b)nifer yr aelodau ym mhob categori amrywiol.

(2Caiff y Gorfforaeth ar unrhyw adeg amrywio'r penderfyniadau y cyfeirir atynt yn is-baragraff (1) ac unrhyw benderfyniadau olynol o dan y paragraff hwn.

(3Rhaid i unrhyw benderfyniad o dan y paragraff hwn sicrhau —

(a)bod nifer yr aelodau, heb gynnwys yr Aelodau a Benodwyd gan Weinidogion Cymru, yn 12 o leiaf ac nid yn fwy nag 20;

(b)bod nifer aelodau ym mhob categori amrywiol o fewn y terfynau a bennir ym mharagraff 2; ac

(c)bod nifer yr aelodau busnes yn hafal i draean o gyfanswm yr aelodau, heb gynnwys unrhyw Aelodau a Benodwyd gan Weinidogion Cymru, wedi ei dalgrynnu i fyny i'r rhif cyflawn agosaf.

(4Ni chaiff unrhyw benderfyniad o dan y paragraff hwn effaith a fyddai'n terfynu penodiad person sydd eisoes yn aelod ar yr adeg y daw'n effeithiol.

Penodiadau

4.—(1Y Gorfforaeth yw'r awdurdod penodi mewn perthynas â phenodi unrhyw aelod ac eithrio —

(a)Aelod a Benodwyd gan Weinidogion Cymru;

(b)yr aelodau cyntaf, a benodir gan Weinidogion Cymru; ac

(c)os yw nifer yr aelodau yn disgyn islaw'r nifer sy'n angenrheidiol ar gyfer cworwm, y cyfryw nifer o aelodau sy'n angenrheidiol ar gyfer cworwm

(2Os yw nifer yr aelodau yn disgyn islaw'r nifer sy'n angenrheidiol ar gyfer cworwm, Gweinidogion Cymru yw'r awdurdod penodi mewn perthynas â phenodiad y nifer hwnnw o aelodau sy'n angenrheidiol ar gyfer cworwm.

(3Caiff yr awdurdod penodi wrthod penodi person os bodlonir yr awdurdod—

(a)nad oes gan y person y sgiliau a'r profiad penodedig fel y'u diffinnir yn is-baragraff (4);

(b)bod y person, o fewn y deng mlynedd blaenorol, wedi cael ei symud ymaith o swydd fel aelod o gorfforaeth addysg bellach neu sefydliad a ddynodwyd o dan adran 28 o Ddeddf Addysg Bellach ac Uwch 1992(3);

(c)y byddai penodi'r person yn groes i unrhyw ddarpariaeth mewn unrhyw reolau neu is-ddeddfau a wnaed o dan erthygl 20 o'r Erthyglau Llywodraethu;

(ch)nad yw'r person yn gymwys i fod yn aelod yn rhinwedd paragraff 7; neu

(d)yn achos person sydd i'w benodi yn aelod busnes, aelod cyfetholedig, aelod awdurdod lleol neu'n aelod cymunedol, bod y Pwyllgor Chwilio (a sefydlwyd o dan Erthygl 8 o'r Erthyglau Llywodraethu) wedi cynghori na ddylid penodi'r person.

(4Yn y paragraff hwn ystyr “y sgiliau a'r profiad penodedig” yw'r sgiliau a'r profiad (ac eithrio cymwysterau proffesiynol) a bennir gan y Gorfforaeth eu bod yn briodol i aelodau.

(5Pan fo swydd unrhyw aelod ac eithrio'r Pennaeth neu Aelod a Benodwyd gan Weinidogion Cymru yn dod yn wag, rhaid i'r Gorfforaeth, cyn gynted ag y bo'n ymarferol, gymryd pob cam angenrheidiol i benodi aelod newydd i lenwi'r lle gwag.

(6Caiff aelod awdurdod lleol fod yn gynghorydd etholedig o'r awdurdod lleol, yn un o gyflogeion yr awdurdod lleol neu'n unrhyw berson arall a enwebir gan yr awdurdod lleol.

(7Nid oes dim yn y paragraff hwn yn rhoi'r hawl i'r Gorfforaeth ofyn am fwy nag un enwebiad gan unrhyw un neu ragor o'r cyrff y cyfeirir atynt ym mharagraff 2(1)(c) i (e) i lenwi unrhyw le gwag unigol.

Penodi Cadeirydd ac Is-gadeirydd

5.—(1Rhaid i'r aelodau sy'n bresennol mewn unrhyw gyfarfod o'r Gorfforaeth a gynhelir cyn penodi Cadeirydd neu Is-gadeirydd am y tro cyntaf o dan is-baragraff (2) ddewis un o'u nifer i weithredu fel gadeirydd ar gyfer y cyfarfod hwnnw.

(2Rhaid i'r Gorfforaeth benodi Cadeirydd ac Is-gadeirydd o blith ei haelodau.

(3Ni chaniateir penodi'r Pennaeth nac unrhyw aelod staff nac unrhyw aelod myfyrwyr yn Gadeirydd nac yn Is-gadeirydd.

(4Bydd y Cadeirydd a'r Is-gadeirydd yn dal eu swyddi am ba bynnag gyfnod a bennir gan y Gorfforaeth.

(5Yn ddarostyngedig i is-baragraff (3), os yw'r Cadeirydd a'r Is-gadeirydd yn absennol o unrhyw gyfarfod o'r Gorfforaeth, rhaid i'r aelodau sy'n bresennol ddewis un o'u plith i weithredu fel cadeirydd ar gyfer y cyfarfod hwnnw.

(6Caiff y Cadeirydd neu'r Is-gadeirydd ymddiswyddo o'r swydd ar unrhyw adeg drwy roi hysbysiad ysgrifenedig i'r Clerc.

(7Os bodlonir y Gorfforaeth, ar unrhyw adeg, bod y Cadeirydd yn anabl neu'n anaddas i gyflawni swyddogaethau'r Cadeirydd, caiff y Gorfforaeth, drwy roi hysbysiad ysgrifenedig, symud y Cadeirydd o'i swydd.

(8Os bodlonir y Gorfforaeth, ar unrhyw adeg, bod y Is-gadeirydd yn anabl neu'n anaddas i gyflawni swyddogaethau'r Is-gadeirydd, caiff y Gorfforaeth, drwy roi hysbysiad ysgrifenedig, symud yr Is-gadeirydd o'i swydd.

(9Yng nghyfarfod olaf y Gorfforaeth cyn bod tymor swydd y Cadeirydd neu'r Is-gadeirydd yn dod i ben, neu ar ôl i'r Cadeirydd neu'r Is-gadeirydd ymddiswyddo neu gael ei symud o'r swydd, rhaid i'r Gorfforaeth benodi Cadeirydd neu Is-gadeirydd newydd, yn ôl fel y digwydd, o blith ei haelodau.

(10Mae'r Cadeirydd a'r Is-gadeirydd yn gymwys i gael eu hail benodi pan ddaw tymor eu swyddi i ben, yn ddarostyngedig i unrhyw reolau a wnaed o dan erthygl 20 o'r Erthyglau Llywodraethu ynglŷn â nifer y tymhorau swydd y caiff person wasanaethu drostynt.

Penodi'r Clerc

6.—(1Rhaid i'r Gorfforaeth benodi person i wasanaethu fel Clerc, ond ni chaniateir penodi'r Pennaeth yn Glerc.

(2Yn ddarostyngedig i baragraff 13(9), mae hawl gan y Clerc i fod yn bresennol ym mhob cyfarfod o'r Gorfforaeth a phob cyfarfod o unrhyw bwyllgor o'r Gorfforaeth.

(3Rhaid i'r Gorfforaeth benodi person (ac eithrio'r Pennaeth) i wasanaethau fel clerc dros dro yn yr amgylchiadau canlynol—

(a)yng nghyfarfod cyntaf y Gorfforaeth pan nad oes person wedi ei benodi i wasanaethu fel Clerc;

(b)pan fo'r Clerc yn absennol dros dro.

(4Rhaid i'r Clerc gydymffurfio ag unrhyw ofynion ysgrifenedig gan Weinidogion Cymru.

(5Mae unrhyw gyfeiriad yn yr Offeryn hwn at y Clerc yn cynnwys Clerc dros dro.

Cymhwystra

7.—(1Ni chaiff person o dan 18 mlwydd oed fod yn aelod ac eithrio'n aelod myfyrwyr.

(2Yn ddarostyngedig i is-baragraff (3), ni chaiff person sy'n aelod o'r staff, ac eithrio'r Pennaeth, fod yn aelod ac eithrio'n aelod staff.

(3Ni chaiff myfyriwr a gyflogir gan y Gorfforaeth mewn cysylltiad â rôl y myfyriwr fel swyddog o undeb y myfyrwyr fod yn aelod ac eithrio'n aelod myfyrwyr.

(4Yn ddarostyngedig i is-baragraffau (5) a (6), ni chaiff myfyriwr yn y sefydliad fod yn aelod ac eithrio'n aelod myfyrwyr.

(5Ni cheir penodi aelod o'r staff sydd hefyd wedi ymrestru fel myfyriwr rhan-amser yn y sefydliad (ac eithrio person a gyflogir gan y Gorfforaeth mewn cysylltiad â'i rôl fel swyddog o undeb y myfyrwyr) yn aelod ac eithrio fel aelod staff.

(6Nid yw'n ofynnol i berson, sydd eisoes yn aelod ac eithrio aelod myfyrwyr, ymddiswyddo os bydd y person hwnnw yn ystod tymor y swydd yn ymrestru ar gwrs rhan-amser yn y sefydliad, ond os bydd y person hwnnw yn ymrestru ar gwrs llawn-amser yn y sefydliad, bydd y person hwnnw yn peidio â bod yn aelod.

(7Ni chaiff y Clerc fod yn aelod.

(8Yn ddarostyngedig i is-baragraffau (9) a (10), ni chaiff person fod yn aelod os yw'r person hwnnw wedi ei ddyfarnu'n fethdalwr(4), neu os yw'r person hwnnw yn ddarostyngedig i orchymyn cyfyngu methdaliad, neu orchymyn interim cyfyngu methdaliad neu ymrwymiad cyfyngu methdaliad(5), neu os yw'r person hwnnw wedi gwneud compownd neu drefniant â chredydwyr, gan gynnwys trefniant gwirfoddol unigol.

(9Pan fo person wedi'i anghymhwyso rhag bod yn aelod oherwydd ei fod wedi'i ddyfarnu'n fethdalwr, neu oherwydd ei fod yn destun gorchymyn cyfyngu methdaliad, gorchymyn interim cyfyngu methdaliad neu ymrwymiad cyfyngu methdaliad, daw'r anghymhwysiad hwnnw i ben—

(a)pan ryddheir y person hwnnw o'r methdaliad, oni fydd y gorchymyn methdaliad wedi ei ddiddymu cyn hynny;

(b)os diddymir y gorchymyn methdaliad, ar ddyddiad y diddymiad hwnnw;

(c)os dadwneir y gorchymyn cyfyngu methdaliad(6), ar y dyddiad y gorchmynnir hynny gan y llys;

(ch)os gollyngir y gorchymyn interim cyfyngu methdaliad gan y llys, ar y dyddiad y'i gollyngir; neu

(d)os diddymir yr ymrwymiad cyfyngu methdaliad, ar ddyddiad y diddymiad hwnnw.

(10Pan fo person wedi'i anghymhwyso rhag bod yn aelod oherwydd iddo wneud compownd neu drefniant, gan gynnwys trefniant gwirfoddol unigol, ac yntau wedyn yn talu'r dyledion yn llawn, daw'r anghymhwysiad i ben ar y dyddiad y cwblheir y taliad, ac mewn unrhyw achos arall, daw i ben ar ddiwedd tair blynedd o'r dyddiad y bodlonir telerau'r weithred gompownd, y trefniant neu'r trefniant gwirfoddol unigol.

(11Yn ddarostyngedig i is-baragraff (12) ni chaiff person fod yn aelod—

(a)os yw'r person hwnnw, o fewn y pum mlynedd blaenorol, neu ers ei benodi, wedi ei gollfarnu naill ai yn y Deyrnas Unedig neu mewn man arall o unrhyw dramgwydd ac wedi cael dedfryd o garchar (pa un a ataliwyd y ddedfryd dros dro ai peidio) am gyfnod o dri mis neu fwy heb gael dewis o ddirwy;

(b)os yw'r person hwnnw, o fewn yr 20 mlynedd blaenorol, wedi ei gollfarnu fel a bennir ym mharagraff (a) ac wedi cael dedfryd o garchar am gyfnod o fwy na dwy flynedd a hanner; neu

(c)os yw'r person hwnnw, ar unrhyw adeg, wedi ei gollfarnu fel a bennir ym mharagraff (a) ac wedi cael dedfryd o garchar o bum mlynedd neu fwy.

(12At ddibenion is-baragraff (11) rhaid diystyru unrhyw gollfarn gan neu gerbron llys y tu allan i'r Deyrnas Unedig am dramgwydd mewn perthynas ag ymddygiad na fyddai, pe bai wedi digwydd yn unrhyw ran o'r Deyrnas Unedig, wedi bod yn dramgwydd o dan y gyfraith mewn grym yn y rhan honno o'r Deyrnas Unedig.

(13Pan ddaw aelod yn anghymwys i fod yn aelod yn rhinwedd is-baragraffau (8) i (11), rhaid i'r aelod hwnnw roi hysbysiad ysgrifenedig o'r ffaith honno ar unwaith i'r Clerc.

Tymor swydd

8.—(1Bydd aelod yn dal ac yn gadael swydd yn unol â thelerau'r penodiad ond rhaid i hyd tymor swydd beidio â bod yn hwy na phedair blynedd.

(2Bydd aelod sy'n ymddeol ar ddiwedd y tymor swydd yn gymwys i gael ei ailbenodi yn ddarostyngedig i unrhyw reolau a wneir o dan erthygl 20 o'r Erthyglau Llywodraethu sy'n ymwneud â nifer y tymhorau swydd y caiff person wasanaethu drostynt, ac mae paragraff 4 yn gymwys i ailbenodiad aelod fel y mae'n gymwys i benodiad olynydd i aelod.

Terfynu aelodaeth

9.—(1Caiff aelod ymddiswyddo o'r swydd ar unrhyw adeg drwy roi hysbysiad ysgrifenedig i'r Clerc.

(2Caiff y Gorfforaeth symud unrhyw aelod o'i swydd drwy hysbysiad ysgrifenedig, os bodlonir y Gorfforaeth ar unrhyw adeg bod unrhyw aelod—

(a)wedi bod yn absennol o gyfarfodydd y Gorfforaeth am gyfnod hwy na chwe mis olynol heb ganiatâd y Gorfforaeth; neu

(b)yn analluog neu'n anaddas i gyflawni swyddogaethau aelod.

(3Bydd person sy'n aelod yn rhinwedd bod yn aelod o staff y sefydliad (gan gynnwys y Pennaeth) yn peidio â dal swydd pan fo'n peidio â bod yn aelod o staff y sefydliad.

(4Bydd person sy'n aelod yn rhinwedd bod yn fyfyriwr yn y sefydliad yn peidio â dal swydd —

(a)ar ddiwedd blwyddyn academaidd olaf y myfyriwr neu ar y cyfryw adeg arall o'r flwyddyn wedi iddo beidio â bod yn fyfyriwr ag y caiff y Gorfforaeth ei phenderfynu; neu

(b)os caiff ei ddiarddel o'r sefydliad.

Aelodau i beidio â bod â buddiannau mewn materion sy'n ymwneud â'r sefydliad

10.—(1Ac eithrio gyda chymeradwyaeth ysgrifenedig Gweinidogion Cymru ymlaen llaw, ni chaiff unrhyw aelod gymryd neu ddal unrhyw fuddiant mewn unrhyw eiddo a ddelir neu a ddefnyddir at ddibenion y sefydliad.

(2Rhaid i aelod y mae is-baragraff (3) yn gymwys iddo —

(a)datgelu i'r Gorfforaeth neu i unrhyw un o bwyllgorau'r Gorfforaeth natur a maint y buddiant;

(b)os yw'n bresennol yn un o gyfarfodydd y Gorfforaeth neu unrhyw bwyllgor o'r Gorfforaeth lle mae'r cyflenwi, y contract neu fater arall a grybwyllir yn is-baragraff (3) i gael ei ystyried, peidio â chymryd rhan yn y broses o'i ystyried, na phleidleisio ar unrhyw gwestiwn ynglŷn ag ef, na chael ei gyfrif yn y cworwm sy'n bresennol yn y cyfarfod mewn perthynas ag unrhyw benderfyniad nad oes hawl gan y person hwnnw i bleidleisio arno; ac

(c)ymneilltuo, os yw'n bresennol yn un o gyfarfodydd y Gorfforaeth neu unrhyw bwyllgor o'r Gorfforaeth lle mae'r cyflenwi, y contract neu fater arall a grybwyllir yn is-baragraff (3) i gael ei ystyried, os gofynnir iddo wneud hynny gan fwyafrif o aelodau'r Gorfforaeth sy'n bresennol yn y cyfarfod o'r Gorfforaeth, neu gan fwyafrif o aelodau'r pwyllgor sy'n bresennol yn y cyfarfod o'r pwyllgor, yn ôl fel y digwydd.

(3Mae'r paragraff hwn yn gymwys i aelod—

(a)sydd ag unrhyw fuddiant ariannol—

(i)mewn cyflenwi gwaith i'r sefydliad, neu gyflenwi nwyddau at ddibenion y sefydliad;

(ii)mewn unrhyw gontract neu unrhyw gontract arfaethedig sy'n ymwneud â'r sefydliad; neu

(iii)mewn unrhyw fater arall sy'n ymwneud â'r sefydliad, neu

(b)sydd ag unrhyw fuddiant arall o fath a bennir gan y Gorfforaeth mewn unrhyw fater sy'n ymwneud â'r sefydliad.

(4Pan fo'r mater sydd dan ystyriaeth gan y Gorfforaeth neu unrhyw un neu ragor o'i phwyllgorau yn ymwneud â thâl ac amodau gwaith yr holl staff, neu'r holl staff mewn dosbarth penodol, yna, yn achos aelod staff—

(a)nid oes angen iddo ddatgelu buddiant ariannol; a

(b)caiff gymryd rhan mewn ystyried y mater, pleidleisio ar unrhyw gwestiwn sy'n ymwneud ag ef a chyfrif tuag at y cworwm sy'n bresennol yn y cyfarfod hwnnw, cyhyd â'i fod, wrth wneud hynny, yn gweithredu er lles pennaf y Gorfforaeth yn ei chyfanrwydd ac nad yw'n ceisio cynrychioli buddiannau unrhyw berson neu gorff arall; ond

(c)rhaid iddo ymneilltuo o'r cyfarfod os yw'r mater yn un sy'n destun negodi gydag unrhyw rai o'r staff ac os yw'r aelod staff yn cynrychioli un neu ragor o'r staff sy'n cymryd rhan yn y negodi hwnnw.

(5Rhaid i'r Clerc gadw cofrestr o fuddiannau aelodau'r Gorfforaeth a ddatgelir a rhaid iddo beri bod y gofrestr honno ar gael yn ystod oriau swyddfa arferol yn y sefydliad i unrhyw berson sy'n dymuno ei harchwilio.

(6Nid yw'r paragraff hwn yn rhwystro aelodau'r Gorfforaeth rhag ystyried cynigion a phleidleisio ar gynigion bod y Gorfforaeth yn yswirio aelodau'r Gorfforaeth yn erbyn rhwymedigaethau a achosir iddynt ac sy'n deillio o'u swyddi nac yn rhwystro'r Gorfforaeth rhag sicrhau'r yswiriant hwnnw a thalu'r premiymau.

Cyfarfodydd y Gorfforaeth

11.—(1Rhaid i'r Gorfforaeth gyfarfod o leiaf un waith ym mhob tymor, a chynnal cyfarfodydd eraill yn ôl yr angen.

(2Rhaid i gyfarfod cyntaf y Gorfforaeth gael ei alw gan unrhyw bedwar aelod, a rhaid iddynt, o leiaf bum niwrnod gwaith cyn dyddiad y cyfarfod, anfon hysbysiad ysgrifenedig a chopi o'r agenda arfaethedig at yr aelodau eraill.

(3Yn ddarostyngedig i is-baragraffau (2), (4) a (5), rhaid i bob cyfarfod o'r Gorfforaeth gael ei gynnull gan y Clerc, sy'n gorfod anfon at yr aelodau, o leiaf bum niwrnod gwaith cyn dyddiad y cyfarfod, hysbysiad ysgrifenedig a chopi o'r agenda arfaethedig.

(4Os bwriedir ystyried mewn unrhyw gyfarfod o'r Gorfforaeth, dâl, amodau gwaith, ymddygiad, atal dros dro, diswyddiad neu ymddeoliad y Clerc, rhaid i'r Cadeirydd anfon at yr aelodau, o leiaf bum niwrnod gwaith cyn dyddiad y cyfarfod, gopi o'r eitem agenda dan sylw ynghyd ag unrhyw ddogfennau perthnasol.

(5Caniateir i gyfarfod arbennig o'r Gorfforaeth gael ei gynnull ar unrhyw adeg gan y Cadeirydd neu ar gais ysgrifenedig unrhyw bum aelod. Pan fo'r Cadeirydd neu, yn ei absenoldeb, yr Is-gadeirydd, yn rhoi cyfarwyddyd i'r perwyl hwnnw ar y sail bod materion sy'n galw am eu hystyried ar frys, caniateir i'r hysbysiad sy'n cynnull y cyfarfod a'r agenda arfaethedig gael eu rhoi o fewn llai na phum niwrnod gwaith.

(6Rhaid i bob aelod weithredu er lles y Gorfforaeth a chan hynny ni chaiff gymryd ei rwymo wrth siarad a phleidleisio gan eirchion a roddir gan unrhyw gorff neu berson arall.

Cworwm

12.—(1Hyd nes y digwydd y penderfyniad cyntaf ar nifer yr aelodau o dan baragraff 3, bydd cworwm yng nghyfarfodydd y Gorfforaeth os bydd saith aelod yn bresennol.

(2Bydd cworwm yng nghyfarfodydd dilynol y Gorfforaeth os bydd nifer yr aelodau sy'n bresennol yn 40% o leiaf o gyfanswm cyfanredol yr aelodau a bennir yn unol â pharagraff 3(1) ac unrhyw Aelodau a Benodwyd gan Weinidogion Cymru.

(3Os nad yw nifer yr aelodau sy'n bresennol ar gyfer cyfarfod o'r Gorfforaeth yn gwneud cworwm, rhaid peidio â chynnal y cyfarfod. Os bydd nifer yr aelodau yn peidio â ffurfio cworwm yn ystod un o gyfarfodydd y Gorfforaeth, rhaid terfynu'r cyfarfod ar unwaith.

(4Mewn amgylchiadau pan na ellir cynnal cyfarfod o'r Gorfforaeth neu, yn ôl fel y digwydd, pan na ellir parhau â'r cyfarfod, oherwydd nad oes cworwm, caiff y Cadeirydd gynnull cyfarfod arbennig cyn gynted ag y bo'n rhesymol ymarferol.

Trafodion cyfarfodydd

13.—(1Rhaid i bob cwestiwn sydd i'w benderfynu mewn cyfarfod o'r Gorfforaeth gael ei benderfynu drwy fwyafrif syml o bleidleisiau'r aelodau sy'n bresennol ac sy'n pleidleisio ar y cwestiwn. Os bydd y pleidleisiau'n ymrannu'n gyfartal, bydd gan gadeirydd y cyfarfod bleidlais fwrw.

(2Ni chaiff aelod bleidleisio drwy ddirprwy na phleidleisio drwy'r post.

(3Ni chaniateir i unrhyw benderfyniad yr aelodau gael ei ddadwneud na'i amrywio mewn cyfarfod dilynol o'r Gorfforaeth oni fydd ystyriaeth o'r dadwneud neu'r amrywio yn eitem fusnes benodol ar yr agenda ar gyfer y cyfarfod hwnnw.

(4Caiff Pennaeth a ddewisodd beidio â bod yn aelod fod yn bresennol ym mhob un o gyfarfodydd y Gorfforaeth neu unrhyw bwyllgor o'r Gorfforaeth a siarad yn y cyfarfodydd hynny, ac eithrio bod rhaid i'r Pennaeth ymneilltuo mewn unrhyw achos lle y byddai'n ofynnol iddo ymneilltuo o dan is-baragraff (5) pe bai'r Pennaeth yn bresennol fel aelod.

(5Rhaid i aelod sy'n aelod o staff y sefydliad (gan gynnwys y Pennaeth) ymneilltuo —

(a)o'r rhan honno o unrhyw un o gyfarfodydd y Gorfforaeth, neu o unrhyw gyfarfod pwyllgor, yr ystyrir ynddi faterion staff sy'n ymwneud â'r aelod hwnnw o'r staff yn unig (yn hytrach na materion staff sy'n ymwneud â phob aelod o'r staff, neu bob aelod o'r staff mewn dosbarth penodol);

(b)o'r rhan honno o unrhyw un o gyfarfodydd y Gorfforaeth, neu o unrhyw gyfarfod pwyllgor, yr ystyrir ynddi ailbenodiad yr aelod hwnnw, neu benodiad ei olynydd;

(c)o'r rhan honno o unrhyw un o gyfarfodydd y Gorfforaeth, neu o unrhyw bwyllgor o'r Gorfforaeth, y trafodir ynddi faterion staff, sy'n ymwneud ag unrhyw aelod staff arall sy'n dal swydd sy'n uwch na swydd yr aelod ei hun, os gofynnir iddo ymneilltuo gan fwyafrif o'r aelodau eraill sy'n bresennol yn y cyfarfod o'r Gorfforaeth neu gan fwyafrif o aelodau eraill y pwyllgor sy'n bresennol yng nghyfarfod y pwyllgor, yn ôl fel y digwydd; ac

(ch)o'r rhan honno o unrhyw gyfarfod o'r Gorfforaeth neu o unrhyw bwyllgor o'r Gorfforaeth, yr ystyrir ynddi drafodaethau ynglŷn â chyflog neu amodau gwaith unrhyw un neu bob un o aelodau'r staff, os gofynnir iddo ymneilltuo gan fwyafrif o'r aelodau eraill sy'n bresennol yn y cyfarfod o'r Gorfforaeth neu gan fwyafrif o aelodau eraill y pwyllgor sy'n bresennol yng nghyfarfod y pwyllgor, yn ôl fel y digwydd.

(6Ni chaiff aelod myfyrwyr sydd o dan 18 oed bleidleisio boed mewn cyfarfod o'r Gorfforaeth nac mewn unrhyw bwyllgor o'r Gorfforaeth, ar unrhyw gwestiwn ynghylch unrhyw gynnig—

(a)ar gyfer gwario arian gan y Gorfforaeth; neu

(b)y byddai'r Gorfforaeth, neu unrhyw aelodau o'r Gorfforaeth, yn ymrwymo i unrhyw gontract oddi tano, neu'n tynnu unrhyw ddyled neu rwymedigaeth oddi tano (pa un ai ar unwaith, yn amodol neu fel arall).

(7Ac eithrio fel y darperir gan reolau a wneir o dan erthygl 15(2) o'r Erthyglau Llywodraethu sy'n ymdrin â sylwadau ac apelau gan fyfyrwyr mewn achosion disgyblu, rhaid i aelod myfyrwyr ymneilltuo o'r rhan honno o unrhyw un o gyfarfodydd o'r Gorfforaeth neu o pwyllgor yr ystyrir ynddi ymddygiad unrhyw fyfyriwr, neu atal dros dro neu ddiarddel unrhyw fyfyriwr.

(8Mewn unrhyw gyfarfod o'r Gorfforaeth, neu unrhyw bwyllgor o'r Gorfforaeth, y trafodir ynddo faterion staff sy'n ymwneud ag aelod neu ddarpar aelod o staff y sefydliad, rhaid i aelod myfyrwyr—

(a)peidio â chymryd unrhyw ran yn yr ystyriaeth na'r drafodaeth ar y mater hwnnw na phleidleisio ar unrhyw gwestiwn ynglŷn ag ef; a

(b)ymneilltuo o'r cyfarfod o'r Gorfforaeth neu o'r cyfarfod o bwyllgor y Gorfforaeth, pan ofynnir iddo wneud hynny gan fwyafrif o'r aelodau sy'n bresennol ac eithrio aelodau myfyrwyr neu gan fwyafrif o aelodau'r pwyllgor sy'n bresennol ac eithrio'r rheini sy'n aelodau myfyrwyr, yn ôl fel y digwydd.

(9Rhaid i'r Clerc—

(a)ymneilltuo o'r rhan honno o unrhyw un o gyfarfodydd y Gorfforaeth neu unrhyw bwyllgor o'r Gorfforaeth yr ystyrir ynddi dâl y Clerc, ei amodau gwaith, ei ymddygiad, ei atal dros dro, ei ddiswyddo neu ei ymddeoliad, yn rhinwedd ei swyddogaeth fel Clerc; a

(b)pan fo'r Clerc yn aelod o staff y sefydliad, rhaid iddo ymneilltuo yn unrhyw achos lle byddai'n ofynnol i aelod ymneilltuo o dan is-baragraff (5) pe bai'n bresennol fel aelod o'r staff.

(10Os yw'r Clerc yn ymneilltuo o gyfarfod neu ran ohono o dan is-baragraff (9), rhaid i'r Gorfforaeth neu'r pwyllgor o'r Gorfforaeth, yn ôl fel y digwydd, benodi person (ac eithrio'r Pennaeth) i weithredu fel Clerc dros dro yn unol â pharagraff 6(3).

Cofnodion

14.—(1Yn ddarostyngedig i is-baragraff (2), ym mhob un o gyfarfodydd y Gorfforaeth ac unrhyw bwyllgor o'r Gorfforaeth, rhaid trin cofnodion y cyfarfod diwethaf fel eitem agenda ac, os cytunir eu bod yn gywir, rhaid i'r cofnodion hynny gael eu llofnodi fel rhai cywir gan gadeirydd y cyfarfod.

(2Nid yw is-baragraff (1) yn gwneud yn ofynnol trin cofnodion y cyfarfod diwethaf fel eitem agenda cyfarfod arbennig a gynullir o dan baragraff 11(5), ond pan nad yw cofnodion y cyfarfod diwethaf yn cael eu trin fel un o eitemau agenda'r cyfarfod hwnnw, rhaid eu trin fel eitem agenda yn y cyfarfod nesaf nas cynhelir o dan baragraff 11(5).

(3Rhaid paratoi cofnodion ar wahân o'r rhannau hynny o gyfarfodydd y mae'r Clerc, y Pennaeth, aelodau staff neu aelodau myfyrwyr wedi ymneilltuo ohonynt yn unol ag is-baragraffau (5) i (9) o baragraff 13, ac nid oes hawl gan yr un o'r cyfryw bersonau i weld y cofnod o'r rhan o'r cyfarfod yr ymneilltuodd ohoni nac unrhyw bapurau ynglŷn â'r rhan honno.

Mynediad y cyhoedd i gyfarfodydd y Gorfforaeth

15.—(1Yn ddarostyngedig i baragraff 13, mae hawl gan y canlynol i fod yn bresennol yng nghyfarfodydd y Gorfforaeth—

(a)aelod;

(b)y Clerc; ac

(c)hyd at ddau berson sy'n arsylwi ar ran Gweinidogion Cymru.

(2Rhaid i unrhyw gwestiwn ynglŷn ag a ddylid caniatáu i unrhyw berson arall fod yn bresennol mewn un o gyfarfodydd y Gorfforaeth gael ei benderfynu gan y Gorfforaeth.

Cyhoeddi'r cofnodion a phapurau

16.—(1Yn ddarostyngedig i is-baragraff (2), rhaid i'r Gorfforaeth beri bod copi o'r dogfennau a ganlyn ar gael, cyn gynted ag y bo'n rhesymol ymarferol, yn ystod oriau swyddfa arferol yn y sefydliad i unrhyw berson sy'n dymuno eu harchwilio—

(a)yr agenda ar gyfer pob cyfarfod o'r Gorfforaeth ac unrhyw un neu ragor o'i phwyllgorau;

(b)cofnodion drafft pob cyfarfod o'r fath, os ydynt wedi'u cymeradwyo gan gadeirydd y cyfarfod;

(c)cofnodion llofnodedig pob cyfarfod o'r fath; ac

(ch)unrhyw adroddiad, unrhyw ddogfen neu bapur arall a ystyriwyd mewn unrhyw gyfarfod o'r fath.

(2Rhaid hepgor o unrhyw eitem y mae'n ofynnol ei rhoi ar gael, unrhyw ddeunydd sy'n ymwneud â'r canlynol—

(a)person a enwir sy'n cael ei gyflogi neu y bwriedir ei gyflogi yn y sefydliad;

(b)myfyriwr a enwir yn y sefydliad neu ymgeisydd am gael ei dderbyn i'r sefydliad;

(c)y Clerc; ac

(ch)unrhyw fater y bodlonir y Gorfforaeth y dylid ymdrin ag ef yn gyfrinachol, oherwydd natur y mater hwnnw.

(3Rhaid i eitemau a hepgorir o dan is-baragraff (2)(ch) gael eu hadolygu'n rheolaidd gan y Gorfforaeth. Os yw eitem yn peidio â bod yn gyfrinachol, rhaid i'r Gorfforaeth beri bod copi o'r eitem honno ar gael, cyn gynted ag y bo'n rhesymol ymarferol, yn ystod oriau swyddfa arferol yn y sefydliad i unrhyw berson sy'n dymuno ei harchwilio.

Lwfansau i aelodau

17.  Caiff y Gorfforaeth dalu i'w haelodau unrhyw lwfansau teithio, lwfansau cynhaliaeth neu lwfansau eraill a benderfynir gan y Gorfforaeth, ond rhaid iddi beidio â thalu lwfansau sy'n dâl i'r aelodau am eu gwasanaethau fel aelodau.

Copïau o'r Offeryn Llywodraethu

18.  Rhaid i'r Gorfforaeth roi copi o'r Offeryn hwn i bob aelod a pheri bod copi ar gael i'w archwilio gan unrhyw berson ar gais yn ystod oriau swyddfa arferol yn y sefydliad.

Newid enw

19.  Caiff y Gorfforaeth newid ei henw gyda chymeradwyaeth Gweinidogion Cymru.

Gosod y sêl

20.  Dilysir gosod sêl y Gorfforaeth drwy:

(a)llofnod naill ai'r Cadeirydd neu ryw aelod arall a awdurdodwyd naill ai'n gyffredinol neu'n benodol gan y Gorfforaeth i weithredu at y diben hwnnw; a

(b)llofnod unrhyw aelod arall.

(2)

2000 p.21; diwygiwyd adran 39 gan adran 47 o Fesur Dysgu a Sgiliau (Cymru) 2009 (mccc 1) a pharagraffau 1-3 o'r Atodlen i'r Mesur hwnnw.

(3)

1992 p.13; diwygiwyd adran 28 gan adrannau 112, 143(1) a 153 o Ddeddf Dysgu a Sgiliau 2000 (p. 21) ac Atodlen 11 i'r Ddeddf honno, adran 140(1) a pharagraff 38 o Atodlen 30 i Ddeddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998 (p. 31), adran 582(1) a pharagraff 109 o Atodlen 37 i Ddeddf Addysg 1996 (p. 56) a pharagraffau 5(1) a (2) o Atodlen 2 i'r Gorchymyn Awdurdodau Addysg Lleol ac Awdurdodau Gwasanaethau Plant (Integreiddio Swyddogaethau) 2010 (O.S. 2010/1158).

(4)

Ar yr adeg y gwneir y Rheoliadau hyn, y darpariaethau deddfwriaethol sy'n ymwneud â dyfarnu person yn fethdalwr yw adran 264 o Ddeddf Ansolfedd 1986 (p.45) fel y'i diwygiwyd gan adran 170(2) o Ddeddf Cyfiawnder Troseddol 1988 (p.33), ac Atodlen 16 i'r Ddeddf honno, ond ar yr adeg y gwnaed y Rheoliadau hyn nid oedd y darpariaethau hynny eto wedi'u cychwyn a chan reoliadau 3 a 13 o Reoliadau Deddf Ansolfedd 1986 (Diwygio) (Rhif 2) 2002 (O.S. 2002/1240).

(5)

Ar yr adeg y gwneir y Rheoliadau hyn, y darpariaethau deddfwriaethol sy'n esbonio ystyr gorchmynion interim cyfyngu methdaliad ac ymrwymiad cyfyngu methdaliad yw adran 281A ac Atodlen 4A i Ddeddf Ansolfedd 1986.

(6)

Ar yr adeg y gwneir y Rheoliadau hyn, digwyddai hyn o ganlyniad i gais o dan adran 375 o Ddeddf Ansolfedd 1986. Diwygiwyd adran 375 gan adran 106 o Ddeddf Mynediad at Gyfiawnder 1999 (p.22) ac Atodlen 15 i'r Ddeddf honno.

Yn ôl i’r brig

Options/Help

Print Options

Close

Mae deddfwriaeth ar gael mewn fersiynau gwahanol:

Y Diweddaraf sydd Ar Gael (diwygiedig):Y fersiwn ddiweddaraf sydd ar gael o’r ddeddfwriaeth yn cynnwys newidiadau a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol ac wedi eu gweithredu gan ein tîm golygyddol. Gellir gweld y newidiadau nad ydym wedi eu gweithredu i’r testun eto yn yr ardal ‘Newidiadau i Ddeddfwriaeth’. Dim ond yn Saesneg y mae’r fersiwn ddiwygiedig ar gael ar hyn o bryd.

Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed) - Saesneg: Mae'r wreiddiol Saesneg fersiwn y ddeddfwriaeth fel ag yr oedd pan gafodd ei deddfu neu eu gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.

Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed)-Cymraeg:Y fersiwn Gymraeg wreiddiol o’r ddeddfwriaeth fel yr oedd yn sefyll pan gafodd ei deddfu neu ei gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.

Close

Dewisiadau Agor

Dewisiadau gwahanol i agor deddfwriaeth er mwyn gweld rhagor o gynnwys ar y sgrin ar yr un pryd

Close

Rhagor o Adnoddau

Gallwch wneud defnydd o ddogfennau atodol hanfodol a gwybodaeth ar gyfer yr eitem ddeddfwriaeth o’r tab hwn. Yn ddibynnol ar yr eitem ddeddfwriaeth sydd i’w gweld, gallai hyn gynnwys:

  • y PDF print gwreiddiol y fel deddfwyd fersiwn a ddefnyddiwyd am y copi print
  • rhestr o newidiadau a wnaed gan a/neu yn effeithio ar yr eitem hon o ddeddfwriaeth
  • manylion rhoi grym a newid cyffredinol
  • pob fformat o’r holl ddogfennau cysylltiedig
  • slipiau cywiro
  • dolenni i ddeddfwriaeth gysylltiedig ac adnoddau gwybodaeth eraill
Close

Rhagor o Adnoddau

Defnyddiwch y ddewislen hon i agor dogfennau hanfodol sy’n cyd-fynd â’r ddeddfwriaeth a gwybodaeth am yr eitem hon o ddeddfwriaeth. Gan ddibynnu ar yr eitem o ddeddfwriaeth sy’n cael ei gweld gall hyn gynnwys:

  • y PDF print gwreiddiol y fel gwnaed fersiwn a ddefnyddiwyd am y copi print
  • slipiau cywiro

liciwch ‘Gweld Mwy’ neu ddewis ‘Rhagor o Adnoddau’ am wybodaeth ychwanegol gan gynnwys

  • rhestr o newidiadau a wnaed gan a/neu yn effeithio ar yr eitem hon o ddeddfwriaeth
  • manylion rhoi grym a newid cyffredinol
  • pob fformat o’r holl ddogfennau cysylltiedig
  • dolenni i ddeddfwriaeth gysylltiedig ac adnoddau gwybodaeth eraill