Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Treuliau Teithio a Pheidio â Chodi Tâl) (Cymru) (Diwygio) 2011

Nodyn Esboniadol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)

Mae'r Rheoliadau hyn, sy'n gymwys o ran Cymru, yn diwygio ymhellach Reoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Treuliau Teithio a Pheidio â Chodi Tâl) (Cymru) 2007 (“y prif Reoliadau”). Mae'r Rheoliadau hynny yn darparu ar gyfer talu treuliau teithio i bersonau, ymhlith eraill, sydd ar incwm isel, a pheidio â chodi ffioedd y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (GIG) ar y personau hynny, drwy gyfeirio at derfynau ar eu hincwm a'u cyfalaf.

Wrth gyfrifo adnoddau a gofynion person o dan y prif Reoliadau er mwyn canfod a oes hawlogaeth gan y person hwnnw i beidio â thalu ffioedd GIG ac i gael taliad o dreuliau teithio GIG, cymhwysir fersiwn addasedig o Reoliadau Cymhorthdal Incwm (Cyffredinol) 1987.

Mae rheoliad 3 yn newid yr addasiad i reoliad 45 o Reoliadau Cymhorthdal Incwm (Cyffredinol) 1987, er mwyn codi'r terfyn cyfalaf rhagnodedig i £22,500.