xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

Nodyn Esboniadol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)

Mae'r Rheoliadau hyn, sy'n gymwys o ran Cymru, yn trosi Cyfarwyddeb y Comisiwn 2009/106/EC sy'n diwygio Cyfarwyddeb y Cyngor 2001/112/EC ynglŷn â suddoedd ffrwythau a chynhyrchion tebyg penodol sydd wedi eu bwriadu ar gyfer eu hyfed gan bobl (OJ Rhif L212, 15.8.2009, t.42).

Mae Cyfarwyddeb y Comisiwn 2009/106/EC yn gwneud dau ddiwygiad i Gyfarwyddeb y Cyngor 2001/112/EC (OJ Rhif L10, 12.1.2002, t.58). Yn gyntaf, mae'n gwneud newid ieithyddol bach mewn perthynas â chynhyrchion sudd cymysg sy'n cynnwys sudd ffrwythau a suddoedd ffrwythau o ddwysfwyd ac mewn perthynas â neithdarau a gafwyd yn gyfan gwbl neu'n rhannol o un neu fwy o gynhyrchion dwysedig, er mwyn lleddfu ar anawsterau cyfieithu ledled Aelod-wladwriaethau'r UE. Yn ail, mae'n cyflwyno tabl sy'n gosod y lefelau Brix gofynnol ar gyfer suddoedd ffrwythau o ddwysfwyd.

Mae'r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau Suddoedd Ffrwythau a Neithdarau Ffrwythau (Cymru) 2003 (O.S. 2003/3041 (Cy.286)), er mwyn—

(a)darparu bod rhaid i sudd ffrwythau o ddwysfwyd gynnwys y lefelau Brix gofynnol a bennir yn Atodlen 6, o'u darllen ynghyd â'r Nodiadau i'r Atodlen honno (rheoliad 2(2) a'r Atodlen) (mae lefelau Brix yn darparu mesur o ansawdd drwy osod solidau toddadwy (cynnwys siwgr) gofynnol ar gyfer suddoedd ffrwythau);

(b)gwneud newid ieithyddol bach i labelu a disgrifio cynhyrchion sudd cymysg sy'n cynnwys sudd ffrwythau a suddoedd ffrwythau o ddwysfwyd, a neithdarau a gafwyd yn gyfan gwbl neu'n rhannol o un neu fwy o gynhyrchion dwysedig (rheoliad 2(3));

(c)diwygio Atodlen 1 (Disgrifiadau Neilltuedig ar gyfer Cynhyrchion Dynodedig) fel bod eitem 3 (Fruit juice from concentrate) o Atodlen 1 yn croesgyfeirio at Atodlen 6 (Y Lefelau Brix Gofynnol ar gyfer Suddoedd Ffrwythau o Ddwysfwyd) (rheoliad 2(4)(a) a'r Atodlen);

(ch)diwygio Atodlen 1 fel bod cyfeiriad anghywir o fewn eitem 5 (Fruit nectar) yn cael ei gywiro (rheoliad 2(4)(b));

(d)ychwanegu fel Atodlen 6, Atodlen newydd sy'n darparu 'Y Lefelau Brix Gofynnol ar gyfer Suddoedd Ffrwythau o Ddwysfwyd' (rheoliad 2(5) a'r Atodlen).

Mae asesiad effaith rheoleiddiol wedi ei baratoi ynghylch y costau a buddion tebygol o gydymffurfio â'r Rheoliadau hyn. Gellir cael copi gan yr Asiantaeth Safonau Bwyd, Llawr 11, Tŷ Southgate, Caerdydd, CF10 1EW.