- Y Diweddaraf sydd Ar Gael (Diwygiedig) - Saesneg
- Y Diweddaraf sydd Ar Gael (Diwygiedig) - Cymraeg
- Gwreiddiol (Fel y'i Gwnaed) - Saesneg
- Gwreiddiol (Fel y'i Gwnaed) - Cymraeg
Dyma’r fersiwn wreiddiol (fel y’i gwnaed yn wreiddiol). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.
52.—(1) Yn y rheoliad hwn, ystyr “y darpariaethau cwynion blaenorol” (“the former complaints provisions”) yw unrhyw rai o'r cyfarwyddiadau mewn perthynas â chwynion a ddirymir gan reoliad 53.
(2) Cyn 1 Ebrill 2011—
(a)os gwnaed cwyn yn unol ag unrhyw un o'r darpariaethau cwynion blaenorol; a
(b)os nad yw'r gŵyn wedi ei heithrio o'i hystyried gan unrhyw ddarpariaeth o fewn y darpariaethau cwynion blaenorol,
gellir ymchwilio iddi, neu barhau i ymchwilio iddi, fel y bo'n briodol, yn unol â'r darpariaethau hynny.
(3) Yn unol ag unrhyw un o'r darpariaethau cwynion blaenorol—
(a)os cynhaliwyd a chwblhawyd ymchwiliad i gŵyn gan reolwr cwynion neu hwylusydd cwynion annibynnol; a
(b)os gwnaed cais gan y person a wnaeth y gŵyn honno am adolygiad gan banel adolygu annibynnol,
rhaid trin y cais yn ynol â'r darpariaethau cwynion blaenorol.
(4) Ac eithrio mewn perthynas â chwyn a fyddai'n ddarostyngedig i'r trefniadau yn Rhan 7 o'r Rheoliadau hyn, yn achos cwyn, y digwyddodd y mater sy'n destun iddi cyn 1 Ebrill 2011—
(a)os na wnaed y gŵyn yn unol ag unrhyw un o'r darpariaethau cwynion blaenorol; a
(b)os nad yw wedi ei gwahardd rhag ei hystyried gan unrhyw ddarpariaeth o fewn y Rheoliadau hyn,
caniateir hysbysu, ystyried ac ymchwilio i'r gŵyn yn unol â'r Rheoliadau hyn.
(5) Ni fydd cwynion ynghylch gwasanaethau a ddarparwyd gan gyrff GIG Lloegr, cyrff GIG yr Alban neu gyrff GIG Gogledd Iwerddon, fel y'u diffinnir yn rheoliad 34, a wnaed cyn 1 Hydref 2011 yn cael eu hystyried o dan Ran 7 o'r Rheoliadau hyn.
53. Yn ddarostyngedig i reoliad 52, dirymir y cyfarwyddiadau canlynol, a wnaed o dan y darpariaethau a restrir yn rheoliad 52(1)(a):
(a)y Cyfarwyddiadau i Ymddiriedolaethau GIG a Byrddau Iechyd Lleol ar Weithdrefnau Cwynion Ysbytai, a wnaed ar 27 Mawrth 2003;
(b)y Cyfarwyddiadau i Fyrddau Iechyd Lleol ar Ymdrin â Chwynion ynghylch Ymarferwyr Gwasanaethau Iechyd Teuluol, Darparwyr Gwasanaethau Meddygol Personol a Darparwyr Gwasanaethau Deintyddol Personol ac eithrio'r Gwasanaethau Deintyddol Personol a Ddarperir gan Ymddiriedolaethau GIG, a wnaed ar 27 Mawrth 2003; ac
(c)Cyfarwyddiadau Amrywiol i Fyrddau Iechyd Lleol ar Ymdrin â Chwynion, a wnaed ar 27 Mawrth 2003.
54. Mae Atodlen 2 (Darpariaethau Canlyniadol a Throsiannol) yn cael effaith.
Y Diweddaraf sydd Ar Gael (diwygiedig):Y fersiwn ddiweddaraf sydd ar gael o’r ddeddfwriaeth yn cynnwys newidiadau a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol ac wedi eu gweithredu gan ein tîm golygyddol. Gellir gweld y newidiadau nad ydym wedi eu gweithredu i’r testun eto yn yr ardal ‘Newidiadau i Ddeddfwriaeth’. Dim ond yn Saesneg y mae’r fersiwn ddiwygiedig ar gael ar hyn o bryd.
Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed) - Saesneg: Mae'r wreiddiol Saesneg fersiwn y ddeddfwriaeth fel ag yr oedd pan gafodd ei deddfu neu eu gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.
Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed)-Cymraeg:Y fersiwn Gymraeg wreiddiol o’r ddeddfwriaeth fel yr oedd yn sefyll pan gafodd ei deddfu neu ei gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.
Gallwch wneud defnydd o ddogfennau atodol hanfodol a gwybodaeth ar gyfer yr eitem ddeddfwriaeth o’r tab hwn. Yn ddibynnol ar yr eitem ddeddfwriaeth sydd i’w gweld, gallai hyn gynnwys:
Defnyddiwch y ddewislen hon i agor dogfennau hanfodol sy’n cyd-fynd â’r ddeddfwriaeth a gwybodaeth am yr eitem hon o ddeddfwriaeth. Gan ddibynnu ar yr eitem o ddeddfwriaeth sy’n cael ei gweld gall hyn gynnwys:
liciwch ‘Gweld Mwy’ neu ddewis ‘Rhagor o Adnoddau’ am wybodaeth ychwanegol gan gynnwys