- Y Diweddaraf sydd Ar Gael (Diwygiedig) - Saesneg
- Y Diweddaraf sydd Ar Gael (Diwygiedig) - Cymraeg
- Gwreiddiol (Fel y'i Gwnaed) - Saesneg
- Gwreiddiol (Fel y'i Gwnaed) - Cymraeg
Dyma’r fersiwn wreiddiol (fel y’i gwnaed yn wreiddiol). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.
22.—(1) Ac eithrio pan fo rheoliad 14(1)(dd) neu 18 yn gymwys, rhaid i gorff cyfrifol gydnabod ei fod wedi cael yr hysbysiad o'r pryder, ddim hwyrach na dau ddiwrnod gwaith ar ôl y diwrnod y mae'n ei gael.
(2) Caniateir cydnabod naill ai mewn ysgrifen neu'n electronig, yn ôl pa bynnag ddull a ddefnyddiwyd i hysbysu'r pryder.
(3) Os hysbyswyd y pryder ar lafar, rhaid cydnabod mewn ysgrifen.
(4) Yr un pryd ag y bo'n cydnabod yr hysbysiad o bryder, rhaid i'r corff cyfrifol gynnig trafod gyda'r person a hysbysodd y pryder, ar adeg sydd i'w chytuno gyda'r person hwnnw, y materion canlynol—
(a)y modd yr ymdrinnir ag ymchwilio i'r pryder, gan gynnwys caniatâd i ddefnyddio cofnodion meddygol;
(b)argaeledd gwasanaethau eiriolaeth a chefnogaeth, a allai fod o gymorth i'r person hwnnw wrth fwrw ymlaen â'r pryder;
(c)o fewn pa gyfnod y mae'n debygol—
(i)y cwblheir yr ymchwiliad i'r pryder; a
(ii)yr anfonir yr ymateb at y person, fel sy'n ofynnol o dan reoliad 24.
(5) Os nad yw'r person a hysbysodd y pryder yn derbyn y cynnig o drafodaeth o dan baragraff (4), rhaid i'r corff cyfrifol ystyried a phenderfynu ar y materion a bennir yn is-baragraffau (a) i (c) o'r paragraff hwnnw, ac ysgrifennu at y person ynglŷn â hynny.
(6) Rhaid i'r corff cyfrifol anfon copi o'r hysbysiad o bryder at unrhyw berson sy'n destun y pryder hwnnw, ac eithrio—
(a)pan fo hynny wedi ei wneud eisoes; neu
(b)os byddai darparu copi o'r hysbysiad i'r cyfryw berson ar yr adeg honno, ym marn resymol y corff cyfrifol, yn rhagfarnu ystyriaeth gan y corff cyfrifol o'r materion a godir gan y pryder.
23.—(1) Rhaid i gorff cyfrifol ymchwilio i'r materion a godir mewn hysbysiad o bryder yn y dull sy'n ymddangos i'r corff hwnnw fel y dull mwyaf priodol er mwyn dod i gasgliad ynglŷn â'r materion hynny yn drwyadl, cyflym ac effeithlon, gan roi sylw penodol i'r canlynol—
(a)cynnal asesiad dechreuol o'r pryder, a fydd yn gymorth i benderfynu ar ddyfnder a pharamedrau'r ymchwiliad a fydd yn ofynnol, a chadw'r penderfyniad hwnnw dan arolwg;
(b)dull ac amseriad y cyfathrebu â'r person a hysbysodd y pryder, neu yr effeithir arno gan y pryder;
(c)y dull mwyaf priodol o gynnwys y person a hysbysodd y pryder yn yr ymchwiliad, gan gynnwys trafodaeth ynghylch y modd y caiff yr ymchwiliad ei gynnal;
(ch)y lefel a'r math o gymorth a fydd yn ofynnol gan unrhyw aelod neu aelodau o staff y corff cyfrifol a fydd yn ymwneud â'r materion a godir gan y pryder;
(d)a fydd angen cyngor meddygol annibynnol neu gyngor annibynnol arall ar y person a fydd yn ymchwilio i'r materion a godir gan y pryder;
(dd)a yw'r pryder yn un y gellir ei ddatrys drwy ddefnyddio dull amgen o ddatrys anghydfod;
(e)gwneud penderfyniadau ynghylch achos sylfaenol y materion a arweiniodd at hysbysu'r pryder;
(f)unrhyw ganllawiau a roddir gan Weinidogion Cymru ynglŷn ag arfer swyddogaethau'r corff cyfrifol; ac
(ff)pan fo'r corff cyfrifol yn gorff GIG Cymru a'r pryder a hysbyswyd yn cynnwys honiad bod, neu y gallai fod, niwed wedi ei achosi—
(i)y tebygolrwydd o unrhyw atebolrwydd cymwys;
(ii)y ddyletswydd i ystyried iawn yn unol â rheoliad 25; a
(iii)pan fo'n briodol, ystyried y gofynion ychwanegol a bennir yn Rhan 6.
(2) Pan fo pryder wedi ei hysbysu i Fwrdd Iechyd Lleol gan neu ynghylch darparwr gofal sylfaenol yn unol â rheoliad 13(1)(ch) a rheoliad 18, rhaid i'r Bwrdd Iechyd Lleol beidio ag ystyried y materion ym mharagraff (1)(ff).
24.—(1) Ac eithrio pan fo rheoliad 26 yn gymwys a chorff cyfrifol sy'n gorff GIG Cymru yn paratoi adroddiad interim yn unol â'r rheoliad hwnnw, rhaid i gorff cyfrifol baratoi ymateb ysgrifenedig i'r mater neu faterion a godir mewn hysbysiad o bryder a fu'n destun ymchwiliad yn unol â threfniadau ar gyfer ymdrin â phryderon o dan y Rheoliadau hyn, a rhaid i'r ymateb hwnnw—
(a)crynhoi natur a sylwedd y mater neu faterion a godwyd yn y pryder;
(b)disgrifio'r ymchwiliad a gynhaliwyd yn unol â rheoliad 23;
(c)cynnwys copïau o unrhyw farn arbenigol a gafodd y person a fu'n ymchwilio i'r pryder yn ystod yr ymchwiliad;
(ch)cynnwys copi o unrhyw gofnodion meddygol perthnasol, pan fo hynny'n briodol;
(d)pan fo'n briodol, cynnwys ymddiheuriad;
(dd)nodi sut y gweithredir, os bydd gweithredu, yng ngoleuni canlyniad yr ymchwiliad;
(e)cynnwys manylion am yr hawl i hysbysu pryder i Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru;
(f)cynnig cyfle i'r person a hysbysodd y pryder drafod cynnwys yr ymateb gyda'r swyddog cyfrifol neu berson sy'n gweithredu ar ei ran; ac
(ff)cael ei lofnodi gan y swyddog cyfrifol neu berson sy'n gweithredu ar ei ran.
(2) Mewn perthynas â phryder sy'n cynnwys honiad bod, neu y gallai fod, niwed wedi ei achosi, rhaid i gorff cyfrifol sy'n gorff GIG Cymru, os yw o'r farn nad oes atebolrwydd cymwys, roi rhesymau am y penderfyniad hwnnw yn yr ymateb.
(3) Rhaid i gorff cyfrifol gymryd pob cam rhesymol i anfon ymateb at y person a hysbysodd y pryder o fewn cyfnod o ddeg ar hugain o ddiwrnodau gwaith sy'n cychwyn gyda'r diwrnod y cafodd yr hysbysiad o bryder.
(4) Os yw corff cyfrifol yn analluog i ddarparu ymateb o fewn deg ar hugain o ddiwrnodau gwaith yn unol â pharagraff (3), rhaid iddo—
(a)hysbysu'r person a hysbysodd y pryder o hynny, gan esbonio'r rheswm; a
(b)anfon yr ymateb cyn gynted ag y bo'n rhesymol ymarferol ac o fewn cyfnod o chwe mis sy'n cychwyn gyda'r diwrnod y cafodd y corff cyfrifol yr hysbysiad o bryder.
(5) Os yw amgylchiadau eithriadol yn peri na ellir cadw at y cyfnod o chwe mis ym mharagraff (4)(b), rhaid i'r corff cyfrifol hysbysu'r person a hysbysodd y pryder o'r rhesymau am yr oedi a pha bryd y gellir disgwyl ymateb.
Y Diweddaraf sydd Ar Gael (diwygiedig):Y fersiwn ddiweddaraf sydd ar gael o’r ddeddfwriaeth yn cynnwys newidiadau a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol ac wedi eu gweithredu gan ein tîm golygyddol. Gellir gweld y newidiadau nad ydym wedi eu gweithredu i’r testun eto yn yr ardal ‘Newidiadau i Ddeddfwriaeth’. Dim ond yn Saesneg y mae’r fersiwn ddiwygiedig ar gael ar hyn o bryd.
Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed) - Saesneg: Mae'r wreiddiol Saesneg fersiwn y ddeddfwriaeth fel ag yr oedd pan gafodd ei deddfu neu eu gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.
Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed)-Cymraeg:Y fersiwn Gymraeg wreiddiol o’r ddeddfwriaeth fel yr oedd yn sefyll pan gafodd ei deddfu neu ei gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.
Gallwch wneud defnydd o ddogfennau atodol hanfodol a gwybodaeth ar gyfer yr eitem ddeddfwriaeth o’r tab hwn. Yn ddibynnol ar yr eitem ddeddfwriaeth sydd i’w gweld, gallai hyn gynnwys:
Defnyddiwch y ddewislen hon i agor dogfennau hanfodol sy’n cyd-fynd â’r ddeddfwriaeth a gwybodaeth am yr eitem hon o ddeddfwriaeth. Gan ddibynnu ar yr eitem o ddeddfwriaeth sy’n cael ei gweld gall hyn gynnwys:
liciwch ‘Gweld Mwy’ neu ddewis ‘Rhagor o Adnoddau’ am wybodaeth ychwanegol gan gynnwys