- Y Diweddaraf sydd Ar Gael (Diwygiedig) - Saesneg
- Y Diweddaraf sydd Ar Gael (Diwygiedig) - Cymraeg
- Gwreiddiol (Fel y'i Gwnaed) - Saesneg
- Gwreiddiol (Fel y'i Gwnaed) - Cymraeg
Dyma’r fersiwn wreiddiol (fel y’i gwnaed yn wreiddiol). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.
10.—(1) Rhaid i berson beidio â rhedeg sefydliad neu asiantaeth onid yw'n berson ffit i wneud hynny.
(2) Nid yw person yn ffit i redeg sefydliad neu asiantaeth onid yw'r person hwnnw—
(a)yn unigolyn sy'n bodloni'r gofynion a bennir ym mharagraff (3); neu
(b)yn gorff, ac—
(i)y corff hwnnw wedi hysbysu swyddfa briodol yr awdurdod cofrestru o enw, cyfeiriad a swydd unigolyn yn y corff (sef yr unigolyn y cyfeirir ato yn y Rheoliadau hyn fel “yr unigolyn cyfrifol”), a'r unigolyn hwnnw'n gyfarwyddwr, rheolwr, ysgrifennydd neu swyddog arall y corff ac yn gyfrifol am oruchwylio rheolaeth y sefydliad neu'r asiantaeth; a
(ii)yr unigolyn hwnnw'n bodloni'r gofynion a bennir ym mharagraff (3).
(3) Y gofynion yw—
(a)bod yr unigolyn yn addas o ran ei uniondeb a'i gymeriad da i redeg y sefydliad neu'r asiantaeth neu, yn ôl fel y digwydd, i fod yn gyfrifol am oruchwylio rheolaeth y sefydliad neu'r asiantaeth;
(b)bod yr unigolyn yn ffit yn gorfforol ac yn feddyliol i redeg y sefydliad neu'r asiantaeth neu, yn ôl fel y digwydd, i fod yn gyfrifol am oruchwylio rheolaeth y sefydliad neu'r asiantaeth; ac
(c)bod gwybodaeth neu, yn ôl fel y digwydd, ddogfennaeth lawn a boddhaol, ar gael ynglŷn â'r unigolyn mewn perthynas â phob un o'r materion a bennir ym mharagraffau 1, 2 a 4 i 8 o Atodlen 2.
(4) Nid yw person yn ffit i redeg sefydliad neu asiantaeth—
(a)os yw'r person wedi'i farnu'n fethdalwr neu os dyfarnwyd atafaeliad ar ei ystâd ac nad yw'r person (yn y naill achos neu'r llall) wedi'i ryddhau, ac nad yw'r gorchymyn methdalwr wedi'i ddirymu na'i ddiddymu neu fod cyfnod o foratoriwm yn gymwys i'r person hwnnw o dan orchymyn rhyddhau o ddyled; neu
(b)os yw'r person wedi gwneud compównd neu drefniant gyda chredydwyr y person hwnnw ac nad ydyw wedi'i ryddhau mewn perthynas â hynny.
11.—(1) Rhaid i'r darparwr cofrestredig benodi unigolyn i reoli y sefydliad neu asiantaeth—
(a)os nad oes rheolwr cofrestredig mewn perthynas â'r sefydliad neu asiantaeth; a
(b)os yw'r darparwr cofrestredig—
(i)yn gorff;
(ii)yn berson nad yw'n ffit i reoli sefydliad neu asiantaeth; neu
(iii)yn berson nad yw'r sefydliad neu asiantaeth o dan ei ofal yn llawnamser o ddydd i ddydd, neu nad yw'n bwriadu i'r sefydliad neu'r asiantaeth fod o dan ei ofal felly.
(2) Os yw'r darparwr cofrestredig yn penodi person i reoli'r sefydliad neu'r asiantaeth, rhaid i'r darparwr cofrestredig hysbysu swyddfa briodol yr awdurdod cofrestru ar unwaith o'r canlynol—
(a)enw'r person a benodwyd felly; a
(b)y dyddiad y mae'r penodiad i ddod i rym.
(3) Os y darparwr cofrestredig sydd i reoli'r sefydliad neu asiantaeth rhaid iddo hysbysu swyddfa briodol yr awdurdod cofrestru ar unwaith o'r dyddiad y mae'r cyfryw reolaeth i ddechrau.
12.—(1) Rhaid i berson beidio â rheoli sefydliad neu asiantaeth onid yw'n berson ffit i wneud hynny.
(2) Nid yw person yn ffit i reoli sefydliad neu asiantaeth—
(a)onid yw'n berson addas o ran ei uniondeb a'i gymeriad da i reoli'r sefydliad neu'r asiantaeth;
(b)o ystyried maint y sefydliad neu asiantaeth, y datganiad o ddiben a niferoedd ac anghenion y cleifion—
(i)onid oes gan y person y cymwysterau, y sgiliau a'r profiad angenrheidiol i reoli'r sefydliad neu'r asiantaeth; a
(ii)onid yw'r person yn ffit yn gorfforol ac yn feddyliol i wneud hynny; ac
(c)onid oes gwybodaeth neu, yn ôl fel y digwydd, ddogfennaeth lawn a boddhaol ar gael ynglŷn â'r person mewn perthynas â phob un o'r materion a bennir ym mharagraffau 1, 2 a 4 i 8 o Atodlen 2.
(3) Pan fo person yn rheoli mwy nag un sefydliad neu asiantaeth, rhaid iddo dreulio amser digonol ym mhob sefydliad neu asiantaeth i sicrhau y rheolir pob sefydliad neu asiantaeth yn effeithiol.
13.—(1) Rhaid i'r darparwr cofrestredig a'r rheolwr cofrestredig redeg neu reoli'r sefydliad neu asiantaeth, yn ôl fel y digwydd, gyda gofal, cymhwysedd a sgil digonol, o ystyried maint y sefydliad neu'r asiantaeth, y datganiad o ddiben a niferoedd ac anghenion y cleifion.
(2) Os yw'r darparwr cofrestredig—
(a)yn unigolyn, rhaid iddo ymgymryd; neu
(b)yn gorff, rhaid iddo sicrhau bod yr unigolyn cyfrifol yn ymgymryd,
o bryd i'w gilydd â pha bynnag hyfforddiant sy'n briodol i sicrhau bod ganddo'r sgiliau angenrheidiol i redeg y sefydliad neu asiantaeth.
(3) Rhaid i unrhyw unigolyn sy'n rheoli'r sefydliad neu asiantaeth ymgymryd, o bryd i'w gilydd, â pha bynnag hyfforddiant sy'n briodol i sicrhau bod ganddo'r sgiliau angenrheidiol i reoli'r sefydliad neu'r asiantaeth.
14.—(1) Os caiff y person cofrestredig neu'r unigolyn cyfrifol ei gollfarnu am unrhyw dramgwydd troseddol, pa un ai yng Nghymru neu mewn man arall, rhaid i'r person a gollfarnwyd hysbysu swyddfa briodol yr awdurdod cofrestru mewn ysgrifen ar unwaith, o'r canlynol—
(a)dyddiad a lleoliad y gollfarn;
(b)y tramgwydd y collfarnwyd y person o'i herwydd; ac
(c)y gosb a osodwyd ar y person mewn perthynas â'r tramgwydd.
(2) Os cyhuddir y person cofrestredig neu'r unigolyn cyfrifol o unrhyw dramgwydd y ceir gwneud gorchymyn mewn perthynas ag ef o dan Ran II o Ddeddf Cyfiawnder Troseddol a Gwasanaethau Llys 2000 (Amddiffyn Plant)(1) rhaid i'r person cofrestredig neu'r unigolyn cyfrifol hysbysu swyddfa briodol yr awdurdod cofrestru mewn ysgrifen ar unwaith, o'r tramgwydd y'i cyhuddwyd ohono, a dyddiad a lleoliad y cyhuddiad.
Y Diweddaraf sydd Ar Gael (diwygiedig):Y fersiwn ddiweddaraf sydd ar gael o’r ddeddfwriaeth yn cynnwys newidiadau a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol ac wedi eu gweithredu gan ein tîm golygyddol. Gellir gweld y newidiadau nad ydym wedi eu gweithredu i’r testun eto yn yr ardal ‘Newidiadau i Ddeddfwriaeth’. Dim ond yn Saesneg y mae’r fersiwn ddiwygiedig ar gael ar hyn o bryd.
Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed) - Saesneg: Mae'r wreiddiol Saesneg fersiwn y ddeddfwriaeth fel ag yr oedd pan gafodd ei deddfu neu eu gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.
Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed)-Cymraeg:Y fersiwn Gymraeg wreiddiol o’r ddeddfwriaeth fel yr oedd yn sefyll pan gafodd ei deddfu neu ei gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.
Gallwch wneud defnydd o ddogfennau atodol hanfodol a gwybodaeth ar gyfer yr eitem ddeddfwriaeth o’r tab hwn. Yn ddibynnol ar yr eitem ddeddfwriaeth sydd i’w gweld, gallai hyn gynnwys:
Defnyddiwch y ddewislen hon i agor dogfennau hanfodol sy’n cyd-fynd â’r ddeddfwriaeth a gwybodaeth am yr eitem hon o ddeddfwriaeth. Gan ddibynnu ar yr eitem o ddeddfwriaeth sy’n cael ei gweld gall hyn gynnwys:
liciwch ‘Gweld Mwy’ neu ddewis ‘Rhagor o Adnoddau’ am wybodaeth ychwanegol gan gynnwys