- Y Diweddaraf sydd Ar Gael (Diwygiedig) - Saesneg
- Y Diweddaraf sydd Ar Gael (Diwygiedig) - Cymraeg
- Gwreiddiol (Fel y'i Gwnaed) - Saesneg
- Gwreiddiol (Fel y'i Gwnaed) - Cymraeg
Dyma’r fersiwn wreiddiol (fel y’i gwnaed yn wreiddiol). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.
31.—(1) Rhaid i'r person cofrestredig hysbysu swyddfa briodol yr awdurdod cofrestru—
(a)am farwolaeth claf—
(i)mewn sefydliad;
(ii)yn ystod triniaeth a ddarparwyd mewn neu at ddibenion sefydliad neu at ddibenion asiantaeth; neu
(iii)o ganlyniad i driniaeth a ddarparwyd mewn neu at ddibenion sefydliad neu at ddibenion asiantaeth;
ac am ddyddiad, amser, achos (os yw'n hysbys) ac amgylchiadau marwolaeth y claf;
(b)am unrhyw anaf difrifol i glaf;
(c)am achos sy'n digwydd mewn sefydliad o unrhyw glefyd heintus sydd, ym marn unrhyw ymarferydd meddygol a gyflogir yn y sefydliad, yn ddigon difrifol i roi hysbysiad yn ei gylch;
(ch)unrhyw honiad o gamymddwyn sy'n arwain at niwed gwirioneddol neu niwed posibl i glaf, gan y person cofrestredig, unrhyw berson a gyflogir yn, neu at ddibenion, y sefydliad neu at ddibenion yr asiantaeth, neu unrhyw ymarferydd meddygol sydd â breintiau ymarfer;
(d)unrhyw gais am awdurdodiad safonol a wneir gan y person cofrestredig i gorff goruchwylio yn unol â Rhan 4 o Atodlen A1 i Ddeddf 2005, gan gynnwys canlyniad cais o'r fath;
(dd)unrhyw gais a wneir i lys ynglŷn ag amddifadu claf o'i ryddid.
(2) At ddibenion y rheoliad hwn, mae cyfeiriadau at gorff goruchwylio yn gyfeiriadau at “supervisory body” fel y'i diffinnir yn Atodlen A1 i Ddeddf 2005(1) ac mae i “awdurdodiad safonol” yr ystyr a roddir i “standard authorisation” yn Rhan 4 o Atodlen A1 i Ddeddf 2005.
(3) Rhaid rhoi'r hysbysiad o dan baragraff (1) o fewn y cyfnod o 24 awr sy'n dechrau gyda'r digwyddiad dan sylw ac, os rhoddir hysbysiad ar lafar, rhaid ei gadarnhau mewn ysgrifen o fewn 72 awr ar ôl yr hysbysiad llafar.
(4) Os—
(a)yw'r person cofrestredig yn cael gwybodaeth am farwolaeth claf y terfynwyd ei beichiogrwydd mewn ysbyty annibynnol yn ystod y cyfnod o 12 mis a ddaw i ben ar y dyddiad y ceir yr wybodaeth; a
(b)os oes rheswm gan y person cofrestredig i gredu y gallai fod marwolaeth y claf yn gysylltiedig â therfynu'r beichiogrwydd, rhaid i'r person cofrestredig hysbysu swyddfa briodol yr awdurdod cofrestru mewn ysgrifen o fewn y cyfnod o 14 diwrnod sy'n dechrau ar y diwrnod y ceir yr wybodaeth.
Gweler Atodlen A1, rhan 13.
Y Diweddaraf sydd Ar Gael (diwygiedig):Y fersiwn ddiweddaraf sydd ar gael o’r ddeddfwriaeth yn cynnwys newidiadau a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol ac wedi eu gweithredu gan ein tîm golygyddol. Gellir gweld y newidiadau nad ydym wedi eu gweithredu i’r testun eto yn yr ardal ‘Newidiadau i Ddeddfwriaeth’. Dim ond yn Saesneg y mae’r fersiwn ddiwygiedig ar gael ar hyn o bryd.
Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed) - Saesneg: Mae'r wreiddiol Saesneg fersiwn y ddeddfwriaeth fel ag yr oedd pan gafodd ei deddfu neu eu gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.
Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed)-Cymraeg:Y fersiwn Gymraeg wreiddiol o’r ddeddfwriaeth fel yr oedd yn sefyll pan gafodd ei deddfu neu ei gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.
Gallwch wneud defnydd o ddogfennau atodol hanfodol a gwybodaeth ar gyfer yr eitem ddeddfwriaeth o’r tab hwn. Yn ddibynnol ar yr eitem ddeddfwriaeth sydd i’w gweld, gallai hyn gynnwys:
Defnyddiwch y ddewislen hon i agor dogfennau hanfodol sy’n cyd-fynd â’r ddeddfwriaeth a gwybodaeth am yr eitem hon o ddeddfwriaeth. Gan ddibynnu ar yr eitem o ddeddfwriaeth sy’n cael ei gweld gall hyn gynnwys:
liciwch ‘Gweld Mwy’ neu ddewis ‘Rhagor o Adnoddau’ am wybodaeth ychwanegol gan gynnwys