- Y Diweddaraf sydd Ar Gael (Diwygiedig) - Saesneg
- Y Diweddaraf sydd Ar Gael (Diwygiedig) - Cymraeg
- Gwreiddiol (Fel y'i Gwnaed) - Saesneg
- Gwreiddiol (Fel y'i Gwnaed) - Cymraeg
Dyma’r fersiwn wreiddiol (fel y’i gwnaed yn wreiddiol). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.
Offerynnau Statudol Cymru
DIOGELU'R AMGYLCHEDD, CYMRU
LLYGRU MOROL, CYMRU
TRIBIWNLYSOEDD AC YMCHWILIADAU, CYMRU
Gwnaed
22 Mawrth2011
Yn dod i rym
6 Ebrill 2011
Mae Gweinidogion Cymru, sef yr awdurdod trwyddedu priodol o dan adran 113(4)(b) o Ddeddf y Môr a Mynediad i'r Arfordir 2009(1), yn gwneud y Rheoliadau hyn drwy arfer y pwerau a roddwyd gan adran 108 o'r Ddeddf honno.
Yn unol ag adran 316(6)(b) a (7)(f) o'r Ddeddf honno, mae drafft o'r Rheoliadau hyn wedi ei osod gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru ac wedi ei gymeradwyo drwy benderfyniad Cynulliad Cenedlaethol Cymru.
1.—(1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Trwyddedu Morol (Apelau Hysbysiadau) (Cymru) 2011.
(2) Daw'r Rheoliadau hyn i rym ar 6 Ebrill 2011.
(3) Yn y Rheoliadau hyn, ystyr “Deddf 2009” (“the 2009 Act”) yw Deddf y Môr a Mynediad i'r Arfordir 2009.
2. Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys mewn perthynas ag unrhyw weithgaredd morol trwyddedadwy, y mae Gweinidogion Cymru—
(a)yn awdurdod trwyddedu priodol(2) ar ei gyfer (a rhaid darllen cyfeiriadau yn y Rheoliadau hyn at “yr awdurdod trwyddedu” yn unol â hynny);
(b)yn awdurdod gorfodi(3) ar ei gyfer (a rhaid darllen cyfeiriadau yn y Rheoliadau hyn at “yr awdurdod gorfodi” yn unol â hynny).
3.—(1) Caiff person y dyroddwyd hysbysiad iddo o dan adran 72 o Ddeddf 2009 (hysbysiad yn amrywio, atal dros dro neu ddirymu trwydded forol neu estyn cyfnod ataliad) apelio i Dribiwnlys yr Haen Gyntaf(4) yn erbyn yr hysbysiad.
(2) Atelir hysbysiad, y cyfeirir ato ym mharagraff (1) sy'n amrywio trwydded forol, mewn perthynas â'r amrywiad hwnnw, hyd nes penderfynir yr apêl.
(3) Caiff y Tribiwnlys Haen Gyntaf atal unrhyw hysbysiad arall y cyfeirir ato ym mharagraff (1), yn gyfan gwbl neu'n rhannol, hyd nes penderfynir yr apêl.
4.—(1) Caiff person y dyroddwyd iddo unrhyw un o'r hysbysiadau ym mharagraff (2) apelio i Dribiwnlys yr Haen Gyntaf yn erbyn yr hysbysiad.
(2) Yr hysbysiadau yw—
(a)hysbysiad cydymffurfio;
(b)hysbysiad adfer;
(c)hysbysiad stop;
(ch)hysbysiad diogelwch brys(5).
(3) Atelir hysbysiad cydymffurfio ac unrhyw ofyniad mewn unrhyw hysbysiad o'r fath, hyd nes penderfynir apêl yn erbyn yr hysbysiad.
(4) Caiff y Tribiwnlys Haen Gyntaf atal unrhyw hysbysiad adfer, hysbysiad stop neu hysbysiad diogelwch brys, yn gyfan gwbl neu'n rhannol, hyd nes penderfynir yr apêl.
5.—(1) Mewn unrhyw apêl, mae'r baich prawf ar yr awdurdod trwyddedu neu'r awdurdod gorfodi, (fel y bo'n briodol), ac—
(a)os yw'r apêl yn ymwneud â'r honiad o gyflawni tramgwydd, rhaid i'r awdurdod brofi y cyflawnwyd y tramgwydd, y tu hwn i amheuaeth resymol, a
(b)mewn unrhyw achos arall, rhaid i'r Tribiwnlys Haen Gyntaf benderfynu'r safon o brawf.
(2) Caiff y Tribiwnlys Haen Gyntaf—
(a)tynnu'r hysbysiad neu unrhyw ofyniad sydd ynddo yn ôl;
(b)cadarnhau'r hysbysiad neu unrhyw ofyniad sydd ynddo;
(c)amrywio'r hysbysiad neu unrhyw ofyniad sydd ynddo;
(ch)cymryd unrhyw gamau y gallai'r awdurdod trwyddedu neu'r awdurdod gorfodi (fel y bo'n briodol) eu cymryd mewn perthynas â'r weithred neu'r anwaith a arweiniodd at y gofyniad neu'r hysbysiad;
(d)cyfeirio'r penderfyniad a ddylid cadarnhau'r hysbysiad, neu unrhyw fater arall ynglŷn â'r penderfyniad hwnnw, yn ôl at yr awdurdod trwyddedu neu'r awdurdod gorfodi (fel y bo'n briodol).
6.—(1) Rhaid talu unrhyw swm sy'n daladwy yn unol â phenderfyniad y Tribiwnlys Haen Gyntaf o fewn 56 diwrnod ar ôl y penderfyniad hwnnw.
(2) Bydd unrhyw swm o'r fath nas telir o fewn y cyfnod hwnnw —
(a)yn adenilladwy fel dyled sifil;
(b)yn adenilladwy ar orchymyn llys, fel pe bai'n daladwy o dan orchymyn llys.
Jane Davidson
Gweinidog dros yr Amgylchedd, Cynaliadwyedd a Thai, un o Weinidogion Cymru
22 Mawrth 2011
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)
Mae'r Rheoliadau hyn yn darparu ar gyfer gwneud apelau i Dribiwnlys yr Haen Gyntaf yn erbyn rhai hysbysiadau a roddir o dan Ran 4 o Ddeddf y Môr a Mynediad i'r Arfordir 2009 (“Deddf 2009”).
Yr hysbysiadau yw—
(a)hysbysiad sy'n amrywio, yn atal dros dro neu'n dirymu trwydded forol, neu'n estyn cyfnod ataliad, a ddyroddir o dan adran 72 o Ddeddf 2009, y mae Gweinidogion Cymru yn awdurdod trwyddedu priodol mewn perthynas ag ef (rheoliadau 2(a) a 3);
(b)hysbysiad cydymffurfio, hysbysiad adfer, hysbysiad stop, neu hysbysiad diogelwch brys, y mae Gweinidogion Cymru yn awdurdod gorfodi mewn perthynas ag ef (rheoliadau 2(b) a 4). Gweler adran 115 o Ddeddf 2009 am ddiffiniadau o'r hysbysiadau hyn .
Mae rheoliad 5 yn pennu pwerau Tribiwnlys yr Haen Gyntaf, a rheoliad 6 yn pennu darpariaeth ar gyfer adennill unrhyw swm sy'n daladwy yn unol â phenderfyniad o'r Tribiwnlys hwnnw.
Mae asesiad llawn o'r effaith y bydd yr offeryn hwn yn ei chael ar gostau busnes, y sector gwirfoddol a'r sector cyhoeddus ar gael o'r Uned Caniatadau Morol, Llywodraeth Cynulliad Cymru, Parc Cathays, Caerdydd CF10 3NQ neu ar wefan Llywodraeth Cynulliad Cymru yn www.cymru.gov.uk.
Yn rhinwedd adran 113(4)(b) o Ddeddf 2009, Gweinidogion Cymru yw'r awdurdod trwyddedu priodol mewn perthynas ag unrhyw beth a wneir wrth ymgymryd â gweithgareddau morol trwyddedadwy o ran Cymru a rhanbarth glannau Cymru ac eithrio gweithgareddau y mae'r Ysgrifennydd Gwladol yn awdurdod trwyddedu priodol ar eu cyfer o dan adran 113(4)(a) a (5) o'r Ddeddf honno. Gweler adran 322(1) am ddiffiniad o'r rhanbarth hwnnw.
Mae Gweinidogion Cymru yn awdurdod gorfodi ar gyfer yr ardal y mae Gweinidogion Cymru yn awdurdod trwyddedu priodol ar ei chyfer yn rhinwedd adran 114(2) o Ddeddf 2009.
Neilltuir apelau i Siambr Reoleiddio Gyffredinol Tribiwnlys yr Haen Gyntaf yn rhinwedd erthygl 3 o Orchymyn Tribiwnlys yr Haen Gyntaf a'r Uwch Dribiwnlys (Siambrau) 2010 (O.S. 2010/2655). Pennir y rheolau trefniadol mewn perthynas ag apelau o'r fath yn Rheolau Gweithdrefn y Tribiwnlysoedd (Tribiwnlys yr Haen Gyntaf) (Y Siambr Reoleiddio Gyffredinol) 2009 (O.S. 2009/1976).
Ynglŷn â'r hysbysiadau a grybwyllir ym mharagraff (2) (a) i (d), gweler adrannau 90, 91, 102 a 104 o Ddeddf 2009.
Y Diweddaraf sydd Ar Gael (diwygiedig):Y fersiwn ddiweddaraf sydd ar gael o’r ddeddfwriaeth yn cynnwys newidiadau a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol ac wedi eu gweithredu gan ein tîm golygyddol. Gellir gweld y newidiadau nad ydym wedi eu gweithredu i’r testun eto yn yr ardal ‘Newidiadau i Ddeddfwriaeth’. Dim ond yn Saesneg y mae’r fersiwn ddiwygiedig ar gael ar hyn o bryd.
Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed) - Saesneg: Mae'r wreiddiol Saesneg fersiwn y ddeddfwriaeth fel ag yr oedd pan gafodd ei deddfu neu eu gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.
Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed)-Cymraeg:Y fersiwn Gymraeg wreiddiol o’r ddeddfwriaeth fel yr oedd yn sefyll pan gafodd ei deddfu neu ei gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.
Gallwch wneud defnydd o ddogfennau atodol hanfodol a gwybodaeth ar gyfer yr eitem ddeddfwriaeth o’r tab hwn. Yn ddibynnol ar yr eitem ddeddfwriaeth sydd i’w gweld, gallai hyn gynnwys:
Defnyddiwch y ddewislen hon i agor dogfennau hanfodol sy’n cyd-fynd â’r ddeddfwriaeth a gwybodaeth am yr eitem hon o ddeddfwriaeth. Gan ddibynnu ar yr eitem o ddeddfwriaeth sy’n cael ei gweld gall hyn gynnwys:
liciwch ‘Gweld Mwy’ neu ddewis ‘Rhagor o Adnoddau’ am wybodaeth ychwanegol gan gynnwys
The data on this page is available in the alternative data formats listed: