- Y Diweddaraf sydd Ar Gael (Diwygiedig) - Saesneg
- Y Diweddaraf sydd Ar Gael (Diwygiedig) - Cymraeg
- Gwreiddiol (Fel y'i Gwnaed) - Saesneg
- Gwreiddiol (Fel y'i Gwnaed) - Cymraeg
Dyma’r fersiwn wreiddiol (fel y’i gwnaed yn wreiddiol). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.
1.—(1) Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Trwyddedu Morol (Sancsiynau Sifil) (Cymru) 2011.
(2) Daw'r Gorchymyn hwn i rym ar 6 Ebrill 2011.
2. Mae'r Gorchymyn hwn yn gymwys mewn perthynas ag unrhyw weithgaredd morol trwyddedadwy, y mae Gweinidogion Cymru yn—
(a)awdurdod trwyddedu priodol(1) ar ei gyfer (a dylid darllen y cyfeiriad yn erthygl 25(2) at “yr awdurdod trwyddedu” yn unol â hynny);
(b)yn awdurdod gorfodi(2) ar ei gyfer (a dylid darllen cyfeiriadau yn y Gorchymyn hwn at “yr awdurdod gorfodi” yn unol â hynny).
3. Yn y Gorchymyn hwn—
ystyr “y Ddeddf” (“the Act”) yw Deddf y Môr a Mynediad i'r Arfordir 2009;
mae i “hysbysiad o fwriad” (“notice of intent”)—
mewn perthynas â chosb ariannol benodedig, yr ystyr a roddir gan erthygl 5(1);
mewn perthynas â chosb ariannol newidiol, yr ystyr a roddir gan erthygl 14(1);
mae i “hysbysiad terfynol” (“final notice”)—
mewn perthynas â chosb ariannol benodedig, yr ystyr a roddir gan erthygl 8(3);
mewn perthynas â chosb ariannol newidiol, yr ystyr a roddir gan erthygl 17(4);
ystyr “sancsiwn sifil” (“civil sanction”) yw cosb ariannol benodedig neu gosb ariannol newidiol(3).
Yn rhinwedd adran 113(4)(b) o Ddeddf y Môr a Mynediad i'r Arfordir 2009, Gweinidogion Cymru yw'r awdurdod trwyddedu priodol mewn perthynas ag unrhyw beth a wneir wrth ymgymryd â gweithgareddau morol trwyddedadwy o ran Cymru a rhanbarth glannau Cymru ac eithrio gweithgareddau y mae'r Ysgrifennydd Gwladol yn awdurdod trwyddedu priodol ar eu cyfer o dan adrannau 113(4)(a) a (5) o'r Ddeddf honno. Mae i “rhanbarth glannau Cymru” yr ystyr a roddir i “Welsh inshore region” yn adran 322(1) o'r Ddeddf.
Mae Gweinidogion Cymru yn awdurdod gorfodi ar gyfer yr ardaloedd y mae Gweinidogion Cymru yn Awdurdod trwyddedu priodol ar eu cyfer. at ddibenion y Gorchymyn hwn (gweler adran 114(2) o'r Ddeddf y Môr a Mynediad i'r Arfordir 2009.
Gweler adran 115(1) o'r Ddeddf ar gyfer diffinad o'r termau hyn.
Y Diweddaraf sydd Ar Gael (diwygiedig):Y fersiwn ddiweddaraf sydd ar gael o’r ddeddfwriaeth yn cynnwys newidiadau a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol ac wedi eu gweithredu gan ein tîm golygyddol. Gellir gweld y newidiadau nad ydym wedi eu gweithredu i’r testun eto yn yr ardal ‘Newidiadau i Ddeddfwriaeth’. Dim ond yn Saesneg y mae’r fersiwn ddiwygiedig ar gael ar hyn o bryd.
Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed) - Saesneg: Mae'r wreiddiol Saesneg fersiwn y ddeddfwriaeth fel ag yr oedd pan gafodd ei deddfu neu eu gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.
Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed)-Cymraeg:Y fersiwn Gymraeg wreiddiol o’r ddeddfwriaeth fel yr oedd yn sefyll pan gafodd ei deddfu neu ei gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.
Gallwch wneud defnydd o ddogfennau atodol hanfodol a gwybodaeth ar gyfer yr eitem ddeddfwriaeth o’r tab hwn. Yn ddibynnol ar yr eitem ddeddfwriaeth sydd i’w gweld, gallai hyn gynnwys:
Defnyddiwch y ddewislen hon i agor dogfennau hanfodol sy’n cyd-fynd â’r ddeddfwriaeth a gwybodaeth am yr eitem hon o ddeddfwriaeth. Gan ddibynnu ar yr eitem o ddeddfwriaeth sy’n cael ei gweld gall hyn gynnwys:
liciwch ‘Gweld Mwy’ neu ddewis ‘Rhagor o Adnoddau’ am wybodaeth ychwanegol gan gynnwys