xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"
23.—(1) Rhaid i'r awdurdod gorfodi gyhoeddi canllawiau ynghylch y modd mae'n defnyddio sancsiynau sifil.
(2) Rhaid i'r canllawiau gynnwys gwybodaeth ynglŷn ag—
(a)yr amgylchiadau y mae'n debygol y gosodir sancsiwn sifil o danynt;
(b)yr amgylchiadau na chaniateir ei gosod o danynt;
(c)mewn perthynas â chosb ariannol benodedig—
(i)swm y gosb; a
(ii)sut y gall y rhwymedigaeth am y gosb gael ei chyflawni ac effaith ei chyflawni;
(ch)yn achos cosb ariannol newidiol, y materion sy'n debyg o gael eu cymryd i ystyriaeth gan yr awdurdod gorfodi wrth benderfynu ar swm y gosb (gan gynnwys pan fo'n berthnasol, unrhyw ddisgowntiau am adrodd yn wirfoddol am ddiffyg cydymffurfio);
(d)hawliau i gyflwyno sylwadau a gwrthwynebiadau; ac
(dd)hawliau i apelio.
(3) Rhaid i'r awdurdod gorfodi ddiwygio'r canllawiau pan fo'n briodol.
(4) Rhaid i'r awdurdod gorfodi ymgynghori â pha bynnag bersonau yr ystyria'n briodol cyn cyhoeddi unrhyw ganllawiau neu ganllawiau diwygiedig.
(5) Rhaid i'r awdurdod gorfodi roi sylw i'r canllawiau neu'r canllawiau diwygiedig wrth arfer ei swyddogaethau.
24. Rhaid i'r awdurdod gorfodi gyhoeddi canllawiau ynglŷn â'r modd y bydd yn arfer y pŵer a roddir gan erthygl 21.
25.—(1) Rhaid i'r awdurdod gorfodi, o bryd i'w gilydd, gyhoeddi adroddiadau sy'n nodi—
(a)yr achosion y gosodwyd sancsiwn sifil ynddynt (ond nid yw hyn yn cynnwys achosion pan osodwyd sancsiwn a wrth-drowyd wedyn mewn apêl);
(b)os cosb ariannol benodedig oedd y sancsiwn sifil, yr achosion pan gyflawnwyd y rhwymedigaeth am y gosb yn unol ag erthygl 6; ac
(c)os cosb ariannol newidiol oedd y sancsiwn sifil, yr achosion pan dderbyniwyd ymrwymiad y cyfeirir ato yn erthygl 16.
(2) Ond nid yw paragraff (1) yn gymwys mewn achosion pan fo'r awdurdod trwyddedu o'r farn y byddai'n amhriodol nodi'r wybodaeth y cyfeirir ati yn y paragraff hwnnw.