Rheoliadau Traffordd yr M4 (O Fan i'r Gorllewin o Gyffordd 23A (Magwyr) i Fan i'r Dwyrain o Gyffordd 29 (Cas-bach)) (Terfynau Cyflymder Amrywiadwy) 2011

3.—(1Ni chaiff neb yrru cerbyd ar ddarn o ffordd sy'n ddarostyngedig i derfyn cyflymder amrywiadwy ar gyflymder sy'n uwch na'r hyn a ddangosir gan arwydd terfyn cyflymder.

(2Mae darn o ffordd yn ddarostyngedig i derfyn cyflymder amrywiadwy mewn perthynas â cherbyd sy'n cael ei yrru arno—

(a)os yw'r ffordd wedi ei phennu yn yr Atodlen;

(b)os yw'r cerbyd wedi pasio arwydd terfyn cyflymder; ac

(c)os nad yw'r cerbyd wedi pasio—

(i)arwydd terfyn cyflymder arall sy'n dangos terfyn cyflymder gwahanol; neu

(ii)arwydd traffig sy'n dangos bod y terfyn cyflymder cenedlaethol mewn grym.

(3Mewn perthynas â cherbyd, y terfyn cyflymder a ddangosir gan arwydd terfyn cyflymder yw'r cyflymder a ddangosir ar yr adeg y mae'r cerbyd yn pasio'r arwydd, neu, os yw'n uwch na hynny, y terfyn cyflymder a ddangoswyd gan yr arwydd ddeng eiliad cyn i'r cerbyd basio'r arwydd.

(4At ddibenion y rheoliad hwn bernir nad yw arwydd terfyn cyflymder yn dangos unrhyw derfyn cyflymder os oedd yr arwydd, ddeng eiliad cyn i'r cerbyd ei basio, wedi dangos nad oedd terfyn cyflymder neu wedi dangos bod y terfyn cyflymder cenedlaethol mewn grym.

(5Yn y rheoliad hwn—

  • ystyr “arwydd terfyn cyflymder” (“speed limit sign”), mewn perthynas â cherbyd, yw arwydd traffig o'r math a ddangosir yn niagram 670 yn Atodlen 2 i Reoliadau 2002, sef arwydd—

    (a)

    a roddir ar ffordd neu gerllaw unrhyw ran o ffordd a bennir yn yr Atodlen; a

    (b)

    a anelir at draffig ar y gerbytffordd y gyrrir y cerbyd arni:

  • mae “ffordd” (“road”) yn cynnwys y llain galed a'r llain ymyl gyfagos;

  • mae i “terfyn cyflymder cenedlaethol” yr ystyr a roddir i “national speed limit” gan reoliad 5(2) o Reoliadau 2002 ac mae arwydd traffig sy'n dangos bod y terfyn cyflymder cenedlaethol mewn grym yn golygu arwydd traffig o'r math a ddangosir yn niagram 671 yn Atodlen 2 i Reoliadau 2002, sef arwydd—

    (a)

    a roddir ar ffordd neu gerllaw ffordd; a

    (b)

    a anelir at draffig ar y gerbytffordd y gyrrir y cerbyd arni.