Nodyn Esboniadol
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)
Mae'r Rheoliadau hyn yn gwneud darpariaeth ar gyfer sefydliad, swyddogaethau, cyfansoddiad ac aelodaeth o Bwyllgor Cydwasanaethau Ymddiriedolaeth Gwasanaeth Iechyd Gwladol Felindre (“y pwyllgor”) gan gynnwys ei weithdrefnau a'i drefniadau gweinyddol.
Mae Rhan 2 o'r Rheoliadau hyn yn gwneud darpariaeth ar gyfer sefydlu'r pwyllgor ac arfer swyddogaethau gan y pwyllgor.
Mae Rhan 3 o'r Rheoliadau hyn yn gwneud darpariaeth ar gyfer —
(a)cyfansoddiad ac aelodaeth y pwyllgor (rheoliad 5);
(b)penodi cadeirydd ac is-gadeirydd i'r pwyllgor (rheoliad 6);
(c)gofynion cymhwystra i aelodau o'r cyd-bwyllgor (rheoliad 7 a'r Atodlen); a
(d)dal swyddi, terfynu penodiadau ac atal y cadeirydd a'r is-gadeirydd o'r pwyllgor (rheoliadau 8 i 10).
Mae Rhan 4 yn cynnwys darpariaethau mewn perthynas â chyfarfodydd a thrafodion y pwyllgor gan gynnwys pwerau'r is-gadeirydd (rheoliadau 11 a 12).
Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar wneud asesiadau effaith rheoleiddiol mewn perthynas â'r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, lluniwyd asesiad effaith rheoleiddiol o'r costau a'r buddiannau sy'n debygol o ddeillio o gydymffurfio â'r Rheoliadau hyn. Gellir cael copi gan yr Adran Gyllid, Yr Adran Iechyd, Gwasanaethau Cymdeithasol a Phlant, Llywodraeth Cymru, Parc Cathays, Caerdydd, CF10 3NQ.