xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"
Offerynnau Statudol Cymru
ADDYSG, CYMRU
Gwnaed
25 Mai 2012
Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru
30 Mai 2012
Yn dod i rym
21 Mehefin 2012
Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd iddynt gan adrannau 336(1) a (2) a 569(4) a (5) o Ddeddf Addysg 1996(1) ac ar ôl ymgynghori â'r Cyngor Cyfiawnder Gweinyddol a Thribiwnlysoedd yn unol â pharagraff 24(1) o Atodlen 7 i Ddeddf Tribiwnlysoedd, Llysoedd a Gorfodi 2007(2), yn gwneud y Rheoliadau canlynol.
1.—(1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Tribiwnlys Anghenion Addysgol Arbennig Cymru (Diwygio) 2012 a deuant i rym ar 21 Mehefin 2012.
(2) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.
2.—(1) Mae Rheoliadau Tribiwnlys Anghenion Addysgol Arbennig Cymru 2012(3) wedi eu diwygio fel a ganlyn.
(2) Yn rheoliad 13(4) (cais apêl), yn y testun Cymraeg—
(a)yn lle is-baragraff (c)(ii) rhodder—
“(ii)ysgol annibynnol, drwy gadarnhad ysgrifenedig bod y person sy'n gwneud yr apêl wedi hysbysu perchennog yr ysgol am fwriad y person i ofyn am enwi'r ysgol annibynnol yn y datganiad;”; a
(b)ar ôl is-baragraff (c)(ii) mewnosoder—
“(iii)ysgol annibynnol, drwy gadarnhad ysgrifenedig gan berchennog yr ysgol bod lle ar gael yn yr ysgol i'r plentyn.”.
Leighton Andrews
Y Gweinidog Addysg a Sgiliau, un o Weinidogion Cymru
25 Mai 2012
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)
Mae'r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau Tribiwnlys Anghenion Addysgol Arbennig Cymru 2012.
Mae rheoliad 2 o'r Rheoliadau hyn yn gwneud diwygiadau i gywiro gwallau yn nhestun Cymraeg Rheoliadau Tribiwnlys Anghenion Addysgol Arbennig Cymru 2012.
1996 p.56. Diwygiwyd adran 336(1) gan baragraffau 127, 133(a)(i) a 133(a)(ii) o Atodlen 3 i O.S. 2008/2833. Diwygiwyd adran 336(2) gan Atodlenni 8 a 9 i Ddeddf Anghenion Addysgol Arbennig ac Anabledd 2001, ac fe'i diwygiwyd ymhellach gan O.S. 2008/2833 ac adran 7 o Fesur Addysg (Cymru) 2009. Diwygiwyd adran 569(4) gan adran 8 o Fesur Addysg (Cymru) 2009.