xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"
Offerynnau Statudol Cymru
IECHYD PLANHIGION, CYMRU
Gwnaed
5 Mehefin 2012
Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru
12 Mehefin 2012
Yn dod i rym
6 Gorffennaf 2012
Mae Gweinidogion Cymru wedi eu dynodi(1) at ddibenion adran 2(2) o Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972(2) mewn perthynas â pholisi amaethyddol cyffredin yr Undeb Ewropeaidd.
Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud rheoliad 7(a), (b) ac (c) drwy arfer pwerau a roddir gan adran 2(2) o Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972.
1.—(1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Iechyd Planhigion (Ffioedd) (Cymru) 2012. Maent yn gymwys o ran Cymru a deuant i rym ar 6 Gorffennaf 2012.
(2) Yn y Rheoliadau hyn—
(a)ystyr “y Gyfarwyddeb” (“the Directive”) yw Cyfarwyddeb y Cyngor 2000/29/EC ar fesurau i amddiffyn rhag dwyn i mewn i'r Gymuned organebau sy'n niweidiol i blanhigion neu gynhyrchion planhigion, a rhag i'r organebau hynny ymledu o fewn y Gymuned(5); a
(b)ystyr “y GIP” (“the PHO”) yw Gorchymyn Iechyd Planhigion (Cymru) 2006(6).
(3) Mae i'r termau a ddefnyddir yn y Rheoliadau hyn, ac y defnyddir eu cyfystyron Saesneg yn y Gyfarwyddeb, yr un ystyr yn y Rheoliadau hyn ag a roddir i'w cyfystyron Saesneg yn y Gyfarwyddeb.
2.—(1) Mae'r rheoliad hwn yn gymwys mewn perthynas â llwythi o—
(a)planhigion, cynhyrchion planhigion a gwrthrychau eraill o ddisgrifiad a bennir yng ngholofn 1 o Atodlen 1 a restrir yn Rhan B o Atodiad V i'r Gyfarwyddeb, a
(b)hadau Solanaceae, pa un a restrir hwy ai peidio yn y Rhan honno,
a ddygir i mewn i Gymru o wlad neu diriogaeth ac eithrio un sydd o fewn yr Undeb Ewropeaidd neu sy'n destun cytundeb a wnaed o dan erthygl 12(6) o'r GIP.
(2) Ar yr adeg y mewnforir llwyth y mae'r rheoliad hwn yn gymwys iddo, rhaid i'r mewnforiwr dalu i Weinidogion Cymru—
(a)y ffi a bennir—
(i)yng ngholofn 3 o Atodlen 1 mewn perthynas â llwyth o blanhigyn, cynnyrch planhigion neu wrthrych arall a restrir yng ngholofn 1 o'r Atodlen honno, ac eithrio llwyth o blanhigyn neu gynnyrch planhigion y mae paragraff (ii) o'r is-baragraff hwn yn gymwys iddo; neu
(ii)yng ngholofn 4 o Atodlen 2 mewn perthynas â llwyth o blanhigyn neu gynnyrch planhigion a restrir yng ngholofn 1 o'r Atodlen honno ac sy'n tarddu o wlad a restrir yng ngholofn 3 o'r Atodlen honno; a
(b)y ffioedd a bennir yng ngholofn 3 o Atodlen 3 am wiriad dogfennol a gwiriad adnabod.
(3) Ond, pan gynhelir gwiriad iechyd planhigion ar lwyth y tu allan i oriau gwaith yn ystod y dydd, a hynny ar gais y mewnforiwr neu unrhyw berson arall sy'n gyfrifol am y llwyth, y ffi sy'n daladwy o dan baragraff (2)(a) mewn perthynas â'r llwyth hwnnw yw—
(a)y ffi a bennir yng ngholofn 4 o Atodlen 1 os yw'r llwyth yn un y mae paragraff (2)(a)(i) yn gymwys iddo; neu
(b)y ffi a bennir yng ngholofn 5 o Atodlen 2 os yw'r llwyth yn un y mae paragraff (2)(a)(ii) yn gymwys iddo.
(4) Yn y rheoliad hwn, ystyr “oriau gwaith yn ystod y dydd” (“daytime working hours”) yw unrhyw amser rhwng yr oriau 8.30 a.m. a 5.00 p.m. ar unrhyw ddiwrnod ac eithrio dydd Sadwrn, dydd Sul, Dydd Nadolig, Dydd Gwener y Groglith neu ddiwrnod sy'n ŵyl banc o dan Ddeddf Bancio a Thrafodion Ariannol 1971(7) yng Nghymru.
3.—(1) Mae'r ffioedd a bennir yn Atodlen 4 yn daladwy mewn perthynas â'r swyddogaethau a bennir yng ngholofn 1 o'r Atodlen honno, sy'n ymwneud â chais am—
(a)ardystiad o datws hadyd yn unol â rheoliad 9 o'r Rheoliadau Tatws Hadyd;
(b)awdurdodiad i farchnata tatws hadyd yn unol â rheoliad 8 o'r Rheoliadau hynny.
(2) Mae'r ffi sy'n daladwy mewn perthynas â swyddogaeth yn ddarostyngedig i unrhyw leiafswm ffi a bennir yng ngholofn 3 o Atodlen 4 mewn perthynas â'r swyddogaeth honno.
(3) Rhaid talu'r ffi mewn perthynas â swyddogaeth a bennir yn Atodlen 4 i Weinidogion Cymru.
(4) Yn y rheoliad hwn, ystyr “y Rheoliadau Tatws Hadyd” (“the Seed Potatoes Regulations”) yw Rheoliadau Tatws Hadyd (Cymru) 2006(8).
4.—(1) Mae'r ffioedd sy'n daladwy o dan y rheoliad hwn yn ymwneud â thrwydded a ddisgrifir yn erthygl 40 neu 41 o'r GIP.
(2) Mewn perthynas â chais neu arolygiad o fath a ddisgrifir yng ngholofn 2 o Atodlen 5, rhaid i berson dalu i Weinidogion Cymru y ffi a bennir yng ngholofn 3 o'r Atodlen honno mewn perthynas â'r math hwnnw o gais neu arolygiad.
5.—(1) Rhaid talu'r ffi a bennir ym mharagraff (2) i Weinidogion Cymru mewn perthynas ag unrhyw arolygiad (gan gynnwys arolygiad o gofnodion busnes) a gyflawnir mewn cysylltiad ag—
(a)cais am awdurdod; neu
(b)sicrhau cydymffurfiaeth ag unrhyw amodau y rhoddwyd awdurdod yn ddarostyngedig iddynt.
(2) Y ffi yw £31.50 am bob chwarter awr neu ran o chwarter awr (gan gynnwys yr amser a dreulir ar arolygu, ar deithio ac ar weinyddu cysylltiedig), yn ddarostyngedig i leiafswm ffi o £63.00 am bob ymweliad.
(3) Yn y rheoliad hwn, ystyr “awdurdod” (“authority”) yw awdurdod i ddyroddi pasbortau planhigion, a roddir o dan erthygl 8 o Orchymyn Iechyd Planhigion (Phytophthora ramorum) (Cymru) 2006(9) neu erthygl 29 o'r GIP.
6.—(1) Pan fo arolygydd yn cymryd sampl o datws sy'n tarddu o'r Aifft, er mwyn canfod, at ddibenion paragraff 5 o'r Atodiad i'r Penderfyniad, a yw'r tatws hynny wedi eu heintio â Ralstonia solanacearum (Smith) Yabuuchi et al., rhaid i'r mewnforiwr dalu i Weinidogion Cymru ffi o £87.80 mewn perthynas â phob lot y cymerir sampl ohoni.
(2) Yn y rheoliad hwn, ystyr “y Penderfyniad” (“the Decision”) yw Penderfyniad Gweithredu'r Comisiwn 2011/787/EU sy'n awdurdodi Aelod-wladwriaethau i weithredu mesurau argyfwng dros dro yn erbyn lledaenu Ralstonia solanacearum (Smith) Yabuuchi et al., mewn cysylltiad â'r Aifft(10).
7. Dirymir y canlynol—
(a)Rheoliadau Iechyd Planhigion (Ffioedd Trwyddedau) (Cymru a Lloegr) 1996(11), o ran Cymru yn unig;
(b)rheoliad 6 o Reoliadau Tatws sy'n Tarddu o'r Aifft (Cymru) 2004(12);
(c)Rheoliadau Tatws Hadyd (Ffioedd) (Cymru) (Rhif 2) 2006(13);
(ch)Rheoliadau Iechyd Planhigion (Ffioedd Pasbortau Planhigion) (Cymru) 2007(14);
(d)Rheoliadau Iechyd Planhigion (Ffioedd Arolygu Mewnforio) (Cymru) 2010(15); ac
(dd)Rheoliadau Iechyd Planhigion (Ffioedd Arolygu Mewnforio) (Cymru) (Diwygio) 2012(16).
John Griffiths
Gweinidog yr Amgylchedd a Datblygu Cynaliadwy, un o Weinidogion Cymru
5 Mehefin 2012
Rheoliad 2(1)(a), (2)(a)(i) a (3)(a)
Colofn 1 | Colofn 2 | Colofn 3 | Colofn 4 |
---|---|---|---|
Planhigyn, cynnyrch planhigion neu wrthrych arall | Nifer | Ffi am bob llwyth (oriau gwaith yn ystod y dydd) (£) | Ffi am bob llwyth (oriau gwaith heb fod yn ystod y dydd) (£) |
Torion, egin blanhigion (ac eithrio deunydd coedwigaeth atgenhedlol), planhigion ifanc mefus neu lysiau | hyd at 10,000 o ran nifer | 46.98 | 70.47 |
am bob 1,000 ychwanegol, neu ran o hynny | 1.88, hyd at uchafswm o 375.84 | 2.81, hyd at uchafswm o 563.76 | |
Llwyni, coed (ac eithrio coed Nadolig wedi'u torri), planhigion meithrinfa prennaidd eraill yn cynnwys deunydd coedwigaeth atgenhedlol (ac eithrio hadau) | hyd at 1,000 o ran nifer | 46.98 | 70.47 |
am bob 100 ychwanegol, neu ran o hynny | 1.15, hyd at uchafswm o 375.84 | 1.73, hyd at uchafswm o 563.76 | |
Bylbiau, cormau, rhisomau, cloron (ac eithrio cloron tatws) a fwriedir ar gyfer eu plannu | hyd at 200 kg | 46.98 | 70.47 |
am bob 10 kg ychwanegol, neu ran o hynny | 0.43, hyd at uchafswm o 375.84 | 0.64, hyd at uchafswm o 563.76 | |
Hadau, meithrinia dau meinwe | hyd at 100 kg | 20.13 | 30.20 |
am bob 10 kg ychwanegol, neu ran o hynny | 0.46, hyd at uchafswm o 375.84 | 0.69, hyd at uchafswm o 563.76 | |
Planhigion eraill a fwriedir ar gyfer eu plannu, nas pennir yn unman arall yn yr Atodlen hon | hyd at 5,000 o ran nifer | 46.98 | 70.47 |
am bob 100 ychwanegol, neu ran o hynny | 0.46, hyd at uchafswm o 375.84 | 0.69, hyd at uchafswm o 563.76 | |
Blodau wedi'u torri | hyd at 20,000 o ran nifer | 46.98 | 70.47 |
am bob 1,000 ychwanegol, neu ran o hynny | 0.36, hyd at uchafswm o 375.84 | 0.54, hyd at uchafswm o 563.76 | |
Canghennau gyda deiliant, rhannau o gonifferau (ac eithrio coed Nadolig wedi'u torri) | hyd at 100 kg | 46.98 | 70.47 |
am bob 100 kg ychwanegol, neu ran o hynny | 4.67, hyd at uchafswm o 375.84 | 7.01, hyd at uchafswm o 563.76 | |
Coed Nadolig sydd wedi'u torri | hyd at 1,000 o ran nifer | 46.98 | 70.47 |
am bob 100 ychwanegol, neu ran o hynny | 4.67, hyd at uchafswm o 375.84 | 7.01, hyd at uchafswm o 563.76 | |
Dail planhigion, megis perlysiau, sbeisys a llysiau deiliog | hyd at 100 kg | 46.98 | 70.47 |
am bob 10 kg ychwanegol, neu ran o hynny | 4.67, hyd at uchafswm o 375.84 | 7.01, hyd at uchafswm o 563.76 | |
Ffrwythau, llysiau (ac eithrio llysiau deiliog) | hyd at 25,000 kg | 46.98 | 70.47 |
am bob 1,000 kg ychwanegol, neu ran o hynny | 1.88 | 2.81 | |
Cloron tatws | hyd at 25,000 kg | 140.94 (am bob lot) | 211.41 (am bob lot) |
am bob 25,000 kg ychwanegol neu ran o hynny | 140.94 (am bob lot) | 211.41 (am bob lot) | |
Pridd a chyfrwng tyfiant, rhisgl | hyd at 25,000 kg | 46.98 | 70.47 |
am bob 1,000 kg ychwanegol, neu ran o hynny | 1.88, hyd at uchafswm o 375.84 | 2.81, hyd at uchafswm o 563.76 | |
Grawn | hyd at 25,000 kg | 46.98 | 70.47 |
am bob 1,000 kg ychwanegol, neu ran o hynny | 1.88, hyd at uchafswm o 1879.19 | 2.81, hyd at uchafswm o 2818.78 | |
Planhigion eraill neu gynhyrchion planhigion eraill nas pennir yn unman arall yn yr Atodlen hon, ac eithrio coed fforestydd | am bob llwyth | 46.98 | 70.47 |
Rheoliad 2(2)(a)(ii) a (3)(b)
Colofn 1 | Colofn 2 | Colofn 3 | Colofn 4 | Colofn 5 |
---|---|---|---|---|
Genws | Nifer | Gwlad tarddiad | Ffi am bob llwyth (oriau gwaith yn ystod y dydd) (£) | Ffi am bob llwyth (oria gwaith heb fod yn ystod y dydd) (£) |
Blodau wedi'u torri | ||||
Dianthus | hyd at 20,000 o ran nifer | Colombia | 2.35 | 3.52 |
Ecuador | 4.70 | 7.05 | ||
Kenya | 2.35 | 3.52 | ||
Twrci | 11.74 | 17.62 | ||
am bob 1,000 ychwanegol neu ran o hynny | Colombia | 0.02, hyd at uchafswm o 18.79 | 0.03, hyd at uchafswm o 28.19 | |
Ecuador | 0.04, hyd at uchafswm o 37.58 | 0.07, hyd at uchafswm o 56.38 | ||
Kenya | 0.02, hyd at uchafswm o 18.79 | 0.03, hyd at uchafswm o 28.19 | ||
Twrci | 0.10, hyd at uchafswm o 93.96 | 0.15, hyd at uchafswm o 140.94 | ||
Rosa | hyd at 20,000 o ran nifer | Colombia | 1.41 | 2.11 |
Ecuador | 1.41 | 2.11 | ||
Ethiopia | 2.35 | 3.52 | ||
Kenya | 2.35 | 3.52 | ||
Tanzania | 4.70 | 7.05 | ||
Uganda | 11.74 | 17.62 | ||
Zambia | 11.74 | 17.62 | ||
am bob 1,000 ychwanegol neu ran o hynny | Colombia | 0.01, hyd at uchafswm o 11.28 | 0.01, hyd at uchafswm o 16.91 | |
Ecuador | 0.01, hyd at uchafswm o 11.28 | 0.01, hyd at uchafswm o 16.91 | ||
Ethiopia | 0.02, hyd at uchafswm o 18.79 | 0.03, hyd at uchafswm o 28.19 | ||
Kenya | 0.02, hyd at uchafswm o 18.79 | 0.03, hyd at uchafswm o 28.19 | ||
Tanzania | 0.04, hyd at uchafswm o 37.58 | 0.07, hyd at uchafswm o 56.38 | ||
Uganda | 0.07, hyd at uchafswm o 93.96 | 0.10, hyd at uchafswm o 140.94 | ||
Zambia | 0.07, hyd at uchafswm o 93.96 | 0.10, hyd at uchafswm o 140.94 | ||
Canghennau gyda deiliant | ||||
Phoenix | hyd at 100 kg | Costa Rica | 16.44 | 24.66 |
am bob 100 kg ychwanegol neu ran o hynny | Costa Rica | 1.63, hyd at uchafswm o 131.54 | 2.45, hyd at uchafswm o 197.32 | |
Ffrwythau | ||||
Citrus | hyd at 25,000 kg | Yr Aifft | 7.05 | 10.57 |
Israel | 4.70 | 7.05 | ||
Mecsico | 7.05 | 10.57 | ||
Moroco | 2.35 | 3.52 | ||
Periw | 11.74 | 17.62 | ||
Twrci | 1.41 | 2.11 | ||
Uruguay | 7.05 | 10.57 | ||
UDA | 7.05 | 10.57 | ||
am bob 1,000 kg ychwanegol neu ran o hynny | Yr Aifft | 0.26 | 0.39 | |
Israel | 0.19 | 0.28 | ||
Mecsico | 0.26 | 0.39 | ||
Moroco | 0.07 | 0.10 | ||
Periw | 0.47 | 0.70 | ||
Twrci | 0.03 | 0.05 | ||
Uruguay | 0.26 | 0.39 | ||
UDA | 0.26 | 0.39 | ||
Malus | hyd at 25,000 kg | Ariannin | 4.70 | 7.05 |
Brasil | 7.05 | 10.57 | ||
Chile | 2.35 | 3.52 | ||
Tsieina | 23.49 | 35.23 | ||
Seland Newydd | 4.70 | 7.05 | ||
De Affrica | 2.35 | 3.52 | ||
UDA | 11.74 | 17.62 | ||
am bob 1,000 kg ychwanegol neu ran o hynny | Ariannin | 0.19 | 0.28 | |
Brasil | 0.28 | 0.42 | ||
Chile | 0.09 | 0.14 | ||
Tsieina | 0.94 | 1.40 | ||
Seland Newydd | 0.19 | 0.28 | ||
De Affrica | 0.09 | 0.14 | ||
UDA | 0.47 | 0.70 | ||
Passiflora | hyd at 25,000 kg | Colombia | 4.70 | 7.05 |
Kenya | 4.70 | 7.05 | ||
De Affrica | 23.49 | 35.23 | ||
Zimbabwe | 16.44 | 24.66 | ||
am bob 1,000 kg ychwanegol neu ran o hynny | Colombia | 0.16 | 0.25 | |
Kenya | 0.16 | 0.25 | ||
De Affrica | 0.92 | 1.38 | ||
Zimbabwe | 0.63 | 0.94 | ||
Prunus | hyd at 25,000 kg | Ariannin | 16.44 | 24.66 |
Chile | 4.70 | 7.05 | ||
De Affrica | 4.70 | 7.05 | ||
Twrci | 4.70 | 7.05 | ||
UDA | 4.70 | 7.05 | ||
am bob 1000 kg ychwanegol neu ran o hynny | Ariannin | 0.63 | 0.94 | |
Chile | 0.16 | 0.25 | ||
De Affrica | 0.16 | 0.25 | ||
Twrci | 0.16 | 0.25 | ||
UDA | 0.16 | 0.25 | ||
Pyrus | hyd at 25,000 kg | Ariannin | 4.70 | 7.05 |
Chile | 11.74 | 17.62 | ||
Tsieina | 16.44 | 24.66 | ||
De Affrica | 4.70 | 7.05 | ||
am bob 1,000 kg ychwanegol neu ran o hynny | Ariannin | 0.16 | 0.25 | |
Chile | 0.47 | 0.70 | ||
Tsieina | 0.66 | 0.98 | ||
De Affrica | 0.16 | 0.25 | ||
Llysiau | ||||
Solanum melongena | hyd at 25,000 kg | Twrci | 4.70 | 7.05 |
am bob 1,000 kg ychwanegol neu ran o hynny | Twrci | 0.16 | 0.25 |
Rheoliad 2(2)(b)
Colofn 1 | Colofn 2 | Colofn 3 |
---|---|---|
Gwiriad | Nifer | Ffi (£) |
Dogfennol | am bob llwyth | 5.36 |
Adnabod | am bob llwyth hyd at faint llwyth lori, llwyth wagen reilffordd neu lwyth cynhwysydd o faint cymharol | 5.36 |
am bob llwyth sy'n fwy na'r maint uchod | 10.71 |
Rheoliad 3
Colofn 1 | Colofn 2 | Colofn 3 | |
---|---|---|---|
Swyddogaeth | Ffi1 (£) | Lleiafswm ffi (£) | |
1 Mae'r cyfraddau, a restrir yn y golofn hon ac yng ngholofn 3, sydd wedi eu marcio â seren yn gyfraddau fesul awr neu ran o awr, a'r cyfraddau nad ydynt wedi eu marcio felly yn gyfraddau fesul hanner hectar neu ran o hanner hectar. | |||
Arolygu cnydau sy'n tyfu a darparu labeli a seliau mewn perthynas â cheisiadau | |||
Ardystio fel tatws hadyd cyn-sylfaenol | 122.57* | n/a | |
Ardystio fel tatws hadyd sylfaenol a ddosberthir fel: | super elite 1, super elite 2 neu super elite 3 | 61.29 | 122.57 |
elite 1, elite 2 neu elite 3 | 61.29 | 122.57 | |
A | 58.26 | 116.52 | |
Ardystio fel tatws hadyd ardystiedig | 52.96 | 105.93 | |
Awdurdodiad i farchnata tatws hadyd | 122.57* | n/a | |
Arolygu cloron a gynaeafwyd | |||
Hyd at ddau arolygiad | 18.16 | 36.32 | |
Trydydd arolygiad ac arolygiadau dilynol | 122.57* | n/a |
Rheoliad 4(2)
Colofn 1 | Colofn 2 | Colofn 3 |
---|---|---|
Eitem | Math o gais neu arolygiad | Ffi (£) |
1 | Cais am drwydded ac eithrio trwydded sy'n dod o fewn eitem 2 neu 3 | 781.27 |
2 | Cais am drwydded mewn perthynas â phridd neu gyfrwng tyfu arall ar gyfer ei ddadansoddi | 563.54 |
3 | Cais am drwydded at ddibenion gwyddonol neu ddibenion treialu, sy'n ymwneud â 5 neu ragor o fathau o bethau | 781.27, plws 30.74 am bob math o beth dros ben y 5 |
4 | Cais am adnewyddu neu amrywio trwydded gyda newidiadau, pan fo asesiad gwyddonol neu dechnegol yn ofynnol | 256.15 |
5 | Cais am adnewyddu trwydded heb newidiadau, neu gais am adnewyddu neu amrywio trwydded gyda newidiadau bach yn unig, pan nad yw asesiad gwyddonol neu dechnegol yn ofynnol | 30.74 |
6 | Arolygu a gweithgareddau cysylltiedig (gan gynnwys amser teithio ac amser swyddfa) i fonitro cydymffurfiaeth â thelerau ac amodau trwydded | 42.06 am bob awr neu ran o awr |
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)
Mae'r Rheoliadau hyn, sy'n gymwys o ran Cymru, yn pennu ffioedd sy'n daladwy i Weinidogion Cymru ym maes iechyd planhigion.
Mae'r ffioedd yn daladwy mewn perthynas ag arolygiadau penodedig a gweithrediadau eraill a gyflawnir yn unol â Chyfarwyddeb y Cyngor 2000/29/EC ar fesurau i amddiffyn rhag dwyn i mewn i'r Gymuned organebau sy'n niweidiol i blanhigion neu gynhyrchion planhigion, a rhag i'r organebau hynny ymledu o fewn y Gymuned (OJ Rhif L 169, 10.7.2000, t.1).
Pennir y ffioedd am wiriadau dogfennol, gwiriadau adnabod a gwiriadau iechyd planhigion mewn perthynas â mewnforion penodol o blanhigion, cynhyrchion planhigion a gwrthrychau eraill o drydydd gwledydd (rheoliad 2 ac Atodlenni 1, 2 a 3), yn unol â'r gofyniad yn Erthygl 13d o Gyfarwyddeb 2000/29/EC.
Mae'r Rheoliadau yn cydgrynhoi nifer o offerynnau blaenorol a oedd yn ymdrin ar wahân â ffioedd penodol ynglŷn ag iechyd planhigion; dirymir yr offerynnau blaenorol hynny (rheoliad 7). Nid yw'r Rheoliadau hyn yn cyflwyno unrhyw fathau newydd o ffioedd.
Mae lefelau'r ffioedd y darperir ar eu cyfer yn yr offeryn hwn yn rhan o symudiad fesul cam, dros gyfnod o dair blynedd, tuag at ffioedd sy'n adennill y gost lawn. Cynyddir y rhan fwyaf o'r ffioedd yn sylweddol: pennir cynnydd o 229% mewn ffioedd arolygu mewnforio, 52% yn y ffioedd mewn perthynas â thatws hadyd, 160% mewn ffioedd trwyddedu, 184% yn y ffioedd am arolygu tatws sy'n tarddu o'r Aifft, a 55% yn y ffioedd am wasanaethau pasbortau planhigion. Darperir manylion pellach yn y Memorandwm Esboniadol.
Paratowyd asesiadau rheoleiddiol o effaith yr offeryn hwn ar gostau busnes, mewn perthynas â phob un o'r pum math o ffioedd y mae'r offeryn hwn yn ymwneud â hwy, ac maent ar gael gan Adran yr Amgylchedd a Datblygu Cynaliadwy, Llywodraeth Cymru, Parc Cathays, Caerdydd CF10 3NQ.
Yn rhinwedd Erthygl 3 o Orchymyn y Cymunedau Ewropeaidd (Dynodi) (Rhif 5) 2010, O.S. 2010/2690.
1972 p.68; diwygiwyd adran 2(2) gan adran 27(1)(a) o Ddeddf Diwygio Deddfwriaethol a Rheoleiddiol 2006 (p.51) a Rhan 1 o'r Atodlen i Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Diwygio) 2008 (p.7).
1973 p.51. Diddymwyd is-adran (6) o adran 56 gan Ddeddf Cyfraith Statud (Diddymiadau) 1977 (p.18).
Yn rhinwedd adran 59(5) o Ddeddf Llwyodraeth Cymru 2006 p.32.
OJ Rhif L 169, 10.7.2000, t.1, fel y'i diwygiwyd ddiwethaf gan Gyfarwyddeb y Comisiwn 2010/1/EU (OJ Rhif L 7, 12.1.2010, t.17).
1971 p.80; gweler adran 1 ac Atodlen 1.
OJ Rhif L 319, 2.12.2011, t.112.
O.S. 2010/2917 (Cy.242), a ddiwygiwyd gan O.S. 2012/285 Cy.49).