Addasiadau o'r Rheoliadau Llywodraethu
4.—(1) Mae'r addasiadau canlynol i'r Rheoliadau Llywodraethu yn gymwys at ddibenion y Rheoliadau hyn.
(2) Mae cyfeiriadau at “corff llywodraethu”, “llywodraethwr” a “llywodraethwyr” i'w darllen fel cyfeiriadau at “corff llywodraethu cysgodol”, “llywodraethwr cysgodol” a “llywodraethwyr cysgodol”.
(3) Mae cyfeiriadau at wahanol gategorïau o lywodraethwyr i'w darllen fel cyfeiriadau at lywodraethwyr cysgodol o'r un categori.