xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"
Offerynnau Statudol Cymru
DIOGELU'R ARFORDIR, CYMRU
DIOGELU'R AMGYLCHEDD, CYMRU
RHEOLI PERYGL LLIFOGYDD, CYMRU
Gwnaed
28 Mehefin 2012
Wedi'u gosod gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru
29 Mehefin 2012
Yn dod i rym
20 Gorffennaf 2012
Mae Gweinidogion Cymru, mewn perthynas â dynodi adeileddau neu nodweddion yng Nghymru, wrth arfer y pwerau a roddwyd gan adrannau 30 ac 48(2) o Ddeddf Rheoli Llifogydd a Dŵr 2010 (1), a pharagraff 16 o Atodlen 1 i'r Ddeddf honno yn gwneud y Rheoliadau canlynol.
1.—(1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Dynodi Nodweddion (Hysbysiadau) (Cymru) 2012 a deuant i rym ar 20 Gorffennaf 2012.
(2) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran dynodi adeileddau neu nodweddion yng Nghymru.
2.—(1) Mae'n rhaid i hysbysiad a ddyroddir o dan baragraff 6(3)(b) o Atodlen 1 i Ddeddf Rheoli Llifogydd a Dŵr 2010 (hysbysiadau a roddir mewn modd ar wahân i gais gan y perchennog) nodi'r dyddiad y bwriedir y bydd yr hysbysiad yn cael effaith. Yn ddarostyngedig i baragraff (2), rhaid i hwn fod yn ddyddiad 28 o ddiwrnodau fan leiaf wedi dyddiad dyroddi'r hysbysiad.
(2) Caiff y dyddiad y mae'n ofynnol ei bennu dan baragraff (1) fod yn gynt na 28 o ddiwrnodau os yw'r awdurdod cyfrifol yn ystyried bod hynny'n angenrheidiol mewn argyfwng.
John Griffiths
Gweinidog yr Amgylchedd a Datblygu Cynaliadwy, un o Weinidogion Cymru
28 Mehefin 2012
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)
O dan adran 30 o Ddeddf Rheoli Llifogydd a Dŵr 2010 (p.29) (“y Ddeddf”) ac Atodlen 1 iddi, caiff Asiantaeth yr Amgylchedd, awdurdod llifogydd lleol arweiniol neu fwrdd draenio mewnol ddynodi adeileddau neu nodweddion amgylcheddol sy'n effeithio ar y risg o lifogydd neu erydu arfordirol, hyd yn oed os nad yw'r adeileddau neu nodweddion wedi eu cynllunio neu eu hadeiladu ar gyfer y diben hwnnw.
Unwaith y bydd wedi ei dynodi, ni chaiff perchennog y nodwedd ddynodedig ei haddasu, ei thynnu ymaith na'i hamnewid heb ganiatâd yr awdurdod perthnasol, sef yw hynny naill ai yr awdurdod a ddynododd y nodwedd neu'r awdurdod sydd ers hynny wedi cymryd cyfrifoldeb dros y dynodiad yn unol ag Atodlen 1 i'r Ddeddf (yr “Awdurdod Cyfrifol”). Mae paragraff 6(3)(b) o Atodlen 1 i'r Ddeddf yn rhoi pŵer i'r Awdurdod Cyfrifol i ddyroddi caniatâd i addasu, tynnu ymaith neu amnewid nodwedd ddynodedig neu adeiledd dynodedig (neu amrywio caniatâd o'r fath neu ei dynnu yn ôl) ar wahân i wrth ymateb i gais gan berchennog (“hysbysiad paragraff 6(3)(b)”). Mae paragraff 16 o Atodlen 1 i'r Ddeddf yn rhoi pŵer i Weinidogion Cymru i wneud darpariaeth ynghylch ffurf, cynnwys a dull cyflwyno hysbysiad o dan Atodlen 1 i'r Ddeddf.
Mae'r Rheoliadau hyn yn darparu gofyniad i bob hysbysiad paragraff 6(3)(b) bennu cyfnod hysbysu gofynnol cyn iddo gael effaith, ynghyd ag eithriad i'r gofyniad hwn. Hyd y cyfnod hysbysu penodedig yw 28 o ddiwrnodau ar ôl dyddiad dyroddi'r hysbysiad er y caiff Awdurdod Cyfrifol bennu cyfnod hysbysu byrrach os yw'n ystyried bod hynny'n angenrheidiol mewn argyfwng.
Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar wneud Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â'r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, paratowyd asesiad effaith rheoleiddiol o gostau a buddiannau tebygol cydymffurfio â'r Rheoliadau hyn. Gellir cael copi ohono gan Lywodraeth Cymru, Parc Cathays, Caerdydd, CF10 3NQ.
2010 p.29. Mae paragraff 16 o Atodlen 1 i Ddeddf Rheoli Llifogydd a Dŵr 2010 yn rhoi pwerau i “the Minister” ac mae paragraff 17 o Atodlen 1 i'r Ddeddf honno yn diffinio “the Minister” at ddibenion yr Atodlen honno.