xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

RHAN 3Marchnata hadau

Marchnata hadau

8.  Ni cheir marchnata hadau y mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys iddynt fel hadau os nad ydynt—

(a)wedi eu hardystio o dan reoliadau 10 a 11 fel hadau o un o'r categorïau yn rheoliad 5;

(b)wedi eu pecynnu a'u selio yn unol â rheoliad 16;

(c)wedi eu labelu yn unol â rheoliad 17;

(ch)yn cael eu marchnata gan berson a drwyddedwyd i wneud hynny yn unol â rheoliad 20.

Eithriadau

9.—(1Nid yw'r gofyniad i ardystio yn gymwys mewn perthynas â hadau bridiwr.

(2Mae Atodlen 4 yn gwneud darpariaeth ar gyfer marchnata hadau nad ydynt yn cydymffurfio'n llawn â rheoliad 8.

Gofynion gor-redol ar gyfer ardystio

10.  Er mwyn eu hardystio o dan y Rheoliadau hyn fel un o'r categorïau yn rheoliad 5, rhaid i'r hadau fod—

(a)o amrywogaeth a gofnodwyd yn Rhestr Genedlaethol y Deyrnas Unedig neu'r Catalog Cyffredin;

(b)wedi eu tyfu o hadau sy'n gymwys ar gyfer cynhyrchu'r categori hwnnw yn unol ag Atodlen 2;

(c)yn dod o gnwd a archwiliwyd o dan y Rheoliadau hyn ac yr ardystiwyd ei fod yn cydymffurfio â gofynion Atodlen 2;

(ch)wedi eu profi yn unol â'r Rheoliadau hyn.

Gofynion manwl ar gyfer ardystio

11.—(1Er mwyn eu hardystio, rhaid cofnodi sampl o'r hadau y caiff y cnwd ei gynhyrchu ohonynt gyda Gweinidogion Cymru, mewn da bryd er mwyn rhoi digon o amser i Weinidogion Cymru dyfu plot rheoli.

(2Caiff Gweinidogion Cymru dderbyn cofnodi sampl o'r hadau ar ôl yr amser hwnnw, ond mewn achos o'r fath, rhaid i'r cnwd a dyfir i gynhyrchu'r hadau gael ei archwilio gan arolygydd cnydau swyddogol yn unol â rheoliad 12.

(3Rhaid i'r cnwd a ddefnyddir i gynhyrchu'r hadau gael ei archwilio gan arolygydd cnydau yn unol â'r darpariaethau sy'n ymwneud â'r cnwd hwnnw yn Atodlen 2, a rhaid i'r arolygydd cnydau ardystio—

(a)bod y cnwd yn cyrraedd y safon ar gyfer y cnwd hwnnw a bennir yn Atodlen 2, neu

(b)bod y cnwd yn cyrraedd safon is, ond er hynny'n cyrraedd un o'r safonau yn Atodlen 2,

a chyflwyno adroddiad i'r perwyl hwnnw i Weinidogion Cymru.

(4Caiff yr arolygydd cnydau ddynodi bod angen gwneud gwaith adferol neu gynnal archwiliad pellach cyn ardystio bod y cnwd yn cyrraedd y safon ofynnol.

(5Unwaith y bydd y cnwd wedi ei gynaeafu a'i brosesu, rhaid i samplwr hadau trwyddedig gymryd sampl o'r hadau (gan ddefnyddio dulliau samplu rhyngwladol cyfredol, i'r graddau y maent yn bodoli) yn unol â'r darpariaethau sy'n ymwneud â'r cnwd hwnnw yn Atodlen 2 (er mwyn osgoi amheuaeth, bydd meintiau y lotiau hadau a phwysau'r samplau yn cael eu pennu ym mhob un o'r Cyfarwyddebau yn yr Atodlen honno, sy'n ymdrin â'r hadau).

(6Rhaid profi'r hadau mewn gorsaf brofi hadau (sydd naill ai wedi ei thrwyddedu neu'n cael ei gweithredu gan Weinidogion Cymru), a rhaid i'r orsaf honno brofi'r hadau (gan ddefnyddio dulliau samplu a phrofi rhyngwladol cyfredol, i'r graddau y maent yn bodoli) er mwyn sicrhau y cydymffurfir â'r safonau ardystio yn Atodlen 2, a dyroddi adroddiad prawf hadau sy'n datgan y canlyniadau, a chyflwyno'r adroddiad hwnnw i Weinidogion Cymru.

Archwilio cnydau

12.  Rhaid i archwiliad o gnwd ar gyfer ardystio gael ei gynnal gan arolygydd cnydau trwyddedig; ac eithrio archwiliad o—

(a)cnwd a fwriedir ar gyfer cynhyrchu hadau cyn-sylfaenol neu hadau sylfaenol, neu

(b)cnwd sy'n cynhyrchu hadau, pan gofnodir yr hadau o dan reoliad 11 yn rhy hwyr i ganiatáu i Weinidogion Cymru dyfu plot rheoli,

a rhaid i'r archwiliad, bryd hynny, gael ei gynnal gan arolygydd cnydau swyddogol a benodir gan Weinidogion Cymru at ddibenion archwiliadau o'r fath.

Safon hadau ar adeg eu marchnata

13.  Ar yr adeg y cânt eu marchnata, rhaid i'r hadau gydymffurfio, o leiaf, â'r safonau yn Atodlen 2 sy'n ymwneud â'r math hwnnw o hadau.

Ailraddio cnwd neu hadau

14.  Er mwyn osgoi amheuaeth, os ardystiwyd bod cnwd neu hadau yn perthyn i un categori, ond y cnwd neu'r hadau yn cydymffurfio â gofynion categori arall ar gyfer yr hadau hynny, ceir ailraddio'r cnwd neu'r hadau fel unrhyw gategori y mae, neu y maent, yn bodloni'r gofynion ar ei gyfer.

Plotiau rheoli a phrofion

15.—(1Rhaid i Weinidogion Cymru gyflawni unrhyw brofion angenrheidiol ar yr hadau a gofnodir, ac yn benodol, rhaid iddynt dyfu'r hadau mewn plot rheoli.

(2Os bydd y profion neu'r plot rheoli'n bodloni'r gofynion o ran hunaniaeth amrywogaethol a phurdeb amrywogaethol, ni chymerir unrhyw gamau pellach.

(3Fel arall, rhaid i Weinidogion Cymru gael rhagor o wybodaeth o gnydau a dyfir o'r hadau hynny ac, os penderfynant nad yw'r cnwd yn foddhaol, rhaid i Weinidogion Cymru hysbysu'r ceisydd na cheir ardystio'r cnwd, neu fod rhaid ei israddio i gategori is.

Pecynnu a selio

16.—(1Rhaid i'r holl hadau, ac eithrio hadau a werthir yn rhydd (ynglŷn â hynny gweler Rhan 5 o Atodlen 3), gael eu cyflenwi mewn pecynnau seliedig, gan berson a drwyddedwyd i wneud hynny o dan reoliad 20.

(2Rhaid i'r hadau a becynnir fod mewn lotiau unffurf.

(3Rhaid i becyn gael ei selio gan, neu o dan oruchwyliaeth, samplwr hadau trwyddedig.

(4Rhaid i'r pecyn fod â system selio na ellir ei hailddefnyddio, neu gael ei selio mewn modd y byddai ei agor—

(a)yn difrodi'r system selio; neu

(b)yn gadael tystiolaeth o ymyrryd, naill ai ar y label neu ar y pecyn.

(5Os agorir pecyn gan rywun ac eithrio'r defnyddiwr terfynol, rhaid ail-labelu'r pecyn a'i ailselio gan, neu o dan oruchwyliaeth, samplwr hadau trwyddedig, a rhaid datgan, ar y label, y ffaith ei fod wedi ei ailselio, y dyddiad yr ailseliwyd ef ddiwethaf a'r awdurdod sy'n gyfrifol amdano.

(6Nid yw'r rheoliad hwn yn gymwys mewn perthynas â marchnata pecynnau bach o hadau fel y'u diffinnir yn Atodlen 3.

Labelu

17.—(1Rhaid i'r holl hadau gael eu labelu yn unol ag Atodlen 3 gan berson a drwyddedwyd i wneud hynny o dan reoliad 20.

(2Ni chaiff neb atgynhyrchu, tynnu ymaith, newid, difwyno, cuddio na chamddefnyddio mewn unrhyw ffordd unrhyw label a gynhyrchwyd at ddibenion y Rheoliadau hyn.

Cymysgeddau o hadau

18.  Ni cheir marchnata cymysgedd o hadau onid yw'r cymysgedd yn un a ganiateir o dan y tabl canlynol.

Cymysgeddau a ganiateir

Pennawd colofnBetysYdauPorthiantOlew a ffibrLlysiauHadau y tu allan i gwmpas y Rheoliadau hyn
a

Caniateir cymysgedd o amrywogaethau o un rhywogaeth o hadau ŷd os, yn unig, yw'n effeithiol yn erbyn lledaenu organeb niweidiol. Rhaid i'r hadau i gyd gydymffurfio â'r Rheoliadau hyn cyn eu cymysgu.

b

Rhaid marchnata cymysgedd o hadau safonol o wahanol amrywogaethau o'r un rhywogaeth mewn pecyn sy'n cynnwys dim mwy na 5kg o hadau (yn achos codlysiau), 500g o hadau (yn achos merllys, betys coch, moron, dail betys neu fetys ysbigoglys, gowrdiau, maros, nionod, radis, ysbigoglys neu faip) neu 100g o hadau (yn achos unrhyw rywogaeth arall).

BetysNa cheirNa cheirNa cheirNa cheirNa cheirNa cheir
YdauNa cheirCeiraCeirNa cheirNa cheirNa cheir
PorthiantNa cheirCeirCeirCeirCeirCeir
Olew a ffibrNa cheirNa cheirCeirNa cheirNa cheirNa cheir
LlysiauNa cheirNa cheirCeirNa cheirCeirbNa cheir

Cofnodion

19.—(1Rhaid i unrhyw berson sy'n—

(a)marchnata hadau,

(b)yn pecynnu, selio, labelu, ailbecynnu, ailselio neu ail-labelu hadau i'w marchnata,

(c)yn paratoi cymysgeddau o hadau i'w marchnata, neu

(ch)yn glanhau, trin neu brosesu rywfodd arall hadau y bwriedir eu marchnata,

wneud cofnodion (naill ai mewn ysgrifen neu'n electronig) sy'n ddigonol i greu trywydd archwilio, fel gellir darganfod hunaniaeth a tharddiad unrhyw hadau sy'n cael eu marchnata, neu'r ymdrinnir â hwy rywfodd arall yn ystod y gweithrediad.

(2Rhaid cadw'r cofnodion am 3 blynedd o leiaf, a'u dangos os gofynnir am eu gweld, i un o swyddogion Gweinidogion Cymru (yn achos cofnodion electronig, rhaid darparu allbrint).