Chwilio Deddfwriaeth

Rheoliadau Marchnata Hadau (Cymru) 2012

Statws

Dyma’r fersiwn wreiddiol (fel y’i gwnaed yn wreiddiol).

Rheoliadau 10, 11, 13 a 23

ATODLEN 2Gofynion ardystio

  1. RHAN 1 Betys

    1. 1.Cwmpas Rhan 1

    2. 2.Dehongli

    3. 3.Mathau a ganiateir o hadau betys

    4. 4.Ystyr “hadau cyn-sylfaenol”

    5. 5.Ystyr “hadau sylfaenol”

    6. 6.Ystyr “hadau ardystiedig”

    7. 7.Gofynion cnydau a hadau

  2. RHAN 2 Ydau

    1. PENNOD 1 Mathau o hadau

      1. 8.Cwmpas Rhan 2

      2. 9.Mathau a ganiateir o hadau ŷd

      3. 10.Ystyr “hadau cyn-sylfaenol” (gan gynnwys hybridiau)

      4. 11.Ystyr “hadau sylfaenol”

      5. 12.Ystyr “hadau ardystiedig”

      6. 13.Ystyr “hadau ardystiedig, cenhedlaeth gyntaf”

      7. 14.Ystyr “hadau ardystiedig, ail genhedlaeth”

      8. 15.Gofynion cnydau a hadau

    2. PENNOD 2 Safonau gwirfoddol uwch

      1. 16.Safonau gwirfoddol uwch ar gyfer ydau

      2. 17.Gofynion ychwanegol ar gyfer haidd, gwenith, gwenith caled a gwenith yr Almaen

      3. 18.Hadau o blanhigion eraill

      4. 19.Mallryg a sglerotia

  3. RHAN 3 Planhigion porthiant

    1. PENNOD 1 Safonau sylfaenol

      1. 20.Cwmpas Rhan 3

      2. 21.Mathau a ganiateir o hadau porthiant

      3. 22.Ystyr “hadau cyn-sylfaenol”

      4. 23.Ystyr “hadau sylfaenol”

      5. 24.Ystyr “hadau ardystiedig”

      6. 25.Ystyr “hadau ardystiedig, cenhedlaeth gyntaf”

      7. 26.Ystyr “hadau ardystiedig, ail genhedlaeth”

      8. 27.Ystyr “hadau masnachol”

      9. 28.Gofynion cnydau a hadau

    2. PENNOD 2 Safonau gwirfoddol uwch

      1. 29.Safonau gwirfoddol uwch ar gyfer hadau porthiant

      2. 30.Safonau gofynnol o ran purdeb a rhywogaethau eraill o hadau yn y sampl

  4. RHAN 4 Olew a ffibr

    1. 31.Cwmpas Rhan 4

    2. 32.Mathau a ganiateir o hadau olew a ffibr

    3. 33.Ystyr “hadau cyn-sylfaenol”

    4. 34.Ystyr “hadau sylfaenol” ar gyfer amrywogaethau nad ydynt yn hybridiau

    5. 35.Ystyr “hadau sylfaenol” ar gyfer llinellau mewnfrid

    6. 36.Ystyr “hadau sylfaenol” ar gyfer hybridiau syml

    7. 37.Ystyr “hadau ardystiedig”

    8. 38.Ystyr “hadau ardystiedig, cenhedlaeth gyntaf”

    9. 39.Ystyr “hadau ardystiedig, ail genhedlaeth”

    10. 40.Ystyr “hadau ardystiedig, trydedd genhedlaeth”

    11. 41.Ystyr “hadau masnachol”

    12. 42.Gofynion cnydau a hadau

    13. 43.Gofynion ar gyfer uniad amrywogaethol

  5. RHAN 5 Llysiau

    1. 44.Cwmpas Rhan 5

    2. 45.Mathau a ganiateir o hadau llysiau

    3. 46.Ystyr “hadau cyn-sylfaenol”

    4. 47.Ystyr “hadau sylfaenol”

    5. 48.Ystyr “hadau ardystiedig”

    6. 49.Ystyr “hadau safonol”

    7. 50.Gofynion cnydau a hadau

RHAN 1Betys

Cwmpas Rhan 1

1.  Mae'r Rhan hon yn rheoleiddio'r math o fetys yn Atodlen 1.

Dehongli

2.  Yn y Rheoliadau hyn—

(a)ystyr “hadau uneginol” (“monogerm seed”) yw hadau sy'n uneginol yn enetig; a

(b)“hadau trachywir” (“precision seed”) yw hadau a baratowyd i'w defnyddio mewn heuwr trachywir i gynhyrchu eginblanhigion sengl.

Mathau a ganiateir o hadau betys

3.  Rhaid i hadau betys fod yn—

(a)hadau cyn-sylfaenol;

(b)hadau sylfaenol; neu

(c)hadau ardystiedig.

Ystyr “hadau cyn-sylfaenol”

4.  Hadau cyn-sylfaenol yw hadau—

(a)a gynhyrchwyd o genhedlaeth gynharach na hadau cyn-sylfaenol gan, neu o dan gyfrifoldeb, y bridiwr, yn unol ag arferion a ddiffiniwyd yn eglur ar gyfer cynnal yr amrywogaeth; a

(b)a fwriedir ar gyfer cynhyrchu—

(i)rhagor o hadau cyn-sylfaenol;

(ii)hadau sylfaenol; neu

(iii)gydag awdurdod ysgrifenedig y bridiwr, hadau ardystiedig.

Ystyr “hadau sylfaenol”

5.  Hadau sylfaenol yw hadau—

(a)a gynhyrchwyd o dan gyfrifoldeb y bridiwr yn unol ag arferion a ddiffiniwyd yn eglur ar gyfer cynnal yr amrywogaeth; a

(b)a fwriedir ar gyfer cynhyrchu hadau ardystiedig.

Ystyr “hadau ardystiedig”

6.  Hadau ardystiedig yw hadau sy'n ddisgynyddion uniongyrchol hadau sylfaenol ac a fwriedir ar gyfer cynhyrchu betys.

Gofynion cnydau a hadau

7.—(1Rhaid i archwiliadau o'r cnydau gan arolygwyr cnydau swyddogol neu drwyddedig gael eu cynnal yn unol ag Erthygl 2(3)(A) o Gyfarwyddeb y Cyngor 2002/54/EC ar farchnata hadau betys(1) ac Atodiad I(A) i'r Gyfarwyddeb honno, a rhaid i'r cnwd fodloni'r amodau yn yr Atodiad hwnnw.

(2Rhaid i'r hadau a gynhyrchir gan y cnwd gael eu samplu yn unol ag Erthygl 9(2) o'r Gyfarwyddeb honno ac Atodiad II iddi, a rhaid iddynt fodloni'r amodau yn Atodiad I(B) i'r Gyfarwyddeb honno.

(3Rhaid i'r hadau gael eu labelu yn unol ag Atodiad III i'r Gyfarwyddeb honno.

(4Rhaid i'r cynnwys lleithedd mwyaf beidio â bod yn fwy na 15% yn ôl pwysau.

(5Rhaid i glefydau ac organebau niweidiol sy'n lleihau defnyddioldeb yr hadau fod ar y lefel isaf bosibl.

RHAN 2Ydau

PENNOD 1Mathau o hadau

Cwmpas Rhan 2

8.  Mae'r Rhan hon yn rheoleiddio'r mathau o ydau yn Atodlen 1.

Mathau a ganiateir o hadau ŷd

9.—(1Rhaid i hadau ŷd fod yn—

(a)hadau cyn-sylfaenol;

(b)hadau sylfaenol;

(c)hadau ardystiedig;

(ch)hadau ardystiedig, cenhedlaeth gyntaf;

(d)hadau ardystiedig, ail genhedlaeth; neu

(dd)hadau o safon wirfoddol uwch.

(2Caiff yr hadau fod yn gymysgedd o rywogaethau ŷd o wahanol amrywogaethau ar yr amod bod pob amrywogaeth yn y cymysgedd wedi ei hardystio ac yn effeithiol rhag lledaenu organebau niweidiol.

Ystyr “hadau cyn-sylfaenol” (gan gynnwys hybridiau)

10.  Hadau cyn-sylfaenol (gan gynnwys hybridiau) yw hadau—

(a)a gynhyrchwyd o genhedlaeth gynharach na hadau cyn-sylfaenol neu o hadau cyn-sylfaenol gan, neu o dan gyfrifoldeb, y bridiwr yn unol ag arferion a ddiffiniwyd yn eglur ar gyfer cynnal yr amrywogaeth; a

(b)a fwriedir ar gyfer cynhyrchu—

(i)rhagor o hadau cyn-sylfaenol;

(ii)hadau sylfaenol; neu

(iii)gydag awdurdod ysgrifenedig y bridiwr, hadau ardystiedig o'r categorïau CS, C1 neu C2 (ni chaniateir cynhyrchu amrywogaethau hybrid i C1 neu C2).

Ystyr “hadau sylfaenol”

11.  Hadau sylfaenol yw hadau sy'n cydymffurfio â'r amodau canlynol.

Math o ŷdAmod
Amrywogaethau hunanbeilliol o geirch, ceirch noeth, haidd, rhyg, rhygwenith, gwenith, gwenith caled a gwenith yr Almaen

Rhaid i'r hadau fod—

(a)

wedi eu cynhyrchu o dan gyfrifoldeb y bridiwr yn unol ag arferion a ddiffiniwyd yn eglur ar gyfer cynnal yr amrywogaeth; a

(b)

wedi eu bwriadu ar gyfer cynhyrchu hadau ardystiedig o'r categorïau CS, C1 neu C2

Amrywogaethau hybrid o geirch, haidd, rhyg, gwenith, gwenith caled, gwenith yr Almaen, rhygwenith ac indrawnRhaid i'r hadau fod wedi eu bwriadu ar gyfer cynhyrchu hybridiau
Amrywogaethau o rywogaethau indrawn sy'n beillwyr agored

Rhaid i'r hadau fod—

(a)

wedi eu cynhyrchu o dan gyfrifoldeb y bridiwr, yn unol ag arferion a ddiffiniwyd yn eglur ar gyfer cynnal yr amrywogaeth;

(b)

wedi eu bwriadu ar gyfer cynhyrchu hadau o'r amrywogaeth honno o'r categori 'hadau ardystiedig' croesiad triphlyg, neu o amrywogaeth hybrid “top cross”, neu o hybridiau rhyngamrywogaethol

Indrawn, llinellau mewnfridUnrhyw hadau
Ystyr “hadau ardystiedig”

12.  Hadau ardystiedig yw hadau—

(a)o ryg, indrawn neu rygwenith a hybridiau o haidd, ceirch, gwenith, gwenith caled, gwenith yr Almaen;

(b)sydd wedi eu cynhyrchu'n uniongyrchol o hadau sylfaenol neu, os gofynnir felly gan y bridiwr, o hadau o genhedlaeth gynharach na hadau sylfaenol sy'n bodloni'r amodau ar gyfer hadau sylfaenol; ac

(c)a fwriedir at ddibenion ac eithrio cynhyrchu hadau ŷd.

Ystyr “hadau ardystiedig, cenhedlaeth gyntaf”

13.  Hadau ardystiedig, cenhedlaeth gyntaf yw hadau—

(a)ceirch, haidd, rhygwenith, gwenith, gwenith caled, neu wenith yr Almaen, ac eithrio hybridiau ym mhob achos;

(b)sydd wedi eu cynhyrchu'n uniongyrchol o hadau sylfaenol neu, os gofynnir felly gan y bridiwr, o hadau cyn-sylfaenol sy'n bodloni'r amodau ar gyfer hadau sylfaenol; ac

(c)a fwriedir naill ai ar gyfer cynhyrchu hadau o'r categori 'hadau ardystiedig, ail genhedlaeth' neu at ddibenion ac eithrio cynhyrchu hadau ŷd.

Ystyr “hadau ardystiedig, ail genhedlaeth”

14.  Hadau ardystiedig, ail genhedlaeth yw hadau—

(a)ceirch, haidd, rhygwenith, gwenith, gwenith caled, neu wenith yr Almaen, ac eithrio hybridiau ym mhob achos;

(b)sydd wedi eu cynhyrchu'n uniongyrchol o hadau sylfaenol, o hadau ardystiedig, cenhedlaeth gyntaf, neu, os gofynnir felly gan y bridiwr, o hadau cyn-sylfaenol sy'n bodloni'r amodau ar gyfer hadau sylfaenol; ac

(c)a fwriedir at ddibenion ac eithrio cynhyrchu hadau ŷd.

Gofynion cnydau a hadau

15.—(1Rhaid i archwiliadau o'r cnydau gan arolygwyr cnydau swyddogol neu drwyddedig gael eu cynnal yn unol ag Erthygl 2(3)(A) o Gyfarwyddeb y Cyngor 66/402/EEC ar farchnata hadau ŷd(2) ac Atodiad I i'r Gyfarwyddeb honno, a rhaid i'r cnwd fodloni'r amodau yn yr Atodiad hwnnw.

(2Rhaid i'r hadau a gynhyrchir gan y cnwd gael eu samplu yn unol ag Erthygl 7 o'r Gyfarwyddeb honno ac Atodiad III iddi, a rhaid iddynt fodloni'r amodau yn Atodiad II i'r Gyfarwyddeb honno.

(3Rhaid i'r cynnwys lleithedd mwyaf beidio â bod yn fwy na 17% yn ôl pwysau.

(4Rhaid i glefydau ac organebau niweidiol sy'n lleihau defnyddioldeb yr hadau fod ar y lefel isaf bosibl.

PENNOD 2Safonau gwirfoddol uwch

Safonau gwirfoddol uwch ar gyfer ydau

16.—(1Ceir marchnata haidd, ceirch, gwenith (gan gynnwys gwenith caled a gwenith yr Almaen) neu geirch noeth, a ddosbarthwyd yn hadau sylfaenol neu'n hadau ardystiedig o'r categorïau C1 neu C2, fel hadau o safon wirfoddol uwch, sef safon uwch na'r un a reoleiddir o dan Bennod 1, os ydynt yn bodloni'r safonau uwch yn y Bennod hon.

(2Rhaid i burdeb rhywogaethol y cnwd fod yn 99.99% o leiaf (yn ôl nifer).

(3Ac eithrio hybrid, y purdeb amrywogaethol lleiaf ar gyfer hadau yw—

(a)99.95% ar gyfer hadau sylfaenol;

(b)99.9% ar gyfer hadau C1;

(c)99.7% ar gyfer hadau C2.

(4Yn achos C1 ac C2 rhaid i burdeb dadansoddol yr hadau fod yn 99% yn ôl pwysau.

Gofynion ychwanegol ar gyfer haidd, gwenith, gwenith caled a gwenith yr Almaen

17.  Yn achos haidd, gwenith, gwenith caled a gwenith yr Almaen—

(a)y nifer mwyaf o geirch gwyllt mewn cnwd fydd 7 am bob hectar.

(b)y ganran fwyaf yn ôl nifer o'r heintiad penddu mewn hadau fydd—

(i)0.1% ar gyfer hadau sylfaenol;

(ii)0.2% ar gyfer hadau C1 ac C2.

Hadau o blanhigion eraill

18.  Rhaid i'r nifer o hadau o rywogaethau planhigion eraill mewn sampl o 1000g beidio â bod yn fwy na'r canlynol.

Hadau o rywogaethau eraill
Categori o hadau a samplwydPob rhywogaeth arall o blanhigion (gan gynnwys rhywogaethau a bennir yng ngholofnau 3 i 6)Rhywogaethau ŷd eraillPob rhywogaeth o blanhigion ac eithrio ydauCeirch gwyllt neu efrauRhuddygl gwyllt, bulwg yr ŷd, pawrwellt anhiliog neu farchwellt
a

Mewn perthynas â rhuddygl gwyllt a bulwg yr ŷd yn unig.

Hadau sylfaenol10100a
C121101
C243201
Mallryg a sglerotia

19.  Mewn sampl o 1000g—

(a)yn achos hadau sylfaenol, rhaid bod dim mallryg na sglerotia;

(b)yn achos hadau ardystiedig (C1 neu C2) rhaid bod dim mwy nag un darn o fallryg neu sglerotia.

RHAN 3Planhigion porthiant

PENNOD 1Safonau sylfaenol

Cwmpas Rhan 3

20.  Mae'r Rhan hon yn rheoleiddio'r mathau o blanhigion porthiant yn Atodlen 1.

Mathau a ganiateir o hadau porthiant

21.—(1Rhaid i hadau porthiant fod yn—

(a)hadau cyn-sylfaenol;

(b)hadau sylfaenol;

(c)hadau ardystiedig;

(ch)hadau ardystiedig, cenhedlaeth gyntaf;

(d)hadau ardystiedig, ail genhedlaeth;

(dd)hadau masnachol; neu

(e)hadau o safon wirfoddol uwch.

(2Caiff yr hadau fod yn gymysgedd o rywogaethau porthiant o wahanol amrywogaethau ar yr amod bod pob amrywogaeth yn y cymysgedd wedi ei hardystio.

Ystyr “hadau cyn-sylfaenol”

22.  Hadau cyn-sylfaenol yw hadau—

(a)a gynhyrchwyd o genhedlaeth gynharach na hadau cyn-sylfaenol gan, neu o dan gyfrifoldeb, y bridiwr yn unol ag arferion a ddiffiniwyd yn eglur ar gyfer cynnal yr amrywogaeth; a

(b)a fwriedir ar gyfer cynhyrchu—

(i)rhagor o hadau cyn-sylfaenol;

(ii)hadau sylfaenol; neu

(iii)gydag awdurdod ysgrifenedig y bridiwr, hadau ardystiedig CS, C1 neu C2.

Ystyr “hadau sylfaenol”

23.—(1Hadau sylfaenol yw hadau—

(a)amrywogaethau a fridiwyd; neu

(b)amrywogaethau lleol.

(2Hadau amrywogaethau a fridiwyd yw hadau—

(a)a gynhyrchwyd o dan gyfrifoldeb y bridiwr yn unol ag arferion a ddiffiniwyd yn eglur ar gyfer cynnal yr amrywogaeth;

(b)a fwriedir ar gyfer cynhyrchu hadau ardystiedig.

(3Hadau amrywogaethau lleol yw hadau—

(a)a gynhyrchwyd o dan reolaeth swyddogol, allan o ddeunydd y derbyniwyd ei fod o'r amrywogaeth leol, ar un neu ragor o ddaliadau o fewn rhanbarth tarddiad y diffiniwyd ei derfynau yn eglur;

(b)a fwriedir ar gyfer cynhyrchu hadau ardystiedig.

Ystyr “hadau ardystiedig”

24.  Hadau ardystiedig yw hadau (ac eithrio ffa'r maes, pys y maes, maglys rhuddlas (Medicagio sativa), bysedd-y-blaidd a ffacbys)—

(a)sydd wedi eu cynhyrchu yn uniongyrchol o hadau sylfaenol neu, os gofynnir felly gan y bridiwr, o hadau cyn-sylfaenol sy'n bodloni'r amodau ar gyfer hadau sylfaenol; ac

(b)a fwriedir at ddibenion ac eithrio cynhyrchu hadau.

Ystyr “hadau ardystiedig, cenhedlaeth gyntaf”

25.  Hadau ardystiedig, cenhedlaeth gyntaf mewn perthynas â ffa'r maes, pys y maes, maglys rhuddlas (Medicagio sativa) bysedd-y-blaidd a ffacbys yw hadau—

(a)sydd wedi eu cynhyrchu'n uniongyrchol o hadau sylfaenol neu, os gofynnir felly gan y bridiwr, o hadau cyn-sylfaenol sy'n bodloni'r amodau ar gyfer hadau sylfaenol; a

(b)a fwriedir ar gyfer—

(i)cynhyrchu hadau ardystiedig, ail genhedlaeth (yn achos ffa'r maes a phys y maes yn unig); neu

(ii)dibenion ac eithrio cynhyrchu hadau (ym mhob achos).

Ystyr “hadau ardystiedig, ail genhedlaeth”

26.  Hadau ardystiedig, ail genhedlaeth mewn perthynas â ffa'r maes, pys y maes, maglys rhuddlas (Medicagio sativa) bysedd-y-blaidd a ffacbys yw hadau—

(a)sydd wedi eu cynhyrchu'n uniongyrchol o hadau sylfaenol, o hadau ardystiedig, cenhedlaeth gyntaf (C1), neu, os gofynnir felly gan y bridiwr, o hadau cyn-sylfaenol sy'n bodloni'r amodau ar gyfer hadau sylfaenol; a

(b)a fwriedir at ddibenion ac eithrio cynhyrchu hadau planhigion porthiant.

Ystyr “hadau masnachol”

27.  Hadau masnachol yw hadau gweunwellt unflwydd, ffacbys Hwngari neu'r godog, y gellir eu hadnabod fel rhai sy'n perthyn i rywogaeth.

Gofynion cnydau a hadau

28.—(1Rhaid i archwiliadau o'r cnydau gan arolygwyr cnydau swyddogol neu drwyddedig gael eu cynnal yn unol ag Erthygl 2(3)(A) o Gyfarwyddeb y Cyngor 66/401/EEC ar farchnata hadau planhigion porthiant(3) ac Atodiad I i'r Gyfarwyddeb honno, a rhaid i'r cnwd fodloni'r amodau yn yr Atodiad hwnnw.

(2Rhaid i'r hadau a gynhyrchir gan y cnwd gael eu samplu yn unol ag Atodiad III i'r Gyfarwyddeb honno, a rhaid iddynt fodloni'r amodau yn Atodiad II i'r Gyfarwyddeb honno.

(3Rhaid i glefydau ac organebau niweidiol sy'n lleihau defnyddioldeb yr hadau fod ar y lefel isaf bosibl.

PENNOD 2Safonau gwirfoddol uwch

Safonau gwirfoddol uwch ar gyfer hadau porthiant

29.  Yn achos troed y ceiliog, festulolium, rhygwellt hybrid, rhygwellt yr Eidal, maglys rhuddlas, peiswellt, rhygwellt parhaol, meillion coch, peiswellt coch, y godog, rhonwellt bach, rhonwellt, gweunwellt llyfn, peiswellt tal a meillion gwyn, ceir marchnata hadau ardystiedig (CS) fel hadau ardystiedig o safon wirfoddol uwch.

Safonau gofynnol o ran purdeb a rhywogaethau eraill o hadau yn y sampl

30.  Rhaid i'r sampl a gymerir o dan baragraff 28(2) at ddiben Cyfarwyddeb y Cyngor 66/401/EEC gyrraedd y safonau gofynnol a bennir yn y tabl canlynol.

Pennawd colofnPurdeb dadansoddol gofynnol (% yn ôl pwysau)Cyfanswm pwysau'r holl rywogaethau eraill (% yn ôl pwysau)Cyfanswm pwysau un rhywogaeth unigol arall (% yn ôl pwysau)Hadau Rumex spp ac eithrio R acetosella ac R maritimusHadau marchwelltHadau cynffonwellt duTerfynau ar gyfer rhywogaethau penodol eraill
Glaswelltau meinddail
festulolium981.500100
peiswellt coch951.50.551010Ni chaiff y sampl gynnwys mwy na phedwar hedyn o rygwellt, troed y ceiliog, peiswellt a 0.3% gweunwellt garw
gweunwellt llyfn901.50.5233Uchafswm o 0.4% yn ôl pwysau o hadau gweunwelltau eraill
Glaswelltau porthiant
troed y ceiliog901.50.551010
peiswellt, peiswellt tal981.50.5510100.3% gweunwellt garw, 0.3% rhygwellt
rhygwellt hybrid, rhygwellt yr Eidal, rhygwellt parhaol981.50.5510100.4% gweunwellt unflwydd, 0.3% gweunwellt garw
rhonwellt bach, rhonwellt981.50.5410100.3% Agrostis xmlns="http://www.tso.co.uk/assets/namespace/legislation">spp
Codlysiau hadau bach>
maglys rhuddlas, meillion coch, meillion gwyn981.50.51010100.3% Melitotus xmlns="http://www.tso.co.uk/assets/namespace/legislation">spp
y godog981.50.5510100.3% Melitotus xmlns="http://www.tso.co.uk/assets/namespace/legislation">spp

RHAN 4Olew a ffibr

Cwmpas Rhan 4

31.  Mae'r Rhan hon yn rheoleiddio'r mathau o blanhigion olew a ffibr yn Atodlen 1.

Mathau a ganiateir o hadau olew a ffibr

32.  Rhaid i hadau olew a ffibr fod yn—

(a)hadau cyn-sylfaenol;

(b)hadau sylfaenol;

(c)hadau ardystiedig;

(ch)hadau ardystiedig, cenhedlaeth gyntaf;

(d)hadau ardystiedig, ail genhedlaeth;

(dd)hadau ardystiedig, trydedd genhedlaeth; neu

(e)hadau masnachol.

Ystyr “hadau cyn-sylfaenol”

33.—(1“Hadau cyn-sylfaenol” yw hadau cenhedlaeth gynharach na hadau sylfaenol—

(a)sydd wedi eu cynhyrchu gan, neu o dan gyfrifoldeb, y bridiwr yn unol ag arferion a ddiffiniwyd yn eglur ar gyfer cynnal yr amrywogaeth, a

(b)a fwriedir i'w defnyddio i gynhyrchu mwy o hadau cyn-sylfaenol, hadau sylfaenol, neu, gydag awdurdod ysgrifenedig y bridiwr—

(i)yn achos mwstard du, mwstard brown, cywarch deuoecaidd, blodau'r haul, rêp swêds, rêp maip, neu fwstard gwyn, hadau CS;

(ii) yn achos cywarch monoecaidd neu ffa soia, hadau C1 neu C2;

(iii)yn achos llin neu had llin, hadau C1, C2 neu C3.

(2Ond mewn perthynas â chydran mewn amrywogaeth hybrid, ystyr “hadau cyn-sylfaenol” yw hadau o genhedlaeth gynharach na hadau sylfaenol, a fwriedir i'w defnyddio i gynhyrchu—

(a)rhagor o hadau cyn-sylfaenol;

(b)hadau sylfaenol; neu

(c)gydag awdurdod ysgrifenedig y bridiwr, hadau CS.

Ystyr “hadau sylfaenol” ar gyfer amrywogaethau nad ydynt yn hybridiau

34.  Yn achos amrywogaeth nad yw'n hybrid, hadau sylfaenol yw hadau—

(a)a gynhyrchwyd o dan gyfrifoldeb y bridiwr yn unol ag arferion a ddiffiniwyd yn eglur ar gyfer cynnal yr amrywogaeth;

(b)a fwriedir ar gyfer cynhyrchu—

(i)hadau ardystiedig,

(ii)hadau ardystiedig, cenhedlaeth gyntaf,

(iii)hadau ardystiedig, ail genhedlaeth; neu

(iv)hadau ardystiedig, trydedd genhedlaeth.

Ystyr “hadau sylfaenol” ar gyfer llinellau mewnfrid

35.  Yn achos llinell fewnfrid, hadau sylfaenol yw hadau llinell fewnfrid o hybrid, sy'n bodloni'r amodau ar gyfer hadau sylfaenol.

Ystyr “hadau sylfaenol” ar gyfer hybridiau syml

36.  Yn achos hybrid syml, hadau sylfaenol yw hadau a fwriedir ar gyfer cynhyrchu hybridiau.

Ystyr “hadau ardystiedig”

37.  Hadau ardystiedig yw hadau mwstard du, mwstard Tsieina, mwstard gwyn, cywarch deuoceaidd, blodau'r haul, rêp swêds neu rêp maip—

(a)sydd wedi eu cynhyrchu'n uniongyrchol o hadau sylfaenol neu, os gofynnir felly gan y bridiwr, o genhedlaeth gynharach na hadau sylfaenol, sy'n bodloni'r amodau ar gyfer hadau sylfaenol;

(b)a fwriedir at ddibenion ac eithrio cynhyrchu hadau planhigion olew neu ffibr.

Ystyr “hadau ardystiedig, cenhedlaeth gyntaf”

38.  Hadau ardystiedig, cenhedlaeth gyntaf yw hadau cywarch monoecaidd, llin, had llin neu soia—

(a)sydd wedi eu cynhyrchu'n uniongyrchol o hadau sylfaenol neu, os gofynnir felly gan y bridiwr, o hadau cyn-sylfaenol sy'n bodloni'r amodau ar gyfer hadau sylfaenol;

(b)a fwriedir ar gyfer cynhyrchu naill ai—

(i)hadau ardystiedig, ail genhedlaeth;

(ii)pan fo'n briodol, hadau ardystiedig, trydedd genhedlaeth; neu

(iii)at ddibenion ac eithrio cynhyrchu hadau planhigion olew neu ffibr.

Ystyr “hadau ardystiedig, ail genhedlaeth”

39.—(1Hadau ardystiedig, ail genhedlaeth yw hadau llin, had llin, soia neu gywarch monoecaidd.

(2Yn achos llin, had llin a soia, maent yn hadau—

(a)sydd wedi eu cynhyrchu'n uniongyrchol o hadau sylfaenol, o hadau ardystiedig o'r genhedlaeth gyntaf, neu, os gofynnir felly gan y bridiwr, o hadau cyn-sylfaenol sy'n bodloni'r amodau ar gyfer hadau sylfaenol; a

(b)a fwriedir—

(i)at ddibenion ac eithrio cynhyrchu hadau, neu,

(ii)pan fo'n briodol, cynhyrchu hadau ardystiedig, trydedd genhedlaeth.

(3Yn achos cywarch monoceaidd, maent yn hadau—

(a)sydd wedi eu cynhyrchu'n uniongyrchol o hadau ardystiedig o'r genhedlaeth gyntaf, a sefydlwyd ac a reolwyd yn swyddogol gyda golwg ar gynhyrchu hadau ardystiedig o'r ail genhedlaeth; a

(b)a fwriedir ar gyfer cynhyrchu cywarch sydd i'w gynaeafu yn ei flodau.

Ystyr “hadau ardystiedig, trydedd genhedlaeth”

40.  Hadau ardystiedig, trydedd genhedlaeth yw hadau o lin neu had llin—

(a)sy'n ddisgynyddion uniongyrchol hadau sylfaenol, hadau ardystiedig o'r genhedlaeth gyntaf neu'r ail neu, os gofynnir felly gan y bridiwr, o hadau o genhedlaeth gynharach na hadau sylfaenol; a

(b)a fwriedir at ddibenion ac eithrio cynhyrchu hadau.

Ystyr “hadau masnachol”

41.  Hadau masnachol (hadau mwstard du yn unig) yw hadau y gellir eu hadnabod fel rhai sy'n perthyn i rywogaeth.

Gofynion cnydau a hadau

42.—(1Rhaid i archwiliadau o'r cnydau gan arolygwyr cnydau swyddogol neu drwyddedig gael eu cynnal yn unol ag Erthygl 2(5)(A) o Gyfarwyddeb y Cyngor 2002/57/EC ar farchnata hadau planhigion olew a ffibr(4) ac Atodiad I i'r Gyfarwyddeb honno, a rhaid i'r cnwd fodloni'r amodau yn yr Atodiad hwnnw.

(2Rhaid i'r hadau a gynhyrchir gan y cnwd gael eu samplu yn unol ag Atodiad III i'r Gyfarwyddeb honno, a rhaid iddynt fodloni'r amodau yn Atodiad II i'r Gyfarwyddeb honno.

(3Rhaid i glefydau ac organebau niweidiol sy'n lleihau defnyddioldeb yr hadau fod ar y lefel isaf bosibl.

Gofynion ar gyfer uniad amrywogaethol

43.—(1Rhaid i hadau sy'n cael eu marchnata fel uniad amrywogaethol gydymffurfio â'r paragraff hwn.

(2Rhaid i'r uniad amrywogaethol fod yn uniad rhwng hadau CS ardystiedig amrywogaeth hybrid peillydd-ddibynnol benodedig, a hadau CS ardystiedig un neu ragor o amrywogaethau peillydd penodedig, a rhaid i'r ddau fath o hadau fod wedi eu derbyn ar Restr Genedlaethol y Deyrnas Unedig neu'r Catalog Cyffredin.

(3Rhaid i hadau'r cydrannau benyw a gwryw mewn uniad amrywogaethol fod wedi eu trin gan ddefnyddio sylweddau trin hadau o liwiau gwahanol.

(4Rhaid cyfuno'r hadau yn fecanyddol yn y cyfrannau a benderfynwyd ar y cyd gan y personau sy'n gyfrifol am gynnal y cydrannau dan sylw.

(5Rhaid hysbysu Gweinidogion Cymru o'r cyfrannau hyn, gan y person sy'n gyfrifol am gynnal yr hybrid peillydd-ddibynnol a'r peillyddion sydd o fewn yr uniad amrywogaethol.

(6Yn y paragraff hwn—

(a)ystyr “hybrid peillydd-ddibynnol” (“pollinator-dependent hybrid”) yw'r gydran wryw-anhiliog o fewn yr uniad amrywogaethol (y gydran fenyw);

(b)ystyr “peillydd” (“pollinator”) yw cydran sy'n gollwng paill o fewn uniad amrywogaethol.

RHAN 5Llysiau

Cwmpas Rhan 5

44.  Mae'r Rhan hon yn rheoleiddio'r mathau o lysiau yn Atodlen 1.

Mathau a ganiateir o hadau llysiau

45.  Rhaid i hadau llysiau fod yn—

(a)hadau cyn-sylfaenol;

(b)hadau sylfaenol; neu

(c)hadau ardystiedig; neu

(ch)hadau safonol.

(2Caiff yr hadau fod yn gymysgedd o wahanol amrywogaethau o'r un rhywogaeth o lysiau, ar yr amod bod pob amrywogaeth yn y cymysgedd yn hadau safonol.

Ystyr “hadau cyn-sylfaenol”

46.  Hadau cyn-sylfaenol yw hadau—

(a)a gynhyrchwyd o genhedlaeth gynharach na hadau cyn-sylfaenol gan, neu o dan gyfrifoldeb, y bridiwr yn unol ag arferion a ddiffiniwyd yn eglur ar gyfer cynnal yr amrywogaeth; a

(b)a fwriedir ar gyfer cynhyrchu—

(i)rhagor o hadau cyn-sylfaenol;

(ii)hadau sylfaenol; neu

(iii)gydag awdurdod ysgrifenedig y bridiwr, hadau ardystiedig.

Ystyr “hadau sylfaenol”

47.—(1Hadau sylfaenol yw hadau—

(a)a gynhyrchwyd o dan gyfrifoldeb y bridiwr yn unol ag arferion a ddiffiniwyd yn eglur ar gyfer cynnal yr amrywogaeth;

(b)a fwriedir ar gyfer cynhyrchu hadau ardystiedig.

(2Er mwyn osgoi amheuaeth, mae hyn yn cynnwys hadau y bwriedir iddynt fod yn gydran o amrywogaeth hybrid o lysieuyn.

Ystyr “hadau ardystiedig”

48.  Hadau ardystiedig yw hadau—

(a)sydd wedi eu cynhyrchu'n uniongyrchol o hadau sylfaenol neu, os gofynnir felly gan y bridiwr, o genhedlaeth gynharach na hadau sylfaenol sy'n bodloni'r amodau ar gyfer hadau sylfaenol;

(b)a fwriedir yn bennaf ar gyfer cynhyrchu llysiau.

Ystyr “hadau safonol”

49.  Hadau safonol yw hadau a fwriedir yn bennaf ar gyfer cynhyrchu llysiau, ac sydd wedi eu cymeradwyo gan Weinidogion Cymru fel hadau sydd â phurdeb amrywogaethol a hunaniaeth amrywogaethol digonol.

Gofynion cnydau a hadau

50.—(1Rhaid i archwiliadau o'r cnydau gan arolygwyr cnydau swyddogol neu drwyddedig gael eu cynnal yn unol ag Erthygl 2(4)(A) o Gyfarwyddeb y Cyngor 2002/55/EC ar farchnata hadau llysiau(5) ac Atodiad I i'r Gyfarwyddeb honno, a rhaid i'r cnwd fodloni'r amodau yn yr Atodiad hwnnw.

(2Rhaid i'r hadau a gynhyrchir gan y cnwd gael eu samplu yn unol ag Erthygl 25 o'r Gyfarwyddeb honno ac Atodiad III iddi, a rhaid iddynt fodloni'r amodau yn Atodiad II i'r Gyfarwyddeb honno.

(3Nid yw is-baragraff (1) yn gymwys yn achos hadau safonol.

(4Rhaid i glefydau ac organebau niweidiol sy'n lleihau defnyddioldeb yr hadau fod ar y lefel isaf bosibl.

(5Ar ôl eu marchnata, mae hadau llysiau yn ddarostyngedig i reolaeth gan Weinidogion Cymru, o ran hunaniaeth amrywogaethol a phurdeb amrywogaethol.

(1)

OJ Rhif L 193, 20.7.2002, t. 12, fel y'i diwygiwyd ddiwethaf gan Gyfarwyddeb y Cyngor 2004/117/EC (OJ Rhif L 14, 18.1.2005, t.18).

(2)

OJ Rhif L 125, 11.7.1966, t. 2309, fel y'i diwygiwyd ddiwethaf gan Gyfarwyddeb y Comisiwn 2009/74/EC (OJ Rhif L 166, 27.6.2009, t. 40).

(3)

OJ Rhif L 125, 11.7.1966, t. 2298, fel y'i diwygiwyd ddiwethaf gan Gyfarwyddeb y Comisiwn 2009/74/EC (OJ Rhif L 166, 27.6.2009, t. 40).

(4)

OJ Rhif L 193, 20.7.2002, t.74, fel y'i diwygiwyd ddiwethaf gan Gyfarwyddeb y Comisiwn 2009/74/EC (OJ Rhif L 166, 27.6.2009, t.40).

(5)

OJ Rhif L 193, 20.7.2002, t. 33, fel y'i diwygiwyd ddiwethaf gan Gyfarwyddeb y Comisiwn 2009/74/EC (OJ Rhif L 166, 27.6.2009, t. 40).

Yn ôl i’r brig

Options/Help

Print Options

Close

Mae deddfwriaeth ar gael mewn fersiynau gwahanol:

Y Diweddaraf sydd Ar Gael (diwygiedig):Y fersiwn ddiweddaraf sydd ar gael o’r ddeddfwriaeth yn cynnwys newidiadau a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol ac wedi eu gweithredu gan ein tîm golygyddol. Gellir gweld y newidiadau nad ydym wedi eu gweithredu i’r testun eto yn yr ardal ‘Newidiadau i Ddeddfwriaeth’. Dim ond yn Saesneg y mae’r fersiwn ddiwygiedig ar gael ar hyn o bryd.

Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed) - Saesneg: Mae'r wreiddiol Saesneg fersiwn y ddeddfwriaeth fel ag yr oedd pan gafodd ei deddfu neu eu gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.

Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed)-Cymraeg:Y fersiwn Gymraeg wreiddiol o’r ddeddfwriaeth fel yr oedd yn sefyll pan gafodd ei deddfu neu ei gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.

Close

Dewisiadau Agor

Dewisiadau gwahanol i agor deddfwriaeth er mwyn gweld rhagor o gynnwys ar y sgrin ar yr un pryd

Close

Rhagor o Adnoddau

Gallwch wneud defnydd o ddogfennau atodol hanfodol a gwybodaeth ar gyfer yr eitem ddeddfwriaeth o’r tab hwn. Yn ddibynnol ar yr eitem ddeddfwriaeth sydd i’w gweld, gallai hyn gynnwys:

  • y PDF print gwreiddiol y fel deddfwyd fersiwn a ddefnyddiwyd am y copi print
  • rhestr o newidiadau a wnaed gan a/neu yn effeithio ar yr eitem hon o ddeddfwriaeth
  • manylion rhoi grym a newid cyffredinol
  • pob fformat o’r holl ddogfennau cysylltiedig
  • slipiau cywiro
  • dolenni i ddeddfwriaeth gysylltiedig ac adnoddau gwybodaeth eraill
Close

Rhagor o Adnoddau

Defnyddiwch y ddewislen hon i agor dogfennau hanfodol sy’n cyd-fynd â’r ddeddfwriaeth a gwybodaeth am yr eitem hon o ddeddfwriaeth. Gan ddibynnu ar yr eitem o ddeddfwriaeth sy’n cael ei gweld gall hyn gynnwys:

  • y PDF print gwreiddiol y fel gwnaed fersiwn a ddefnyddiwyd am y copi print
  • slipiau cywiro

liciwch ‘Gweld Mwy’ neu ddewis ‘Rhagor o Adnoddau’ am wybodaeth ychwanegol gan gynnwys

  • rhestr o newidiadau a wnaed gan a/neu yn effeithio ar yr eitem hon o ddeddfwriaeth
  • manylion rhoi grym a newid cyffredinol
  • pob fformat o’r holl ddogfennau cysylltiedig
  • dolenni i ddeddfwriaeth gysylltiedig ac adnoddau gwybodaeth eraill