- Y Diweddaraf sydd Ar Gael (Diwygiedig) - Saesneg
- Y Diweddaraf sydd Ar Gael (Diwygiedig) - Cymraeg
- Gwreiddiol (Fel y'i Gwnaed) - Saesneg
- Gwreiddiol (Fel y'i Gwnaed) - Cymraeg
Dyma’r fersiwn wreiddiol (fel y’i gwnaed yn wreiddiol).
20. Mae'r Rhan hon yn rheoleiddio'r mathau o blanhigion porthiant yn Atodlen 1.
21.—(1) Rhaid i hadau porthiant fod yn—
(a)hadau cyn-sylfaenol;
(b)hadau sylfaenol;
(c)hadau ardystiedig;
(ch)hadau ardystiedig, cenhedlaeth gyntaf;
(d)hadau ardystiedig, ail genhedlaeth;
(dd)hadau masnachol; neu
(e)hadau o safon wirfoddol uwch.
(2) Caiff yr hadau fod yn gymysgedd o rywogaethau porthiant o wahanol amrywogaethau ar yr amod bod pob amrywogaeth yn y cymysgedd wedi ei hardystio.
22. Hadau cyn-sylfaenol yw hadau—
(a)a gynhyrchwyd o genhedlaeth gynharach na hadau cyn-sylfaenol gan, neu o dan gyfrifoldeb, y bridiwr yn unol ag arferion a ddiffiniwyd yn eglur ar gyfer cynnal yr amrywogaeth; a
(b)a fwriedir ar gyfer cynhyrchu—
(i)rhagor o hadau cyn-sylfaenol;
(ii)hadau sylfaenol; neu
(iii)gydag awdurdod ysgrifenedig y bridiwr, hadau ardystiedig CS, C1 neu C2.
23.—(1) Hadau sylfaenol yw hadau—
(a)amrywogaethau a fridiwyd; neu
(b)amrywogaethau lleol.
(2) Hadau amrywogaethau a fridiwyd yw hadau—
(a)a gynhyrchwyd o dan gyfrifoldeb y bridiwr yn unol ag arferion a ddiffiniwyd yn eglur ar gyfer cynnal yr amrywogaeth;
(b)a fwriedir ar gyfer cynhyrchu hadau ardystiedig.
(3) Hadau amrywogaethau lleol yw hadau—
(a)a gynhyrchwyd o dan reolaeth swyddogol, allan o ddeunydd y derbyniwyd ei fod o'r amrywogaeth leol, ar un neu ragor o ddaliadau o fewn rhanbarth tarddiad y diffiniwyd ei derfynau yn eglur;
(b)a fwriedir ar gyfer cynhyrchu hadau ardystiedig.
24. Hadau ardystiedig yw hadau (ac eithrio ffa'r maes, pys y maes, maglys rhuddlas (Medicagio sativa), bysedd-y-blaidd a ffacbys)—
(a)sydd wedi eu cynhyrchu yn uniongyrchol o hadau sylfaenol neu, os gofynnir felly gan y bridiwr, o hadau cyn-sylfaenol sy'n bodloni'r amodau ar gyfer hadau sylfaenol; ac
(b)a fwriedir at ddibenion ac eithrio cynhyrchu hadau.
25. Hadau ardystiedig, cenhedlaeth gyntaf mewn perthynas â ffa'r maes, pys y maes, maglys rhuddlas (Medicagio sativa) bysedd-y-blaidd a ffacbys yw hadau—
(a)sydd wedi eu cynhyrchu'n uniongyrchol o hadau sylfaenol neu, os gofynnir felly gan y bridiwr, o hadau cyn-sylfaenol sy'n bodloni'r amodau ar gyfer hadau sylfaenol; a
(b)a fwriedir ar gyfer—
(i)cynhyrchu hadau ardystiedig, ail genhedlaeth (yn achos ffa'r maes a phys y maes yn unig); neu
(ii)dibenion ac eithrio cynhyrchu hadau (ym mhob achos).
26. Hadau ardystiedig, ail genhedlaeth mewn perthynas â ffa'r maes, pys y maes, maglys rhuddlas (Medicagio sativa) bysedd-y-blaidd a ffacbys yw hadau—
(a)sydd wedi eu cynhyrchu'n uniongyrchol o hadau sylfaenol, o hadau ardystiedig, cenhedlaeth gyntaf (C1), neu, os gofynnir felly gan y bridiwr, o hadau cyn-sylfaenol sy'n bodloni'r amodau ar gyfer hadau sylfaenol; a
(b)a fwriedir at ddibenion ac eithrio cynhyrchu hadau planhigion porthiant.
27. Hadau masnachol yw hadau gweunwellt unflwydd, ffacbys Hwngari neu'r godog, y gellir eu hadnabod fel rhai sy'n perthyn i rywogaeth.
28.—(1) Rhaid i archwiliadau o'r cnydau gan arolygwyr cnydau swyddogol neu drwyddedig gael eu cynnal yn unol ag Erthygl 2(3)(A) o Gyfarwyddeb y Cyngor 66/401/EEC ar farchnata hadau planhigion porthiant(1) ac Atodiad I i'r Gyfarwyddeb honno, a rhaid i'r cnwd fodloni'r amodau yn yr Atodiad hwnnw.
(2) Rhaid i'r hadau a gynhyrchir gan y cnwd gael eu samplu yn unol ag Atodiad III i'r Gyfarwyddeb honno, a rhaid iddynt fodloni'r amodau yn Atodiad II i'r Gyfarwyddeb honno.
(3) Rhaid i glefydau ac organebau niweidiol sy'n lleihau defnyddioldeb yr hadau fod ar y lefel isaf bosibl.
OJ Rhif L 125, 11.7.1966, t. 2298, fel y'i diwygiwyd ddiwethaf gan Gyfarwyddeb y Comisiwn 2009/74/EC (OJ Rhif L 166, 27.6.2009, t. 40).
Y Diweddaraf sydd Ar Gael (diwygiedig):Y fersiwn ddiweddaraf sydd ar gael o’r ddeddfwriaeth yn cynnwys newidiadau a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol ac wedi eu gweithredu gan ein tîm golygyddol. Gellir gweld y newidiadau nad ydym wedi eu gweithredu i’r testun eto yn yr ardal ‘Newidiadau i Ddeddfwriaeth’. Dim ond yn Saesneg y mae’r fersiwn ddiwygiedig ar gael ar hyn o bryd.
Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed) - Saesneg: Mae'r wreiddiol Saesneg fersiwn y ddeddfwriaeth fel ag yr oedd pan gafodd ei deddfu neu eu gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.
Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed)-Cymraeg:Y fersiwn Gymraeg wreiddiol o’r ddeddfwriaeth fel yr oedd yn sefyll pan gafodd ei deddfu neu ei gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.
Gallwch wneud defnydd o ddogfennau atodol hanfodol a gwybodaeth ar gyfer yr eitem ddeddfwriaeth o’r tab hwn. Yn ddibynnol ar yr eitem ddeddfwriaeth sydd i’w gweld, gallai hyn gynnwys:
Defnyddiwch y ddewislen hon i agor dogfennau hanfodol sy’n cyd-fynd â’r ddeddfwriaeth a gwybodaeth am yr eitem hon o ddeddfwriaeth. Gan ddibynnu ar yr eitem o ddeddfwriaeth sy’n cael ei gweld gall hyn gynnwys:
liciwch ‘Gweld Mwy’ neu ddewis ‘Rhagor o Adnoddau’ am wybodaeth ychwanegol gan gynnwys