xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

ATODLEN 2Gofynion ardystio

RHAN 3Planhigion porthiant

PENNOD 1Safonau sylfaenol

Cwmpas Rhan 3

20.  Mae'r Rhan hon yn rheoleiddio'r mathau o blanhigion porthiant yn Atodlen 1.

Mathau a ganiateir o hadau porthiant

21.—(1Rhaid i hadau porthiant fod yn—

(a)hadau cyn-sylfaenol;

(b)hadau sylfaenol;

(c)hadau ardystiedig;

(ch)hadau ardystiedig, cenhedlaeth gyntaf;

(d)hadau ardystiedig, ail genhedlaeth;

(dd)hadau masnachol; neu

(e)hadau o safon wirfoddol uwch.

(2Caiff yr hadau fod yn gymysgedd o rywogaethau porthiant o wahanol amrywogaethau ar yr amod bod pob amrywogaeth yn y cymysgedd wedi ei hardystio.

Ystyr “hadau cyn-sylfaenol”

22.  Hadau cyn-sylfaenol yw hadau—

(a)a gynhyrchwyd o genhedlaeth gynharach na hadau cyn-sylfaenol gan, neu o dan gyfrifoldeb, y bridiwr yn unol ag arferion a ddiffiniwyd yn eglur ar gyfer cynnal yr amrywogaeth; a

(b)a fwriedir ar gyfer cynhyrchu—

(i)rhagor o hadau cyn-sylfaenol;

(ii)hadau sylfaenol; neu

(iii)gydag awdurdod ysgrifenedig y bridiwr, hadau ardystiedig CS, C1 neu C2.

Ystyr “hadau sylfaenol”

23.—(1Hadau sylfaenol yw hadau—

(a)amrywogaethau a fridiwyd; neu

(b)amrywogaethau lleol.

(2Hadau amrywogaethau a fridiwyd yw hadau—

(a)a gynhyrchwyd o dan gyfrifoldeb y bridiwr yn unol ag arferion a ddiffiniwyd yn eglur ar gyfer cynnal yr amrywogaeth;

(b)a fwriedir ar gyfer cynhyrchu hadau ardystiedig.

(3Hadau amrywogaethau lleol yw hadau—

(a)a gynhyrchwyd o dan reolaeth swyddogol, allan o ddeunydd y derbyniwyd ei fod o'r amrywogaeth leol, ar un neu ragor o ddaliadau o fewn rhanbarth tarddiad y diffiniwyd ei derfynau yn eglur;

(b)a fwriedir ar gyfer cynhyrchu hadau ardystiedig.

Ystyr “hadau ardystiedig”

24.  Hadau ardystiedig yw hadau (ac eithrio ffa'r maes, pys y maes, maglys rhuddlas (Medicagio sativa), bysedd-y-blaidd a ffacbys)—

(a)sydd wedi eu cynhyrchu yn uniongyrchol o hadau sylfaenol neu, os gofynnir felly gan y bridiwr, o hadau cyn-sylfaenol sy'n bodloni'r amodau ar gyfer hadau sylfaenol; ac

(b)a fwriedir at ddibenion ac eithrio cynhyrchu hadau.

Ystyr “hadau ardystiedig, cenhedlaeth gyntaf”

25.  Hadau ardystiedig, cenhedlaeth gyntaf mewn perthynas â ffa'r maes, pys y maes, maglys rhuddlas (Medicagio sativa) bysedd-y-blaidd a ffacbys yw hadau—

(a)sydd wedi eu cynhyrchu'n uniongyrchol o hadau sylfaenol neu, os gofynnir felly gan y bridiwr, o hadau cyn-sylfaenol sy'n bodloni'r amodau ar gyfer hadau sylfaenol; a

(b)a fwriedir ar gyfer—

(i)cynhyrchu hadau ardystiedig, ail genhedlaeth (yn achos ffa'r maes a phys y maes yn unig); neu

(ii)dibenion ac eithrio cynhyrchu hadau (ym mhob achos).

Ystyr “hadau ardystiedig, ail genhedlaeth”

26.  Hadau ardystiedig, ail genhedlaeth mewn perthynas â ffa'r maes, pys y maes, maglys rhuddlas (Medicagio sativa) bysedd-y-blaidd a ffacbys yw hadau—

(a)sydd wedi eu cynhyrchu'n uniongyrchol o hadau sylfaenol, o hadau ardystiedig, cenhedlaeth gyntaf (C1), neu, os gofynnir felly gan y bridiwr, o hadau cyn-sylfaenol sy'n bodloni'r amodau ar gyfer hadau sylfaenol; a

(b)a fwriedir at ddibenion ac eithrio cynhyrchu hadau planhigion porthiant.

Ystyr “hadau masnachol”

27.  Hadau masnachol yw hadau gweunwellt unflwydd, ffacbys Hwngari neu'r godog, y gellir eu hadnabod fel rhai sy'n perthyn i rywogaeth.

Gofynion cnydau a hadau

28.—(1Rhaid i archwiliadau o'r cnydau gan arolygwyr cnydau swyddogol neu drwyddedig gael eu cynnal yn unol ag Erthygl 2(3)(A) o Gyfarwyddeb y Cyngor 66/401/EEC ar farchnata hadau planhigion porthiant(1) ac Atodiad I i'r Gyfarwyddeb honno, a rhaid i'r cnwd fodloni'r amodau yn yr Atodiad hwnnw.

(2Rhaid i'r hadau a gynhyrchir gan y cnwd gael eu samplu yn unol ag Atodiad III i'r Gyfarwyddeb honno, a rhaid iddynt fodloni'r amodau yn Atodiad II i'r Gyfarwyddeb honno.

(3Rhaid i glefydau ac organebau niweidiol sy'n lleihau defnyddioldeb yr hadau fod ar y lefel isaf bosibl.

PENNOD 2Safonau gwirfoddol uwch

Safonau gwirfoddol uwch ar gyfer hadau porthiant

29.  Yn achos troed y ceiliog, festulolium, rhygwellt hybrid, rhygwellt yr Eidal, maglys rhuddlas, peiswellt, rhygwellt parhaol, meillion coch, peiswellt coch, y godog, rhonwellt bach, rhonwellt, gweunwellt llyfn, peiswellt tal a meillion gwyn, ceir marchnata hadau ardystiedig (CS) fel hadau ardystiedig o safon wirfoddol uwch.

Safonau gofynnol o ran purdeb a rhywogaethau eraill o hadau yn y sampl

30.  Rhaid i'r sampl a gymerir o dan baragraff 28(2) at ddiben Cyfarwyddeb y Cyngor 66/401/EEC gyrraedd y safonau gofynnol a bennir yn y tabl canlynol.

Pennawd colofnPurdeb dadansoddol gofynnol (% yn ôl pwysau)Cyfanswm pwysau'r holl rywogaethau eraill (% yn ôl pwysau)Cyfanswm pwysau un rhywogaeth unigol arall (% yn ôl pwysau)Hadau Rumex spp ac eithrio R acetosella ac R maritimusHadau marchwelltHadau cynffonwellt duTerfynau ar gyfer rhywogaethau penodol eraill
Glaswelltau meinddail
festulolium981.500100
peiswellt coch951.50.551010Ni chaiff y sampl gynnwys mwy na phedwar hedyn o rygwellt, troed y ceiliog, peiswellt a 0.3% gweunwellt garw
gweunwellt llyfn901.50.5233Uchafswm o 0.4% yn ôl pwysau o hadau gweunwelltau eraill
Glaswelltau porthiant
troed y ceiliog901.50.551010
peiswellt, peiswellt tal981.50.5510100.3% gweunwellt garw, 0.3% rhygwellt
rhygwellt hybrid, rhygwellt yr Eidal, rhygwellt parhaol981.50.5510100.4% gweunwellt unflwydd, 0.3% gweunwellt garw
rhonwellt bach, rhonwellt981.50.5410100.3% Agrostis xmlns="http://www.tso.co.uk/assets/namespace/legislation">spp
Codlysiau hadau bach>
maglys rhuddlas, meillion coch, meillion gwyn981.50.51010100.3% Melitotus xmlns="http://www.tso.co.uk/assets/namespace/legislation">spp
y godog981.50.5510100.3% Melitotus xmlns="http://www.tso.co.uk/assets/namespace/legislation">spp
(1)

OJ Rhif L 125, 11.7.1966, t. 2298, fel y'i diwygiwyd ddiwethaf gan Gyfarwyddeb y Comisiwn 2009/74/EC (OJ Rhif L 166, 27.6.2009, t. 40).