xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

ATODLEN 3Labelu a gwerthiannau rhydd

RHAN 2Labeli swyddogol

Labeli swyddogol: gofynion cyffredinol

5.—(1Label swyddogol yw label a gyflenwir gan Weinidogion Cymru.

(2Rhaid iddo fod ar y tu allan i'r pecyn.

(3Rhaid iddo beidio â bod wedi ei ddefnyddio o'r blaen.

(4Rhaid iddo fod naill ai'n adlynol neu wedi ei gysylltu gyda dyfais selio a gymeradwywyd gan Weinidogion Cymru.

(5Rhaid iddo fod mewn un o ieithoedd swyddogol yr Undeb Ewropeaidd.

(6Rhaid iddo fod yn 110 mm x 67 mm o leiaf.

(7Rhaid iddo ddwyn rhif unigryw.

(8Rhaid iddo gael ei osod ynghlwm wrth y pecyn gan swyddog awdurdodedig Gweinidogion Cymru, samplwr hadau trwyddedig neu unrhyw berson sy'n cael ei oruchwylio gan berson o'r fath.

(9Fel rhanddirymiad o'r uchod, yn achos hadau ŷd, hadau porthiant a hadau olew a ffibr a ddosbarthwyd, ym mhob achos, fel CS, C1, C2 neu C3, ceir defnyddio'r bag cyfan fel y label, ar yr amod y gwneir hynny gyda chymeradwyaeth Gweinidogion Cymru a bod y bag o'r un lliw â'r lliw sy'n ofynnol ar gyfer y label.

Labeli swyddogol ar gyfer hadau cyn-sylfaenol

6.—(1Rhaid i'r canlynol ymddangos ar label swyddogol ar hadau cyn-sylfaenol—

(a)enw'r awdurdod ardystio;

(b)enw neu flaenlythrennau'r Aelod-wladwriaeth;

(c)rhif cyfeirnod y lot hadau;

(ch)y wlad y'u cynhyrchwyd ynddi;

(d)mis a blwyddyn y selio, a fynegir fel “sealed ...” (mis a blwyddyn);

(dd)y rhywogaeth (rhaid defnyddio'r enw botanegol, y ceir ei roi yn ei ffurf gryno a heb gynnwys enwau'r awdurdodau, ac eithrio yn achos hadau betys neu lysiau, pryd y caniateir defnyddio'r enw cyffredin);

(e)yr amrywogaeth;

(f)y disgrifiad “pre-basic” neu “PB”;

(ff)y pwysau net neu gros datganedig neu'r nifer datganedig o hadau (neu, yn achos betys, y nifer datganedig o glystyrau neu hadau pur);

(g)os defnyddir plaleiddiaid gronynnog, sylweddau pelennu neu ychwanegion solid eraill, natur yr ychwanegyn a bras amcan o'r gymhareb rhwng pwysau'r hadau a chyfanswm y pwysau (neu, yn achos betys, y gymhareb rhwng pwysau'r hadau pur a chyfanswm y pwysau);

(ng)nifer y cenedlaethau a ragflaenodd y categori “hadau ardystiedig (CS)” neu “hadau ardystiedig cenhedlaeth gyntaf (C1)”.

(2Rhaid i'r label fod yn wyn, gyda streipen groeslinol fioled ar ei draws.

Labeli swyddogol ar gyfer hadau sylfaenol a hadau ardystiedig

7.—(1Rhaid i'r canlynol ymddangos ar label swyddogol ar hadau ardystiedig—

(a)y geiriau “EU Rules and standards”;

(b)enw'r awdurdod ardystio;

(c)enw neu flaenlythrennau'r Aelod-wladwriaeth;

(ch)rhif cyfeirnod y lot hadau;

(d)naill ai—

(i)mis a blwyddyn y selio, a fynegir fel “sealed ...” (mis a blwyddyn); neu

(ii)mis a blwyddyn y samplu swyddogol diwethaf at ddibenion ardystio, a fynegir fel “sampled ...” (mis a blwyddyn);

(dd)y rhywogaeth (rhaid defnyddio'r enw botanegol, naill ai'n llawn neu yn ei ffurf gryno, ac eithrio yn achos hadau betys neu lysiau, pryd y caniateir defnyddio'r enw cyffredin);

(e)yr amrywogaeth;

(f)y categori;

(ff)y wlad y'u cynhyrchwyd ynddi;

(g)y pwysau net neu gros datganedig neu'r nifer datganedig o hadau neu, yn achos betys, y nifer datganedig o glystyrau o hadau pur;

(ng)os defnyddir plaleiddiaid gronynnog, sylweddau pelennu neu ychwanegion solid eraill, natur yr ychwanegyn a bras amcan o'r gymhareb rhwng pwysau'r hadau a chyfanswm y pwysau (neu, yn achos betys, y gymhareb rhwng pwysau'r hadau pur a chyfanswm y pwysau);

(h)os yw'r egino wedi ei ailbrofi, y gair “retested” a ddilynir gan fis a blwyddyn yr ailbrofi.

(2Rhaid i'r label fod o liw—

(a)gwyn ar gyfer hadau sylfaenol;

(b)glas ar gyfer hadau ardystiedig a hadau ardystiedig o'r genhedlaeth gyntaf;

(c)coch ar gyfer hadau ardystiedig o'r ail a'r drydedd genhedlaeth.

Labeli swyddogol ar gyfer hadau masnachol sydd heb eu hardystio o ran amrywogaeth

8.—(1Rhaid i'r canlynol ymddangos ar label swyddogol ar hadau masnachol sydd heb eu hardystio o ran amrywogaeth—

(a)y geiriau “EU Rules and standards”;

(b)enw'r awdurdod ardystio;

(c)enw neu flaenlythrennau'r Aelod-wladwriaeth;

(ch)rhif cyfeirnod y lot hadau;

(d)naill ai—

(i)mis a blwyddyn y selio, a fynegir fel “sealed ...” (mis a blwyddyn); neu

(ii)mis a blwyddyn y samplu swyddogol diwethaf at ddibenion ardystio, a fynegir fel “sampled ...” (mis a blwyddyn);

(dd)y rhywogaeth (rhaid defnyddio'r enw botanegol, naill ai'n llawn neu yn ei ffurf gryno, ac eithrio, yn achos hadau betys neu lysiau, pan ganiateir defnyddio'r enw cyffredin);

(e)y geiriau “commercial seed not certified as to variety”;

(f)y wlad neu'r rhanbarth y'u cynhyrchwyd ynddi;

(ff)y pwysau net neu gros datganedig neu'r nifer datganedig o hadau;

(g)os defnyddir plaleiddiaid gronynnog, sylweddau pelennu neu ychwanegion solid eraill, natur yr ychwanegyn a bras amcan o'r gymhareb rhwng pwysau'r hadau a chyfanswm y pwysau;

(ng)pan fo'r egino wedi ei ailbrofi, y gair “retested” a ddilynir gan fis a blwyddyn yr ailbrofi.

(2Rhaid i'r label fod o liw brown.

Labelu cymysgeddau

9.—(1Rhaid i'r canlynol ymddangos ar label swyddogol ar gymysgedd o hadau—

(a)yr awdurdod sy'n gyfrifol am selio'r pecyn;

(b)enw neu flaenlythrennau'r Aelod-wladwriaeth;

(c)rhif cyfeirnod y lot hadau;

(ch)mis a blwyddyn y selio, a fynegir fel “sealed ...” (mis a blwyddyn);

(d)y rhywogaeth, y categori, yr amrywogaeth, y wlad y'i cynhyrchwyd ynddi a'r gyfran yn ôl pwysau ar gyfer pob un o'r cydrannau;

(dd)y pwysau net neu gros datganedig neu'r nifer datganedig o hadau;

(e)pan ddynodir y pwysau, ac os defnyddir plaleiddiaid gronynnog, sylweddau pelennu neu ychwanegion solid eraill, natur yr ychwanegyn a bras amcan o'r gymhareb rhwng pwysau'r hadau pur a chyfanswm y pwysau;

(f)pan fo pob un o gydrannau'r cymysgedd wedi eu hailbrofi o ran egino, y gair “retested” a ddilynir gan fis a blwyddyn yr ailbrofi;

(ff)yn achos ydau, y geiriau “mixture of” a ddilynir gan y rhywogaethau a'r amrywogaethau a datganiad cymhwyso bod y cymysgedd yn effeithiol rhag lledaenu organeb niweidiol;

(g)yn achos planhigion porthiant, y geiriau “mixture of seeds for” a ddilynir gan ddisgrifiad o'r defnydd y bwriedir ar eu cyfer.

(2Ond ar gyfer cymysgeddau porthiant a gofrestrwyd gyda Gweinidogion Cymru, os yw'r label yn dangos enw cofrestredig y cymysgedd, caniateir hepgor y canrannau yn ôl pwysau o bob un o'r cydrannau, ar yr amod—

(a)y cyflenwir yr wybodaeth honno i'r cwsmer os gofynnir amdani, a

(b)y rhoddir gwybod i gwsmeriaid y cânt ofyn am y manylion hyn.

(3Rhaid i'r label fod o liw gwyrdd.