- Y Diweddaraf sydd Ar Gael (Diwygiedig) - Saesneg
- Y Diweddaraf sydd Ar Gael (Diwygiedig) - Cymraeg
- Gwreiddiol (Fel y'i Gwnaed) - Saesneg
- Gwreiddiol (Fel y'i Gwnaed) - Cymraeg
Dyma’r fersiwn wreiddiol (fel y’i gwnaed yn wreiddiol).
4.—(1) Ceir marchnata hadau cyn-sylfaenol a hadau sylfaenol sydd â chanran safon egino lleiaf sy'n is na'r hyn sy'n ofynnol gan y Gyfarwyddeb mewn perthynas â'r hadau hynny a bennir yn Atodlen 2, ar yr amod bod y cyflenwr yn gwarantu canran egino lleiaf benodol.
(2) Rhaid datgan yr egino ar y label swyddogol ynghyd ag enw a chyfeiriad y cyflenwr a rhif cyfeirnod y lot hadau.
5.—(1) Er mwyn sicrhau bod hadau ar gael yn gynnar, ceir marchnata hadau cyn-sylfaenol, sylfaenol ac ardystiedig cyn cael y canlyniad swyddogol ynglŷn â'r egino—
(a)os dyroddwyd adroddiad prawf hadau o dan y Rheoliadau hyn sy'n dynodi bod yr hadau wedi cyrraedd y safon purdeb dadansoddol ofynnol lleiaf a nodir yn y Gyfarwyddeb mewn perthynas â'r hadau hynny a bennir yn Atodlen 2, a
(b)os yw'r cyflenwr yn gwarantu'r egino lleiaf ar gyfer yr hadau hynny.
(2) Nid yw'r paragraff hwn yn gymwys yn achos hadau a fewnforiwyd o drydedd wlad.
6. Ceir marchnata hadau ŷd os cynhaliwyd prawf tetrasoliwm arnynt a gymeradwywyd gan Weinidogion Cymru i ganfod hyfywedd yr hadau, yn lle'r profion a bennir yng Nghyfarwyddeb y Cyngor 66/402/EEC ar farchnata hadau ŷd(1).
7.—(1) Caiff Gweinidogion Cymru awdurdodi marchnata hadau amrywogaeth gadwraeth yn unol â'r paragraff hwn.
(2) Rhaid i'r hadau fod yn hadau amrywogaeth a restrwyd fel amrywogaeth gadwraeth yn Rhestr Genedlaethol y Deyrnas Unedig.
(3) Rhaid cynhyrchu'r hadau o gnwd a dyfir yn y rhanbarth a bennir fel tarddle'r amrywogaeth yn Rhestr Genedlaethol y Deyrnas Unedig, neu fel yr awdurdodir gan Weinidogion Cymru.
(4) Ni cheir marchnata a defnyddio'r hadau ac eithrio yn y rhanbarth a ddatgenir fel y tarddle.
(5) Rhaid cyfyngu ar gyfanswm yr hadau sy'n cael eu marchnata mewn unrhyw un flwyddyn yn unol ag Erthygl 14 o Gyfarwyddeb y Comisiwn 2008/62/EC(2) (sy'n ymwneud ag amrywogaethau cadwraeth amaethyddol) ac Erthygl 15 o Gyfarwyddeb y Comisiwn 2009/145/EC ac Atodiad I i'r Gyfarwyddeb honno(3) (sy'n ymwneud ag amrywogaethau cadwraeth o lysiau).
(6) Ac eithrio yn achos hadau amrywogaeth gadwraeth o lysieuyn a wiriwyd fel hadau safonol, rhaid i'r hadau fod yn ddisgynyddion hadau a gynhyrchwyd yn unol ag arferion a ddiffiniwyd yn eglur ar gyfer cynnal yr amrywogaeth.
(7) Yn achos hadau betys, hadau ŷd, hadau planhigion porthiant a hadau olew a ffibr, rhaid i'r hadau gydymffurfio â'r gofynion ar gyfer ardystio hadau ardystiedig a bennir yng Nghyfarwyddeb y Cyngor 2002/54/EC(4) (hadau betys), Cyfarwyddeb y Cyngor 66/402/EEC (hadau ŷd), Cyfarwyddeb y Cyngor 66/401/EEC(5) (hadau planhigion porthiant) neu Gyfarwyddeb y Cyngor 2002/57/EC(6) (hadau planhigion olew a ffibr) (yn ôl fe y digwydd), ac eithrio'r gofynion mewn perthynas â phurdeb amrywogaethol minimol ac archwilio.
(8) Rhaid i hadau llysiau gydymffurfio ag—
(a)y gofynion ar gyfer ardystio hadau ardystiedig, a bennir yng Nghyfarwyddeb y Cyngor 2002/55/EC(7) ar farchnata hadau llysiau, ac eithrio'r gofynion mewn perthynas â phurdeb amrywogaethol minimol ac archwilio; neu
(b)y gofynion ar gyfer marchnata hadau safonol a bennir yn y Gyfarwyddeb honno, ac eithrio'r gofynion mewn perthynas â phurdeb amrywogaethol minimol.
(9) Rhaid i burdeb amrywogaethol hadau amrywogaeth gadwraeth fod yn ddigonol.
(10) Rhaid peidio â gwerthu'r hadau fel hadau rhydd o dan baragraff 26 o Atodlen 3.
(11) Rhaid labelu'r hadau gyda label cyflenwr neu hysbysiad printiedig neu stampiedig sydd, yn ychwanegol at gydymffurfio â darpariaethau cymwys y paragraff o Ran 4 o Atodlen 3 sy'n gymwys i'r math o hadau dan sylw (ac eithrio'r darpariaethau sy'n pennu lliw'r label)—
(a)yn cynnwys—
(i)yn achos amrywogaeth gadwraeth amaethyddol, y geiriau “conservation variety”, neu
(ii)yn achos amrywogaeth gadwraeth o lysieuyn, y geiriau “certified seed of a conservation variety” neu “standard seed of a conservation variety”;
(b)yn datgan rhanbarth y tarddiad; ac
(c)o liw brown.
(12) Yn y paragraff hwn, mae i “amrywogaeth gadwraeth” yr ystyr a roddir i “conservation variety” gan reoliad 2(1) o Reoliadau Hadau (Rhestrau Cenedlaethol o Amrywogaethau) 2001(8).
8.—(1) Caiff Gweinidogion Cymru awdurdodi marchnata cymysgeddau cadwraeth yn unol â'r paragraff hwn.
(2) Rhaid i gais am awdurdodiad gael ei wneud gan y cynhyrchwr, a rhaid i'r cais gynnwys—
(a)yr wybodaeth a restrir yn Erthygl 4(2) o Gyfarwyddeb y Comisiwn 2010/60/EU, fel y'i darllenir ynghyd ag Erthygl 4(3) o'r Gyfarwyddeb honno, a
(b)pa bynnag wybodaeth arall a fydd yn ofynnol gan Weinidogion Cymru i wirio cydymffurfiaeth ag Erthygl 5 o'r Gyfarwyddeb honno (yn achos cymysgeddau cadwraeth a gynaeafir yn uniongyrchol) ac Erthygl 6 o'r Gyfarwyddeb honno (yn achos cymysgeddau cadwraeth a dyfir fel cnwd).
(3) O ran awdurdodiad—
(a)ni cheir ei roi oni fydd y cymysgedd cadwraeth yn cydymffurfio ag Erthygl 5 o Gyfarwyddeb y Comisiwn 2010/60/EU (yn achos cymysgeddau cadwraeth a gynaeafir yn uniongyrchol) neu Erthygl 6 o'r Gyfarwyddeb honno (yn achos cymysgeddau cadwraeth a dyfir fel cnwd),
(b)ni cheir ei roi ac eithrio ar gyfer marchnata cymysgedd cadwraeth yn rhanbarth ei darddiad, fel y'i penderfynir gan Weinidogion Cymru yn unol ag Erthygl 3 o Gyfarwyddeb y Comisiwn 2010/60/EU,
(c)ni cheir ei roi ar gyfer cymysgedd cadwraeth sy'n cynnwys amrywogaeth gadwraeth onid yw'r amrywogaeth honno'n cydymffurfio â gofynion paragraff 7, is-baragraffau (1) i (7), (9) a (10); ac
(ch)rhaid iddo bennu'r materion a restrir yn Erthygl 4(2) o Gyfarwyddeb y Comisiwn 2010/60/EU, fel y'i darllenir ynghyd ag Erthygl 4(3) o'r Gyfarwyddeb honno.
(4) Rhaid labelu'r hadau gyda label cyflenwr pinc neu hysbysiad printiedig neu stampiedig sydd, yn hytrach na chynnwys yr wybodaeth labelu ar gyfer cymysgeddau o hadau a bennir yn Atodlen 3, yn cynnwys yr wybodaeth ganlynol—
(a)y geiriau “EU rules and standards”;
(b)enw a chyfeiriad, neu farc adnabod, y person sy'n gosod y labeli;
(c)y dull o gynaeafu;
(ch)blwyddyn y selio, a fynegir fel “sealed...” (blwyddyn);
(d)rhanbarth y tarddiad;
(dd)yr ardal ffynhonnell;
(e) y safle casglu;
(f)y math o gynefin yn y safle casglu;
(ff)y geiriau “preservation seed mixture”;
(g)rhif cyfeirnod y lot, a roddwyd gan y person a osododd y labeli;
(ng)yn achos cymysgeddau cadwraeth a dyfwyd fel cnwd—
(i)y ganran yn ôl pwysau o'r cydrannau fesul rhywogaeth, a phan fo'n berthnasol, fesul is-rywogaeth;
(ii)y gyfradd egino benodol ar gyfer y cydrannau hadau porthiant yn y cymysgedd nad ydynt yn cydymffurfio â'r gofynion egino a bennir ym mharagraff 28(2) o Atodlen 2 (ac eithrio pan fo'r cymysgedd yn cynnwys mwy na phump o gydrannau hadau porthiant o'r fath, ac os felly, ceir defnyddio'r gyfradd egino gyfartalog ar gyfer y cydrannau hynny);
(h)yn achos cymysgeddau cadwraeth a gynaeafir yn uniongyrchol, y ganran yn ôl pwysau, fel rhywogaeth a phan fo'n berthnasol, fel is-rywogaeth, o'r cydrannau hynny sy'n nodweddiadol o'r math o gynefin yn y safle casglu ac sydd, fel cydrannau o'r cymysgedd, yn bwysig o ran diogelu'r amgylchedd naturiol yng nghyd-destun cadwraeth yr adnoddau genetig;
(i)y pwysau net neu gros datganedig; ac
(l)os defnyddir plaleiddiaid gronynnog, sylweddau pelennu neu ychwanegion solid eraill, natur yr ychwanegyn a hefyd bras amcan o'r gymhareb rhwng pwysau'r clystyrau neu'r hadau pur a chyfanswm y pwysau.
(5) Rhaid i gyfanswm pwysau'r hadau yr awdurdodir eu marchnata bob blwyddyn beidio â bod yn fwy na 5% o gyfanswm pwysau'r cymysgeddau hadau porthiant sy'n cael eu marchnata yn y Deyrnas Unedig yn ystod yr un flwyddyn.
(6) Yn y paragraff hwn, mae i “amrywogaeth gadwraeth” yr ystyr a roddir i “conservation variety” gan reoliad 2(1) o Reoliadau Hadau (Rhestrau Cenedlaethol o Amrywogaethau) 2001.
(7) Mae i'r ymadroddion a ddefnyddir yn y paragraff hwn, ac y defnyddir eu cyfystyron Saesneg yng Nghyfarwyddeb y Comisiwn 2010/60/EU yr un ystyron yn y paragraff hwn ag sydd i'r cyfystyron hynny yn y Gyfarwyddeb honno.
9.—(1) Caiff Gweinidogion Cymru awdurdodi marchnata hadau pan fo cais i'w cofnodi yn Rhestr Genedlaethol y Deyrnas Unedig wedi ei gyflwyno, ond hyd hynny heb ei ganiatáu.
(2) Nid yw'r paragraff hwn yn gymwys mewn perthynas â hadau llysiau (ymdrinnir â hadau llysiau yn y paragraff dilynol).
(3) Rhaid i geisydd fod yn gynhyrchwr sefydledig yng Nghymru.
(4) Mae awdurdodiad yn ddilys am un flwyddyn ac yn adnewyddadwy.
(5) Bydd awdurdodiad yn annilys unwaith yr ychwanegir yr amrywogaeth at Restr Genedlaethol y Deyrnas Unedig, neu y tynnir y cais i'w rhestru yn ôl neu y gwrthodir y cais.
(6) Ni chaiff neb ofyn am awdurdodiad ac eithrio'r person a gyflwynodd gais am gofnodi'r amrywogaethau dan sylw yn Rhestr Genedlaethol y Deyrnas Unedig.
(7) Ni cheir rhoi awdurdodiad ac eithrio ar gyfer cynnal profion neu dreialon mewn mentrau amaethyddol, er mwyn casglu gwybodaeth ynglŷn â thyfu neu ddefnyddio'r amrywogaeth.
(8) Rhaid i'r meintiau a awdurdodir ar gyfer pob amrywogaeth beidio â bod yn fwy na'r canrannau canlynol o hadau o'r un rhywogaeth a ddefnyddir yn flynyddol yn y Deyrnas Unedig—
(a)yn achos gwenith caled: 0.05 %,
(b)yn achos pys maes, ffa maes, ceirch, haidd a gwenith: 0.3 %,
(c)ym mhob achos arall: 0.1 %,
ac eithrio, os yw meintiau o'r fath yn annigonol ar gyfer hau 10 hectar, ceir awdurdodi'r maint sydd ei angen ar gyfer arwynebedd o'r fath.
(9) Rhaid i hadau porthiant gydymffurfio â'r amodau ar gyfer—
(a)hadau ardystiedig (pob rhywogaeth ac eithrio pys maes a ffa maes); neu
(b)hadau ardystiedig, ail genhedlaeth (pys maes a ffa maes).
(10) Rhaid i hadau ŷd gydymffurfio â'r amodau ar gyfer—
(a)hadau ardystiedig (rhyg, indrawn a hybridiau o geirch a cheirch coch, haidd, gwenith, gwenith caled, gwenith yr Almaen a rhygwenith ac eithrio amrywogaethau hunanbeilliol); neu
(b)hadau ardystiedig, ail genhedlaeth ceirch a cheirch coch, haidd, gwenith, gwenith caled, gwenith yr Almaen ac amrywogaethau hunanbeilliol o rygwenith, ac eithrio hybridiau ym mhob achos.
(11) Rhaid i hadau betys gydymffurfio â'r amodau ar gyfer hadau ardystiedig.
(12) Rhaid i hadau planhigion olew a ffibr gydymffurfio â'r amodau ar gyfer—
(a)hadau ardystiedig (pob rhywogaeth ac eithrio llin a had llin);
(b)hadau ardystiedig, ail a thrydedd genhedlaeth (llin a had llin).
(13) Rhaid labelu'r pecyn gyda label oren, y mae'n rhaid iddo gynnwys y geiriau “variety not yet officially listed; for tests and trials only” a phan fo'n gymwys “genetically modified variety” yn ychwanegol at y gofynion labelu eraill yn y Rheoliadau hyn.
10.—(1) At y diben o gasglu gwybodaeth a phrofiad ymarferol o amrywogaeth yn ystod y cyfnod tyfu, caiff Gweinidogion Cymru awdurdodi marchnata hadau llysiau nad ydynt wedi eu rhestru yn Rhestr Genedlaethol y Deyrnas Unedig, ar yr amod bod cais wedi ei wneud i'w cofnodi yn Rhestr Genedlaethol un Aelod-wladwriaeth o leiaf.
(2) Mae awdurdodiad yn ddilys am un flwyddyn ac yn adnewyddadwy ddwywaith am gyfnod na fydd yn hwy nag un flwyddyn yn dilyn pob adnewyddiad.
(3) Nid oes cyfyngiadau meintiol ar y meintiau y ceir eu hawdurdodi.
(4) Ni chaiff neb ofyn am awdurdodiad ac eithrio'r person a gyflwynodd gais am gofnodi'r amrywogaethau dan sylw yn y Rhestr Genedlaethol berthnasol.
(5) Rhaid labelu'r pecyn gyda label oren, ac y mae'n rhaid iddo gynnwys y geiriau “Variety not yet officially listed” yn ychwanegol at y gofynion labelu eraill yn y Rheoliadau hyn (ac eithrio nad oes raid i enw'r awdurdod sy'n ardystio ymddangos, nac ychwaith wlad y tarddiad).
(6) Rhaid i'r person sy'n marchnata'r hadau—
(a)dal gafael mewn sampl o bob lot hadau sy'n cael ei farchnata, a'i chadw am ddwy flynedd o leiaf;
(b)cofnodi, ar gyfer pob gwerthiant, enw a chyfeiriad y prynwr, a chadw'r cofnod am dair blynedd o leiaf.
11.—(1) Caiff Gweinidogion Cymru awdurdodi cynhyrchwr i roi ar y farchnad feintiau bach o hadau (ac eithrio hadau llysiau) at ddibenion gwyddonol neu ddethol.
(2) Caiff Gweinidogion Cymru roi awdurdodiad pa un a yw'r amrywogaeth wedi ei rhestru yn Rhestr Genedlaethol y Deyrnas Unedig neu'r Catalog Cyffredin ai peidio.
(3) Rhaid i geisydd am awdurdodiad fod yn gynhyrchwr sydd wedi ymsefydlu yng Nghymru.
(4) Rhaid labelu'r pecyn gyda label oren, ac y mae'n rhaid iddo gynnwys y geiriau “Variety not yet officially listed” (os yw hynny'n wir) yn ychwanegol at ofynion labelu eraill y Rheoliadau hyn.
(5) Rhaid i'r person sy'n marchnata'r hadau—
(a)dal gafael mewn sampl o bob lot hadau sy'n cael ei farchnata, a'i chadw am ddwy flynedd o leiaf;
(b)cofnodi, ar gyfer pob gwerthiant, enw a chyfeiriad y prynwr, a chadw'r cofnod am dair blynedd o leiaf.
12. Ni chaiff Gweinidogion Cymru ganiatáu awdurdodiad o dan baragraffau 8 i 11 mewn perthynas â hadau amrywogaeth a addaswyd yn enetig, ac eithrio pan fo marchnata a gollwng y deunydd a addaswyd yn enetig gan y ceisydd ar gyfer ei dyfu wedi ei awdurdodi o dan naill ai—
(a)Cyfarwyddeb 2001/18/EC Senedd Ewrop a'r Cyngor (ar ollwng i'r amgylchedd yn fwriadol organebau a addaswyd yn enetig(9)), neu
(b)Rheoliad (EC) Rhif 1829/2003 (ar fwyd a phorthiant a addaswyd yn enetig(10)).
13.—(1) Ceir marchnata hadau a ardystiwyd mewn Aelod-wladwriaeth arall, neu mewn trydedd wlad, fel hadau sy'n cyrraedd safon wirfoddol uwch yn unol â'r paragraff hwn.
(2) Rhaid cyflwyno sampl i Weinidogion Cymru i'w brofi, ac os bodlonir Gweinidogion Cymru bod y sampl yn cyrraedd y safon wirfoddol uwch, rhaid iddynt ddyroddi tystysgrif sy'n cadarnhau hynny.
(3) Rhaid ail-labelu'r hadau gan ddefnyddio—
(a)label swyddogol a ddyroddir gan Weinidogion Cymru os yw'r hadau yn dod o Aelod-wladwriaeth arall, neu
(b)label y Sefydliad ar gyfer Cydweithrediad a Datblygiad Economaidd (OECD) os yw'r hadau yn dod o drydedd wlad,
ac yn y ddau achos, rhaid datgan ar y label enw'r wlad y cynhyrchwyd yr hadau ynddi.
(4) Yn achos hadau a fewnforir tra'n aros i'w cynnwys yn Rhestr Genedlaethol y Deyrnas Unedig, neu hadau nas ardystiwyd yn derfynol yn y wlad lle'u cynhyrchwyd, ceir gwirio eu bod yn cyrraedd y safon wirfoddol uwch ac yna eu hailraddio, ar ôl eu rhestru neu'u hardystio'n derfynol.
14. Ceir marchnata hadau a ardystiwyd yn llawn ac a labelwyd mewn Aelod-wladwriaeth arall heb unrhyw ardystiad pellach o dan y Rheoliadau hyn.
15.—(1) Caiff Gweinidogion Cymru awdurdodi marchnata hadau o amrywogaeth llysiau amatur yn unol â'r paragraff hwn.
(2) Rhaid i'r hadau fod o amrywogaeth a restrir fel amrywogaeth o lysiau amatur yn Rhestr Genedlaethol y Deyrnas Unedig.
(3) Rhaid i'r hadau gydymffurfio â'r gofynion ar gyfer marchnata hadau safonol a bennir yng Nghyfarwyddeb y Cyngor 2002/55/EC(11) ar farchnata hadau llysiau, ac eithrio'r gofynion mewn perthynas â phurdeb amrywogaethol minimol.
(4) Rhaid i'r hadau fod â phurdeb amrywogaethol digonol.
(5) Rhaid marchnata'r hadau mewn pecynnau bach nad yw eu pwysau net yn fwy na'r pwysau net a bennir yn Atodiad II i Gyfarwyddeb y Comisiwn 2009/145/EC(12) (sy'n ymwneud ag amrywogaethau llysiau amatur).
(6) Rhaid labelu'r hadau gyda label cyflenwr neu hysbysiad printiedig neu stampiedig sydd, yn ogystal â chydymffurfio â darpariaethau cymwys paragraff 25 o Atodlen 3, yn cynnwys y geiriau “amateur variety”.
(7) Yn y rheoliad hwn, mae i “amrywogaeth llysiau amatur” yr ystyr a roddir i “amateur vegetable variety” gan reoliad 5A(5) o Reoliadau Hadau (Rhestrau Cenedlaethol o Amrywogaethau) 2001(13).
OJ Rhif L 125, 11.7.1966, t. 2309, fel y'i diwygiwyd ddiwethaf gan Gyfarwyddeb y Comisiwn 2009/74/EC (OJ Rhif L 166, 27.6.2009, t. 40).
OJ Rhif L 162, 21.6.2008, t.13.
OJ Rhif L 312, 27.11.2009, t.44.
OJ Rhif L 193, 20.7.2002, t.12, fel y'i diwygiwyd ddiwethaf gan Gyfarwyddeb y Cyngor 2004/117/EC (OJ Rhif L 14, 18.1.2005, t. 18).
OJ Rhif L 125, 11.7.1966, t. 2298, fel y'i diwygiwyd ddiwethaf gan Gyfarwyddeb y Comisiwn 2009/74/EC.
OJ Rhif L 193, 20.7.2002, t. 74, fel y'i diwygiwyd ddiwethaf gan Gyfarwyddeb y Comisiwn 2009/74/EC.
OJ Rhif L 193, 20.7.2002, t. 33, fel y'i diwygiwyd ddiwethaf gan Gyfarwyddeb y Comisiwn 2009/74/EC.
O.S. 2001/3510; mewnosodwyd y diffiniad o “conservation variety” gan O.S. 2009/1273 ac amnewidiwyd gan O.S. 2011/464.
OJ Rhif L 106, 17.4.2001, t. 1, fel y'i diwygiwyd ddiwethaf gan Gyfarwyddeb 2008/27/EC (OJ Rhif L 81, 20.3.2008, t. 45).
OJ Rhif L 268, 18.10.2003, t. 1, fel y'i diwygiwyd ddiwethaf gan Reoliad (EC) Rhif 298/2008 (OJ Rhif L 97, 9.4.2008, t. 64).
OJ Rhif L 193, 20.7.2002, t. 33, fel y'i diwygiwyd ddiwethaf gan Gyfarwyddeb y Comisiwn 2009/74/EC (OJ Rhif L 166, 27.6.2009, t. 40).
OJ Rhif L 312, 27.11.2009, t. 44.
O.S. 2001/3510; mewnosodwyd rheoliad 5A gan O.S. 2011/464.
Y Diweddaraf sydd Ar Gael (diwygiedig):Y fersiwn ddiweddaraf sydd ar gael o’r ddeddfwriaeth yn cynnwys newidiadau a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol ac wedi eu gweithredu gan ein tîm golygyddol. Gellir gweld y newidiadau nad ydym wedi eu gweithredu i’r testun eto yn yr ardal ‘Newidiadau i Ddeddfwriaeth’. Dim ond yn Saesneg y mae’r fersiwn ddiwygiedig ar gael ar hyn o bryd.
Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed) - Saesneg: Mae'r wreiddiol Saesneg fersiwn y ddeddfwriaeth fel ag yr oedd pan gafodd ei deddfu neu eu gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.
Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed)-Cymraeg:Y fersiwn Gymraeg wreiddiol o’r ddeddfwriaeth fel yr oedd yn sefyll pan gafodd ei deddfu neu ei gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.
Gallwch wneud defnydd o ddogfennau atodol hanfodol a gwybodaeth ar gyfer yr eitem ddeddfwriaeth o’r tab hwn. Yn ddibynnol ar yr eitem ddeddfwriaeth sydd i’w gweld, gallai hyn gynnwys:
Defnyddiwch y ddewislen hon i agor dogfennau hanfodol sy’n cyd-fynd â’r ddeddfwriaeth a gwybodaeth am yr eitem hon o ddeddfwriaeth. Gan ddibynnu ar yr eitem o ddeddfwriaeth sy’n cael ei gweld gall hyn gynnwys:
liciwch ‘Gweld Mwy’ neu ddewis ‘Rhagor o Adnoddau’ am wybodaeth ychwanegol gan gynnwys