xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

Offerynnau Statudol Cymru

2012 Rhif 2705 (Cy.291)

BWYD, CYMRU

Rheoliadau Deunyddiau ac Eitemau mewn Cysylltiad â Bwyd (Cymru) 2012

Gwnaed

27 Hydref 2012

Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru

30 Hydref 2012

Yn dod i rym

20 Tachwedd 2012

Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn drwy arfer y pwerau a roddwyd gan adrannau 16(2), 17(1) a (2), 26(1)(a), (2)(a) a (3), 31 a 48(1) o Ddeddf Diogelwch Bwyd 1990(1), ac a freiniwyd bellach ynddynt hwy(2), fel y'u darllenir ynghyd â pharagraff 1A o Atodlen 2 i Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972(3).

Mae'r Rheoliadau hyn yn gwneud darpariaeth at ddiben a grybwyllir yn adran 2(2) o Ddeddf 1972 ac mae'n ymddangos i Weinidogion Cymru ei bod yn hwylus i gyfeiriadau penodol at Reoliad y Comisiwn (EC) Rhif 2023/2006 ar arfer gweithgynhyrchu da ar gyfer deunyddiau ac eitemau y bwriedir iddynt ddod i gysylltiad â bwyd(4) neu i unrhyw Atodiad i'r offerynnau UE eraill a bennir yn rheoliad 2(3) gael eu dehongli fel cyfeiriadau at y Rheoliad hwnnw neu'r Atodiad hwnnw fel y'i diwygiwyd o bryd i'w gilydd.

Yn unol ag adran 48(4A) o Ddeddf 1990, maent wedi rhoi sylw i gyngor perthnasol a roddwyd gan yr Asiantaeth Safonau Bwyd.

Fel sy'n ofynnol gan Erthygl 9 o Reoliad (EC) Rhif 178/2002 Senedd Ewrop a'r Cyngor, sy'n gosod yr egwyddorion cyffredinol a gofynion cyfraith bwyd, yn sefydlu Awdurdod Diogelwch Bwyd Ewrop ac yn gosod gweithdrefnau o ran materion diogelwch bwyd(5), cafwyd ymgynghori agored a thryloyw â'r cyhoedd yn ystod cyfnod paratoi a gwerthuso'r Rheoliadau hyn.

RHAN 1Rhagarweiniol

Enwi, cymhwyso a chychwyn

1.  Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Deunyddiau ac Eitemau mewn Cysylltiad â Bwyd (Cymru) 2012, maent yn gymwys o ran Cymru ac yn dod i rym ar 20 Tachwedd 2012.

Dehongli

2.—(1Yn y Rheoliadau hyn—

nid yw “awdurdod bwyd” (“food authority”) yn cynnwys awdurdod iechyd porthladd;

ystyr “awdurdod iechyd porthladd” (“port health authority”), o ran unrhyw ranbarth iechyd porthladd a sefydlwyd drwy orchymyn o dan adran 2(3) o Ddeddf Iechyd y Cyhoedd (Rheoli Clefydau) 1984(6), yw awdurdod iechyd porthladd ar gyfer y rhanbarth hwnnw a sefydlwyd drwy orchymyn o dan adran 2(4) o'r Ddeddf honno;

ystyr “Cyfarwyddeb 84/500/EEC” (“Directive 84/500/EEC”) yw Cyfarwyddeb y Cyngor 84/500/EEC ar gyd-ddynesiad cyfreithiau'r Aelod-wladwriaethau ynghylch eitemau ceramig y bwriedir iddynt ddod i gysylltiad â bwydydd(7);

ystyr “Cyfarwyddeb 2007/42/EC” (“Directive 2007/42/EC”) yw Cyfarwyddeb y Comisiwn 2007/42/EC ynghylch deunyddiau ac eitemau sydd wedi eu gwneud o gaen cellwlos atgynyrchiedig y bwriedir iddynt ddod i gysylltiad â bwydydd(8);

ystyr “y Ddeddf” (“the Act”) yw Deddf Diogelwch Bwyd 1990;

mae'r term “paratoi” (“preparation”, “prepare”) yn cynnwys gweithgynhyrchu ac unrhyw ffurf ar driniaeth neu broses, ac mae i'w ddehongli'n unol â hynny;

ystyr “Rheoliad 10/2011” (“Regulation 10/2011”) yw Rheoliad y Comisiwn (EU) Rhif 10/2011 ar ddeunyddiau ac eitemau plastig y bwriedir iddynt ddod i gysylltiad â bwyd(9);

ystyr “Rheoliad 450/2009” (“Regulation 450/2009”) yw Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 450/2009 ar ddeunyddiau ac eitemau gweithredol a deallus y bwriedir iddynt ddod i gysylltiad â bwyd(10);

ystyr “Rheoliad 2023/2006” (“Regulation 2023/2006”) yw Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 2023/2006 ar arfer gweithgynhyrchu da ar gyfer deunyddiau ac eitemau y bwriedir iddynt ddod i gysylltiad â bwyd(11);

ystyr “Rheoliad 1895/2005” (“Regulation 1895/2005”) yw Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 1895/2005 ar y cyfyngiad ar ddefnyddio deilliadau epocsi penodol mewn deunyddiau ac eitemau y bwriedir iddynt ddod i gysylltiad â bwyd(12);

ystyr “Rheoliad 1935/2004” (“Regulation 1935/2004”) yw Rheoliad (EC) Rhif 1935/2004 Senedd Ewrop a'r Cyngor ar ddeunyddiau ac eitemau y bwriedir iddynt ddod i gysylltiad â bwyd ac yn diddymu Cyfarwyddebau 80/590/EEC a 89/109/EEC(13);

ystyr “swyddog awdurdodedig” (“authorised officer”) yw unrhyw berson, p'un ai yn swyddog i'r awdurdod o dan sylw ai peidio, sydd wedi'i awdurdodi'n ysgrifenedig gan awdurdod sy'n gyfrifol am weithredu a gorfodi o dan reoliad 20, i weithredu mewn materion sy'n codi o dan y Rheoliadau hyn.

(2Mae i'r ymadroddion a ddefnyddir yn y Rheoliadau hyn ac yn Rheoliad 1935/2004, Rheoliad 1895/2005, Rheoliad 2023/2006, Rheoliad 450/2009 neu Reoliad 10/2011 yr un ystyr yn y Rheoliadau hyn ag sydd i'r ymadroddion Saesneg cyfatebol yn y Rheoliadau hynny.

(3Mae unrhyw gyfeiriad yn y Rheoliadau hyn at Reoliad 2023/2006 neu at Atodiad i Gyfarwyddeb 2007/42/EC neu i Reoliad 10/2011 yn gyfeiriad at y Rheoliad hwnnw neu'r Atodiad hwnnw fel y'i diwygir o bryd i'w gilydd.

Y Cwmpas

3.  Nid yw darpariaethau'r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran y deunyddiau a'r eitemau hynny a bennir ym mharagraff (3) Erthygl 1 (diben a phwnc) o Reoliad 1935/2004.

RHAN 2Gofynion Cyffredinol ar gyfer Deunyddiau ac Eitemau

Troseddau mynd yn groes i ddarpariaethau penodedig yn Rheoliad 1935/2004

4.—(1Ni chaiff unrhyw berson, wrth gynnal busnes mewn cysylltiad â storio, paratoi, pecynnu, gwerthu neu weini bwyd, roi ar y farchnad na defnyddio unrhyw ddeunydd neu eitem nad yw'n cydymffurfio â gofynion Erthygl 3(1) (gofynion cyffredinol) neu Erthygl 4(1), (2), (3) neu (4) (gofynion arbennig ar gyfer deunyddiau ac eitemau gweithredol a deallus).

(2Ni chaiff unrhyw berson roi ar y farchnad unrhyw ddeunydd neu eitem nad yw'n cydymffurfio â gofynion Erthygl 3(2), 4(5) neu (6) neu 15(1), (3), (4), (7) neu (8) fel y'u darllenir gydag Erthygl 15(2) (labelu).

(3Mae unrhyw berson sy'n mynd yn groes i baragraff (1) neu (2) neu Erthygl 11(4) neu (5) (awdurdodi Cymunedol) neu 17(2) (y gallu i olrhain) yn euog o drosedd.

(4Yn y rheoliad hwn mae cyfeiriad at Erthygl â rhif yn gyfeiriad at yr Erthygl honno yn Rheoliad 1935/2004.

Trosedd mynd yn groes i Erthygl 4 yn Rheoliad 2023/2006

5.  Mae unrhyw berson sy'n methu â chydymffurfio â gofynion Erthygl 4 (cydymffurfio ag arfer gweithgynhyrchu da) o Reoliad 2023/2006 yn euog o drosedd.

Awdurdodau cymwys at ddibenion Rheoliad 1935/2004 a Rheoliad 2023/2006

6.—(1Y cyrff canlynol yw'r rhai sydd wedi eu dynodi'n awdurdodau cymwys at ddibenion y darpariaethau yn Rheoliad 1935/2004 a bennir isod—

(a)o ran Erthyglau 9 (cais am awdurdodi sylwedd newydd) a 13 (awdurdodau cymwys Aelod-wladwriaethau), yr Asiantaeth Safonau Bwyd; a

(b)o ran Erthyglau 16(1) (datganiad o gydymffurfedd) a 17(2) (y gallu i olrhain), yr Asiantaeth Safonau Bwyd, pob awdurdod bwyd yn ei ardal a phob awdurdod iechyd porthladd yn ei ranbarth.

(2Yr awdurdod cymwys at ddibenion Erthygl 6(2) (system reoli ansawdd) a 7(3) (dogfennaeth) o Reoliad 2023/2006 yw pob awdurdod bwyd yn ei ardal.

RHAN 3Y Gofynion ar gyfer Deunyddiau ac Eitemau Gweithredol a Deallus

Troseddau mynd yn groes i ddarpariaethau penodedig yn Rheoliad 450/2009

7.—(1Yn ddarostyngedig i'r darpariaethau trosiannol yn Erthygl 14 (dod i rym a chymhwyso) o Reoliad 450/2009, bydd unrhyw berson sy'n rhoi ar y farchnad unrhyw ddeunydd neu eitem sy'n weithredol neu'n ddeallus ac nad yw'n cydymffurfio â gofynion Erthygl 4 o'r Rheoliad hwnnw yn euog o drosedd.

(2Mae unrhyw berson sy'n methu â chydymffurfio â gofynion Erthygl 13 (dogfennaeth ategol) o Reoliad 450/2009 yn euog o drosedd.

Awdurdodau cymwys at ddibenion Rheoliad 450/2009

8.  Yr awdurdodau cymwys at ddibenion Erthygl 13 o Reoliad 450/2009 yw'r Asiantaeth Safonau Bwyd, pob awdurdod bwyd yn ei ardal a phob awdurdod iechyd porthladd yn ei ranbarth.

RHAN 4Y gofynion ar gyfer Eitemau Ceramig

Dehongli'r Rhan hon

9.  Yn y Rhan hon—

(a)ystyr “eitem geramig” (“ceramic article”) yw eitem y mae Rheoliad 1935/2004 yn gymwys iddi yn rhinwedd ei Erthygl 1(2) fel y'i darllenir gydag 1(3) a honno'n eitem—

(i)a weithgynhyrchwyd o gymysgedd o ddeunyddiau anorganig gyda chynnwys cleiog neu silicad uchel yn gyffredinol y mae'n bosibl bod meintiau bach o ddeunyddiau organig wedi eu hychwanegu atynt,

(ii)sy'n cael ei siapio'n gyntaf a bod y siâp a geir drwy hyn wedi ei osod yn barhaol drwy ei thanio, a

(iii)y gellid ei gwydro, ei henamlo a/neu ei haddurno; a

(b)mae unrhyw gyfeiriad at Erthygl neu Atodiad â rhif yn gyfeiriad at yr Erthygl honno o Gyfarwyddeb 84/500/EEC neu'r Atodiad hwnnw iddi.

Terfynau ar gyfer plwm a chadmiwm a datganiad o gydymffurfedd

10.—(1Rhaid i'r meintiau o blwm a chadmiwm a drosglwyddir o eitem geramig beidio â mynd dros y terfynau a osodir yn Atodlen 2(4) fel y'i darllenir gydag Erthygl 2(3) a (5).

(2Oni ddangosir nad oedd y deunyddiau a ddefnyddiwyd i wneud yr eitem geramig yn cynnwys plwm neu gadmiwm, mae cydymffurfedd â pharagraff (1) i'w benderfynu drwy gynnal profion a thrwy ddadansoddi yn unol ag Atodiadau I a II.

(3Ni chaiff unrhyw berson roi ar y farchnad eitem geramig nad yw'n cydymffurfio â gofynion paragraff (1) fel y'i darllenir gyda pharagraff (2).

(4Rhaid i berson sy'n rhoi ar y farchnad eitem geramig na ddaeth hyd yn hyn i gysylltiad â bwyd ddarparu datganiad ysgrifenedig sy'n cydymffurfio â pharagraff (5) i fynd gyda'r eitem yn y cyfnodau marchnata hyd at a chan gynnwys y cyfnod manwerthu.

(5Rhaid i'r datganiad gael ei ddyroddi gan y gweithgynhyrchydd neu gan berson sydd wedi ymsefydlu yn yr UE ac a roddodd yr eitem geramig ar y farchnad a rhaid iddo gynnwys yr wybodaeth a osodir yn Atodiad III.

(6Rhaid i berson sy'n gweithgynhyrchu neu sydd, wrth gynnal busnes, yn mewnforio eitem geramig i'r UE drefnu, pan ofynnir iddo wneud hynny, fod dogfennaeth briodol ar gael i swyddog awdurdodedig sy'n dangos cydymffurfedd â gofynion paragraff (1), gan gynnwys—

(a)canlyniadau'r dadansoddi a wnaed;

(b)amodau'r prawf; ac

(c)enw a chyfeiriad y labordy a gyflawnodd y gwaith profi.

(7Nid yw paragraffau (4), (5) a (6) yn gymwys o ran eitem geramig sy'n ail law.

(8Nid yw'r ddogfennaeth a bennwyd ym mharagraff (6)(a), (b) ac (c) yn ofynnol pan fo tystiolaeth ddogfennol yn cael ei darparu i ddangos nad oedd y deunyddiau a ddefnyddiwyd i wneud yr eitem geramig yn cynnwys plwm na chadmiwm.

RHAN 5Y Gofynion ar gyfer Caen Cellwlos Atgynyrchiedig

Dehongli'r Rhan hon

11.—(1Yn y Rhan hon—

(a)ystyr “caen cellwlos atgynyrchiedig” (“regenerated cellulose film”) yw deunydd haenen denau a gafwyd o gellwlos a goethwyd sy'n deillio o bren neu gotwm nas ailgylchwyd, gydag ychwanegiad o sylweddau addas neu beidio, naill ai yn y màs neu ar un arwyneb neu'r ddau arwyneb, ond nad yw'n cynnwys casinau synthetig o gellwlos atgynyrchiedig;

(b)ystyr “CCAH” (“URCF”) yw caen cellwlos atgynyrchiedig heb araen;

(c)ystyr “CCAG” (“CRCF”) yw caen cellwlos atgynyrchiedig gydag araen sy'n deillio o gellwlos; a

(d)ystyr “CCAP” (“PRCF”) yw caen cellwlos atgynyrchiedig gydag araen sydd wedi ei chyfansoddi o blastigion.

(2Mae'r Rhan hon yn gymwys i gaen cellwlos atgynyrchiedig—

(a)sydd ynddo'i hun yn ffurfio cynnyrch gorffenedig; neu

(b)sy'n rhan o gynnyrch gorffenedig sy'n cynnwys deunyddiau eraill,

ac y bwriedir iddo ddod i gysylltiad â bwyd, neu sydd, drwy gael ei ddefnyddio at y diben hwnnw, yn dod i gysylltiad â bwyd.

(3Ac eithrio yn rheoliad 12(3), mae unrhyw gyfeiriad yn y Rhan hon at Atodiad â rhif yn gyfeiriad at yr Atodiad hwnnw i Gyfarwyddeb 2007/42/EC.

Rheolaethau a therfynau

12.—(1Caniateir i CCAH ac CCAG gael eu gweithgynhyrchu gan ddefnyddio'r sylweddau neu'r grwpiau o sylweddau a restrir yn Atodiad II (rhestr o'r sylweddau a awdurdodwyd ar gyfer gweithgynhyrchu caen cellwlos atgynyrchiedig) yn unig ac yn ddarostyngedig i'r cyfyngiadau a nodir yn yr Atodiad hwnnw ond, fel rhanddirymiad, caniateir i sylweddau nad ydynt wedi eu rhestru yn Atodiad II gael eu defnyddio pan fo'r sylweddau hynny'n cael eu defnyddio naill ai—

(a)fel lliwiau a phigmentau; neu

(b)fel adlynion,

ar yr amod nad oes unrhyw ôl sy'n ganfyddadwy, drwy ddull a ddilyswyd, i ddangos bod y sylweddau wedi ymfudo i mewn i fwydydd neu arnynt.

(2Caniateir i CCAP gael ei weithgynhyrchu, cyn ei araenu, gan ddefnyddio'r sylweddau neu grwpiau o sylweddau a restrir yn y rhan gyntaf o Atodiad II yn unig ac yn ddarostyngedig i'r cyfyngiadau a nodir yn y rhan honno.

(3Caniateir i'r araen sydd i'w rhoi ar CCAP gael ei weithgynhyrchu gan ddefnyddio'r sylweddau neu'r grwpiau o sylweddau a restrir yn Atodiad I i Reoliad 10/2011 yn unig ac yn ddarostyngedig i'r cyfyngiadau yn yr Atodiad hwnnw.

(4Rhaid i ddeunyddiau ac eitemau sydd wedi eu gwneud o CCAP gydymffurfio ag Erthygl 12 (terfyn ymfudo cyffredinol) fel y'i darllenir gydag Erthygl 17 (mynegiad o ganlyniadau'r profion ymfudo) ac Erthygl 18 (y rheolau ar gyfer asesu cydymffurfedd â'r terfynau ymfudo) o Reoliad 10/2011.

(5Rhaid i arwynebau printiedig caen cellwlos atgynyrchiedig beidio â dod i gysylltiad â bwydydd.

(6Yn ystod unrhyw gyfnod marchnata heblaw'r cyfnod manwerthu, rhaid i unrhyw ddeunydd neu eitem a wnaed o gaen cellwlos atgynyrchiedig, nad yw'n amlwg wedi ei fwriadu neu wedi ei bwriadu o ran ei natur i ddod i gysylltiad â bwyd, ddod gyda datganiad ysgrifenedig sydd yn ardystio ei fod neu ei bod yn cydymffurfio â'r ddeddfwriaeth sy'n gymwys iddo neu iddi.

(7Pan fo amodau arbennig o ran defnydd wedi eu nodi, rhaid i'r deunydd neu'r eitem a wnaed o gaen cellwlos atgynyrchiedig gael ei labelu'n unol â hynny.

(8Ni chaiff unrhyw berson roi ar y farchnad unrhyw gaen cellwlos atgynyrchiedig a weithgynhyrchwyd yn groes i ofynion paragraffau (1) i (4), neu sy'n methu â chydymffurfio â pharagraffau (5), (6) neu (7).

RHAN 6Y Gofynion ar gyfer Deunyddiau ac Eitemau Plastig

Dehongli Rhan 6 a'r Atodlen

13.  Yn y Rhan hon ac yn yr Atodlen mae unrhyw gyfeiriad at Erthygl neu Atodiad â rhif yn gyfeiriad at yr Erthygl honno yn Rheoliad 10/2011 neu'r Atodiad hwnnw iddo.

Troseddau mynd yn groes i ddarpariaethau penodedig yn Rheoliad 10/2011

14.—(1Yn ddarostyngedig i'r trefniadau trosiannol a nodir yn Erthygl 22(4) a (5) ac Erthygl 23(14), bydd unrhyw berson sy'n rhoi ar y farchnad ddeunydd neu eitem blastig nad yw'n cydymffurfio â gofyniad yn Rheoliad 10/2011 a bennir yng ngholofn 1 o'r Atodlen yn euog o drosedd.

(2Bydd unrhyw berson sy'n methu â chydymffurfio ag ail frawddeg Erthygl 8 (gofynion cyffredinol o ran sylweddau) neu, yn ddarostyngedig i'r trefniadau trosiannol a nodir yn Erthygl 22(1), (2) a (3)(15), gydag Erthygl 16 (dogfennaeth ategol) yn euog o drosedd.

Awdurdodau cymwys at ddibenion Rheoliad 10/2011

15.  Yr awdurdodau cymwys at ddibenion Rheoliad 10/2011 yw—

(a)o ran Erthygl 8, yr Asiantaeth Safonau Bwyd, pob awdurdod bwyd yn ei ardal a phob awdurdod iechyd porthladd yn ei ranbarth; a

(b)o ran Erthygl 16(1), yr Asiantaeth Safonau Bwyd.

RHAN 7Y gofynion ar gyfer deilliadau epocsi penodol

Cyfyngiadau ar ddefnyddio deilliadau epocsi penodol (BADGE, BFDGE a NOGE)

16.—(1Yn y Rhan hon—

(a)mae unrhyw gyfeiriad at Erthygl neu Atodiad â rhif yn gyfeiriad at yr Erthygl honno neu'r Atodiad hwnnw yn Rheoliad 1895/2005; a

(b)mae paragraffau (2) a (3) yn ddarostyngedig i Erthygl 1(3) (cwmpas)(16).

(2Yn ddarostyngedig i Erthygl 6(1), (2) a (4) (darpariaethau trosiannol)(17), ni chaiff unrhyw berson roi ar y farchnad na defnyddio, wrth gynnal busnes mewn cysylltiad â storio, paratoi, pecynnu, gwerthu neu weini bwyd—

(a)unrhyw ddeunydd neu eitem yn groes i Erthygl 3 (gwahardd defnyddio BFDGE neu ei bresenoldeb) neu Erthygl 4 (gwahardd defnyddio NOGE neu ei bresenoldeb); neu

(b)unrhyw ddeunydd neu eitem nad yw'n cydymffurfio â'r cyfyngiadau sydd yn Erthygl 2 (BADGE) fel y'i darllenir gydag Atodiad I (y terfyn ymfudo penodol ar gyfer BADGE a rhai o'i ddeilliadau).

(3Yn ddarostyngedig i Erthygl 6(3)(18), ni chaiff unrhyw berson roi ar y farchnad unrhyw ddeunydd nac eitem nad yw'n cydymffurfio â gofynion Erthygl 5 (datganiad ysgrifenedig)(19).

(4Mae unrhyw berson sy'n mynd yn groes i baragraff (2) neu (3) yn euog o drosedd.

Awdurdodau cymwys at ddibenion Rheoliad 1895/2005

17.  Yr awdurdod cymwys at ddibenion Erthygl 6(4) yw pob awdurdod bwyd yn ei ardal a phob awdurdod iechyd porthladd yn ei ranbarth.

RHAN 8Y Gofynion ar gyfer Finyl Clorid

18.—(1O ran deunyddiau ac eitemau, ac eithrio'r deunyddiau ac eitemau hynny a reolir gan Reoliad 10/2011, a weithgynhyrchir gan bolymerau neu gopolymerau finyl clorid—

(a)rhaid iddynt beidio â chynnwys monomer finyl clorid y mae ei faint yn fwy nag 1 miligram y cilogram o'r deunydd neu'r eitem; a

(b)rhaid iddynt gael eu gweithgynhyrchu yn y fath fodd ag i beidio â throsglwyddo i fwydydd y maent mewn cysylltiad â hwy unrhyw faint o finyl clorid sy'n fwy na 0.01 miligram o finyl clorid y cilogram o fwyd.

(2Ni chaiff unrhyw berson—

(a)rhoi ar y farchnad; neu

(b)defnyddio wrth gynnal busnes mewn cysylltiad â storio, paratoi, pecynnu, gwerthu neu weini bwyd,

unrhyw ddeunydd neu eitem nad yw'n cydymffurfio â pharagraff (1).

RHAN 9Gorfodi

Troseddau a chosbau

19.—(1Mae unrhyw berson sy'n mynd yn groes i ddarpariaethau rheoliad 10(3) neu (4), 12(8) neu 18(2) yn euog o drosedd.

(2Mae unrhyw berson sy'n fwriadol yn rhwystro unrhyw berson sy'n gweithredu i roi ar waith Reoliad 1935/2004, Rheoliad 1895/2005, Rheoliad 2023/2006, Rheoliad 450/2009, Rheoliad 10/2011 neu'r Rheoliadau hyn yn euog o drosedd.

(3Mae unrhyw berson sydd, heb esgus rhesymol, yn methu â rhoi unrhyw gymorth neu wybodaeth y gall fod ar unrhyw berson angen rhesymol amdano neu amdani i gyflawni ei swyddogaethau o dan y Rheoliadau a grybwyllwyd ym mharagraff (2), neu sy'n methu â chydymffurfio â rheoliad 10(6) yn euog o drosedd.

(4Mae unrhyw berson sydd, gan ymhonni ei fod yn cydymffurfio ag unrhyw ofyniad a grybwyllwyd ym mharagraff (3), yn ddi-hid neu gan wybod hynny yn rhoi gwybodaeth sy'n anwir neu'n gamarweiniol mewn unrhyw fanylyn o bwys yn euog o drosedd.

(5Mae unrhyw berson sy'n euog o drosedd o dan y Rheoliadau hyn yn agored—

(a)yn achos trosedd a grëwyd gan baragraff (1) neu (4) neu reoliad 4(3), 5, 7(1), 14(1) neu 16(4)—

(i)o'i gollfarnu ar dditiad, i ddirwy, neu i garchariad am gyfnod nad yw'n hwy na dwy flynedd, neu'r ddau, neu

(ii)o'i gollfarnu'n ddiannod, i ddirwy nad yw'n fwy na'r uchafswm statudol; a

(b)yn achos trosedd a grëwyd gan baragraff (2) neu (3) neu reoliad 7(2) neu 14(2), o'i gollfarnu'n ddiannod i ddirwy nad yw'n uwch na lefel 5 ar y raddfa safonol, neu'r ddau.

(6Nid oes dim ym mharagraff (2) neu (3) sydd i'w ddehongli fel petai'n ei gwneud yn ofynnol i unrhyw berson ateb unrhyw gwestiwn neu roi unrhyw wybodaeth os byddai gwneud hynny'n gallu peri iddo argyhuddo ei hun.

Gweithredu a gorfodi

20.—(1Rhaid i bob awdurdod bwyd yn ei ardal a phob awdurdod iechyd porthladd yn ei ranbarth weithredu a gorfodi—

(a)Rheoliad 1935/2004, Rheoliad 1895/2005, Rheoliad 450/2009 a Rheoliad 10/2011; a

(b)ac eithrio mewn perthynas â'r darpariaethau y cyfeirir atynt ym mharagraff (3), y Rheoliadau hyn.

(2Caiff yr Asiantaeth Safonau Bwyd hefyd weithredu a gorfodi darpariaethau—

(a)Erthyglau 16(1) a 17(2) o Reoliad 1935/2004; a

(b)Erthygl 13 o Reoliad 450/2009.

(3Rhaid i bob awdurdod bwyd yn ei ardal weithredu a gorfodi darpariaethau Rheoliad 2023/2006 a bennwyd yn rheoliad 5 a'r Rheoliadau hyn.

Troseddau gan gyrff corfforaethol neu bartneriaethau Albanaidd

21.—(1Os profir bod trosedd o dan y Rheoliadau hyn, a gyflawnwyd gan gorff corfforaethol, wedi ei gyflawni gyda chydsyniad neu ymoddefiad unrhyw un o'r canlynol, neu wedi ei briodoli i unrhyw esgeulustod ar ran unrhyw un ohonynt, sef—

(a)unrhyw gyfarwyddwr, rheolwr, ysgrifennydd neu swyddog tebyg arall i'r corff corfforaethol; neu

(b)unrhyw berson sy'n honni ei fod yn gweithredu yn rhinwedd swyddogaeth o'r fath,

bernir bod yr unigolyn hwnnw yn ogystal â'r corff corfforaethol yn euog o'r trosedd hwnnw ac yn agored i gael ei erlyn a'i gosbi yn unol â hynny.

(2Os profir bod trosedd o dan y Rheoliadau hyn a gyflawnwyd gan bartneriaeth Albanaidd wedi ei gyflawni gyda chydsyniad neu ymoddefiad partner, neu wedi ei briodoli i unrhyw esgeulustod ar ran partner, bernir bod y partner hwnnw, yn ogystal â'r bartneriaeth, yn euog o'r trosedd hwnnw a bydd yn agored i gael ei erlyn a'i gosbi yn unol â hynny.

Troseddau oherwydd gweithred neu ddiffyg gweithred trydydd parti

22.  Pan fo trosedd o dan y Rheoliadau hyn yn cael ei gyflawni gan unrhyw berson oherwydd gweithred neu ddiffyg gweithred rhyw berson arall, bydd y person arall hwnnw yn euog o'r trosedd; a chaniateir i berson gael ei gyhuddo a'i gollfarnu o'r trosedd p'un a ddygir achos cyfreithiol yn erbyn y person a grybwyllwyd gyntaf ai peidio.

Y terfyn amser ar gyfer erlyniadau

23.—(1Ni chaniateir cychwyn unrhyw erlyniad am drosedd o dan y Rheoliadau hyn ar ôl i dair blynedd fynd heibio ers cyflawni'r trosedd neu ar ôl i un flwyddyn fynd heibio ers i'r erlynydd ganfod y trosedd, p'un bynnag yw'r cynharaf.

(2Nid yw paragraff (1) yn gymwys i drosedd o dan reoliad 7(2), 14(2) neu 19(2) neu (3).

Amddiffyniadau cyffredinol

24.—(1Mewn unrhyw achos cyfreithiol am drosedd o dan y Rheoliadau hyn, bydd yn amddiffyniad, yn ddarostyngedig i baragraff (5), i'r person a gyhuddir (“y cyhuddedig”) brofi ei fod wedi cymryd pob rhagofal rhesymol ac arfer pob diwydrwydd dyladwy i osgoi bod y trosedd yn cael ei gyflawni ganddo neu gan berson a oedd o dan ei reolaeth.

(2Heb leihau effaith paragraff (1) yn gyffredinol, rhaid cymryd bod person sydd wedi ei gyhuddo o drosedd o dan reoliad 4(3), 7(1), 14(1), 16(4) neu 19(1) ac nad oedd wedi mewnforio na pharatoi'r deunydd neu'r eitem yr honnir bod y trosedd wedi ei gyflawni mewn cysylltiad ag ef neu hi wedi cadarnhau'r amddiffyniad a ddarparwyd gan baragraff (1) os bydd gofynion paragraffau (3) neu (4) wedi eu bodloni.

(3Bydd gofynion y paragraff hwn wedi eu bodloni os profir—

(a)bod y trosedd wedi ei gyflawni oherwydd gweithred neu ddiffyg gweithred rhyw berson arall nad oedd o dan reolaeth y cyhuddedig, neu oherwydd dibyniad ar wybodaeth a ddarparwyd gan berson o'r fath;

(b)naill ai—

(i)bod y cyhuddedig wedi cyflawni pob gwiriad o'r fath, ar y deunydd neu'r eitem o dan sylw, a oedd yn rhesymol o dan yr holl amgylchiadau, neu

(ii)ei bod yn rhesymol o dan yr holl amgylchiadau i'r cyhuddedig ddibynnu ar wiriadau a wnaed gan y person a gyflenwodd y deunydd hwnnw neu'r eitem honno iddo; ac

(c)nad oedd y cyhuddedig yn gwybod, ac nad oedd ganddo, adeg cyflawni'r trosedd, reswm dros amau y byddai'r weithred neu'r anwaith yn ffurfio trosedd o dan y Rheoliadau hyn.

(4Mae gofynion y paragraff hwn wedi eu bodloni os yw'r trosedd yn drosedd rhoi ar y farchnad ac os profir—

(a)bod y trosedd wedi ei gyflawni oherwydd gweithred neu ddiffyg gweithred rhyw berson arall nad oedd o dan reolaeth y cyhuddedig, neu oherwydd dibyniad ar wybodaeth a ddarparwyd gan berson o'r fath;

(b)nad oedd y weithred o roi ar y farchnad a ffurfiodd y trosedd wedi ei wneud o dan enw neu farc y cyhuddedig; ac

(c)nad oedd y cyhuddedig yn gwybod ac na ellid yn rhesymol ddisgwyl iddo wybod adeg cyflawni'r trosedd y byddai'r weithred neu'r anwaith yn ffurfio trosedd o dan y Rheoliadau hyn.

(5Os digwydd mewn unrhyw achos bod yr amddiffyniad a ddarperir gan y rheoliad hwn yn golygu honni bod y trosedd wedi ei gyflawni oherwydd gweithred neu ddiffyg gweithred person arall, neu oherwydd dibyniad ar wybodaeth a ddarparwyd gan berson arall, ni fydd gan y cyhuddedig yr hawl i ddibynnu ar yr amddiffyniad hwnnw, heb ganiatâd y llys, onid yw—

(a)o leiaf saith niwrnod clir cyn y gwrandawiad; a

(b)pan fo'r cyhuddedig wedi ymddangos o'r blaen gerbron y llys mewn cysylltiad â'r trosedd honedig, o fewn un mis i'r ymddangosiad cyntaf hwnnw,

wedi cyflwyno i'r erlynydd hysbysiad ysgrifenedig a oedd yn rhoi pa wybodaeth bynnag a oedd yn ei feddiant ar y pryd ar gyfer adnabod y person arall hwnnw neu fel cymorth i'w adnabod.

Y weithdrefn pan fydd sampl i'w dadansoddi

25.—(1Rhaid i swyddog awdurdodedig sydd wedi caffael sampl o dan adran 29 o'r Ddeddf, ac sydd o'r farn y dylai gael ei dadansoddi, rannu'r sampl yn dair rhan.

(2Os cynwysyddion wedi eu selio yw cynnwys y sampl ac y byddai eu hagor, ym marn y swyddog awdurdodedig, yn rhwystr i'w dadansoddi'n briodol, rhaid i'r swyddog awdurdodedig rannu'r sampl yn rhannau drwy roi'r cynwysyddion mewn tair lot, a rhaid i bob lot gael ei thrin fel pe bai'n rhan.

(3Rhaid i'r swyddog awdurdodedig—

(a)gosod pob rhan, os bydd angen gwneud hynny, mewn cynhwysydd addas a'i selio;

(b)marcio pob rhan neu bob cynhwysydd;

(c)rhoi un rhan, cyn gynted ag y bo'n rhesymol ymarferol, i'r perchennog, a'i hysbysu mewn ysgrifen y bydd y sampl yn cael ei dadansoddi;

(d)cyflwyno un rhan i gael ei dadansoddi yn unol ag adran 30 o'r Ddeddf; ac

(e)dal ei afael ar un rhan i'w chyflwyno yn y dyfodol o dan reoliad 26.

Dadansoddi eilaidd gan Gemegydd y Llywodraeth

26.—(1Pan fo sampl wedi ei chadw o dan reoliad 25(3)(e) a bod—

(a)bwriad i achos cyfreithiol gael ei gychwyn neu iddo fod wedi ei gychwyn yn erbyn person am drosedd o dan y Rheoliadau hyn; a

(b)yr erlyniad yn bwriadu dangos fel tystiolaeth ganlyniad y dadansoddiad a grybwyllwyd yn rheoliad 25,

mae paragraffau (2) i (7) yn gymwys.

(2O ran y swyddog awdurdodedig—

(a)caiff, o'i wirfodd ei hun; neu

(b)rhaid iddo—

(i)os bydd yr erlynydd (os person gwahanol i'r swyddog awdurdodedig yw hwnnw) yn gofyn iddo wneud hynny,

(ii)os bydd y llys yn gorchymyn hynny, neu

(iii)(yn ddarostyngedig i baragraff (6)) os bydd y cyhuddedig yn gofyn iddo wneud hynny,

anfon y rhan o'r sampl y daliwyd gafael ynddi at Gemegydd y Llywodraeth i'w dadansoddi.

(3Rhaid i Gemegydd y Llywodraeth ddadansoddi'r rhan a anfonwyd ato o dan baragraff (2) ac anfon at y swyddog awdurdodedig dystysgrif sy'n nodi canlyniadau'r dadansoddiad.

(4Rhaid i unrhyw dystysgrif o ganlyniadau'r dadansoddiad sy'n cael ei throsglwyddo gan Gemegydd y Llywodraeth fod wedi ei llofnodi ganddo ef neu ar ei ran, ond caiff unrhyw berson sydd o dan gyfarwyddyd y person sy'n llofnodi'r dystysgrif gynnal y dadansoddiad.

(5Yn union ar ôl i'r swyddog awdurdodedig gael tystysgrif ddadansoddi Cemegydd y Llywodraeth, rhaid iddo ddarparu copi ohoni i'r erlynydd (os person gwahanol i'r swyddog awdurdodedig yw hwnnw) ac i'r cyhuddedig.

(6Pan fo cais wedi ei wneud o dan baragraff (2)(b)(iii), caiff y swyddog awdurdodedig roi hysbysiad mewn ysgrifen i'r cyhuddedig yn gofyn iddo dalu ffi a bennir yn yr hysbysiad i glirio rhan neu'r cyfan o ffioedd Cemegydd y Llywodraeth am gyflawni'r swyddogaethau o dan baragraff (3), ac os na fydd y cyhuddedig yn cytuno i dalu'r ffi a bennir yn yr hysbysiad, caiff y swyddog awdurdodedig wrthod cydymffurfio â'r cais.

(7Yn y rheoliad hwn mae “y cyhuddedig” (“the accused”) yn cynnwys person y mae swyddog awdurdodedig yn bwriadu cychwyn achos cyfreithiol yn ei erbyn.

Cymhwyso amrywiol ddarpariaethau'r Ddeddf

27.—(1Mae darpariaethau canlynol y Ddeddf yn gymwys at ddibenion y Rheoliadau hyn gyda'r addasiad bod unrhyw gyfeiriad yn y darpariaethau hynny at y Ddeddf neu Ran ohoni i'w ddehongli fel cyfeiriad at y Rheoliadau hyn—

(a)adran 2 (ehangu ystyr “sale” etc.);

(b)adran 30(8) (dadansoddi etc. samplau)(20).

(2Wrth gymhwyso adran 32 o'r Ddeddf (pwerau mynediad) at ddibenion y Rheoliadau hyn, mae'r cyfeiriad yn y Ddeddf at is-adran (1) i'w ddehongli fel un sy'n cynnwys cyfeiriad at Reoliad 1935/2004, Rheoliad 1895/2005, Rheoliad 2023/2006, Rheoliad 450/2009 neu Reoliad 10/2011 fel y bo'n briodol.

(3Mae darpariaethau canlynol y Ddeddf yn gymwys at ddibenion y Rheoliadau hyn gyda'r addasiad bod unrhyw gyfeiriad yn y darpariaethau hynny at y Ddeddf i'w ddehongli fel un sy'n cynnwys cyfeiriad at Reoliad 1935/2004, Rheoliad 1895/2005, Rheoliad 2023/2006, Rheoliad 450/2009 neu Reoliad 10/2011, fel y bo'n briodol, ac at y Rheoliadau hyn—

(a)adran 3 (rhagdybiaethau bod bwyd wedi ei fwriadu i'w fwyta gan bobl) gyda'r addasiadau y bernir bod y cyfeiriadau at “sold” a “sale” yn rhai sy'n cynnwys cyfeiriadau at “placed on the market” a “placing on the market” yn ôl eu trefn;

(b)adran 44 (amddiffyn swyddogion sy'n gweithredu'n ddidwyll).

RHAN 10Cyffredinol ac atodol

Diwygiad canlyniadol i Reoliadau Diogelwch Bwyd (Samplu a Chymwysterau) 1990

28.  Yn Rheoliadau Diogelwch Bwyd (Samplu a Chymwysterau) 1990(21), yn Atodlen 1 (darpariaethau nad yw'r Rheoliadau hynny'n gymwys iddynt)—

(a)hepgorer enw a chyfeirnod Rheoliadau Deunyddiau ac Eitemau Plastig mewn Cysylltiad â Bwyd (Cymru) 2009(22); a

(b)yn lle enw a chyfeirnod Rheoliadau Deunyddiau ac Eitemau mewn Cysylltiad â Bwyd (Cymru) 2010(23) rhodder enw a chyfeirnod y Rheoliadau hyn.

Diwygiad i Reoliadau Labelu Bwyd 1996

29.—(1Mae Rheoliadau Labelu Bwyd 1996(24) wedi eu diwygio'n unol â pharagraff (2).

(2Yn rheoliad 2(1) (dehongli), yn lle'r diffiniad o “ingredient”, rhodder y diffiniad a ganlyn—

“ingredient” means—

(a)

any substance, including any additive or food enzyme and any constituent of a compound ingredient, which is used in the preparation of a food and which is still present in the finished product, even if in altered form; or

(b)

any released active substance within the meaning of Article 3(f) of Commission Regulation (EC) No. 450/2009 on active and intelligent materials and articles intended to come into contact with food,

and a “compound ingredient” is composed of two or more such substances;.

(3Bydd paragraffau (1) a (2) yn dirwyn i ben ar 13 Rhagfyr 2014.

Dirymu

30.  Mae'r Rheoliadau canlynol wedi eu dirymu—

(a)Rheoliadau Eitemau Ceramig mewn Cyffyrddiad â Bwyd (Cymru) 2006(25);

(b)Rheoliadau Deunyddiau ac Eitemau Plastig mewn Cysylltiad â Bwyd (Cymru) 2009(26);

(c)Rheoliadau Deunyddiau ac Eitemau mewn Cysylltiad â Bwyd (Cymru) 2010(27);

(d)Rheoliadau Deunyddiau ac Eitemau Plastig mewn Cysylltiad â Bwyd (Cymru) (Diwygio) 2011(28).

Lesley Griffiths

Y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, un o Weinidogion Cymru

27 Hydref 2012

Rheoliad 14(1)

YR ATODLENDarpariaethau penodedig yn Rheoliad 10/2011

Y ddarpariaeth benodedigY pwnc
Erthygl 4(e), fel y'i darllenir gydag Erthyglau 17 a 18Gwaharddiad ar roi ar y farchnad ddeunyddiau neu eitemau plastig os nad ydynt yn bodloni gofynion penodedig ynghylch cyfansoddiad a datganiad
Erthygl 5(1) ac Atodiad I, fel y'i darllenir gydag Erthygl 6Gofyniad, yn ddarostyngedig i randdirymiadau penodol, i ddefnyddio sylweddau awdurdodedig yn unig i weithgynhyrchu haenau plastig mewn deunyddiau ac eitemau plastig
Erthygl 8, y frawddeg gyntafSafonau cyffredinol o ran ansawdd a phurdeb y mae'n rhaid glynu wrthynt yn achos sylweddau sy'n cael eu defnyddio i weithgynhyrchu haenau plastig mewn deunyddiau ac eitemau plastig
Erthygl 9 fel y'i darllenir gydag Atodiad ICyfyngiadau a manylebau penodol ar gyfer sylweddau a ddefnyddir i weithgynhyrchu haenau plastig mewn deunyddiau ac eitemau plastig
Erthygl 10 fel y'i darllenir gydag Atodiad IICyfyngiadau cyffredinol ar ddeunyddiau ac eitemau plastig
Erthygl 11(1) a (2) ac Atodiad I, fel y'i darllenir gydag Erthygl 11(3)Terfynau penodol ar y graddau y caniateir i gyfansoddion deunyddiau ac eitemau plastig ymfudo i fwydydd
Erthygl 12Terfynau cyffredinol ar y lefel a ganiateir ar gyfer ymfudiad cyfansoddion deunyddiau ac eitemau plastig i efelychwyr bwyd
Erthygl 13(1), (3), (4) a (5) ac Atodiad I fel y'i darllenir gydag Erthygl 13(2)Cyfyngiadau a manylebau penodol ar gyfer cyfansoddiad pob haen blastig mewn deunyddiau ac eitemau amlhaen plastig
Erthygl 14(1) a (5) ac Atodiad 1, fel y'i darllenir gydag Erthygl 4(2), (3) a (4)Cyfyngiadau a manylebau penodol ar gyfer cyfansoddiad pob haen blastig mewn deunyddiau ac eitemau amlddeunydd amlhaen
Erthygl 15 ac Atodiad IVGofynion y dylai datganiad cydymffurfio ysgrifenedig ar gyfer deunyddiau ac eitemau plastig, ar gyfer cynhyrchion o gyfnodau canolraddol eu gweithgynhyrchiad ac ar gyfer sylweddau sydd wedi eu bwriadu ar gyfer gweithgynhyrchu'r deunyddiau neu'r eitemau hynny fod ar gael yn ystod y cyfnodau marchnata ac eithrio'r cyfnod manwerthu

Nodyn Esboniadol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)

1.  Mae'r Rheoliadau hyn yn darparu ar gyfer gweithredu'r Cyfarwyddebau canlynol a gorfodi'r Rheoliadau UE canlynol—

(a)Cyfarwyddeb y Cyngor 78/142/EEC ar gyd-ddynesiad cyfreithiau'r Aelod-wladwriaethau ynghylch deunyddiau ac eitemau sy'n cynnwys monomer finyl clorid ac y bwriedir iddynt ddod i gysylltiad â bwydydd (OJ Rhif L44, 15.2.1978, t.15) (“Cyfarwyddeb 78/142/EEC”);

(b)Cyfarwyddeb y Cyngor 84/500/EEC ar gyd-ddynesiad cyfreithiau'r Aelod-wladwriaethau ynghylch eitemau ceramig y bwriedir iddynt ddod i gysylltiad â bwydydd (OJ Rhif L277, 20.10.1984, t.12) (“Cyfarwyddeb 84/500/EEC”);

(c)Cyfarwyddeb y Comisiwn 2007/42/EC ynghylch deunyddiau ac eitemau sydd wedi eu gwneud o gaen cellwlos atgynyrchiedig y bwriedir iddynt ddod i gysylltiad â bwydydd (OJ Rhif L172, 30.6.2007, t.71) (“Cyfarwyddeb 2007/42/EC”);

(d)Rheoliad (EC) Rhif 1935/2004 Senedd Ewrop a'r Cyngor ar ddeunyddiau ac eitemau y bwriedir iddynt ddod i gysylltiad â bwyd, ac yn diddymu Cyfarwyddebau 80/590/EEC a 89/109/EEC (OJ Rhif L338, 13.11.2004, t.4) (“Rheoliad 1935/2004”);

(e)Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 1895/2005 ar gyfyngu ar y defnydd o ddeilliadau epocsi penodol mewn deunyddiau ac eitemau y bwriedir iddynt ddod i gysylltiad â bwyd (OJ Rhif L302, 19.11.2005, t.28) (“Rheoliad 1895/2005”);

(f)Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 2023/2006 ar arfer gweithgynhyrchu da ar gyfer deunyddiau ac eitemau y bwriedir iddynt ddod i gysylltiad â bwyd (OJ Rhif L384, 29.12.2006, t.75) (“Rheoliad 2023/2006”);

(g)Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 450/2009 ar ddeunyddiau ac eitemau gweithredol a deallus y bwriedir iddynt ddod i gysylltiad â bwyd (OJ Rhif L135, 30.5.2009, t.3) (“Rheoliad 450/2009”); ac

(h)Rheoliad y Comisiwn (EU) Rhif 10/2011 ar ddeunyddiau ac eitemau plastig y bwriedir iddynt ddod i gysylltiad â bwyd (OJ Rhif L12, 15.1.2011, t.1) (“Rheoliad 10/2011”).

2.  Mae'r Rheoliadau hyn yn dirymu Rheoliadau Deunyddiau ac Eitemau Plastig mewn Cysylltiad â Bwyd (Cymru) 2009 (O.S. 2009/481 (Cy.49)). Maent hefyd yn dirymu ac yn ailddeddfu gyda rhai diwygiadau ddarpariaethau Rheoliadau Eitemau Ceramig mewn Cyffyrddiad â Bwyd (Cymru) 2006 (O.S. 2006/1704 (Cy.166)) a Rheoliadau Deunyddiau ac Eitemau mewn Cysylltiad â Bwyd (Cymru) 2010 (O.S. 2010/2288 (Cy.200)).

3.  Mae'r Rheoliadau hyn yn darparu bod cyfeiriadau at offeryn UE penodedig neu at rannau penodedig ohono i gael eu dehongli fel cyfeiriadau at yr offeryn neu rannau ohono fel y cânt eu diwygio o bryd i'w gilydd (rheoliad 2(3)).

4.  Nid yw'r Rheoliadau hyn yn gymwys i ddeunyddiau neu eitemau y tu allan i gwmpas Rheoliad 1935/2004 (rheoliad 3). Y deunyddiau sy'n cael eu nodi yn y Rheoliad hwnnw fel rhai sydd y tu allan i'w gwmpas yw deunyddiau ac eitemau sy'n cael eu cyflenwi fel hynafolion, deunyddiau gorchuddio neu araenu sydd yn rhan o'r bwyd ac y gellir eu bwyta gydag ef ac offer sefydlog cyhoeddus neu breifat ar gyfer cyflenwi dŵr.

5.  Mae Rhan 2 o'r Rheoliadau hyn yn cynnwys darpariaethau sy'n ei gwneud yn drosedd i fynd yn groes i ofynion penodol yn Rheoliad 1935/2004 (rheoliad 4) a Rheoliad 2023/2006 (rheoliad 5). Rheoliad 1935/2004 yw'r prif Reoliad fframwaith ar ddeunyddiau ac eitemau sydd mewn cysylltiad â bwyd.

6.  Mae Rhan 2 hefyd yn darparu ar gyfer dynodi'r awdurdodau cymwys at y gwahanol ddibenion sydd wedi eu nodi yn Rheoliadau 1935/2004 a 2023/2006 (rheoliad 6).

7.  Mae Rhan 3 yn darparu ar gyfer gorfodi darpariaethau penodedig yn Rheoliad 450/2009 (rheoliad 7) ac yn dynodi'r awdurdodau cymwys at ddibenion y Rheoliad hwnnw (rheoliad 8).

8.  Mae Rhan 4 yn gweithredu Cyfarwyddeb 84/500/EEC, ac mae'r diffiniad o eitem geramig wedi ei nodi yn rheoliad 9. Mae'n darparu na chaiff unrhyw berson roi eitem geramig ar y farchnad nad yw'n bodloni'r manylebau a nodir yn y Gyfarwyddeb (rheoliad 10). Mae'r rheoliad hwn yn cynnwys yn ychwanegol ofynion sy'n ymwneud â phrawf dogfennol o gydymffurfedd sy'n gymwys i eitemau ceramig newydd ond nid i eitemau ceramig ail-law.

9.  Mae Rhan 5 o'r Rheoliadau hyn, sy'n gweithredu Cyfarwyddeb 2007/42/EC, yn cynnwys gofynion sy'n ymwneud â chaen cellwlos atgynyrchiedig ac mae'n nodi'r mathau amrywiol o gaen y mae'r darpariaethau yn gymwys iddynt (rheoliad 11). Mae'r Rhan hon, yn rheoliad 12, yn cynnwys amodau sy'n ymwneud â'r sylweddau y caniateir eu defnyddio ar gyfer gweithgynhyrchu caen cellwlos atgynyrchiedig (paragraffau (1) i (4)), yn pennu bod rhaid i wyneb printiedig y caen atgynyrchiedig beidio â dod i gysylltiad â bwyd (paragraff (5)) ac yn pennu gofynion penodol o ran dogfennaeth a labelu (paragraffau (6) a (7)).

10.  Mae Rhan 6 o'r Rheoliadau hyn yn darparu ar gyfer gorfodi Rheoliad 10/2011 ac yn nodi'r darpariaethau hynny yn Rheoliad yr UE y mae'n drosedd i fynd yn groes iddynt (rheoliad 14 a'r Atodlen). Mae'r awdurdodau cymwys, at ddibenion darpariaethau penodol yn Rheoliad 10/2011 wedi eu dynodi yn rheoliad 15.

11.  Mae Rhan 7 yn darparu ar gyfer parhau i orfodi Reoliad 1895/2005 sy'n cadw gwaharddiad ar y deilliadau epocsi BFDGE a NOGE a chyfyngu ar ddefnyddio BADGE (rheoliad 16). Mae'r awdurdodau cymwys at ddibenion y Rheoliad UE hwn wedi eu dynodi yn rheoliad 17.

12.  Mae Rhan 8 yn cadw'r rheolaethau ar ddefnyddio finyl clorid a sefydlwyd gan Gyfarwyddeb 78/142/EEC i'r graddau nad yw Rheoliad 10/2011 yn effeithio bellach ar y rheolaethau hynny (rheoliad 18).

13.  Mae Rhan 9 yn cynnwys darpariaethau gorfodi a darpariaethau cysylltiedig—

(a)sy'n rhoi cosb am fynd yn groes i'r Rheoliadau hyn neu am beri rhwystr i'r rhai sydd yn eu gorfodi (rheoliad 19);

(b)sy'n dynodi awdurdodau gorfodi ar gyfer y swyddogaethau amrywiol o dan y Rheoliadau (rheoliad 20);

(c)sy'n darparu bod modd i unigolion sy'n gyfrifol am weithredoedd corff corfforaethol neu bartneriaeth Albanaidd gael eu herlyn ar y cyd am droseddau a gyflawnwyd gan y corff hwnnw neu'r bartneriaeth honno (rheoliad 21);

(d) sy'n darparu ar gyfer erlyn person sydd yn peri i drosedd gael ei chyflawni gan berson arall, p'un a ddygir achos cyfreithiol yn erbyn y troseddwr gwreiddiol ai peidio (rheoliad 22);

(e)sy'n pennu terfyn amser ar gyfer cychwyn erlyniad (rheoliad 23);

(f)sy'n darparu ar gyfer amddiffyniad o ddiwydrwydd dyladwy yn erbyn trosedd o dan y Rheoliadau hyn (rheoliad 24);

(g)sy'n pennu'r weithdrefn sydd i'w dilyn wrth anfon sampl i'w dadansoddi (rheoliad 25);

(h)sy'n darparu ar gyfer dadansoddi sampl gyfeiriol gan Labordy Cemegydd y Llywodraeth (rheoliad 26); ac

(i)sy'n cymhwyso darpariaethau penodol yn Neddf Diogelwch Bwyd 1990 at ddibenion y Rheoliadau hyn (rheoliad 27).

14.  Mae Rhan 10 yn cynnwys darpariaethau cyffredinol ac atodol—

(a)sy'n gwneud newidiadau canlyniadol i Atodlen 1 i Reoliadau Diogelwch Bwyd (Samplu a Chymwysterau) 1990 (rheoliad 28);

(b)sy'n cadw diwygiad i Reoliadau Labelu Bwyd 1996 (O.S. 1996/1499) ac yn darparu bod y diwygiad hwnnw yn dod i ben ar ddyddiad pan fydd darpariaethau labelu bwyd yr UE, sy'n uniongyrchol gymwysadwy, yn cael effaith (rheoliad 29); ac

(c)sy'n darparu ar gyfer dirymu Rheoliadau penodedig (rheoliad 30).

15.  Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar wneud Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â'r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, paratowyd asesiad rheoleiddiol o'r costau a'r buddiannau sy'n debygol o ddeillio o gydymffurfio â'r Rheoliadau hyn. Gellir cael copi gan yr Asiantaeth Safonau Bwyd yn Asiantaeth Safonau Bwyd Cymru, Llawr 11, Tŷ Southgate, Wood Street, Caerdydd CF10 1EW.

(1)

1990 p.16. Amnewidiwyd adran 1(1) a (2) (y diffiniad o “food”) gan O.S. 2004/2990. Diwygiwyd adrannau 17 a 48 gan baragraffau 12 a 21 yn eu trefn o Atodlen 5 i Ddeddf Safonau Bwyd 1999 (1999 p.28), “Deddf 1999”. Diwygiwyd adran 48 hefyd gan O.S. 2004/2990. Diwygiwyd adran 26(3) gan Atodlen 6 i Ddeddf 1999. Diwygiwyd adran 53(2) gan baragraff 19 o Atodlen 16 i Ddeddf Dadreoleiddio a Chontractio Allan 1994 (1994 p.40), Atodlen 6 i Ddeddf 1999, O.S 2004/2990 ac O.S. 2004/3279.

(2)

Trosglwyddwyd swyddogaethau a oedd gynt yn arferadwy gan “the Ministers”, i'r graddau yr oeddent yn arferadwy mewn perthynas â Chymru, i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan O.S.1999/672 fel y'i darllenir gydag adran 40(3) o Ddeddf 1999, a'u trosglwyddo wedi hynny i Weinidogion Cymru gan baragraff 30 o Atodlen 11 i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (2006 p.32).

(3)

1972 p.68. Mewnosodwyd paragraff 1A o Atodlen 2 gan adran 28 o Ddeddf Diwygio Deddfwriaethol a Rheoleiddiol 2006 (2006, p.51) ac fe'i diwygiwyd gan Ran 1 o Atodlen 1 i Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Diwygio) 2008 (2008 p.7).

(4)

OJ Rhif L384, 29.12.2006, t.75, a ddiwygiwyd gan Reoliad y Comisiwn (EC) Rhif 282/2008 (OJ Rhif L86, 28.3.2008, t.9).

(5)

OJ Rhif. L31, 1.2.2002, t.1. Diwygiwyd y Rheoliad hwnnw ddiwethaf gan Reoliad (EC) Rhif 596/2009 Senedd Ewrop a'r Cyngor sy'n addasu nifer o offerynnau sy'n ddarostyngedig i'r weithdrefn y cyfeirir ati yn Erthygl 251 o'r Cytuniad i Benderfyniad y Cyngor 1999/468/EC o ran y weithdrefn reoleiddio ynghyd â chraffu: Addasiad i'r weithdrefn reoleiddiol gyda chraffu — Rhan Pedwar (OJ Rhif L188, 18.7.2009, t.14).

(7)

OJ Rhif L277, 20.10.1984, t.12, a ddiwygiwyd gan Gyfarwyddeb y Comisiwn 2005/31/EC (OJ Rhif L110, 30.4.2005, t.36).

(8)

OJ Rhif L172, 30.6.2007, t.71. Yr oedd y Gyfarwyddeb hon yn diddymu ac yn cydgrynhoi a hynny heb ddiwygio pellach Gyfarwyddeb y Comisiwn 93/10/EEC fel y'i diwygiwyd ddiwethaf gan Gyfarwyddeb y Comisiwn 2004/14/EC.

(9)

OJ Rhif L12, 15.1.2011, t.1, fel y'i diwygiwyd ddiwethaf gan Reoliad y Comisiwn (EU) Rhif 1282/2011 (OJ Rhif L328, 10.12.2011, t.22).

(10)

OJ Rhif L135, 30.5.2009, t.3.

(11)

OJ Rhif L384, 29.12.2006, t.75.

(12)

OJ Rhif L302, 19.11.2005, t.28.

(13)

OJ Rhif L338, 13.11.2004, t.4, a ddiwygiwyd gan Reoliad (EC) Rhif 596/2009 Senedd Ewrop a'r Cyngor (OJ Rhif L188, 18.7.2009, t.14).

(14)

Mae Erthygl 22(4) yn darparu bod yn rhaid i ychwanegion penodol a ddefnyddir mewn seis ffibr gwydr gael eu hasesu o dan Erthygl 19 a hynny hyd 31 Rhagfyr 2015. Mae Erthygl 22(5) yn darparu y caniateir i ddeunyddiau ac eitemau a roddwyd yn gyfreithlon ar y farchnad cyn 1 Mai 2011 gael eu rhoi ar y farchnad hyd 31 Rhagfyr 2012. Mae Erthygl 23 yn darparu, o ran y mathau penodol o ddefnydd a wneir ar ychwanegion, fod Erthygl 5 yn gymwys o 31 Rhagfyr 2015 ymlaen a bod darpariaethau Erthygl 18(2) a (4) ac Erthygl 20 yn gymwys o 31 Rhagfyr 2012 ymlaen.

(15)

Mae paragraffau (1), (2) a (3) o Erthygl 22 yn darparu bod yn rhaid i'r dogfennau ategol y cyfeirir atynt yn Erthygl 16, hyd 31 Rhagfyr 2012, fod yn seiliedig ar y rheolau yng Nghyfarwyddeb 82/711/EEC: sef bod rhaid i ddogfennau o'r fath, o 1 Ionawr 2013 hyd 31 Rhagfyr 2015, fod yn seiliedig ar y rheolau yn Erthygl 18 o'r Rheoliad hwnnw

(16)

Mae Erthygl 3 yn cynnwys eithriad sy'n ymwneud â rhai cynwysyddion a thanciau storio a phiblinellau sy'n perthyn iddynt.

(17)

Mae Erthygl 6(1) a (2) yn darparu ar gyfer y trefniadau trosiannol ar gyfer cymhwyso Erthyglau 2, 3 a 4 i ddeunyddiau ac eitemau penodedig; mae Erthygl 6(4) yn caniatáu marchnata deunyddiau ac erthyglau penodedig os caiff gofynion penodol o ran labelu eu bodloni.

(18)

Mae Erthygl 6(3) yn darparu ar gyfer y ddarpariaeth drosiannol sy'n ymwneud â chymhwyso Erthygl 5 i ddeunyddiau ac eitemau penodedig y daethpwyd â hwy i gysylltiad â bwyd cyn 1 Ionawr 2007.

(19)

Mae Erthygl 5 yn ei gwneud hi'n ofynnol i ddeunydd ysgrifenedig penodedig fynd gyda deunyddiau ac eitemau sy'n cynnwys BADGE a'i ddeilliadau pan fyddant yn cael eu marchnata yn y cyfnodau cyn manwerthu.

(20)

Mae adran 30(8) yn nodi statws tystiolaethol y tystysgrifau dadansoddi ac archwilio a ddarperir gan ddadansoddwyr ac archwilwyr bwyd.

(21)

O.S. 1990/2463, a ddiwygiwyd gan O.S. 2009/481 (Cy.49) ac O.S. 2010/2288 (Cy.200); mae offerynnau diwygio eraill, ond nid oes yr un ohonynt yn berthnasol.

(24)

O.S. 1996/1499. Yr oedd y diffiniad o “ingredient” wedi ei ddiwygio o'r blaen gan O.S. 2009/3377 (Cy.299) ac O.S. 2010/2288 (Cy.200).

(25)

O.S. 2006/1704 (Cy.166), a ddiwygiwyd gan O.S. 2011/1043.