Rheoliadau Deunyddiau ac Eitemau mewn Cysylltiad â Bwyd (Cymru) 2012

RHAN 2LL+CGofynion Cyffredinol ar gyfer Deunyddiau ac Eitemau

Troseddau mynd yn groes i ddarpariaethau penodedig yn Rheoliad 1935/2004LL+C

F14.—(1Ni chaiff unrhyw berson, wrth gynnal busnes mewn cysylltiad â storio, paratoi, pecynnu, gwerthu neu weini bwyd, roi ar y farchnad na defnyddio unrhyw ddeunydd neu eitem nad yw'n cydymffurfio â gofynion Erthygl 3(1) (gofynion cyffredinol) neu Erthygl 4(1), (2), (3) neu (4) (gofynion arbennig ar gyfer deunyddiau ac eitemau gweithredol a deallus).

(2Ni chaiff unrhyw berson roi ar y farchnad unrhyw ddeunydd neu eitem nad yw'n cydymffurfio â gofynion Erthygl 3(2), 4(5) neu (6) neu 15(1), (3), (4), (7) neu (8) fel y'u darllenir gydag Erthygl 15(2) (labelu).

(3Mae unrhyw berson sy'n mynd yn groes i baragraff (1) neu (2) neu Erthygl 11(4) neu (5) (awdurdodi F1...) neu 17(2) (y gallu i olrhain) yn euog o drosedd.

(4Yn y rheoliad hwn mae cyfeiriad at Erthygl â rhif yn gyfeiriad at yr Erthygl honno yn Rheoliad 1935/2004.

Diwygiadau Testunol

Gwybodaeth Cychwyn

I1Rhl. 4 mewn grym ar 20.11.2012, gweler rhl. 1

Trosedd mynd yn groes i Erthygl 4 yn Rheoliad 2023/2006LL+C

5.  Mae unrhyw berson sy'n methu â chydymffurfio â gofynion Erthygl 4 (cydymffurfio ag arfer gweithgynhyrchu da) o Reoliad 2023/2006 yn euog o drosedd.

Gwybodaeth Cychwyn

I2Rhl. 5 mewn grym ar 20.11.2012, gweler rhl. 1

Awdurdodau cymwys at ddibenion Rheoliad 1935/2004 a Rheoliad 2023/2006LL+C

6.—(1Y cyrff canlynol yw'r rhai sydd wedi eu dynodi'n awdurdodau cymwys at ddibenion y darpariaethau yn Rheoliad 1935/2004 a bennir isod—

F2(a). . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .

(b)o ran Erthyglau [F316] (datganiad o gydymffurfedd) a 17(2) (y gallu i olrhain), yr Asiantaeth Safonau Bwyd, pob awdurdod bwyd yn ei ardal a phob awdurdod iechyd porthladd yn ei ranbarth.

(2Yr awdurdod cymwys at ddibenion Erthygl 6(2) (system reoli ansawdd) a 7(3) (dogfennaeth) o Reoliad 2023/2006 yw pob awdurdod bwyd yn ei ardal.