Chwilio Deddfwriaeth

Rheoliadau Deunyddiau ac Eitemau mewn Cysylltiad â Bwyd (Cymru) 2012

 Help about what version

Pa Fersiwn

 Help about advanced features

Nodweddion Uwch

 Help about opening options

Dewisiadau AgorExpand opening options

Newidiadau dros amser i: RHAN 7

 Help about opening options

Fersiwn wedi'i ddisodliFersiwn wedi ei ddisodli: 14/09/2017

Alternative versions:

Statws

Golwg cyfnod mewn amser fel yr oedd ar 20/11/2012.

Newidiadau i ddeddfwriaeth:

Ar hyn o bryd nid oes unrhyw effeithiau heb eu gweithredu yn hysbys ar gyfer y Rheoliadau Deunyddiau ac Eitemau mewn Cysylltiad â Bwyd (Cymru) 2012, RHAN 7. Help about Changes to Legislation

RHAN 7LL+CY gofynion ar gyfer deilliadau epocsi penodol

Cyfyngiadau ar ddefnyddio deilliadau epocsi penodol (BADGE, BFDGE a NOGE)LL+C

16.—(1Yn y Rhan hon—

(a)mae unrhyw gyfeiriad at Erthygl neu Atodiad â rhif yn gyfeiriad at yr Erthygl honno neu'r Atodiad hwnnw yn Rheoliad 1895/2005; a

(b)mae paragraffau (2) a (3) yn ddarostyngedig i Erthygl 1(3) (cwmpas)(1).

(2Yn ddarostyngedig i Erthygl 6(1), (2) a (4) (darpariaethau trosiannol)(2), ni chaiff unrhyw berson roi ar y farchnad na defnyddio, wrth gynnal busnes mewn cysylltiad â storio, paratoi, pecynnu, gwerthu neu weini bwyd—

(a)unrhyw ddeunydd neu eitem yn groes i Erthygl 3 (gwahardd defnyddio BFDGE neu ei bresenoldeb) neu Erthygl 4 (gwahardd defnyddio NOGE neu ei bresenoldeb); neu

(b)unrhyw ddeunydd neu eitem nad yw'n cydymffurfio â'r cyfyngiadau sydd yn Erthygl 2 (BADGE) fel y'i darllenir gydag Atodiad I (y terfyn ymfudo penodol ar gyfer BADGE a rhai o'i ddeilliadau).

(3Yn ddarostyngedig i Erthygl 6(3)(3), ni chaiff unrhyw berson roi ar y farchnad unrhyw ddeunydd nac eitem nad yw'n cydymffurfio â gofynion Erthygl 5 (datganiad ysgrifenedig)(4).

(4Mae unrhyw berson sy'n mynd yn groes i baragraff (2) neu (3) yn euog o drosedd.

Gwybodaeth Cychwyn

I1Rhl. 16 mewn grym ar 20.11.2012, gweler rhl. 1

Awdurdodau cymwys at ddibenion Rheoliad 1895/2005LL+C

17.  Yr awdurdod cymwys at ddibenion Erthygl 6(4) yw pob awdurdod bwyd yn ei ardal a phob awdurdod iechyd porthladd yn ei ranbarth.

Gwybodaeth Cychwyn

I2Rhl. 17 mewn grym ar 20.11.2012, gweler rhl. 1

(1)

Mae Erthygl 3 yn cynnwys eithriad sy'n ymwneud â rhai cynwysyddion a thanciau storio a phiblinellau sy'n perthyn iddynt.

(2)

Mae Erthygl 6(1) a (2) yn darparu ar gyfer y trefniadau trosiannol ar gyfer cymhwyso Erthyglau 2, 3 a 4 i ddeunyddiau ac eitemau penodedig; mae Erthygl 6(4) yn caniatáu marchnata deunyddiau ac erthyglau penodedig os caiff gofynion penodol o ran labelu eu bodloni.

(3)

Mae Erthygl 6(3) yn darparu ar gyfer y ddarpariaeth drosiannol sy'n ymwneud â chymhwyso Erthygl 5 i ddeunyddiau ac eitemau penodedig y daethpwyd â hwy i gysylltiad â bwyd cyn 1 Ionawr 2007.

(4)

Mae Erthygl 5 yn ei gwneud hi'n ofynnol i ddeunydd ysgrifenedig penodedig fynd gyda deunyddiau ac eitemau sy'n cynnwys BADGE a'i ddeilliadau pan fyddant yn cael eu marchnata yn y cyfnodau cyn manwerthu.

Yn ôl i’r brig

Options/Help