xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom" xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"
16.—(1) Yn y Rhan hon—
(a)mae unrhyw gyfeiriad at Erthygl neu Atodiad â rhif yn gyfeiriad at yr Erthygl honno neu'r Atodiad hwnnw yn Rheoliad 1895/2005; a
(b)mae [F1paragraff (2)] yn ddarostyngedig i Erthygl 1(3) (cwmpas)(1).
(2) [F2Ni] chaiff unrhyw berson roi ar y farchnad na defnyddio, wrth gynnal busnes mewn cysylltiad â storio, paratoi, pecynnu, gwerthu neu weini bwyd—
(a)unrhyw ddeunydd neu eitem yn groes i Erthygl 3 (gwahardd defnyddio BFDGE neu ei bresenoldeb) neu Erthygl 4 (gwahardd defnyddio NOGE neu ei bresenoldeb); neu
(b)unrhyw ddeunydd neu eitem nad yw'n cydymffurfio â'r cyfyngiadau sydd yn Erthygl 2 (BADGE) fel y'i darllenir gydag Atodiad I (y terfyn ymfudo penodol ar gyfer BADGE a rhai o'i ddeilliadau).
F3(3) . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .
(4) Mae unrhyw berson sy'n mynd yn groes i baragraff (2) F4...yn euog o drosedd.
Diwygiadau Testunol
F1Geiriau yn rhl. 16(1)(b) wedi eu hamnewid (14.9.2017) gan Rheoliadau Deunyddiau ac Eitemau mewn Cysylltiad â Bwyd (Cymru) (Diwygio) 2017 (O.S. 2017/832), rhlau. 1(3), 9(a)
F2Gair yn rhl. 16(2) wedi ei amnewid (26.7.2018) gan Rheoliadau Bwyd a Bwyd Anifeiliaid (Diwygiadau a Dirymiadau Amrywiol) (Cymru) 2018 (O.S. 2018/806), rhlau. 1(3), 22(4)
F3Rhl. 16(3) wedi ei hepgor (14.9.2017) yn rhinwedd Rheoliadau Deunyddiau ac Eitemau mewn Cysylltiad â Bwyd (Cymru) (Diwygio) 2017 (O.S. 2017/832), rhlau. 1(3), 9(b)
F4Geiriau yn rhl. 16(4) wedi eu hepgor (14.9.2017) yn rhinwedd Rheoliadau Deunyddiau ac Eitemau mewn Cysylltiad â Bwyd (Cymru) (Diwygio) 2017 (O.S. 2017/832), rhlau. 1(3), 9(c)
Gwybodaeth Cychwyn
I1Rhl. 16 mewn grym ar 20.11.2012, gweler rhl. 1
17. Yr awdurdod cymwys at ddibenion Erthygl 6(4) yw pob awdurdod bwyd yn ei ardal a phob awdurdod iechyd porthladd yn ei ranbarth.
Gwybodaeth Cychwyn
I2Rhl. 17 mewn grym ar 20.11.2012, gweler rhl. 1
Mae Erthygl 3 yn cynnwys eithriad sy'n ymwneud â rhai cynwysyddion a thanciau storio a phiblinellau sy'n perthyn iddynt.