
Print Options
PrintThe Whole
Instrument
PrintThis
Part
only
Statws
Dyma’r fersiwn wreiddiol (fel y’i gwnaed yn wreiddiol).
RHAN 7Y gofynion ar gyfer deilliadau epocsi penodol
Cyfyngiadau ar ddefnyddio deilliadau epocsi penodol (BADGE, BFDGE a NOGE)
16.—(1) Yn y Rhan hon—
(a)mae unrhyw gyfeiriad at Erthygl neu Atodiad â rhif yn gyfeiriad at yr Erthygl honno neu'r Atodiad hwnnw yn Rheoliad 1895/2005; a
(b)mae paragraffau (2) a (3) yn ddarostyngedig i Erthygl 1(3) (cwmpas)().
(2) Yn ddarostyngedig i Erthygl 6(1), (2) a (4) (darpariaethau trosiannol)(), ni chaiff unrhyw berson roi ar y farchnad na defnyddio, wrth gynnal busnes mewn cysylltiad â storio, paratoi, pecynnu, gwerthu neu weini bwyd—
(a)unrhyw ddeunydd neu eitem yn groes i Erthygl 3 (gwahardd defnyddio BFDGE neu ei bresenoldeb) neu Erthygl 4 (gwahardd defnyddio NOGE neu ei bresenoldeb); neu
(b)unrhyw ddeunydd neu eitem nad yw'n cydymffurfio â'r cyfyngiadau sydd yn Erthygl 2 (BADGE) fel y'i darllenir gydag Atodiad I (y terfyn ymfudo penodol ar gyfer BADGE a rhai o'i ddeilliadau).
(3) Yn ddarostyngedig i Erthygl 6(3)(), ni chaiff unrhyw berson roi ar y farchnad unrhyw ddeunydd nac eitem nad yw'n cydymffurfio â gofynion Erthygl 5 (datganiad ysgrifenedig)().
(4) Mae unrhyw berson sy'n mynd yn groes i baragraff (2) neu (3) yn euog o drosedd.
Awdurdodau cymwys at ddibenion Rheoliad 1895/2005
17. Yr awdurdod cymwys at ddibenion Erthygl 6(4) yw pob awdurdod bwyd yn ei ardal a phob awdurdod iechyd porthladd yn ei ranbarth.
Yn ôl i’r brig