Chwilio Deddfwriaeth

Rheoliadau Deunyddiau ac Eitemau mewn Cysylltiad â Bwyd (Cymru) 2012

 Help about what version

Pa Fersiwn

 Help about advanced features

Nodweddion Uwch

 Help about opening options

Dewisiadau AgorExpand opening options

Newidiadau dros amser i: Adran 10

 Help about opening options

Fersiwn wedi'i ddisodliFersiwn wedi ei ddisodli: 31/12/2020

Alternative versions:

Statws

Golwg cyfnod mewn amser fel yr oedd ar 14/09/2017. Mae'r fersiwn hon o'r hwn (hon) disodlwyd y ddarpariaeth. Help about Status

Newidiadau i ddeddfwriaeth:

Ar hyn o bryd nid oes unrhyw effeithiau heb eu gweithredu yn hysbys ar gyfer y Rheoliadau Deunyddiau ac Eitemau mewn Cysylltiad â Bwyd (Cymru) 2012, Adran 10. Help about Changes to Legislation

Terfynau ar gyfer plwm a chadmiwm a datganiad o gydymffurfeddLL+C

10.—(1Rhaid i'r meintiau o blwm a chadmiwm a drosglwyddir o eitem geramig beidio â mynd dros y terfynau a osodir yn Atodlen 2(4) fel y'i darllenir gydag Erthygl 2(3) a (5).

(2Oni ddangosir nad oedd y deunyddiau a ddefnyddiwyd i wneud yr eitem geramig yn cynnwys plwm neu gadmiwm, mae cydymffurfedd â pharagraff (1) i'w benderfynu drwy gynnal profion a thrwy ddadansoddi yn unol ag Atodiadau I a II.

(3Ni chaiff unrhyw berson roi ar y farchnad eitem geramig nad yw'n cydymffurfio â gofynion paragraff (1) fel y'i darllenir gyda pharagraff (2).

(4Rhaid i berson sy'n rhoi ar y farchnad eitem geramig na ddaeth hyd yn hyn i gysylltiad â bwyd ddarparu datganiad ysgrifenedig sy'n cydymffurfio â pharagraff (5) i fynd gyda'r eitem yn y cyfnodau marchnata hyd at a chan gynnwys y cyfnod manwerthu.

(5Rhaid i'r datganiad gael ei ddyroddi gan y gweithgynhyrchydd neu gan berson sydd wedi ymsefydlu yn yr UE ac a roddodd yr eitem geramig ar y farchnad a rhaid iddo gynnwys yr wybodaeth a osodir yn Atodiad III.

(6Rhaid i berson sy'n gweithgynhyrchu neu sydd, wrth gynnal busnes, yn mewnforio eitem geramig i'r UE drefnu, pan ofynnir iddo wneud hynny, fod dogfennaeth briodol ar gael i swyddog awdurdodedig sy'n dangos cydymffurfedd â gofynion paragraff (1), gan gynnwys—

(a)canlyniadau'r dadansoddi a wnaed;

(b)amodau'r prawf; ac

(c)enw a chyfeiriad y labordy a gyflawnodd y gwaith profi.

(7Nid yw paragraffau (4), (5) a (6) yn gymwys o ran eitem geramig sy'n ail law.

(8Nid yw'r ddogfennaeth a bennwyd ym mharagraff (6)(a), (b) ac (c) yn ofynnol pan fo tystiolaeth ddogfennol yn cael ei darparu i ddangos nad oedd y deunyddiau a ddefnyddiwyd i wneud yr eitem geramig yn cynnwys plwm na chadmiwm.

Gwybodaeth Cychwyn

I1Rhl. 10 mewn grym ar 20.11.2012, gweler rhl. 1

Yn ôl i’r brig

Options/Help