xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom" xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

RHAN 4LL+CY gofynion ar gyfer Eitemau Ceramig

Terfynau ar gyfer plwm a chadmiwm a datganiad o gydymffurfeddLL+C

[F110.(1) Ni chaiff y meintiau o blwm a chadmiwm a drosglwyddir o eitem geramig fynd dros y terfynau a nodir ym mharagraff (5) fel y’i darllenir gyda pharagraffau (4) a (6).

(2) Oni ddangosir nad oedd y deunyddiau a ddefnyddiwyd i wneud yr eitem geramig yn cynnwys plwm neu gadmiwm, rhaid i’r meintiau o blwm a chadmiwm a drosglwyddir o eitem geramig gael eu penderfynu drwy brawf, y pennir ei amodau yn Atodlen 3, gan ddefnyddio’r dull dadansoddi a ddisgrifir yn Atodlen 4.

(3) Ni chaiff unrhyw berson roi ar y farchnad eitem geramig nad yw’n cydymffurfio â gofynion paragraff (1) fel y’i darllenir gyda pharagraff (2).

(4) Pan fo eitem geramig yn llestr ag iddo glawr ceramig, rhaid i’r terfynau plwm neu gadmiwm (neu’r ddau) na chaniateir mynd drostynt (mg/dm2 neu mg/litr) fod yr un terfynau ag sy’n gymwys i’r llestr yn unig. Rhaid cynnal profion ar wahân ac o dan yr un amodau ar y llestr yn unig ac ar arwyneb mewnol y clawr. Rhaid i gyfanswm y ddwy lefel echdyniad a geir trwy’r modd hwn ar gyfer plwm neu gadmiwm gael ei gysylltu, fel y bo’n briodol, ag arwynebedd neu â chyfaint y llestr yn unig.

(5) Mae eitem geramig i’w chydnabod fel un sy’n bodloni gofynion y Rheoliadau hyn sy’n ymwneud ag eitemau o’r fath os nad yw’r meintiau o blwm a/neu gadmiwm a echdynnir yn ystod y prawf a gynhelir o dan yr amodau a osodir yn Atodlen 3 ac Atodlen 4 yn mynd dros y terfynau a ganlyn—

Plwm (Pb)Cadmiwm (Cd)
Categori 1: Eitemau na ellir eu llenwi ac eitemau y gellir eu llenwi, nad yw eu dyfnder mewnol, wrth fesur o’r pwynt isaf i’r plân llorweddol sy’n mynd drwy’r ymyl uchaf, yn fwy na 25 mm0,8 mg/dm20,07 mg/dm2

Categori 2:

Pob eitem arall y gellir ei llenwi

4,0 mg/l0,3 mg/l

Categori 3:

Offer coginio; llestri pecynnu a storio sy’n dal mwy na thri litr

1,5 mg/l0,1 mg/l

(6) Fodd bynnag, pan na fo eitem geramig yn mynd mwy na 50% dros y meintiau uchod, mae’r eitem honno i’w chydnabod er hynny fel un sy’n bodloni gofynion y Rheoliadau hyn sy’n ymwneud ag eitemau o’r fath os yw o leiaf dair eitem arall sy’n dwyn yr un siâp, dimensiynau, addurn a gwydr yn mynd drwy brawf a gynhelir o dan yr amodau a osodir yn Atodlen 3 ac Atodlen 4 ac nad yw meintiau cyfartalog y plwm a/neu’r cadmiwm a echdynnir o’r eitemau hynny yn mynd dros y terfynau a osodwyd, ac nad oes un o’r eitemau hynny yn mynd mwy na 50% dros y terfynau hynny.]