Rheoliadau Deunyddiau ac Eitemau mewn Cysylltiad â Bwyd (Cymru) 2012

Rheoliad 14(1)

[F1Atodlen 1] LL+CDarpariaethau penodedig yn Rheoliad 10/2011

Diwygiadau Testunol

Gwybodaeth Cychwyn

I1Atod. mewn grym ar 20.11.2012, gweler rhl. 1

Y ddarpariaeth benodedigY pwnc
Erthygl 4(e), fel y'i darllenir gydag Erthyglau 17 a 18Gwaharddiad ar roi ar y farchnad ddeunyddiau neu eitemau plastig os nad ydynt yn bodloni gofynion penodedig ynghylch cyfansoddiad a datganiad
Erthygl 5(1) ac Atodiad I, fel y'i darllenir gydag Erthygl 6Gofyniad, yn ddarostyngedig i randdirymiadau penodol, i ddefnyddio sylweddau awdurdodedig yn unig i weithgynhyrchu haenau plastig mewn deunyddiau ac eitemau plastig
Erthygl 8, y frawddeg gyntafSafonau cyffredinol o ran ansawdd a phurdeb y mae'n rhaid glynu wrthynt yn achos sylweddau sy'n cael eu defnyddio i weithgynhyrchu haenau plastig mewn deunyddiau ac eitemau plastig
Erthygl 9 fel y'i darllenir gydag Atodiad ICyfyngiadau a manylebau penodol ar gyfer sylweddau a ddefnyddir i weithgynhyrchu haenau plastig mewn deunyddiau ac eitemau plastig
Erthygl 10 fel y'i darllenir gydag Atodiad IICyfyngiadau cyffredinol ar ddeunyddiau ac eitemau plastig
[F2Erthygl 11(1) ac Atodiad I, fel y’u darllenir gydag Erthygl 11(3) a (4)]Terfynau penodol ar y graddau y caniateir i gyfansoddion deunyddiau ac eitemau plastig ymfudo i fwydydd
Erthygl 12Terfynau cyffredinol ar y lefel a ganiateir ar gyfer ymfudiad cyfansoddion deunyddiau ac eitemau plastig i efelychwyr bwyd
Erthygl 13(1), (3), (4) a (5) ac Atodiad I fel y'i darllenir gydag Erthygl 13(2)Cyfyngiadau a manylebau penodol ar gyfer cyfansoddiad pob haen blastig mewn deunyddiau ac eitemau amlhaen plastig
Erthygl 14(1) a (5) ac Atodiad 1, fel y'i darllenir gydag Erthygl 4(2), (3) a (4)Cyfyngiadau a manylebau penodol ar gyfer cyfansoddiad pob haen blastig mewn deunyddiau ac eitemau amlddeunydd amlhaen
F3. . .F3. . .