Offerynnau Statudol Cymru
2012 Rhif 2941 (Cy.300)
ANIFEILIAID, CYMRU
Gorchymyn Cymeradwyo Trapiau Sbring (Cymru) 2012
Gwnaed
21 Tachwedd 2012
Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru
26 Tachwedd 2012
Yn dod i rym
17 Rhagfyr 2012
Enwi, cychwyn a chymhwyso
1.—(1) Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Cymeradwyo Trapiau Sbring (Cymru) 2012. Daw i rym ar 17 Rhagfyr 2012.
(2) Mae'r Gorchymyn hwn yn gymwys o ran Cymru.
Cymeradwyo trapiau sbring
2.—(1) At ddibenion adran 8(3) o Ddeddf Plâu 1954, mae'r trapiau sbring canlynol wedi eu cymeradwyo, sef—
(a)unrhyw drap sbring—
(i)o fath a gwneuthuriad a bennir yn unrhyw gofnod yng ngholofn (1) o'r Atodlen; a
(ii)sy'n cael ei weithgynhyrchu neu a gafodd ei weithgynhyrchu gan neu o dan awdurdod y person neu y cwmni a bennir yn y cofnod hwnnw; a
(b)unrhyw drap sbring sy'n gyfwerth ym mhob modd perthnasol â thrap sbring o fath a gwneuthuriad a bennir yn unrhyw gofnod yng ngholofn (1) o'r Atodlen.
(2) Mae'r cymeradwyaethau a roddir gan baragraff (1) o'r erthygl hon sy'n ymwneud ag unrhyw drap sbring a bennir yn unrhyw gofnod yng ngholofn (1) o'r Atodlen, ac sy'n ymwneud ag unrhyw drap sbring sy'n gyfwerth ym mhob modd perthnasol â thrap sbring a bennir felly, yn ddarostyngedig i'r amodau o ran yr anifeiliaid y caniateir defnyddio'r trap sbring a bennir yn y cofnod cyfatebol yng ngholofn (2) o'r Atodlen mewn perthynas â hwy, a'r amgylchiadau y caniateir defnyddio'r trap sbring a bennir yn y cofnod cyfatebol yng ngholofn (2) o'r Atodlen oddi tanynt.
(3) At ddibenion y Gorchymyn hwn, mae trap sbring yn gyfwerth ym mhob modd perthnasol â thrap sbring o fath a gwneuthuriad a bennir yn yr Atodlen os yw'n cyfateb i'r trap sbring a bennir felly o ran adeiladwaith, deunyddiau, grym effaith neu fomentwm, ac ym mhob modd arall sy'n berthnasol i'w effaith neu i'w fodd o weithredu fel trap.
Dirymiadau
3. Mae Gorchymyn Cymeradwyo Trapiau Sbring (Cymru) 2010(3) wedi ei ddirymu i'r graddau y mae'n gymwys i Gymru.
John Griffiths
Gweinidog yr Amgylchedd a Datblygu Cynaliadwy, un o Weinidogion Cymru
21 Tachwedd 2012
Erthygl 2
YR ATODLEN
Colofn (1) | Colofn (2) |
---|---|
Y math o drap a'i wneuthuriad | Amodau |
Aldrich Spring Activated Animal Snare — gweithgynhyrchydd: Mr D Schimetz, PO Box 158, Sekiu, Washington 98381, UDA. | Ni ddefnyddir y trap ond at ddiben lladd neu ddal cigysyddion mawr, mamalaidd, anghynhenid. |
Rhaid defnyddio'r trap yn unol â'r cyfarwyddiadau (os oes rhai) a ddarparwyd gan y gweithgynhyrchydd. | |
BMI Magnum 55 — gweithgynhyrchydd: Butera Manufacturing Industries, 1068 E 134th Street, Cleveland, Ohio, 44110 — 2248, UDA. | Ni ddefnyddir y trap ond a ddiben lladd neu ddal llygod mawr a llygod. Rhaid gosod y trap mewn twnnel naturiol neu artiffisial sy'n addas i leiafu'r cyfleoedd o anafu neu ladd rhywogaeth nas targedwyd heb gyfaddawdu ar ddal a lladd y rhywogaeth a dargedwyd. |
BMI Magnum 110 — gweithgynhyrchydd: Butera Manufacturing Industries, 1068 E 134th Street, Cleveland, Ohio, 44110 — 2248, UDA. | Ni ddefnyddir y trap ond at ddiben lladd neu ddal gwiwerod llwyd, carlymod, gwencïod, llygod mawr a llygod. Rhaid gosod y trap mewn twnnel naturiol neu artiffisial sy'n addas i leiafu'r cyfleoedd o anafu neu ladd rhywogaeth nas targedwyd heb gyfaddawdu ar ddal a lladd y rhywogaeth a dargedwyd. |
BMI Magnum 116 — gweithgynhyrchydd: Butera Manufacturing Industries, 1068 E 134th Street, Cleveland, Ohio, 44110 — 2248, UDA. | Ni ddefnyddir y trap ond at ddiben lladd neu ddal gwiwerod llwyd, mincod, cwningod, carlymod, gwencïod, llygod mawr a llygod. Rhaid gosod y trap mewn twnnel naturiol neu artiffisial sy'n addas i leiafu'r cyfleoedd o anafu neu ladd rhywogaeth nas targedwyd heb gyfaddawdu ar ddal a lladd y rhywogaeth a dargedwyd. |
DOC 150 — gweithgynhyrchydd: the Department of Conservation, Wellington, Seland Newydd. | Ni ddefnyddir y trap ond at ddiben lladd gwiwerod llwyd, llygod mawr, carlymod a gwencïod. Rhaid gosod y trap yn y twnnel a ddarperir gan weithgynhyrchydd y trap i'w ddefnyddio yn y DU a rhaid ei ddefnyddio yn unol â'r cyfarwyddiadau (os oes rhai) a ddarperir gan y gweithgynhyrchydd. |
DOC 200 — gweithgynhyrchydd: the Department of Conservation, Wellington, Seland Newydd. | Ni ddefnyddir y trap ond at ddiben lladd gwiwerod llwyd, mincod, llygod mawr, carlymod a gwencïod. Rhaid gosod y trap yn y twnnel a ddarperir gan weithgynhyrchydd y trap i'w ddefnyddio yn y DU a rhaid ei ddefnyddio yn unol â'r cyfarwyddiadau (os oes rhai) a ddarperir gan y gweithgynhyrchydd. |
DOC 250 — gweithgynhyrchydd: Department of Conservation, Wellington, Seland Newydd. | Ni ddefnyddir y trap ond at ddiben lladd gwiwerod llwyd, mincod, cwningod, llygod mawr, carlymod a gwencïod. Rhaid gosod y trap yn y twnnel a ddarperir gan weithgynhyrchydd y trap i'w ddefnyddio yn y DU a rhaid ei ddefnyddio yn unol â'r cyfarwyddiadau (os oes rhai) a ddarperir gan y gweithgynhyrchydd. |
Fenn Rabbit Trap Mark I — gweithgynhyrchydd: Mr A A Fenn o FHT Works, High Street, Astwood Bank, Redditch, Worcestershire. | Ni ddefnyddir y trap ond at ddiben lladd neu ddal cwningod. Rhaid gosod y trap mewn twnnel naturiol neu artiffisial sy'n addas i leiafu'r cyfleoedd o anafu neu ladd rhywogaeth nas targedwyd heb gyfaddawdu ar ddal a lladd y rhywogaeth a dargedwyd. |
Fenn Vermin Trap Mark I, Vermin Trap Mark II, Vermin Trap Mark III a Vermin Trap Mark IV (Heavy Duty) — gweithgynhyrchydd: Mr A A Fenn o FHT Works, High Street, Astwood Bank, Redditch, Worcestershire ac fel a bennir ym Manyleb Patent Prydain Rhif 763,891 ac a ddarlunnir yn ffigurau 1 i 3 o'r Fanyleb honno. | Ni ddefnyddir y trapiau ond at ddiben lladd neu ddal gwiwerod llwyd, carlymod, gwencïod, llygod mawr a llygod. Rhaid gosod y trapiau mewn twnnel naturiol neu artiffisial sy'n addas i leiafu'r cyfleoedd o anafu neu ladd rhywogaeth nas targedwyd heb gyfaddawdu ar ddal a lladd y rhywogaeth a dargedwyd. |
Fenn Vermin Trap Mark VI (Dual Purpose) — gweithgynhyrchydd: Mr A A Fenn o FHT Works, Hoopers Lane, Astwood Bank, Redditch, Worcestershire ac fel a bennir ym Manyleb Patent Prydain Rhif 763,891. | Ni ddefnyddir y trap ond at ddiben lladd neu ddal gwiwerod llwyd, mincod, cwningod, carlymod, gwencïod, llygod mawr a llygod. Rhaid gosod y trap mewn twnnel naturiol neu artiffisial sy'n addas i leiafu'r cyfleoedd o anafu neu ladd rhywogaeth nas targedwyd heb gyfaddawdu ar ddal a lladd y rhywogaeth a dargedwyd. |
Fuller Trap — gweithgynhyrchydd: Fuller Industries, Three Trees, Loxwood Road, Bucks Green, Rudgwick, Sussex. | Ni ddefnyddir y trap ond at ddiben lladd neu ddal gwiwerod llwyd. Rhaid i'r trap fod wedi ei ffitio â thwnnel artiffisial sy'n addas i leiafu'r cyfleoedd o anafu neu ladd rhywogaeth nas targedwyd heb gyfaddawdu ar ddal a lladd y rhywogaeth a dargedwyd. |
Imbra Trap Mark I a Mark II — gweithgynhyrchydd: James S Low and Sons Ltd, Atholl Smithy, Atholl Street, Blairgowrie, Perthshire ac fel a bennir ym Manyleb Patent Prydain Rhif 682,427 ac a ddarlunnir yn ffigurau 1 i 4 o'r Fanyleb honno. | Ni ddefnyddir y trapiau ond at ddiben lladd neu ddal gwiwerod llwyd, cwningod, carlymod, gwencïod, llygod mawr a llygod. Rhaid gosod y trapiau mewn twnnel naturiol neu artiffisial sy'n addas i leiafu'r cyfleoedd o anafu neu ladd rhywogaeth nas targedwyd heb gyfaddawdu ar ddal a lladd y rhywogaeth a dargedwyd. |
Juby Trap — gweithgynhyrchydd: y Weinyddiaeth Amaethyddiaeth, Pysgodfeydd a Bwyd, Whitehall Place, London SW1 ac fel a bennir ym Manyleb Patent Prydain Rhif 813,066 ac a ddarlunnir yn ffigurau 1 i 3 o'r Fanyleb honno. | Ni ddefnyddir y trap ond at ddiben lladd neu ddal gwiwerod llwyd, cwningod, carlymod, gwencïod, llygod mawr a llygod. Rhaid gosod y trap mewn twnnel naturiol neu artiffisial sy'n addas i leiafu'r cyfleoedd o anafu neu ladd rhywogaeth nas targedwyd heb gyfaddawdu ar ddal a lladd y rhywogaeth a dargedwyd. |
Kania Trap 2000 — gweithgynhyrchydd: C E Kania Corporation, 124-21, 10405, Jasper Avenue, Edmonton, Alberta, Canada. | Ni ddefnyddir y trap ond at ddiben lladd neu ddal gwiwerod llwyd, mincod, carlymod, gwencïod, llygod mawr a llygod. Rhaid i'r trap fod wedi ei ffitio â thwnnel artiffisial sy'n addas i leiafu'r cyfleoedd o anafu neu ladd rhywogaeth nas targedwyd heb gyfaddawdu ar ddal a lladd y rhywogaeth a dargedwyd. |
Kania Trap 2500 — gweithgynhyrchydd: Kania Industries Inc, 63 Centennial Road, Nanaimo, British Columbia, Canada, V9R 6N6. | Ni ddefnyddir y trap ond at ddiben lladd pathewod bwytadwy (glis glis)(4), gwiwerod llwyd, llygod, mincod, cwningod, llygod mawr, carlymod a gwencïod. Rhaid gosod y trap mewn twnnel naturiol neu artiffisial sy'n addas i leiafu'r cyfleoedd o anafu neu ladd rhywogaeth nas targedwyd heb gyfaddawdu ar ddal a lladd y rhywogaeth a dargedwyd. |
Lloyd Trap — gweithgynhyrchydd: the National Research Corporation, ac fel a bennir ym Manyleb Patent Prydain Rhif 987,113 ac a ddarlunnir yn ffigurau 1 i 3 o'r Fanyleb honno. | Ni ddefnyddir y trap ond at ddiben lladd neu ddal gwiwerod llwyd, carlymod, gwencïod, llygod mawr a llygod. Rhaid gosod y trap mewn twnnel naturiol neu artiffisial sy'n addas i leiafu'r cyfleoedd o anafu neu ladd rhywogaeth nas targedwyd heb gyfaddawdu ar ddal a lladd y rhywogaeth a dargedwyd. |
Nooski Rat Trap — gweithgynhyrchydd: Nooski Trap Systems, PO Box 1240, 50 White Street, Rotorua, Seland Newydd. | Ni ddefnyddir y trap ond at ddiben lladd llygod mawr. Rhaid gosod y trap mewn twnnel naturiol neu artiffisial sy'n addas i leiafu'r cyfleoedd o anafu neu ladd rhywogaeth nas targedwyd heb gyfaddawdu ar ddal a lladd y rhywogaeth a dargedwyd. |
Nooski Mouse Trap — gweithgynhyrchydd: Nooski Trap Systems, PO Box 1240, 50 White Street, Rotorua, Seland Newydd. | Ni ddefnyddir y trap ond at ddiben lladd llygod. Rhaid gosod y trap mewn twnnel naturiol neu artiffisial sy'n addas i leiafu'r cyfleoedd o anafu neu ladd rhywogaeth nas targedwyd heb gyfaddawdu ar ddal a lladd y rhywogaeth a dargedwyd. |
Sawyer Trap — gweithgynhyrchydd: James S Low and Sons Ltd, Atholl Smithy, Atholl Street, Blairgowrie, Perthshire. | Ni ddefnyddir y trap ond at ddiben lladd neu ddal gwiwerod llwyd, carlymod, gwencïod, llygod mawr a llygod. Rhaid gosod y trap mewn twnnel naturiol neu artiffisial sy'n addas i leiafu'r cyfleoedd o anafu neu ladd rhywogaeth nas targedwyd heb gyfaddawdu ar ddal a lladd y rhywogaeth a dargedwyd. |
Skinns Superior Squirrel Trap — gweithgynhyrchydd: E.Skinns Ltd, Witham Road, Woodhall Spa, Lincolnshire, LN10 6QX. | Ni ddefnyddir y trap ond at ddiben lladd gwiwerod llwyd. Rhaid gosod y trap mewn twnnel naturiol neu artiffisial sy'n addas i leiafu'r cyfleoedd o anafu neu ladd rhywogaeth nas targedwyd heb gyfaddawdu ar ddal a lladd y rhywogaeth a dargedwyd. |
Solway Spring Trap Mk 4 — gweithgynhyrchydd: Solway Feeders Ltd, Main Street, Dundrennan, Kirkcudbright, DG6 4QH. | Ni ddefnyddir y trap ond at ddiben lladd pathewod bwytadwy (glis glis)(5), gwiwerod llwyd, llygod, llygod mawr, carlymod a gwencïod. Rhaid gosod y trap mewn twnnel naturiol neu artiffisial sy'n addas i leiafu'r cyfleoedd o anafu neu ladd rhywogaeth nas targedwyd heb gyfaddawdu ar ddal a lladd y rhywogaeth a dargedwyd. |
Solway Spring Trap Mk 6 — gweithgynhyrchydd: Solway Feeders Ltd, Main Street, Dundrennan, Kirkcudbright, DG6 4QH. | Ni ddefnyddir y trap ond at ddiben lladd pathewod bwytadwy (glis glis)(6), gwiwerod llwyd, llygod, mincod, cwningod, llygod mawr, carlymod a gwencïod. Rhaid gosod y trap mewn twnnel naturiol neu artiffisial sy'n addas i leiafu'r cyfleoedd o anafu neu ladd rhywogaeth nas targedwyd heb gyfaddawdu ar ddal a lladd y rhywogaeth a dargedwyd. |
Springer No 4 Multi-purpose (Heavy Duty) — gweithgynhyrchydd: AB Country Products Ltd, Troy Industrial Estate, Jill Lane, Sambourne, Near Astwood Bank, Redditch, Worcestershire. | Ni ddefnyddir y trap ond at ddiben lladd neu ddal gwiwerod llwyd, carlymod, gwencïod, llygod mawr a llygod. Rhaid gosod y trap mewn twnnel naturiol neu artiffisial sy'n addas i leiafu'r cyfleoedd o anafu neu ladd rhywogaeth nas targedwyd heb gyfaddawdu ar ddal a lladd y rhywogaeth a dargedwyd. |
Springer No 6 Multi-purpose — gweithgynhyrchydd: AB Country Products Ltd, Troy Industrial Estate, Jill Lane, Sambourne, Near Astwood Bank, Redditch, Worcestershire. | Ni ddefnyddir y trap ond at ddiben lladd neu ddal gwiwerod llwyd, mincod, cwningod, carlymod, gwencïod, llygod mawr a llygod. Rhaid gosod y trap mewn twnnel naturiol neu artiffisial sy'n addas i leiafu'r cyfleoedd o anafu neu ladd rhywogaeth nas targedwyd heb gyfaddawdu ar ddal a lladd y rhywogaeth a dargedwyd. |
VS Squirrel Trap — gweithgynhyrchydd: Pescon Services, 394 York Road, Stevenage, Hertfordshire, SG1 4EN | Ni ddefnyddir y trap ond at ddiben lladd neu ddal gwiwerod llwyd. Rhaid gosod y trap yn y twnnel a ddarperir gan weithgynhyrchydd y trap i'w ddefnyddio yn y DU a rhaid ei ddefnyddio yn unol â'r cyfarwyddiadau (os oes rhai) a ddarperir gan y gweithgynhyrchydd. |
WCS Collarum — gweithgynhyrchydd: Wildlife Control Supplies, LLC, PO Box 538, East Granby, Connecticut 06026, UDA. | Ni ddefnyddir y trap ond at y diben o atal llwynogod. |
WCS Tube Trap — gweithgynhyrchydd: Wildlife Control Supplies, LLC, PO Box 538, East Granby, Connecticut 06026, UDA. | Ni ddefnyddir y trap ond at ddiben lladd gwiwerod llwyd, mincod, llygod mawr, carlymod a gwencïod. Rhaid gosod y trap yn y twnnel a ddarperir gan weithgynhyrchydd y trap i'w ddefnyddio yn y DU a rhaid ei ddefnyddio yn unol â'r cyfarwyddiadau (os oes rhai) a ddarperir gan y gweithgynhyrchydd. |
Wise Trap 110, 160, 200 a 250 — gweithgynhyrchydd: WiseCon A/S, Skovgaardsvej 25, DK-3200 Selsinge, Denmarc. | Ni ddefnyddir y trapiau ond at y diben o ladd llygod mawr. Rhaid gosod y trapiau mewn carthffos, pibell ddraenio neu strwythur tebyg, a rhaid eu defnyddio yn unol â'r cyfarwyddiadau (os oes rhai) a ddarperir gan y gweithgynhyrchydd. |
Nodyn Esboniadol
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)
O dan adran 8 o Ddeddf Plâu 1954, mae'n drosedd i ddefnyddio neu i ymwybodol ganiatáu defnyddio unrhyw drap sbring ac eithrio trap sydd wedi ei gymeradwyo drwy Orchymyn.
Mae'r Gorchymyn hwn yn dirymu ac yn disodli Gorchymyn Trapiau Sbring (Cymru) 2010 o ran Cymru. Mae erthygl 2 yn pennu'r trapiau cymeradwy, sef y rheini a restrir yng ngholofn (1) yr Atodlen ac eraill sy'n gyfwerth ym mhob modd i'r rheini a restrir felly. Mae'r Gorchymyn yn ychwanegu 5 math o drapiau at y rhai a gymeradwywyd o dan y Gorchymyn blaenorol. Pennir yr amodau a atodir i'r gymeradwyaeth ar gyfer pob un math o drap yng ngholofn (2) o'r Atodlen.
Ni pharatowyd asesiad effaith rheoleiddiol ar gyfer yr offeryn hwn, gan nad oes ganddo effaith ar gostau busnes.
Trosglwyddwyd swyddogaethau'r Gweinidog Amaethyddiaeth, Pysgodfeydd a Bwyd, i'r graddau yr oeddent yn arferadwy o ran Cymru, i Gynulliad Cenedlaethol Cymru drwy Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999, O.S. 1999/672, erthygl 2, Atodlen 1. Yn rhinwedd adran 162 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p.32) a pharagraffau 30 a 32 o Atodlen 11 iddi, maent bellach wedi eu breinio yng Ngweinidogion Cymru.
Gweler, er hynny, adran 11(2)(b) o Ddeddf Bywyd Gwyllt a Chefn Gwlad 1981 (p.69) ac Atodlen 6 iddi. Yn rhinwedd y darpariaethau hynny, p'un ai a yw'r trap o dan sylw yn gymeradwy o dan y Gorchymyn hwn ai peidio, mae'n drosedd defnyddio unrhyw drap er mwyn dal neu ladd unrhyw bathew, ac eithrio yn unol â thrwydded a roddwyd gan yr awdurdod priodol o dan adran 16 o'r Ddeddf honno.
Gweler, er hynny adran 11(2)(b) o Ddeddf Bywyd Gwyllt a Chefn Gwlad 1981 (p.69) ac Atodlen 6 iddi. Yn rhinwedd y darpariaethau hynny, p'un ai a yw'r trap o dan sylw yn gymeradwy o dan y Gorchymyn hwn ai peidio, mae'n drosedd defnyddio unrhyw drap er mwyn dal neu ladd unrhyw bathew, ac eithrio yn unol â thrwydded a roddwyd gan yr awdurdod priodol o dan adran 16 o'r Ddeddf honno.
Gweler, er hynny, adran 11(2)(b) o Ddeddf Bywyd Gwyllt a Chefn Gwlad 1981 (p.69) ac Atodlen 6 iddi. Yn rhinwedd y darpariaethau hynny, p'un ai a yw'r trap o dan sylw yn gymeradwy o dan y Gorchymyn hwn ai peidio, mae'n drosedd defnyddio unrhyw drap er mwyn dal neu ladd unrhyw bathew, ac eithrio yn unol â thrwydded a roddwyd gan yr awdurdod priodol o dan adran 16 o'r Ddeddf honno.