Rheoliadau Cyngor Gofal Cymru (Penodi, Aelodaeth a Gweithdrefn) (Diwygio) 2012

Offerynnau Statudol Cymru

2012 Rhif 3023 (Cy.307)

GOFAL CYMDEITHASOL, CYMRU

Rheoliadau Cyngor Gofal Cymru (Penodi, Aelodaeth a Gweithdrefn) (Diwygio) 2012

Gwnaed

1 Rhagfyr 2012

Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru

5 Rhagfyr 2012

Yn dod i rym

1 Ionawr 2013

Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn drwy arfer y pwerau a roddwyd gan baragraff 6 o Atodlen 1 i Ddeddf Safonau Gofal 2000(1) ac adran 118A(1) i (3) o'r Ddeddf honno.

Enwi, cychwyn, cymhwyso a dehongli

1.—(1Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Cyngor Gofal Cymru (Penodi, Aelodaeth a Gweithdrefn) (Diwygio) 2012.

(2Daw'r Rheoliadau hyn i rym ar 1 Ionawr 2013.

(3Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.

(4Yn y Rheoliadau hyn ystyr “Rheoliadau 2001” (“the 2001 Regulations”) yw Rheoliadau Cyngor Gofal Cymru (Penodi, Aelodaeth a Gweithdrefn) 2001(2).

Diwygio Rheoliadau 2001

2.—(1Yn rheoliad 1(2) o Reoliadau 2001 (enwi, cychwyn a dehongli)—

(a)hepgorer y diffiniad o “CCETSW”;

(b)yn y diffiniad o “Cyngor Lloegr”, yn lle “Cyngor Gofal Cymdeithasol Cyffredinol a sefydlwyd gan adran 54 o'r Ddeddf” rhodder “Cyngor Proffesiynau Iechyd a Gofal a sefydlwyd gan erthygl 3 o Orchymyn Proffesiynau Iechyd a Gofal Cymdeithasol 2001(3)”.

(2Yn rheoliad 2 hepgorer paragraff (6)(dd).

(3Yn rheoliad 5 o Reoliadau 2001 (anghymhwyso rhag penodi)—

(a)yn lle paragraff (1)(ch) rhodder y canlynol—

os yw wedi'i gynnwys yn y naill restr neu'r llall a sefydlwyd o dan adran 2 o Ddeddf Diogelu Grwpiau Hyglwyf 2006(4);;

(b)ym mharagraff (1)(d) hepgorer “neu gan Gyngor Lloegr” a hepgorer “neu (yn ôl fel y digwydd) gan Gyngor Lloegr”;

(c)ym mharagraff (1)(dd)—

(i)ar ôl “Gyngor yr Alban” mewnosoder “neu yn Rhan 16 o'r gofrestr y mae'n ofynnol i Gyngor Lloegr ei chadw”;

(ii)yn lle “ym mharagraff (ch)” rhodder “yn is-baragraff (d)”;

(iii)hepgorer “neu gan Gyngor Lloegr”;

(d)ym mharagraff (3)—

(i)ar ôl “Gogledd Iwerddon” mewnosoder “, cyfraith” a hepgorer “neu (yn ôl fel y digwydd) gyfraith”;

(ii)ar ôl “yr Alban” mewnosoder “neu (yn ôl fel y digwydd) y gyfraith sy'n ymwneud â'r gofrestr a ddelir gan Gyngor Lloegr”.

(4Yn rheoliad 6(1) o Reoliadau 2001 (anghymhwyster yn dod i ben) ar ôl “yn y gofrestr” mewnosoder “neu mewn perthynas â'r gofrestr a gynhelir gan Gyngor Lloegr ar y rhan honno o'r gofrestr”.

Gwenda Thomas

Llofnodwyd gan y Dirprwy Weinidog Plant a Gwasanaethau Cymdeithasol o dan awdurdod y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, un o Weinidogion Cymru

1 Rhagfyr 2012

Nodyn Esboniadol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)

Mae'r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau Cyngor Gofal Cymru (Penodi, Aelodaeth a Gweithdrefn) 2001 i ymdrin â'r newidiadau a gafodd effaith yn sgil dwyn Deddf Iechyd a Gofal Cymdeithasol 2012 (“Deddf 2012”) i rym.

O dan ddarpariaethau Deddf 2012, ar 1 Awst 2012 newidiwyd enw'r corff a elwid gynt y Cyngor Proffesiynau Iechyd (“HPC”) i'r Cyngor Proffesiynau Iechyd a Gofal (“HCPC”). Ar yr un diwrnod trosglwyddwyd swyddogaethau'r Cyngor Gofal Cymdeithasol Cyffredinol (“GSCC”) iddo ac ar 1 Hydref 2012 diddymwyd y GSCC.

Mae rheoliad 2 yn rhoi cyfeiriadau at yr HCPC, a sefydlwyd gan erthygl 3 o Orchymyn Proffesiynau Iechyd a Gwaith Cymdeithasol 2001, yn lle cyfeiriadau at y GSCC. Mae'n hepgor y cyfeiriadau at y Cyngor Canolog Addysg a Hyfforddiant mewn Gwaith Cymdeithasol (“CCETSW”) sydd wedi ei ddiddymu hefyd. Dilëir y cyfeiriadau at y rhestrau a ddelir gan yr Ysgrifennydd Gwladol o dan ddarpariaethau sydd bellach wedi eu diddymu (y rhestrau a sefydlwyd o dan Ddeddf Amddiffyn Plant 1999 a'r rhestr Amddiffyn Oedolion Hyglwyf a sefydlwyd o dan Ran VII o Ddeddf Safonau Gofal 2000) a rhoddir yn eu lle gyfeiriadau at y rhestrau o bersonau wedi eu gwahardd y cyfeirir atynt yn adran 2 o Ddeddf Diogelu Grwpiau Hyglwyf 2006. Mae rheoliad 2(3)(c)(ii) yn cywiro mân wall drafftio drwy roi (d) yn lle (ch).

Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar wneud Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â'r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, ystyriwyd nad oedd yn angenrheidiol gwneud asesiad effaith rheoleiddiol o'r costau a'r buddiannau sy'n debygol o ddeillio o gydymffurfio â'r Rheoliadau hyn.

(3)

O.S. 2002/254 fel y'i diwygiwyd gan Ddeddf Iechyd a Gofal Cymdeithasol 2012 (gweler adran 214 yn benodol sy'n newid enw'r Cyngor Proffesiynau Iechyd i'r Cyngor Proffesiynau Iechyd a Gofal).