Chwilio Deddfwriaeth

Rheoliadau Addysg (Cymorth i Fyfyrwyr) (Cymru) 2012

 Help about what version

Pa Fersiwn

Statws

Dyma’r fersiwn wreiddiol (fel y’i gwnaed yn wreiddiol). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.

PENNOD 3BENTHYCIADAU CYFRANNU AT FFIOEDD A BENTHYCIADAU AT FFIOEDD

Amodau cyffredinol yr hawl i gael benthyciadau cyfrannu at ffioedd a benthyciadau at ffioedd

21.—(1Mae gan fyfyriwr cymwys hawl i gael benthyciad cyfrannu at ffioedd neu fenthyciad at ffioedd mewn cysylltiad â'i bresenoldeb ar gwrs dynodedig yn unol â'r Rhan hon ar yr amod nad yw'r myfyriwr wedi ei hepgor o fod â hawl gan y paragraff canlynol, rheoliad 6 neu reoliad 7.

(2Nid oes gan fyfyriwr cymwys hawl i gael benthyciad cyfrannu at ffioedd neu fenthyciad at ffioedd mewn perthynas â blwyddyn academaidd—

(a)os yw'r flwyddyn honno'n flwyddyn bwrsari neu'n flwyddyn Erasmus;

(b)os yw'r cwrs dynodedig yn hen gwrs ôl-radd hyblyg ar gyfer hyfforddiant cychwynnol i athrawon.

(c)Nid yw paragraff (2) yn gymwys mewn perthynas â chwrs mynediad graddedig carlam.

Benthyciadau cyfrannu at ffioedd (i fyfyrwyr cymwys o dan yr hen drefn)

22.—(1Mae gan fyfyriwr cymwys o dan yr hen drefn hawl i gael benthyciad cyfrannu at ffioedd mewn perthynas â blwyddyn academaidd cwrs dynodedig—

(a)os oes ganddo hawl i gael grant ar gyfer ffioedd mewn cysylltiad â'r flwyddyn honno neu os byddai wedi bod yn gymwys pe byddai wedi gwneud cais am y grant (hyd yn oed pe byddai swm y grant wedi bod yn ddim); a

(b)os darperir y cwrs dynodedig gan neu ar ran sefydliad a oedd yn cael ei ariannu'n gyhoeddus ar 1 Awst 2005.

(2Os yw myfyriwr cymwys o dan yr hen drefn yn gwneud cais am grant ar gyfer ffioedd ac am fenthyciad cyfrannu at ffioedd, swm y benthyciad cyfrannu at ffioedd mewn perthynas â blwyddyn academaidd ar y cwrs dynodedig yw'r swm y mae'r myfyriwr cymwys o dan yr hen drefn yn gwneud cais amdano, a hwnnw'n swm nad yw'n fwy na'r swm a ddidynnwyd o'i grant ar gyfer ffioedd yn unol â rheoliad 67.

(3Os benthyciad cyfrannu at ffioedd yw'r unig gymorth at ffioedd y mae myfyriwr cymwys o dan yr hen drefn yn gwneud cais amdano, swm y benthyciad hwnnw mewn perthynas â blwyddyn academaidd cwrs dynodedig yw—

(a)y swm y mae'r myfyriwr cymwys o dan yr hen drefn yn gwneud cais amdano, a hwnnw'n swm nad yw'n fwy na £1,380 neu, os oes unrhyw rai o'r amgylchiadau yn rheoliad 17(4) yn gymwys, £680, os yw'r cwrs yn cael ei ddarparu gan sefydliad yng Nghymru, Lloegr neu'r Alban; neu

(b)y swm y mae'r myfyriwr cymwys o dan yr hen drefn yn gwneud cais amdano a hwnnw'n swm nad yw'n fwy na £1,425 neu, os oes unrhyw rai o'r amgylchiadau yn rheoliad 17(4) yn gymwys, £700, os yw'r cwrs yn cael ei ddarparu gan sefydliad yng Ngogledd Iwerddon.

(4Caiff myfyriwr cymwys o dan yr hen drefn wneud cais am fenthyg swm ychwanegol o fenthyciad cyfrannu at ffioedd—

(a)os yw Gweinidogion Cymru yn penderfynu y dylid cynyddu uchafswm y benthyciad cyfrannu at ffioedd (gan gynnwys rhoi swm pan na roddwyd dim ynghynt) sydd wedi ei hysbysu i'r myfyriwr cymwys o dan yr hen drefn mewn perthynas â blwyddyn academaidd o ganlyniad i ailasesu cyfraniad y myfyriwr cymwys o dan yr hen drefn neu fel arall; a

(b)os yw Gweinidogion Cymru o'r farn nad yw'r cynnydd yn yr uchafswm yn digwydd oherwydd bod y myfyriwr cymwys o dan yr hen drefn—

(i)wedi methu â rhoi yn brydlon wybodaeth a allai effeithio ar ei allu i fod â hawl i gael benthyciad cyfrannu at ffioedd y mae ganddo hawl i'w gael; neu

(ii)rhoi gwybodaeth sy'n anghywir o ran unrhyw fanylyn perthnasol.

(5Nid yw'r swm ychwanegol ym mharagraff (4), o'i adio at y swm y gwnaed cais amdano eisoes, yn fwy na'r uchafswm wedi ei gynyddu.

(6Os yw myfyriwr cymwys o dan yr hen drefn wedi gwneud cais am fenthyciad cyfrannu at ffioedd sy'n llai na'r uchafswm y mae ganddo hawlogaeth i'w gael mewn perthynas â'r flwyddyn academaidd, caiff wneud cais am fenthyg swm ychwanegol nad yw, o'i adio at y swm y gwnaed cais amdano eisoes, yn fwy na'r uchafswm perthnasol sy'n gymwys yn achos y myfyriwr hwnnw.

Benthyciadau at ffioedd mewn perthynas â chyrsiau sy'n dechrau cyn 1 Medi 2012: myfyrwyr cymwys o dan y drefn newydd nad oes ganddynt hawl i gael grant at ffioedd

23.—(1Mae gan fyfyriwr cymwys o dan y drefn newydd hawl yn unol â'r rheoliad hwn i gael benthyciad mewn perthynas â'r ffioedd sy'n daladwy ganddo mewn perthynas â'i bresenoldeb ar gwrs dynodedig a ddechreuodd cyn 1 Medi 2012, neu mewn cysylltiad â'r presenoldeb hwnnw mewn modd arall.

(2Oni bai bod paragraff (3) yn gymwys, rhaid i swm benthyciad at ffioedd mewn perthynas â blwyddyn academaidd ar gwrs dynodedig beidio â bod yn fwy na'r lleiaf o'r canlynol—

(a)£3,465 neu, os oes un o'r amgylchiadau yn rheoliad 17(4) yn gymwys, £1,725; a

(b)y ffioedd sy'n daladwy gan y myfyriwr mewn perthynas â'r flwyddyn honno, neu mewn cysylltiad â hi mewn modd arall.

(3Os oes gan fyfyriwr cymwys o dan y drefn newydd hawl i gael benthyciad at ffioedd o dan y rheoliad hwn mewn perthynas â chwrs dynodedig a ddarperir gan sefydliad yng Ngogledd Iwerddon, rhaid i swm y benthyciad at ffioedd mewn perthynas â blwyddyn academaidd y cwrs dynodedig beidio â bod yn fwy na'r lleiaf o'r canlynol—

(a)£3,575 neu, os oes un o'r amgylchiadau yn rheoliad 17(4) yn gymwys, £1,780; a

(b)y ffioedd sy'n daladwy gan y myfyriwr mewn perthynas â'r flwyddyn honno, neu mewn cysylltiad â hi mewn modd arall,

(4Os yw myfyriwr cymwys o dan y drefn newydd wedi gwneud cais am fenthyciad at ffioedd sy'n llai na'r uchafswm sydd ar gael mewn perthynas â blwyddyn academaidd, caiff wneud cais am fenthyg swm ychwanegol nad yw, o'i adio at y swm y gwnaed cais amdano eisoes, yn fwy na'r uchafswm perthnasol sy'n gymwys yn achos y myfyriwr hwnnw.

(5Nid yw'r rheoliad hwn yn gymwys mewn perthynas â myfyriwr os oes ganddo hawl i gael grant at ffioedd a bod y cwrs yn gwrs dynodedig cymhwysol.

(6Nid yw'r rheoliad hwn yn gymwys i fyfyriwr cymwys o dan y drefn newydd sy'n fyfyriwr carfan 2012.

(7Nid yw'r rheoliad hwn yn gymwys i fyfyriwr cymwys o dan y drefn newydd sy'n fyfyriwr mynediad graddedig carlam 2012.

Benthyciadau at ffioedd mewn perthynas â chyrsiau sy'n dechrau cyn 1 Medi 2012: myfyrwyr cymwys o dan y drefn newydd sydd â hawl i gael grant at ffioedd

24.—(1Caiff myfyriwr cymwys o dan y drefn newydd sydd â hawl i gael grant at ffioedd wneud cais o dan y rheoliad hwn am fenthyciad at ffioedd mewn perthynas â'i bresenoldeb ar y cwrs dynodedig cymhwysol.

(2Uchafswm y benthyciad at ffioedd sydd ar gael o dan y rheoliad hwn yw'r lleiaf o'r canlynol—

(a)£1,380 neu, os oes unrhyw rai o'r amgylchiadau yn rheoliad 17(4) yn gymwys, £680; a

(b)gweddill y ffioedd sy'n daladwy gan y myfyriwr cymwys o dan y drefn newydd a swm sy'n hafal i'r grant at ffioedd mewn perthynas â'r flwyddyn honno neu mewn cysylltiad â hi mewn modd arall wedi ei ddidynnu oddi wrtho.

(3Os yw'r myfyriwr cymwys o dan y drefn newydd wedi gwneud cais am fenthyciad at ffioedd sy'n llai na'r uchafswm sydd ar gael mewn perthynas â blwyddyn academaidd, caiff wneud cais am fenthyg swm ychwanegol nad yw, o'i adio at y swm y gwnaed cais amdano eisoes, yn fwy na'r uchafswm hwnnw.

Benthyciad newydd at ffioedd mewn perthynas â chyrsiau sy'n dechrau ar 1 Medi 2012 neu wedi hynny

25.—(1Mae gan fyfyriwr cymwys o dan y drefn newydd sy'n fyfyriwr carfan 2012 hawl yn unol â'r rheoliad hwn i gael benthyciad newydd at ffioedd mewn perthynas â phresenoldeb y myfyriwr carfan 2012 ar gwrs dynodedig a ddarperir gan sefydliad a ariennir yn gyhoeddus, neu mewn cysylltiad â'r presenoldeb hwnnw mewn modd arall.

(2Nid oes benthyciad newydd at ffioedd ar gael mewn perthynas â blwyddyn academaidd os yw'r flwyddyn honno yn flwyddyn bwrsari neu yn flwyddyn Erasmus.

(3Rhaid i swm benthyciad newydd at ffioedd mewn perthynas â blwyddyn academaidd cwrs dynodedig a ddarperir gan sefydliad a ariennir yn gyhoeddus beidio â bod yn fwy na'r lleiaf o'r canlynol—

(a)£3,575 neu, os oes un o'r amgylchiadau yn rheoliad 17(4) yn gymwys, £1,780; a

(b)y ffioedd sy'n daladwy gan y myfyriwr mewn perthynas â'r flwyddyn honno, neu mewn cysylltiad â hi mewn modd arall.

(4Os yw myfyriwr carfan 2012 wedi gwneud cais am fenthyciad newydd at ffioedd sy'n llai na'r uchafswm sydd ar gael mewn perthynas â'r flwyddyn academaidd, caiff y myfyriwr carfan 2012 wneud cais am fenthyg swm ychwanegol nad yw, o'i adio at y swm y gwnaed cais amdano eisoes, yn fwy na'r uchafswm hwnnw.

(5Nid yw'r rheoliad hwn yn gymwys i fyfyriwr carfan 2012 sydd â'r hawl i gael benthyciad newydd at ffioedd sefydliad preifat.

Benthyciad newydd at ffioedd sefydliad preifat

26.—(1Mae gan fyfyriwr cymwys o dan y drefn newydd sy'n fyfyriwr carfan 2012 hawl yn unol â'r rheoliad hwn i gael benthyciad newydd at ffioedd sefydliad preifat mewn perthynas â phresenoldeb y myfyriwr carfan 2012 ar gwrs dynodedig a ddarperir gan sefydliad preifat, neu mewn cysylltiad â'r presenoldeb hwnnw mewn modd arall.

(2Nid oes benthyciad newydd at ffioedd sefydliad preifat ar gael mewn perthynas â blwyddyn academaidd os yw'r flwyddyn honno yn flwyddyn bwrsari neu'n flwyddyn Erasmus.

(3Rhaid i swm benthyciad newydd at ffioedd sefydliad preifat mewn perthynas â blwyddyn academaidd o gwrs dynodedig a ddarperir gan sefydliad preifat beidio â bod yn fwy na'r lleiaf o'r canlynol—

(a)£6,000 neu, os oes unrhyw rai o'r amgylchiadau yn rheoliad 17(4) yn gymwys, £3,000; a

(b)y ffioedd sy'n daladwy gan y myfyriwr mewn perthynas â'r flwyddyn honno, neu mewn cysylltiad â hi mewn modd arall.

(4Os yw myfyriwr cymwys o dan y drefn newydd wedi gwneud cais am fenthyciad newydd at ffioedd sefydliad preifat sy'n llai na'r uchafswm sydd ar gael mewn perthynas â blwyddyn academaidd, caiff y myfyriwr cymwys o dan y drefn newydd wneud cais am fenthyg swm ychwanegol nad yw, o'i adio at y swm y gwnaed cais amdano eisoes, yn fwy na'r uchafswm hwnnw.

Benthyciad at ffioedd mynediad graddedig carlam

27.—(1Mae gan fyfyriwr mynediad graddedig carlam 2012 hawl yn unol â'r rheoliad hwn i gael benthyciad at ffioedd mynediad graddedig carlam mewn perthynas â phresenoldeb y myfyriwr mynediad graddedig carlam 2012 ar gwrs dynodedig sy'n gwrs mynediad graddedig carlam, neu mewn cysylltiad â'r presenoldeb hwnnw mewn modd arall.

(2Nid oes benthyciad at ffioedd mynediad graddedig carlam ar gael mewn perthynas â blwyddyn academaidd sy'n flwyddyn Erasmus.

(3Rhaid i swm benthyciad at ffioedd mynediad graddedig carlam mewn perthynas â blwyddyn academaidd o gwrs dynodedig sy'n gwrs mynediad graddedig carlam beidio â bod yn fwy na'r lleiaf o'r canlynol—

(a)£5,535; neu

(b)y gwahaniaeth rhwng £3,465 a'r ffioedd sy'n daladwy gan y myfyriwr mynediad graddedig carlam 2012.

(4Os yw myfyriwr mynediad graddedig carlam 2012 wedi gwneud cais am fenthyciad at ffioedd mynediad graddedig carlam sy'n llai na'r uchafswm sydd ar gael mewn perthynas â blwyddyn academaidd, caiff y myfyriwr mynediad graddedig carlam 2012 wneud cais am fenthyg swm ychwanegol nad yw, o'i adio at y swm y gwnaed cais amdano eisoes, yn fwy na'r uchafswm hwnnw.

Yn ôl i’r brig

Options/Help

Print Options

Close

Mae deddfwriaeth ar gael mewn fersiynau gwahanol:

Y Diweddaraf sydd Ar Gael (diwygiedig):Y fersiwn ddiweddaraf sydd ar gael o’r ddeddfwriaeth yn cynnwys newidiadau a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol ac wedi eu gweithredu gan ein tîm golygyddol. Gellir gweld y newidiadau nad ydym wedi eu gweithredu i’r testun eto yn yr ardal ‘Newidiadau i Ddeddfwriaeth’. Dim ond yn Saesneg y mae’r fersiwn ddiwygiedig ar gael ar hyn o bryd.

Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed) - Saesneg: Mae'r wreiddiol Saesneg fersiwn y ddeddfwriaeth fel ag yr oedd pan gafodd ei deddfu neu eu gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.

Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed)-Cymraeg:Y fersiwn Gymraeg wreiddiol o’r ddeddfwriaeth fel yr oedd yn sefyll pan gafodd ei deddfu neu ei gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.

Close

Dewisiadau Agor

Dewisiadau gwahanol i agor deddfwriaeth er mwyn gweld rhagor o gynnwys ar y sgrin ar yr un pryd

Close

Rhagor o Adnoddau

Gallwch wneud defnydd o ddogfennau atodol hanfodol a gwybodaeth ar gyfer yr eitem ddeddfwriaeth o’r tab hwn. Yn ddibynnol ar yr eitem ddeddfwriaeth sydd i’w gweld, gallai hyn gynnwys:

  • y PDF print gwreiddiol y fel deddfwyd fersiwn a ddefnyddiwyd am y copi print
  • rhestr o newidiadau a wnaed gan a/neu yn effeithio ar yr eitem hon o ddeddfwriaeth
  • manylion rhoi grym a newid cyffredinol
  • pob fformat o’r holl ddogfennau cysylltiedig
  • slipiau cywiro
  • dolenni i ddeddfwriaeth gysylltiedig ac adnoddau gwybodaeth eraill
Close

Rhagor o Adnoddau

Defnyddiwch y ddewislen hon i agor dogfennau hanfodol sy’n cyd-fynd â’r ddeddfwriaeth a gwybodaeth am yr eitem hon o ddeddfwriaeth. Gan ddibynnu ar yr eitem o ddeddfwriaeth sy’n cael ei gweld gall hyn gynnwys:

  • y PDF print gwreiddiol y fel gwnaed fersiwn a ddefnyddiwyd am y copi print
  • slipiau cywiro

liciwch ‘Gweld Mwy’ neu ddewis ‘Rhagor o Adnoddau’ am wybodaeth ychwanegol gan gynnwys

  • rhestr o newidiadau a wnaed gan a/neu yn effeithio ar yr eitem hon o ddeddfwriaeth
  • manylion rhoi grym a newid cyffredinol
  • pob fformat o’r holl ddogfennau cysylltiedig
  • dolenni i ddeddfwriaeth gysylltiedig ac adnoddau gwybodaeth eraill