- Y Diweddaraf sydd Ar Gael (Diwygiedig) - Saesneg
- Y Diweddaraf sydd Ar Gael (Diwygiedig) - Cymraeg
- Gwreiddiol (Fel y'i Gwnaed) - Saesneg
- Gwreiddiol (Fel y'i Gwnaed) - Cymraeg
Dyma’r fersiwn wreiddiol (fel y’i gwnaed yn wreiddiol). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.
13.—(1) Ni chaiff cymorth at ffioedd o dan y Rhan hon mewn perthynas â blwyddyn academaidd fod yn fwy na'r ffioedd sy'n daladwy gan y myfyriwr cymwys mewn perthynas â'r flwyddyn academaidd honno.
(2) At ddibenion cyfrifo swm y cymorth at ffioedd o dan y Rhan hon, rhaid peidio ag ystyried sefydliad sy'n darparu cyrsiau a ddynodir gan reoliad 4 o Reoliadau Addysg (Cymorth i Fyfyrwyr) (Dawnsio a Drama) 1999(1) yn sefydliad a ariennir yn gyhoeddus am yr unig reswm ei fod yn cael arian o gronfeydd cyhoeddus gan gorff llywodraethu sefydliad addysg uwch yn unol ag adran 65(3A) o Ddeddf Addysg Bellach ac Addysg Uwch 1992(2).
(3) Rhaid ymdrin â myfyriwr cymwys y mae paragraff (4) yn gymwys iddo fel pe bai'r myfyriwr cymwys yn bresennol ar y cwrs dynodedig at ddibenion cymhwyso ar gyfer cymorth at ffioedd.
(4) Mae'r paragraff hwn yn gymwys i'r canlynol—
(a)myfyriwr cwrs gradd cywasgedig;
(b)myfyriwr cymwys anabl—
(i)nad yw'n fyfyriwr cwrs gradd cywasgedig; a
(ii)sy'n ymgymryd â chwrs dynodedig yn y Deyrnas Unedig ond nad yw'n bresennol oherwydd na all fod yn bresennol am reswm sy'n ymwneud ag anabledd y myfyriwr cymwys.
(5) Nid oes gan fyfyriwr cymwys sy'n ymgymryd â chwrs dysgu o bell hawl i gael unrhyw gymorth at ffioedd o dan y Rhan hon mewn perthynas â'r cwrs hwnnw oni bai bod Gweinidogion Cymru yn ystyried bod y myfyriwr yn ymgymryd â'r cwrs yng Nghymru ar ddiwrnod cyntaf y flwyddyn academaidd gyntaf.
(6) Ni fydd gan fyfyriwr cymwys sy'n ymgymryd â chwrs dysgu o bell hawl bellach i gael unrhyw gymorth at ffioedd o dan y Rhan hon mewn perthynas â'r cwrs hwnnw os yw Gweinidogion Cymru yn ystyried bod y myfyriwr yn ymgymryd â'r cwrs y tu allan i'r Deyrnas Unedig.
O.S. 1999/2263, a ddiwygiwyd gan O.S. 2001/2893.
1992 p. 13; mewnosodwyd adran 65(3A) gan Ddeddf Addysgu ac Addysg Uwch 1998 (p. 30), adran 27.
Y Diweddaraf sydd Ar Gael (diwygiedig):Y fersiwn ddiweddaraf sydd ar gael o’r ddeddfwriaeth yn cynnwys newidiadau a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol ac wedi eu gweithredu gan ein tîm golygyddol. Gellir gweld y newidiadau nad ydym wedi eu gweithredu i’r testun eto yn yr ardal ‘Newidiadau i Ddeddfwriaeth’. Dim ond yn Saesneg y mae’r fersiwn ddiwygiedig ar gael ar hyn o bryd.
Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed) - Saesneg: Mae'r wreiddiol Saesneg fersiwn y ddeddfwriaeth fel ag yr oedd pan gafodd ei deddfu neu eu gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.
Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed)-Cymraeg:Y fersiwn Gymraeg wreiddiol o’r ddeddfwriaeth fel yr oedd yn sefyll pan gafodd ei deddfu neu ei gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.
Gallwch wneud defnydd o ddogfennau atodol hanfodol a gwybodaeth ar gyfer yr eitem ddeddfwriaeth o’r tab hwn. Yn ddibynnol ar yr eitem ddeddfwriaeth sydd i’w gweld, gallai hyn gynnwys:
Defnyddiwch y ddewislen hon i agor dogfennau hanfodol sy’n cyd-fynd â’r ddeddfwriaeth a gwybodaeth am yr eitem hon o ddeddfwriaeth. Gan ddibynnu ar yr eitem o ddeddfwriaeth sy’n cael ei gweld gall hyn gynnwys:
liciwch ‘Gweld Mwy’ neu ddewis ‘Rhagor o Adnoddau’ am wybodaeth ychwanegol gan gynnwys