- Y Diweddaraf sydd Ar Gael (Diwygiedig) - Saesneg
- Y Diweddaraf sydd Ar Gael (Diwygiedig) - Cymraeg
- Gwreiddiol (Fel y'i Gwnaed) - Saesneg
- Gwreiddiol (Fel y'i Gwnaed) - Cymraeg
Dyma’r fersiwn wreiddiol (fel y’i gwnaed yn wreiddiol). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.
68.—(1) Rhaid i Weinidogion Cymru dalu'r grant ar gyfer ffioedd neu'r benthyciad cyfrannu at ffioedd y mae hawl gan fyfyriwr cymwys o dan yr hen drefn i'w gael i awdurdod academaidd y mae'r myfyriwr cymwys o dan yr hen drefn yn atebol i dalu iddo.
(2) Caiff Gweinidogion Cymru dalu'r grant ar gyfer ffioedd neu'r benthyciad cyfrannu at ffioedd yn y cyfryw randaliadau (os bydd rhandaliadau) ac ar y cyfryw adegau a ystyriant yn briodol.
(3) Rhaid i Weinidogion Cymru beidio â thalu'r grant ar gyfer ffioedd neu'r benthyciad cyfrannu at ffioedd—
(a)oni fyddant wedi cael cais am daliad oddi wrth yr awdurdod academaidd perthnasol; a
(b)bod cyfnod o dri mis sy'n dechrau ar ddiwrnod cyntaf y flwyddyn academaidd wedi dod i ben.
(4) Rhaid i Weinidogion Cymru dalu'r grant ar gyfer ffioedd ddim hwyrach na 10 wythnos ar ôl diwedd y cyfnod ym mharagraff (3)(b), neu yn ddi-oed ar ôl i gais am daliad ddod i law, a ystyrir gan Weinidogion Cymru yn gais dilys, os yw hynny'n digwydd yn hwyrach.
(5) Os yw asesu cyfraniad y myfyriwr cymwys o dan yr hen drefn neu faterion eraill wedi gohirio cyfrifiad terfynol swm y grant ar gyfer ffioedd neu'r benthyciad cyfrannu at ffioedd y mae hawl gan y myfyriwr cymwys o dan yr hen drefn i'w gael, caiff Gweinidogion Cymru wneud asesiad a thaliad dros dro.
(6) Ni cheir gwneud taliad o'r grant ar gyfer ffioedd, neu'r benthyciad cyfrannu at ffioedd mewn perthynas â chwrs dynodedig—
(a)os bydd y myfyriwr cymwys o dan yr hen drefn, cyn diwedd cyfnod o dri mis sy'n dechrau ar ddiwrnod cyntaf y flwyddyn academaidd, yn rhoi'r gorau i fod yn bresennol ar y cwrs neu, yn achos myfyriwr yr ymdrinnir ag ef fel pe bai'n bresennol o dan reoliad 13(3) a 13(4), yn rhoi'r gorau i ymgymryd â'r cwrs; a
(b)os yw'r awdurdod academaidd wedi penderfynu neu wedi cytuno na fydd y myfyriwr yn dechrau bod yn bresennol eto ar y cwrs neu, yn ôl fel y digwydd, ymgymryd eto â'r cwrs yn y Deyrnas Unedig yn ystod y flwyddyn academaidd y mae'r ffioedd yn daladwy mewn perthynas â hi, neu o gwbl.
(7) Os yw myfyriwr cymwys o dan yr hen drefn yn rhoi'r gorau i fod yn bresennol ar gwrs dynodedig, neu'n rhoi'r gorau i ymgymryd â chwrs dynodedig, yn ystod y flwyddyn academaidd, a'r awdurdod academaidd wedi penderfynu neu wedi cytuno na fydd y myfyriwr yn dychwelyd yn ystod y flwyddyn academaidd honno, rhaid i'r awdurdod academaidd hysbysu Gweinidogion Cymru, cyn gynted ag y bo'n ymarferol, ynghylch ymadawiad y myfyriwr cymwys o dan yr hen drefn o'r cwrs dynodedig.
Y Diweddaraf sydd Ar Gael (diwygiedig):Y fersiwn ddiweddaraf sydd ar gael o’r ddeddfwriaeth yn cynnwys newidiadau a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol ac wedi eu gweithredu gan ein tîm golygyddol. Gellir gweld y newidiadau nad ydym wedi eu gweithredu i’r testun eto yn yr ardal ‘Newidiadau i Ddeddfwriaeth’. Dim ond yn Saesneg y mae’r fersiwn ddiwygiedig ar gael ar hyn o bryd.
Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed) - Saesneg: Mae'r wreiddiol Saesneg fersiwn y ddeddfwriaeth fel ag yr oedd pan gafodd ei deddfu neu eu gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.
Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed)-Cymraeg:Y fersiwn Gymraeg wreiddiol o’r ddeddfwriaeth fel yr oedd yn sefyll pan gafodd ei deddfu neu ei gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.
Gallwch wneud defnydd o ddogfennau atodol hanfodol a gwybodaeth ar gyfer yr eitem ddeddfwriaeth o’r tab hwn. Yn ddibynnol ar yr eitem ddeddfwriaeth sydd i’w gweld, gallai hyn gynnwys:
Defnyddiwch y ddewislen hon i agor dogfennau hanfodol sy’n cyd-fynd â’r ddeddfwriaeth a gwybodaeth am yr eitem hon o ddeddfwriaeth. Gan ddibynnu ar yr eitem o ddeddfwriaeth sy’n cael ei gweld gall hyn gynnwys:
liciwch ‘Gweld Mwy’ neu ddewis ‘Rhagor o Adnoddau’ am wybodaeth ychwanegol gan gynnwys