- Y Diweddaraf sydd Ar Gael (Diwygiedig) - Saesneg
- Y Diweddaraf sydd Ar Gael (Diwygiedig) - Cymraeg
- Gwreiddiol (Fel y'i Gwnaed) - Saesneg
- Gwreiddiol (Fel y'i Gwnaed) - Cymraeg
Dyma’r fersiwn wreiddiol (fel y’i gwnaed yn wreiddiol). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.
76.—(1) Mae gan fyfyriwr dysgu o bell cymwys hawl i gael cymorth mewn cysylltiad ag ymgymryd ohono â chwrs dysgu o bell dynodedig, yn ddarostyngedig i'r Rhan hon ac yn unol â hi.
(2) Yn ddarostyngedig i baragraffau (3) ac (8), mae person yn fyfyriwr dysgu o bell cymwys mewn cysylltiad â chwrs dysgu o bell dynodedig os yw Gweinidogion Cymru, wrth asesu ei gais am gymorth o dan reoliad 84, yn penderfynu bod y person hwnnw yn dod o fewn un o'r categorïau a nodir yn Rhan 2 o Atodlen 1.
(3) Yn ddarostyngedig i baragraff (8) nid yw person (“A” yn y paragraff hwn) yn fyfyriwr dysgu o bell cymwys—
(a)os, yn ddarostyngedig i baragraff (4), rhoddwyd i A neu os talwyd i A, mewn perthynas â'r cwrs dysgu o bell—
(i)bwrsari gofal iechyd pa un a gyfrifir swm y bwrsari hwnnw drwy gyfeirio at incwm A ai peidio;
(ii)unrhyw lwfans o dan Reoliadau Lwfansau Myfyrwyr Nyrsio a Bydwreigiaeth (Yr Alban) 2007(1); neu
(iii)lwfans gofal iechyd yr Alban a gyfrifir swm y lwfans hwnnw drwy gyfeirio at incwm A ai peidio;
(b)os yw A wedi torri unrhyw rwymedigaeth i ad-dalu unrhyw fenthyciad;
(c)os yw A wedi cyrraedd ei 18 oed ac nad yw wedi dilysu unrhyw gytundeb ynghylch benthyciad a wnaed gydag A pan oedd A o dan 18 oed;
(d)os yw A, ym marn Gweinidogion Cymru, wedi dangos drwy ei ymddygiad nad yw'n addas i gael cymorth o dan y Rhan hon; neu
(e)yn ddarostyngedig i baragraff (5), os yw A yn garcharor.
(4) Nid yw paragraff (3)(a) yn gymwys—
(a)os yw'r person sy'n gwneud cais am gymorth o dan y Rhan hon yn fyfyriwr anabl; a
(b)os rhoddwyd neu os talwyd i'r person mewn perthynas â'r cwrs dysgu o bell—
(i)bwrsari gofal iechyd y mae ei swm yn cael ei gyfrifo drwy gyfeirio at incwm y person; neu
(ii)lwfans gofal iechyd yr Alban pa un a gyfrifir swm y lwfans hwnnw drwy gyfeirio at incwm y person ai peidio.
(5) Nid yw paragraff (3)(e) yn gymwys mewn perthynas â blwyddyn academaidd pryd y mae'r myfyriwr dysgu o bell cymwys yn mynd i'r carchar i fwrw dedfryd mewn caethiwed neu'n cael ei ryddhau o'r carchar ar ôl bwrw dedfryd o'r fath.
(6) At ddibenion paragraffau (3)(b) a (3)(c), ystyr “benthyciad” (“loan”) yw benthyciad a wnaed o dan y ddeddfwriaeth ar fenthyciadau i fyfyrwyr.
(7) Mewn achos pan fo'r cytundeb ynglŷn â benthyciad yn ddarostyngedig i gyfraith yr Alban, bydd paragraff (3)(c) ddim ond yn gymwys os cafodd y cytundeb ei wneud—
(a)cyn 25 Medi 1991; a
(b)gyda chydsyniad curadur y benthyciwr neu ar adeg pan nad oedd ganddo guradur.
(8) Yn ddarostyngedig i baragraffau (10) i (12), mae person yn fyfyriwr dysgu o bell cymwys at ddibenion y Rhan hon os yw'n bodloni'r amodau ym mharagraff (9)(a) neu (b).
(9) Yr amodau y cyfeirir atynt ym mharagraff (8) yw—
(a)bod—
(i)y person wedi ymgymhwyso fel myfyriwr dysgu o bell cymwys mewn cysylltiad â blwyddyn academaidd gynharach ar y cwrs dysgu o bell presennol yn unol â rheoliadau a wnaed gan Weinidogion Cymru o dan adran 22 o Ddeddf 1998;
(ii)y person yn preswylio fel arfer yng Nghymru ar ddiwrnod cyntaf y cwrs dysgu o bell presennol; a
(iii)statws y person fel myfyriwr dysgu o bell cymwys heb ei derfynu.
(b)bod—
(i)Gweinidogion Cymru eisoes wedi penderfynu bod y person—
(aa)yn fyfyriwr cymwys mewn perthynas â chwrs dynodedig;
(bb)yn fyfyriwr dysgu o bell cymwys mewn cysylltiad â chwrs dysgu o bell dynodedig ac eithrio'r cwrs dysgu o bell presennol; neu
(cc)yn fyfyriwr rhan-amser cymwys mewn cysylltiad â chwrs rhan-amser dynodedig;
(ii)statws y myfyriwr fel myfyriwr cymwys, myfyriwr dysgu o bell cymwys neu fel myfyriwr rhan-amser cymwys mewn cysylltiad â'r cwrs y cyfeiriwyd ato yn is-baragraff (b)(i) wedi ei drosi neu wedi ei drosglwyddo o'r cwrs hwnnw i'r cwrs dysgu o bell presennol o ganlyniad i drosi neu drosglwyddo unwaith neu fwy yn unol â rheoliadau a wnaed gan Weinidogion Cymru o dan adran 22 o Ddeddf 1998;
(iii)y person yn preswylio fel arfer yng Nghymru ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs y cyfeirir ato yn is-baragraff (b)(i); a
(iv)statws y person fel myfyriwr dysgu o bell cymwys heb ei derfynu.
(10) Pan fo—
(a)Gweinidogion Cymru wedi penderfynu bod person (“A” yn y paragraff hwn), yn rhinwedd bod yn ffoadur neu fod yn briod, yn bartner sifil, yn blentyn neu'n llysblentyn i ffoadur, yn fyfyriwr dysgu o bell cymwys mewn cysylltiad â chais am gymorth ar gyfer blwyddyn gynharach o'r cwrs dysgu o bell presennol, neu mewn cysylltiad â chais am gymorth mewn perthynas â chwrs dynodedig, cwrs rhan amser dynodedig, neu gwrs dysgu o bell dynodedig arall y mae statws A fel myfyriwr cymwys, myfyriwr rhan-amser cymwys neu fyfyriwr dysgu o bell cymwys wedi ei drosglwyddo i'r cwrs dysgu o bell presennol; a
(b)ar y diwrnod cyn dechrau'r flwyddyn academaidd y mae A yn gwneud cais am gymorth mewn perthynas â hi, os bydd statws ffoadur A neu briod, partner sifil, rhiant (fel y'i diffinnir yn Rhan 1 o Atodlen 1) neu lys-riant A, yn ôl fel y digwydd, wedi terfynu ac nad oes hawl bellach i aros wedi ei rhoi ac nad oes apêl yn yr arfaeth (o fewn yr ystyr yn adran 104 o Ddeddf Cenedligrwydd, Mewnfudo a Lloches 2002(2)),
bydd statws A fel myfyriwr dysgu o bell cymwys yn terfynu'n syth cyn diwrnod cyntaf y flwyddyn academaidd y mae A yn gwneud cais am gymorth mewn perthynas â hi.
(11) Pan fo—
(a)Gweinidogion Cymru wedi penderfynu bod person (“A” yn y paragraff hwn), yn rhinwedd bod yn berson sydd â chaniatâd i ddod i mewn neu i aros neu fod yn briod, yn bartner sifil, yn blentyn neu'n llysblentyn i'r cyfryw berson, yn fyfyriwr dysgu o bell cymwys mewn cysylltiad â chais am gymorth ar gyfer blwyddyn gynharach o'r cwrs dysgu o bell presennol, neu mewn cysylltiad â chais am gymorth mewn perthynas â chwrs dynodedig, cwrs rhan-amser dynodedig, neu gwrs dysgu o bell dynodedig arall y mae statws A fel myfyriwr cymwys, myfyriwr rhan-amser cymwys neu fyfyriwr dysgu o bell cymwys wedi ei drosglwyddo i'r cwrs dysgu o bell presennol; a
(b)ar y diwrnod cyn diwrnod dechrau'r flwyddyn academaidd y mae A yn gwneud cais am gymorth mewn perthynas â hi, os bydd y cyfnod a ganiateir i'r person sydd â chaniatâd i ddod i mewn neu i aros yn y Deyrnas Unedig wedi terfynu ac nad oes hawl bellach i aros wedi ei rhoi ac nad oes apêl yn yr arfaeth (o fewn yr ystyr yn adran 104 o Ddeddf Cenedligrwydd, Mewnfudo a Lloches 2002),
bydd statws A fel myfyriwr dysgu o bell cymwys yn terfynu'n syth cyn diwrnod cyntaf y flwyddyn academaidd y mae A yn gwneud cais am gymorth mewn perthynas â hi.
(12) Nid yw paragraffau (10) ac (11) yn gymwys pan fo'r myfyriwr wedi dechrau ar y cwrs y penderfynodd Gweinidogion Cymru mewn cysylltiad ag ef fod y myfyriwr yn fyfyriwr cymwys neu'n fyfyriwr rhan-amser cymwys, yn ôl fel y digwydd, cyn 1 Medi 2007.
(13) Nid oes gan fyfyriwr dysgu o bell cymwys hawl, ar unrhyw adeg, i gael cymorth o dan y Rheoliadau hyn—
(a)at fwy nag un cwrs dysgu o bell dynodedig;
(b)at gwrs dysgu o bell dynodedig a chwrs dynodedig;
(c)at gwrs dysgu o bell dynodedig a chwrs rhan-amser dynodedig;
(d)at gwrs dysgu o bell dynodedig a chwrs ôl- radd dynodedig.
O.S.A. 2007/151, a ddiwygiwyd gan O.S.A. 2007/503, O.S.A. 2008/206, O.S.A. 2009/188 ac O.S.A. 2009/309.
2002 p.41. Diwygiwyd adran 104 gan Ddeddf Lloches a Mewnfudo (Trin Ceiswyr etc) 2004 (p.19), Atodlenni 2 a 4, Deddf Mewnfudo, Lloches a Chenedligrwydd 2006 (p.13), adran 9 ac O.S. 2010/21.
Y Diweddaraf sydd Ar Gael (diwygiedig):Y fersiwn ddiweddaraf sydd ar gael o’r ddeddfwriaeth yn cynnwys newidiadau a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol ac wedi eu gweithredu gan ein tîm golygyddol. Gellir gweld y newidiadau nad ydym wedi eu gweithredu i’r testun eto yn yr ardal ‘Newidiadau i Ddeddfwriaeth’. Dim ond yn Saesneg y mae’r fersiwn ddiwygiedig ar gael ar hyn o bryd.
Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed) - Saesneg: Mae'r wreiddiol Saesneg fersiwn y ddeddfwriaeth fel ag yr oedd pan gafodd ei deddfu neu eu gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.
Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed)-Cymraeg:Y fersiwn Gymraeg wreiddiol o’r ddeddfwriaeth fel yr oedd yn sefyll pan gafodd ei deddfu neu ei gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.
Gallwch wneud defnydd o ddogfennau atodol hanfodol a gwybodaeth ar gyfer yr eitem ddeddfwriaeth o’r tab hwn. Yn ddibynnol ar yr eitem ddeddfwriaeth sydd i’w gweld, gallai hyn gynnwys:
Defnyddiwch y ddewislen hon i agor dogfennau hanfodol sy’n cyd-fynd â’r ddeddfwriaeth a gwybodaeth am yr eitem hon o ddeddfwriaeth. Gan ddibynnu ar yr eitem o ddeddfwriaeth sy’n cael ei gweld gall hyn gynnwys:
liciwch ‘Gweld Mwy’ neu ddewis ‘Rhagor o Adnoddau’ am wybodaeth ychwanegol gan gynnwys