xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"
4.—(1) Pan fo awdurdod cofrestru tiroedd comin yn cael gorchymyn dadgofrestru a chyfnewid, mae darpariaethau canlynol y rheoliad hwn yn gymwys, yn ddarostyngedig i unrhyw ddarpariaethau yn y gorchymyn sy'n pennu'r modd y mae'r tir cyfnewid i gael ei gofrestru.
(2) Caiff yr awdurdod cofrestru gofrestru'r tir cyfnewid—
(a)drwy ddiwygio'r uned cofrestr yn ei gofrestr o dir comin neu'i gofrestr o feysydd tref neu bentref sy'n cynnwys y cofrestriad o'r tir rhyddhau; neu
(b)drwy fewnosod uned cofrestr newydd mewn perthynas â'r tir cyfnewid.
(3) Os yw'r awdurdod cofrestru yn cofrestru'r tir cyfnewid drwy ddiwygio'r uned cofrestr sy'n cynnwys y cofrestriad o'r tir rhyddhau, rhaid i'r awdurdod wneud hynny yn unol â Chofnod Safonol 12.
(4) Os yw'r awdurdod cofrestru yn cofrestru'r tir cyfnewid drwy fewnosod uned cofrestr newydd mewn perthynas â'r tir cyfnewid, mae paragraffau (5) i (9) yn gymwys.
(5) Rhaid i'r awdurdod cofrestru ddilyn Cofnod Enghreifftiol 4 mor agos ag y bo modd, gyda pha bynnag amrywiadau ac addasiadau sy'n ofynnol yn yr amgylchiadau, a chan—
(a)rhoi'r geiriau “Registered pursuant to an order under section 17 of the Commons Act 2006.”, yn lle'r frawddeg sy'n dechrau “Registered pursuant to application”; a
(b)hepgor y geiriau “(Registration provisional.)”.
(6) Mae paragraffau (2) i (6) o Reoliad Cyffredinol 10 yn gymwys i'r cofrestriad.
(7) Mae paragraffau (4) i (8) o reoliad 9 o Reoliadau Cofrestru Tiroedd Comin (Gwrthwynebiadau a Mapiau) 1968(1) d(newidiadau o ran mapiau cofrestr amodol) yn gymwys, yn darostyngedig i'r addasiadau canlynol—
(a)rhaid dehongli cyfeiriadau at “new map” (“map newydd”) fel cyfeiriadau at unrhyw fap a gymerir i'w ddefnyddio at ddibenion y rheoliad hwn;
(b)yn hytrach na'r raddfa a bennir ym mharagraff (4), rhaid paratoi pob map newydd ar Fap Ordnans o raddfa ddim llai nag 1:2,500 os oes un ar gael, ac ym mhob achos, ddim llai nag 1:10,000; ac
(c)mae paragraff (7) yn gymwys fel pe bai'r gair “provisional” wedi ei hepgor.
(8) Rhaid i bob map newydd a gymerir i'w ddefnyddio gael ei stampio gan yr awdurdod cofrestru a'i lofnodi ar ran yr awdurdod, a bydd y map wedyn yn ffurfio rhan o'r gofrestr.
(9) Mae'r gofyniad ym mharagraff (8), am i awdurdod cofrestru stampio map newydd, yn ofyniad am beri bod argraff o stamp swyddogol yr awdurdod cofrestru, fel y'i disgrifir yn Rheoliad Cyffredinol 3, yn cael ei gosod ar y map, a rhaid i'r argraff honno gynnwys y dyddiad y'i gosodir.
O.S. 1968/989 fel y'i diwygiwyd gan O.S. 1990/311. Diwygiwyd hefyd gan offerynnau eraill, nad ydynt yn berthnasol i'r Rheoliadau hyn.