Cyfarwyddiadau gan Weinidogion CymruLL+C
18.—(1) Caiff Gweinidogion Cymru roi cyfarwyddiadau sy'n cyfyngu ar roi caniatâd gan awdurdod cynllunio lleol, naill ai am gyfnod amhenodol neu yn ystod pa bynnag gyfnod a bennir yn y cyfarwyddiadau, mewn perthynas ag unrhyw ddatblygiad neu mewn perthynas â datblygiad mewn unrhyw ddosbarth a bennir felly.
(2) Caiff Gweinidogion Cymru roi cyfarwyddiadau bod datblygiad, sydd o ddisgrifiad a bennir yng Ngholofn 1 o'r Tabl yn Atodlen 2 i [F1Reoliadau Cynllunio Gwlad a Thref (Asesu Effeithiau Amgylcheddol) (Cymru) 2016] (disgrifiadau o ddatblygiad a throthwyon a meini prawf cymwys at ddibenion diffinio “Schedule 2 development”)(1) ac sydd hefyd o ddosbarth a ddisgrifir yn y cyfarwyddyd, yn ddatblygiad AEA at ddibenion y Rheoliadau hyn.
(3) Rhaid i awdurdod cynllunio lleol ymdrin â cheisiadau am ganiatâd cynllunio, ar gyfer datblygiad y mae cyfarwyddyd a roddir o dan yr erthygl hon yn gymwys iddo, mewn modd a fydd yn rhoi effaith i'r cyfarwyddyd.
Diwygiadau Testunol
F1Geiriau yn ergl. 18(2) wedi eu hamnewid (16.3.2016) gan Rheoliadau Cynllunio Gwlad a Thref (Asesu Effeithiau Amgylcheddol) (Cymru) 2016 (O.S. 2016/58), rhl. 1(2), Atod. 9 para. 8(3) (ynghyd â rhl. 59)
Gwybodaeth Cychwyn
I1Ergl. 18 mewn grym ar 30.4.2012, gweler ergl. 1(1)
O.S.1999/293, diwygiwyd Colofn 1 o'r Tabl yn Atodlen 2 gan O.S. 2006/3099 a 2007/2610.