Fersiwn wedi'i ddisodliFersiwn wedi ei ddisodli: 16/03/2016
Golwg cyfnod mewn amser fel yr oedd ar 30/04/2012. Mae'r fersiwn hon o'r hwn (hon) disodlwyd y ddarpariaeth.
Rydych yn edrych ar yr eitem hon o ddeddfwriaeth fel yr oedd ar bwynt penodol mewn amser. Mae fersiwn ddiweddarach o hyn neu ddarpariaeth, gan gynnwys newidiadau ac effeithiau dilynol, yn disodli'r fersiwn hon.
Sylwer bod y term darpariaeth yn cael ei ddefnyddio i ddisgrifio elfen ddiffiniadwy mewn darn o ddeddfwriaeth sy'n cael effaith ddeddfwriaethol – fel Rhan, Pennod neu adran.
Mae newidiadau yn dal heb eu gwneud i Gorchymyn Cynllunio Gwlad a Thref (Gweithdrefn Rheoli Datblygu) (Cymru) 2012. Mae unrhyw newidiadau sydd wedi cael eu gwneud yn barod gan y tîm yn ymddangos yn y cynnwys a chyfeirir atynt gydag anodiadau.
Nid yw newidiadau ac effeithiau sydd eto i'w gwneud gan y tîm golygyddol ond yn berthnasol wrth edrych ar y fersiwn ddiweddaraf neu fersiwn ragolygol o ddeddfwriaeth. Felly, nid oes modd eu gweld wrth edrych ar ddeddfwriaeth fel y mae ar bwynt penodol mewn amser. Er mwyn gweld yr wybodaeth 'Newidiadau i Ddeddfwriaeth' ar gyfer y ddarpariaeth hon ewch yn ôl i'r fersiwn ddiweddaraf gan ddefnyddio'r opsiynau yn y blwch 'Pa Fersiwn' uchod.
7.—(1) Mae'r erthygl hon yn gymwys i gais am ganiatâd cynllunio nad yw'n gais am ganiatâd cynllunio ar gyfer—
(a)gweithrediadau peirianegol neu fwyngloddio;
(b)datblygu tŷ annedd presennol, neu ddatblygiad o fewn cwrtil tŷ annedd o'r fath at unrhyw ddiben sy'n ategol i fwynhau'r tŷ annedd fel y cyfryw; neu
(c)newid perthnasol yn y defnydd o dir neu adeiladau, gyda'r amod, os bydd y defnydd newydd yn gwneud mynediad gan gyflogai yn angenrheidiol neu'n cynnwys darparu gwasanaethau i'r cyhoedd neu i adran o'r cyhoedd, boed hynny am dâl neu hebddo, yna mae'r erthygl hon yn gymwys i'r cais fel pe—
(i)ym mharagraff (3), yn lle “datganiad dylunio a mynediad” rhoddid “datganiad mynediad”;
(ii)ym mharagraff (5), yn lle “Rhaid i ddatganiad dylunio a mynediad, mewn perthynas â mynediad,” rhoddid “Rhaid i ddatganiad mynediad”; a
(iii)hepgorid paragraffau 3(a), (4) a (6).
(2) At ddibenion paragraff (1)(c) mae “darparu gwasanaethau” (“the provision of services”) yn cynnwys darparu unrhyw nwyddau neu gyfleusterau.
(3) Rhaid i gais am ganiatâd cynllunio y mae'r erthygl hon yn gymwys iddo gael ei gyflwyno ynghyd â datganiad (“datganiad dylunio a mynediad”) (“a design and access statement”) sy'n esbonio—
(a)yr egwyddorion a'r cysyniadau dylunio a gymhwyswyd i'r datblygiad; a
(b)y modd yr ymdriniwyd â materion ynglŷn â mynediad i'r datblygiad.
(4) Rhaid i ddatganiad dylunio a mynediad, mewn perthynas â dylunio—
(a)esbonio'r egwyddorion a'r cysyniadau dylunio a gymhwyswyd i'r agweddau canlynol ar y datblygiad—
(i)cynaliadwyedd amgylcheddol;
(ii)symud i mewn i'r datblygiad, allan ohono ac oddi mewn iddo;
(iii)ei gymeriad; a
(iv)diogelwch cymunedol; a
(b)dangos pa gamau a gymerwyd i arfarnu cyd-destun y datblygiad a'r modd y mae dyluniad y datblygiad yn cymryd y cyd-destun hwnnw i ystyriaeth mewn perthynas â'r defnydd arfaethedig ohono, a phob un o'r agweddau a bennir yn is-baragraff (a).
(5) Rhaid i ddatganiad dylunio a mynediad, mewn perthynas â mynediad, esbonio—
(a) y polisi neu'r dull a fabwysiadwyd ynglvn â mynediad a'r modd y cymerwyd i ystyriaeth y polisïau sydd yn y cynllun datblygu(1) ynglŷn â mynediad;
(b)sut y rhoddwyd sylw i unrhyw faterion penodol a allai effeithio ar fynediad i'r datblygiad; ac
(c)sut y caiff yr arweddion sy'n sicrhau mynediad i'r datblygiad eu cynnal.
(6) Yn yr erthygl hon—
ystyr “cyd-destun” (“context”) yw cyd-destun ffisegol, cymdeithasol ac economaidd y datblygiad a'i gyd-destun o ran polisi;
mae “cymeriad” (“character”) yn cynnwys unrhyw dirlunio a gynhwysir yn y datblygiad a maint, llunwedd, graddfa ac ymddangosiad y datblygiad; ac
ystyr “maint” (“amount”) yw—
mewn perthynas â datblygiad preswyl, nifer yr unedau arfaethedig ar gyfer defnydd preswyl; a
mewn perthynas â phob ffurf arall o ddatblygiad, yr arwynebedd llawr arfaethedig ar gyfer pob defnydd arfaethedig sy'n ffurfio rhan o'r datblygiad.
Gwybodaeth Cychwyn
I1Ergl. 7 mewn grym ar 30.4.2012, gweler ergl. 1(1)
Gweler adrannau 38 a 62 o Ddeddf 2004; y darpariaethau trosiannol yn erthygl 3 o Orchymyn Deddf Cynllunio a Phrynu Gorfodol 2004 (Cychwyn Rhif 6, Darpariaethau Trosiannol ac Arbedion) 2005 (O.S. 2005/2847) a'r darpariaethau trosiannol yn Rhan III o Atodlen 5 i Ddeddf Llywodraeth Leol (Cymru) 1994 (p.19).
Y Diweddaraf sydd Ar Gael (diwygiedig):Y fersiwn ddiweddaraf sydd ar gael o’r ddeddfwriaeth yn cynnwys newidiadau a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol ac wedi eu gweithredu gan ein tîm golygyddol. Gellir gweld y newidiadau nad ydym wedi eu gweithredu i’r testun eto yn yr ardal ‘Newidiadau i Ddeddfwriaeth’. Dim ond yn Saesneg y mae’r fersiwn ddiwygiedig ar gael ar hyn o bryd.
Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed) - Saesneg: Mae'r wreiddiol Saesneg fersiwn y ddeddfwriaeth fel ag yr oedd pan gafodd ei deddfu neu eu gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.
Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed)-Cymraeg:Y fersiwn Gymraeg wreiddiol o’r ddeddfwriaeth fel yr oedd yn sefyll pan gafodd ei deddfu neu ei gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.
Pwynt Penodol mewn Amser: This becomes available after navigating to view revised legislation as it stood at a certain point in time via Advanced Features > Show Timeline of Changes or via a point in time advanced search. A point in time version is only available in English.
Rhychwant ddaearyddol: Indicates the geographical area that this provision applies to. For further information see ‘Frequently Asked Questions’.
Dangos Llinell Amser Newidiadau: See how this legislation has or could change over time. Turning this feature on will show extra navigation options to go to these specific points in time. Return to the latest available version by using the controls above in the What Version box.
Gallwch wneud defnydd o ddogfennau atodol hanfodol a gwybodaeth ar gyfer yr eitem ddeddfwriaeth o’r tab hwn. Yn ddibynnol ar yr eitem ddeddfwriaeth sydd i’w gweld, gallai hyn gynnwys:
This timeline shows the different points in time where a change occurred. The dates will coincide with the earliest date on which the change (e.g an insertion, a repeal or a substitution) that was applied came into force. The first date in the timeline will usually be the earliest date when the provision came into force. In some cases the first date is 01/02/1991 (or for Northern Ireland legislation 01/01/2006). This date is our basedate. No versions before this date are available. For further information see the Editorial Practice Guide and Glossary under Help.
Defnyddiwch y ddewislen hon i agor dogfennau hanfodol sy’n cyd-fynd â’r ddeddfwriaeth a gwybodaeth am yr eitem hon o ddeddfwriaeth. Gan ddibynnu ar yr eitem o ddeddfwriaeth sy’n cael ei gweld gall hyn gynnwys:
liciwch ‘Gweld Mwy’ neu ddewis ‘Rhagor o Adnoddau’ am wybodaeth ychwanegol gan gynnwys